Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Fron-heulog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1030)
Tir comin uchel a gaewyd yn
ystod y 19eg ganrif ar
lethrau gorllewinol bryniau
Clwyd gyda bythynnod ar dir
ar ymyl y ffordd a
lechfeddiannwyd.
Cefndir Hanesyddol
Ar ymyl dwyreiniol plwyf canoloesol Llanfair Dyffryn Clwyd, yn hen gwmwd Dyffryn Clwyd.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Llechweddau uchaf bryniau Clwyd yn wynebu'r gorllewin, rhwng uchter o tua 250-350m, ac yn rhan o Ardal Prydferthwch Eithriadol Bryniau Clwyd.
Bythynnod cerrig ar ochr y ffordd o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, gyda thoeau llechi - rhai ag
adeiladau allanol - ac fel arfer ar y tir comin uwch y ffordd rhwng Rhuthun a Wrecsam.
Gwellwyd y rhan fwyaf o'r bythynnod a gwnaed hwy'n fwy yn ystod yr 20fed ganrif.
Ceir system o gaeau hirsgwar cymharol fawr lle mae glaswelltir a wellwyd, lle cliriwyd y
rhedyn a'r eithin, ac a ddiffinnir gan wrychoedd y ddraenen wen lle ehangwyd, mae'n debyg, y
ffermydd gerllaw a oedd yno eisoes ar y tir is. Hefyd mae rhai o'r bythynnod yn ymyl y ffordd
wedi eu cysylltu â pharseli cymharol fychan o dir a gymerwyd o'r comin, ac a ddiffinnir
unwaith eto gan wrychoedd draenen wen. Mewn mannau mae'r ddau fath o wrychoedd wedi
eu hesgeuluso ac mewn mannau fe'u hatgyweiriwyd neu fe osodwyd ffensiau pyst a gwifren yn
eu lle. Dangosir y rhan fwyaf o'r terfynau ar ddyfarniad cau tir 1853.
Chwareli bychain ar ymyl y ffordd, ar gyfer codi tai a waliau mae'n debyg.
Richards 1969
Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych, Rhuthun, dyfarniad a chynlluniau cau tir 1853, 1860, QSD/DE/25
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|