CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Graig-fechan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1031)


CPAT PHOTO 810.08A

Coetir collddail ac anheddiad cnewyllol ar ymyl y ffordd gyda bythynnod o'r 18fed ganrif - 19eg ganrif, capeli a thai o'r 20fed ganrif, wedi ei osod o gwmpas bryn calchfaen amlwg a diarffordd.

Cefndir Hanesyddol

Rhan o hen blwyf eglwysig Llanfair Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Bryn a chraig calchfaen amlwg gyda llechweddi coediog, yn fwy agored yn ymyl y copa, rhwng tua 100-189m.

Anheddiad cnewyllol yn cynnwys bythynnod cerrig unigol ac mewn teras o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, dwy odyn galch, dau gapel, gefail, tafarn a fferm Tan-y-graig ar hyd y ffordd o Wrecsam i Ruthun wrth droed y bryn, gydag ystad fechan o dai o'r 20fed ganrif a thai a byngalos ynysedig o'r 20fed ganrif yn y coetir yn ymyl y copa.

Caeau pori bychain a chaeedig ar ymylon dwyreiniol y bryn, a ddangosir ar y dyfarniad cau tir ym 1853. Waliau calchfaen sychion gyda chamfa garreg ar hyd ymyl y ffordd trwy goetir ar y B5429, a gelwir coetir Coed Henblas yn goetir ailblanedig hynafol.

Hen efail, odynau calch a thafarn.

Capel Annibynnol Ebenezer, a godwyd o gerrig ym 1840 a Chapel Methodistaidd Wesleaidd a ailgodwyd ym 1883 (sefydlwyd 1845).

Ffynonellau

Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych, Rhuthun, dyfarniad a chynlluniau cau tir 1853, 1860, QSD/DE/25
Ordnance Survey
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.