Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyd
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyd
|
Mae Dyffryn Clwyd yn goruchafu daearyddiaeth gogledd ddwyrain Cymru, a dyma
un o'r tirweddau mwyaf sylweddol. Rhed Afon Clwyd ar hyd ei waelod gwastad a
llydan am ryw 30km i'r gogledd o dref ganoloesol Rhuthun i ymuno â'r arfordir yn
y Rhyl. Mae llawr y dyffryn yn isel, ac ni chyfyd yn unman yn uwch na 40m
uwchben SO. I'r dwyrain, mae ymylon Bryniau Clwyd yn ffurfio ffin i'r dyffryn, a
chodant yn serth oddeutu 300m uwchben SO, gyda'u copaon yn rhoi golygfeydd
ysblennydd o lawr y dyffryn. Cyfyd yr ochr orllewinol fymryn yn llai serth tuag
at ucheldir Sir Ddinbych ryw 7km i ffwrdd. Mae rhan fwyaf cyflawn a nodweddiadol
hanesyddol y dyffryn a nodir yma, sydd wedi goroesi orau, yn gorwedd yn bennaf
i'r de a'r dwyrain o dref ganoloesol Dinbych.
Trigai dynion o gyfnod cynnar ar ddau safle mewn ogafâu yng Nghae Gwyn
a Ffynnon Beuno, Tremeichion, lle y darganfuwyd esgyrn anifeiliaid ac olion
arfau Palaeolithig dynol. Fodd bynnag, cofadeiliau mwyaf trawiadol y tirwedd yw
bryngaerau Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur,
Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari) o Oes yr Haearn sy'n rhan o gadwyn o
safleoedd amddiffynnol yn coroni copaon Bryniau Clwyd. Hyd yn oed fel safleoedd
unigol, y maent yn fawr ac yn sylweddol (mae Penycloddiau yn cwmpasu oddeutu
21ha) ond gyda'i gilydd, maent yn ffurfio grwˆp unigryw o fryngaerau yng
Nghymru, sy'n dangos y berthynas agos o ran tirwedd rhwng ffurfiau naturiol y
tir a thiriogaeth ddynol.
Er na fu llawer o gloddio cyfoes ar fawr ddim un o'r safleoedd, y farn gyfoes
yw mai canolbwynt tiriogaeth bendant oedd pob bryngaer, a'r diriogaeth honno'n
ymestyn ar draws y dyffryn islaw, a thros yr ucheldir i'r dwyrain, er mwyn iddi
fod yr un mor rhwydd i bob caer gael mynediad i'r un adnoddau naturiol. Tir pori
garw yw ucheldir Bryniau Clwyd, ond mae llawr y dyffryn, ar y llaw arall, yn dir
amaethyddol bras, gyda chaeau yn ymestyn at lethrau gorllewinol y bryniau. Nid
oes fawr yn hysbys ar hyn o bryd am yr aneddiadau cyffredin a oedd yn
gysylltiedig â'r bryngaearau, ond mae'n debyg y byddent wedi bod yn grynodiadau
dwys ar hyd llawr ffrwythlon y dyffryn, ond eu bod bellach wedi'u claddu neu eu
dileu gan weithgaredd dyn yn yr oesoedd a ddilynodd. Awgrymir hyn gan yr olion
cnydau a ddarganfuwyd o'r awyr yn Nhan Dderwen, i'r dwyrain o Ddinbych, lle mae
gwaith cloddio diweddar wedi dangos tystiolaeth o weithgaredd yn dyddio o'r
cyfnod Mesolithig, Oes yr Efydd a'r Oesoedd Tywyll.
