Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Dinbych, Sir Ddinbych
(HLCA 1041)
Tref fodern sy'n ehangu â bwrdeistref gaerog ganoloesol ac adeiladau diwedd y canoloesoedd a'r 17eg a'r 19eg ganrif yn sail iddi.
Cefndir hanesyddol
Dinbych oedd prif ddinas y cantref Cymreig hynafol Rhufoniog. Rhoddodd
Edward I y cantref ynghyd â chantref Dyffryn Clwyd i Ddafydd ap Gruffydd,
brawd Llywelyn, yn 1277, a mwy na thebyg mai safle'r castell diweddar oedd
prif gartref Dafydd. Yn dilyn y gwrthryfel, dan arweiniad Dafydd, cymerodd y
goron y cantref ac fe'i rhoddwyd ynghyd â chantref Rhos i Henry de Lacy,
iarll Lincoln, yn 1282, sef y ddau gantref a oedd yn ffurfio arglwyddiaeth
Dinbych.
Prif nodweddion tirwedd hanesyddol
Lleolir y dref ar frigiad amlwg sy'n codi'n sydyn uwchben gwaelod y
dyffryn, rhwng uchder o 50-140m uwch lefel y môr. Ystâd breifat gan iarll
Caerlyr oedd y dref a derbyniodd ei siarter gyntaf yn 1290. Cynlluniwyd y dref a'r fwrdeistref gaerog ganoloesol fel un cyfanwaith, fel y bwrdeistrefi caerog brenhinol a
sefydlwyd gan Edward I, ond yn wahanol i fwrdeistrefi brenhinol Caernarfon, Conwy a Biwmares roedd tref Dinbych wedi ei lleoli'n anghyfleus ar ben allt serth.
Maes o law, gadawyd y dref gaerog a rhwng dechrau'r 13eg ganrif a'r 16eg
ganrif ehangodd y dref a symudodd ei chanolbwynt i fan mwy hydrin y tu allan
i furiau'r dref i'r gogledd-ddwyrain. Yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif
ehangodd y dref ymhellach i'r gorllewin, i'r gogledd-ddwyrain a'r
de-ddwyrain. Crëwyd y fwrdeistref gaerog o blwyf cynharach Llanfarchell, gydag eglwys blwyf yr Eglwys-wen, a gysegrwyd i Marcellus Sant, oddeutu 2 cilomedr i'r dwyrain. Er hwylustod i'r gwarchodlu a phobl y dref adeiladwyd capel St Hilary ar y tir glas y tu allan i'r castell. Sefydlwyd y ffrierdy Carmeliaid i'r gogledd-ddwyrain o'r dref yn niwedd y 13eg ganrif. Cychwynnodd Robert Dudley, iarll Caerlyr, a oedd yn
arglwyddiaethu rhwng 1563 a'i farwolaeth yn 1588, adeiladu capel
Elisabethaidd mewn ymdrech aflwyddiannus i symud yr esgobaeth o Lanelwy i
Ddinbych, ond nis gorffennwyd ef. Adeiladwyd eglwysi a chapeli anghydffurfiol
eraill yn y dref yn ystod y 19eg ganrif.
Beresford 1988
Hubbard 1986
Jones 1995
Owen, 1978
Owen 1974
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|