Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Plas Ashpool, Llandyrnog, Sir Ddinbych
(HLCA 1057)
Parcdir a thir â nodweddion parcdir a ffermydd mawr gwasgaredig a thai mawr
Cefndir hanesyddol
Mae'r ardal cymeriad oddeutu cornel gogledd-orllewinol plwyf eglwysig
hynafol Llandyrnog ac yn rhan o gwmwd Dogfeilyn o fewn cantref hynafol
Dyffryn Clwyd. Yn ystod y cyfnod canoloesol ymddengys bod rhan ogleddol yr ardal ger Cae'r Fedwen (Birch Field) yn ardal o goetir neilltuedig a elwid yn Coruedwen.
Prif nodweddion tirwedd hanesyddol
Tir yn codi'n raddol rhwng oddeutu 30-110m uwch lefel y môr sy'n cychwyn yn agos i lannau dwyreiniol afon Clwyd hyd at droed llethrau gorllewinol bryniau Clwyd
Mwy na thebyg mai'r adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi o fewn yr ardal
cymeriad yw'r ysgubor nenffyrch 16eg ganrif ym Mhlas Ashpool, wedi ei
gorchuddio â briciau yn ystod diwedd y 17eg a dechrau'r 18fed ganrif.
Adeiladwyd y ty a'r adeiladau eraill sydd ar ôl o friciau 18fed ganrif ar seiliau cerrig, gyda pheth cerrig nadd, mae'rty yn rhan o'r fferm. Mae'r ty mawr yng Nglan-y-wern a Phentre Mawr yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Ty cerrig nadd yw Glan y wern
ac mae Pentre Mawr wedi ei rendro â cherrig addurniadol. Lleolir Pentre Mawr
yn gyfagos i amrediad gwych o dai allan o friciau 19eg ganrif ond lleolir y
fferm yng Nglan-y-wern oddeutu 300m i'r de o'r fferm ei hun. Mae gan Cae'r
Fedwen hefyd amrediad gwych o dai allan 18fed a 19eg ganrif o friciau.
Gwyddys bod boncyffion gwenyn i gadw cychod gwenyn ym Mhlas Ashpool.
Ffurfir yr ardal cymeriad gan gyfuniad llac o barcdir, tir â nodweddion
parcdir, coetir a gerddi sy'n gysylltiedig â phedwar eiddo Plas Ashpool,
Pentre-mawr, Plas Glan-y-wern, a Phlas Ffordd-ddwr, gan ffurfio band sydd
tua 3km o hyd a hyd at 1km o led ar draws ochr ddwyreiniol y dyffryn. Nodweddir y tirwedd gan ardaloedd eang caeëdig o dir pori gyda hen goed deri gwasgaredig gyda rhai mannau bychain o goetir collddail, â llynnoedd mawrion addurniadol ar dir Glan-y-wern. Nodweddir y ffiniau ar ochr y ffordd gan hen wrychoedd drain gyda ffensys
pyst a gwifren yn ffurfio is-rannau o fewn y lle caeëdig mwyaf
Berry 1994
Hubbard 1986
Richards 1969
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|