Trefi canoloesol Dinbych a Rhuthun yw'r prif aneddiadau o fewn y dyffryn. Er
hynny, mae cloddio diweddar yn Rhuthun wedi awgrymu tarddiad cynharach, gydag
olion o aneddiad Brythonaidd-Rufeinig, ac mae'n bosibl fod caer Rufeinig ar
gyrion dwyreiniol y dref. Gellir gweld patrwm strydoedd canoloesol Rhuthun o
hyd, ac erys rhannau o'r castell ac amddiffynfeydd y dref yn gyflawn. Mae gan y
dref gasgliad gwych o bensaernïaeth werinol, sef yr adeiladau trawiadol mewn
calchfaen, tywodfaen coch neu arddulliau hanner-coed. Fel Rhuthun, cadwodd
Dinbych hefyd lawer o'i chymeriad canoloesol, gan gynnwys amddiffynfeydd y
castell a'r dref, ac y mae'n enghraifft dda o dref gaerog o'r cyfnod Edwardaidd.
Yng nghanol y dyffryn mae Llanynys, pentrefan bach bellach, ond bu clas yma
unwaith (sef uned weinyddol yn seiliedig ar aneddiad fynachaidd ganoloesol)
gydag olion o gyfundrefn o gaeau canoloesol. Mae'n nodedig fel safle Llanfor yn
y 9fed ganrif, a grybwyllir yn yr englynion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch
Hen.
Dylanwadwyd llawer ar y
tirwedd gan wahanol barciau a stadau canoloesol a diweddarach, megis, er
enghraifft, Neuadd Clwyd a Phlas Llanrhaeadr. I'r dwyrain o Ruthun mae Parc
Bathafarn, parc canoloesol Arglwyddiaeth Rhuthun. Mae dogfen o 1592 yn disgrifio
ffiniau, natur y parc a datblygiad y tirwedd: gellir olrhain y rhain heddiw.
Ceir digon o gofnodion am dirwedd llawer plwyf ar lethrau Bryniau Clwyd pan
iddynt gael eu hamgáu adeg y Deddfau Cau Tir yn y 19edd ganrif. Maent yn ffinio,
ac yn gwrthgyferbynnu, â thirwedd amaethyddol gynharach llawr y dyffryn gyda'i
gloddiau a gwrychoedd.
Y Dirwedd Naturiol
Y Dirwedd Weinyddol
Tirweddau Aneddiadau
Tirweddau Amaethyddol
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Tirweddau Diwydiannol
Tirweddau a Amddiffynnwyd
Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg
Ardaloedd cymeriad
1025 Llanfair Dyffryn Clwyd . Ffermydd mawr ar wasgar a neuaddau gyda pharcdiroedd bychan o fewn tirwedd o gaeau sydd at ei gilydd yn unionlin a mawr. Golygfa ar draws Dyffryn Clwyd gyda fferm Plas Newydd yn y pellter canol a Moel Llanfair y tu hwnt. Llun: CPAT 810.13A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1026 Bachymbyd . Ffermydd gwasgaredig mewn tirwedd o gaeau afreolaidd, canolig eu maint ar ymyl gorllewinol y dyffryn gyda hen goedwigoedd ar lethrau serthach a dyffrynnoedd ag ochrau serth lle mae nentydd. Golygfa i'r gogledd-orllewin i gyfeiriad Ty-mawr o Fachymbyd-bâch. Llun CPAT 810.21A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1027 Rhuthun . Tref fodern ehangol Rhuthun gyda thystiolaeth o weithgarwch Rhufeinaidd-Prydeinig a gychwynnodd fel bwrdeistref ganoloesol â chastell, ac adeiladau o'r canoloesoedd hwyr ac o'r 17eg i'r 19eg ganrif. Golwg o bell ar Ruthun o lechweddau Foel Fenlli, ym mryniau Clwyd. Llun CPAT 8091A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1028 Llanbedr Dyffryn Clwyd . Tirwedd sy'n cynnwys caeau mawr, unionlin yn bennaf ar lawr y dyffryn ac ar hyd nant Dwr Iâl. Golwg o'r caeau hirsgwar nodweddiadol yn yr ardal nodweddion, gan edrych tua'r dwyrain o'r dwyrain o fferm Rhiw-lâs gydag ymylon tref Rhuthun yn y cefndir. Llun CPAT 809.4A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1029 Tyddyn Ucha . Tirwedd lle mae ffermydd ucheldirol gwasgaredig a chaeau