Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Gwergwy, Llanynys, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Dinbych a Llandyrnog, Sir
Ddinbych
(HLCA 1061)
Iseldir o ddolydd anghyfannedd o gwmpas cymer Afon Clywedog ac Afon Clwyd, gyda ffosydd draenio, afonydd wedi eu cloddio a'u camlesu gydag ychydig o ffyrdd.
Cefndir hanesyddol
Yn dod ar hyd y ffin rhwng plwyfi eglwysig canoloesol Llanynys a
Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, ac yn weinyddol ar hyd y ffin rhwng cwmwd
Ceinmeirch yng nghantref Rhufoniog a chwmwd Colion yng nghantref Dyffryn
Clwyd
Prif nodweddion tirwedd hanesyddol
Iseldir o ddolydd gwastad â draeniad gwael yng nghanol y dyffryn o gwmpas cymer Afon Clywedog ac Afon Clwyd, rhwng oddeutu 30-40m uwch lefel y môr, heb ddim aneddiadau cyfoes.
Mae'r ardal wedi ei draenio'n helaeth ond mae'n llanw â dwr yn ôl y tymor. Cyflawnwyd y gwaith draenio pennaf ar ôl y cyfnod canoloesol, dengys cynlluniau 1780 y cwrs newydd a dorrwyd ar gyfer Afon Clwyd. Mae'r nodweddion gweledol a luniwyd i leddfu'rdraeniad naturiol gwael yn cynnwys afonydd wedi eu camlesu a ffosydd draenio ar ymylon caeau a draeniau agored mewn rhai caeau gyda argloddiau ar hyd Afon Clywedog ac Afon Clwyd, er bod peth tystiolaeth yn dangos lleiniau yn y
rhyngafondir rhwng Afon Clywedog ac Afon Clwyd yn ystod y cyfnod canoloesol. Cymysgedd o gaeau unionlin bychain, canolig a mawr y gellir eu cyrraedd ar
hyd lonydd a llwybrau troed, rhai ohonynt mewn ceuffyrdd, yn rhedeg lawr o'r
ucheldir. Ardal o gaeau hirgul wedi eu ffinio â ffosydd draenio i'r
gogledd-ddwyrain o Lanrhaeadr, mae rhai o'r lleiniau ar ymyl yr iseldir yn yr
ardal hon, ger fferm Llwyn Mawr â choedlannau bychain o ynn a gwern. Yn aml
ceir gwrychoedd draenen wen gwasgaredig heb eu cynnal yn dda, gyda choed
gwern, poplys a helyg uchel ar hyd y prif ddyfrgwrs. Ysguboriau 19eg ganrif?
bychain o friciau neu gerrig yng nghorneli nifer o gaeau, llawer ohonynt
bellach yn adfail. Mwy na thebyg mai twmpathau sychu yw nifer o'r twmpathau
hir ac isel yn y mannau gwlypach ar yr iseldir, ond mae eu dyddiadau'n
ansicr
Bu'r ardal eang hon â draeniad gwael tuag at ganol y dyffryn yn
llyffetheirio'r cysylltiad rhwng ochr ddwyreiniol a gorllewinol y dyffryn, Pont Drefechan, sef pont gerrig o ddechrau'r 19eg ganrif ar y ffordd rhwng Pentre Llanrhaeadr a Llanynys yw un o'r ychydig o ffyrdd cyhoeddus sy'n croesi'r ardal. Â arglawdd rheilfforddddatgymaledig Corwen i'r Rhyl trwy'r ardal, gan dorri ar draws ffiniau nifer o gaeau, â'u patrwm yn amlwg wedi eu sefydlu cyn adeiladu'r rheilffordd yn y 1850au. Roedd cyn Orsaf Reilffordd Llanrhaeadr ar y ffordd i'r dwyrain o
Bentref Llanrhaeadr
Denbighshire Record Office, Ruthin, PD/68/1/2
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|