bychain afreolaidd ar lethrau isaf bryniau Clwyd, a gyrhaeddir ar hyd rhwydwaith o lonydd troellog a cheuffyrdd. Fferm Tyddyn Ucha o'r de gyda bryniau Clwyd yn y pellter. Llun CPAT 831.8 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1030 Fron-heulog . Clostir o'r 19eg ganrif yn cynnwys tir comin uchel ar lechweddau gorllewinol bryniau Clwyd gyda bythynnod a godwyd ar ochr y ffordd. Mae'r hyn a welir yma'n enghraifft nodweddiadol o gau tir comin uchel yn y 19eg ganrif - edrychir i'r de, ychydig i'r dwyrain o fferm Bwlch-y-llyn. Llun CPAT 809.25 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1031 Graig-fechan . Coetir collddail ac anheddiad cnewyllol ar ochr y ffordd gyda bythynnod o'r 18fed - 19eg ganrif, capeli a thai o'r 20fed ganrif, o gwmpas bryn calchfaen ynysedig, amlwg. Brigiad calchfaen ynysedig ar ochr dde-ddwyreiniol y dyffryn gyda Moel Famau yn y cefndir. Llun CPAT 810.8A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1032 Eyarth . Ffermydd a neuaddau gwasgaredig ar greigiau calchfaen coediog ar ochr dde-orllewinol y dyffryn gyda chaeau unionlin a grewyd gan glirio graddol ar y coetir naturiol. Yma gwelir Ty-brith gyda chreigiau calchfaen y tu ôl iddo, ar ben deheuol yr ardal cymeriad. Llun CPAT 810.5A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
1033 Bryn-isaf . Man lle caewyd tir comin uchel yn y 19eg ganrif ar lethrau gorllewinol bryniau Clwyd gyda bythynnod ar ochr y ffordd. Yma gwelir ffens pyst a ychydig i'r gogledd o fferm y Graig. Llun CPAT 809.17. (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1034 Felin-ysguboriau . Ffermydd gwasgaredig mawr a melinau mewn tirwedd lle mae caeau mawr i ganolig eu maint, tir pori isel ond â draeniad da rhwng yr Afon Clwyd a nant y Dwr Iâl ar ymylon deheuol Rhuthun. Yma gwelir caeau isel ychydig i'r de o Ruthun. Llun CPAT 810.20A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1035 Moel y Parc . Ucheldir heb ei gau sy'n rhan o fryniau Clwyd at ben gogleddol yr ardal cymeriad. Golwg o'r de, gydag adeiladau fferm adfeiliedig o'r 19eg ganrif (yn ymyl y garafan) ychydig i'r gogledd o'r Aifft. Llun CPAT 812.12 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1036 Moel Llanfair . Rhostir agored at ben deheuol bryniau Clwyd, yn cynnwys rhannau o Foel Gyw, Moel Llanfair, Moel Llech, Moel y Plas, Moel y Gelli, Moel y Waun a Moel yr Accre sy'n ymestyn u tu hwnt i Ddyffryn Clwyd, tir pori a wellwyd ar lethrau llai serth ac a gyrhaeddir ar hyd llwybrau llydan modern y ffermydd. (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1037 Bathafarn . Tirwedd yn cynnwys caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd cadarn ar lethrau isaf bryniau Clwyd, o ganlyniad i gau parcdir canoloesol yn ystod ail hanner yr 16eg ganrif. Llun CPAT 809.8 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1038 Moel Famau . Darn amlwg o weundir agored a dorrir gan fân fylchau, a lle mae bryngaerau pwysig o'r Oes Haearn ac olion Jubliee Tower o oes Victoria, ar gopaon nifer o'r bryniau. Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys y bryniau a enwyd canlynol: Moel Arthur, Moel Llys-y-coed, Moel Dywyll, Moel Famau, Moel y Gaer, Foel Fenlli, Moel Eithinen, a'r Gyrn. Syma gwelir gweundir grugog ar lethrau Foel Fenlli, rhagfuriau'r fryngaer o'r Oes Gaearn yn torri'r nenlin. Mae erydiad ymwelwyr yn broblrm gyson yn y fan honar lethrau serth bryniau Clwyd. Llun: CPAT 809.5 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1039 Penycloddiau . Darn amlwg o weundir agored, lle mae bryngaer bwysig ar ben y bryn. (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1040 Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch . Tirwedd lle mar ffermydd agos i'w gilydd a chaeau bychain ac afreolaidd ar lethrau gorllewinol Dyffryn Clwyd, gyda Phentre Llanrhaeadr yn y pellter canol. Llun CPAT 811.10A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1041 Dinbych . Tref fodern Dinbych, sy'n tyfu, ac a gychwynnodd fel bwrdeistref ganoloesol â chastell, ac adeiladau o'r canol oesoedd diweddar a'r 17eg ganrif i'r 19fed ganrif. Yma edrychir tua'r dwyrain i lawr Vale Road, Dinbych, i gyfeiriad Moel y Parc. Mae hon yn un o'r ffyrdd newydd a osodwyd yn ystod y 14eg ganrif wrth i'r dref dyfu y tu hwnt i'w lleoliad anghyfleus ar ben y bryn ymhellach i'r gorllewin. Llun CPAT 811.21A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1042 Pen-yr-allt . Tirwedd yn cynnwys ffermydd bychain ar lethrau coediog a dyffrynnoedd, yn union o dan ymyl y gweundir. Yma edrychir tua'r de i gyfeiriad Bwlch-uchaf, o dan Moel Gyw. Llun CPAT 809.00A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1043 Llandyrnog . Rhan o'r tirwedd sy'n cynnwys ffermydd llai a chaeau hirsgawr canolig eu maint gyda gwrychoedd fel ffiniau, rhai ohonynt weithiau'n dilyn y nentydd naturiol sy'n llifo i'r gorllewin o fryniau Clwyd. Llun CPAT 812.22 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1044 Llanynys . Ffermydd bychain clystyrog ar ddarn diarffordd o dir â gwell draeniad yn aber yr afonydd Clywedog a Chlwyd. Llun CPAT 811.9A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1045 Fron-gelyn . Tirwedd lle mae caeau afreolaidd cymharol fychan gyda gwrychoedd fel ffiniau ar lethrau gorllewinol serth bryniau Clwyd. Yma edrychir tua'r dwyrain i gyfeiriadTy Newydd, Aifft. Llun CPAT 812.8 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1046 Rhiwbebyll . Tirwedd o gaeau hirsgwar bach neu ganolig eu maint â gwrychoedd a ffermydd gwargaredig ar linell y gwanwyn, yn union dan y gweundir, ac a welir yma i gyfeiriad fferm Gales-uchaf. Llun CPAT 813.00 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1047 Rhôs . Tirwedd o gaaeu mawr traeniedig â ffosydd traenio a gwrychoedd o'u cwmpas ger yr afon Clwyd, ac a welir yma ychydig i'r dwyrain o Lanynys, yn edrych tua'r de-ddwyrain. Llun CPAT 811.5A. (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1048 Fron Yw . Darn mawr o barcdir yn perthyn i Vron Yw, ty mawr a ailadeiladwyd ym 1906 ac a ddefnyddir yn awr fel cartref nyrsio, ac a godwyd lle bu adeilad cynharach o ganol yr 17eg ganrif. Gall parcdir, sy'n un o nodweddion tirwedd hanesyddol arbennig Dyffryn Clwyd, ddiflannu'n gyflym os torrir hen goed ac os na phlannir erail yn eu lle. Llun CPAT 812.23 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1049 Hirwaen . Ffermydd ar ymyl y gweundir a ffermydd tir isel mewn tirwedd o gaeau hirsgwar bach a osodwyd ar hyd y cyfuchlin. (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1050 Esgairlygain . Tirwedd trawiadol o leiniau llinol yn rhedeg ar i lawr o'r ffermydd gwasgarog sydd yn union o dan ymyl y gweundir, ac a welir yma yn edrych tua fferm Tyn-y-celyn gyda Thwr y Jiwbilî ar Foel Famau ar y gorwel pell. Llun CPAT 813.8 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1051 Fron-dyffryn . Tir comin uchel a gaewyd yn y 19eg ganrif gyda chaeau hirsgwar canolig neu fawr yn amgáu ucheldir pori bras a phorfeydd a wellwyd, gyda therfynau caeau a ffurfiwyd o wrychoedd draenen wen tenau sydd wedi gordyfu, a gwelir yma a thraw resi o goed a phrysgwydd, y gosodir pyst a ffens weiren yn eu lle. Mae'r terfyn yn y fan hon yn rhedeg tua'r de i gyfeiriad Moel Arthur, ac mae'n dilyn y ffin sirol. Llun CPAT 813.4 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1052 Lleweni . Dolydd isel ac afreolaidd a draeniwyd ac sy'n gorwedd o fewn hen lyn rhewlifo a elwid Llyn Clwyd. Llun CPAT 812.0 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1053 Aberchwiler . Yr hen felin feillion a elwir Melin Candy, at ben uchaf dyffryn Aberchwiler, gyda fferm Ty-draw a Moel y Parc y tu hwnt. Llun CPAT 812.17 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1054 Bodfari . Bryn ynysig a choed dros rannau ohono sy'n codi'n sydyn i fryngaer Oes ur Haearn Moel y Gaer (Bodfari) ar y copa, a chyda ffermydd bychain a phorfeydd bychain ac afreolaidd eu siâp a dorrwyd bob yn dipyn o'r coetir. Llun CPAT 812.16 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1055 Coed Draw . Ar lethrau isaf Moel y Parc, gyda chaeau bach neu ganolig o ganlyniad i glirio coetir bob yn dipyn. Yn yr 1780au disgrifiodd Thomas Pennant 'the lofty mountain Moel y parc, skirted with trees'. Llun CPAT 812.19 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1056 Glan Clwyd . Tirwedd o ffermydd gwasgaredig, canolig eu maint mewn tirwedd o leiniau a chaeau hirsgwar canolig eu maint. Edrychir tua'r gorllewin i gyfeiriad Dinbych ychydig i'r gogledd o Dhi Coch Ganol (Dre Gch Ganol);fferm Dhi Coch Ganol. Llun CPAT 812.7 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1057 Plâs Ashpool >. Parcdir a thir â chymeriad parcdir a ffermydd mawr a thai mawr ar wasgar. (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1058 Meusydd-brwyn . Tirwedd trawiadol lle mae caeay hirsgwar a lleiniau, ffosydd draenio a phyllau dwr bychain, gyda ffermydd a thyddynnod ar ymylon gogledd-ddwyreiniol Dinbych. Yma edrychir tua'r gogledd-ddwyrain ychydig i'r de o Mytton Park. Llun CPAT 812.1 (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1059 Ystrad . Tiwedd lle mae ffermydd gwasgaredig mawr a phorfeydd hisgwar mawr ar dir llechweddog sy'n edrych dros ymyl gorllewinol y dyffryn, ychydig i'r de o Ddinbych. Yma edrychir arno o'r gorllewin, gyda Fferm Ystrad Farm yn y pellter canol. Llun CPAT 811.15A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1060 Penpalmant . Tirwedd lle mae caeau afreoladd, canolig eu maint â gwrychoedd, ac sydd â choed derw mawr hwnt ac yma, pyllau dwr a thirwedd cefnen a rhych. Yma, ychydig i'r de o fferm Penpalmant, amlygir y tirwedd cefnen a rhych gan lygaid y dydd sy'n tyfu ar y chefnenau sych. Llun CPAT 811.22A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1061 Gwergwy . Dolydd isel o gwmpas aber yr Afon Clywedog a'r Afon Clwyd, gyda ffosydd draenio, nentydd argloddiedig a chamlesedig, sy'n dangos hanes rheoli dwr yn Nyffryn Clwyd. Llun CPAT 811.4A (Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk
|