Cymraeg / English
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd HanesyddolDyffryn ClwydTIRWEDDAU A AMDDIFFYNNWYDMae tirweddau a amddiffynnwyd yn Nyffryn
Clwyd yn ymrannu’n grwpiau ar wahân heb unrhyw gysylltiad â’i gilydd - y
grŵp o fryngaerydd cynhanesyddol ar hyd copa bryniau Clwyd ar y naill law
a chestyll canoloesol Rhuthun a Dinbych ar y llaw arall, ac mae’r holl
safleoedd yn henebion cofrestredig. Mae pump o’r gadwyn hynod o chwe bryngaer
ar hyd bryniau Clwyd o fewn ardal o dirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd -
Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a
Moel y Gaer (Bodfari) - a dyma’r grŵp amlycaf ac eto mwyaf enigmatig o
henebion archeolegol yn yr ardal. Mae
dau safle - Foel Fenlli a Phenycloddiau - yn eang; mae Penycloddiau’n amgáu
ardal o tua 21 hectar, ac yn un o’r bryngaerydd mwyaf yng Nghymru gyfan. Gwnaed peth gwaith cloddio ar raddfa fechan
yn Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr) a Moel Arthur ym 1849 ac ym Moel y Gaer
(Bodfari) ym 1908, ond eto i gyd ychydig sy’n hysbys amdanynt, ar wahân i’r
ffaith iddynt gael eu cychwyn, fwy na thebyg, yn ystod yr Oes Haearn
cyn-Rhufeinig, a’u bod yn amlwg wedi’u bwriadu i gyflawni rôl
amddiffynnol. Mae gan bob un o’r henebion lethrau a
ffosydd niferus o’u hamgylch o leiaf yn rhannol, a cheir tystiolaeth ym mhob
safle i’r amddiffynfeydd gael eu codi yn ystod mwy nag un cyfnod. Mae llwyfannau ceugrwn ar nifer o safleoedd
fwy na thebyg yn dynodi safle’r tai crwn pren neu adeiladau storio, ond testun
damcaniaeth yn unig yw a fu rhywrai’n preswylio ynddynt yn barhaol neu’n
dymhorol, a thros ba gyfnod. Mae pob un
o’r safleoedd yn cynrychioli camp beirianyddol aruthrol, er nad ydym yn gwybod
llawer am eu swyddogaeth mae maint y cloddweithiau’n darparu peth tystiolaeth
ynghylch y gymdeithas a’u creodd; roedd y boblogaeth gyfoes yn amlwg o gryn
faint ac mae’n rhaid ei bod wedi’i threfnu mewn modd oedd yn caniatáu
gweithredu ar y cyd. Mae’r henebion eu
hunain yn fynegiant o gymdeithas ar waith ac mae ganddynt berthynas agos â’r
dirwedd y canfuwyd hwynt ynddi. Yn ôl pob
tebyg byddai pob bryngaer yn ganolbwynt tiriogaeth lwythol a ddiffiniwyd yn glir
ac a ymestynnai ar draws yr iseldir o fewn y dyffryn islaw, gyda phob un yn
rheoli mynediad i amrywiaeth tebyg o adnoddau naturiol. Mae gan y tirweddau a amddiffynnwyd ac a
gynrychiolir gan y cestyll canoloesol yn Rhuthun a Dinbych wreiddiau a swyddogaeth
hollol wahanol. Dewiswyd brigiadau
amlwg ar gyfer y ddau fath ond yn achos Rhuthun a Dinbych lleolwyd y safleoedd
o fewn y dyffryn ac roeddent yn llawer llai o faint ac wedi’u cynllunio i letya
llu milwrol mwy cywasgedig. Dechreuwyd
ar y gwaith o godi castell Rhuthun fel rhan o gynllun adeiladu brenhinol ym
1277, yn ystod teyrnasiad Edward I, ac fe’i cynlluniwyd i ddiogelu cantref
Dyffryn Clwyd, a oedd bryd hynny yng ngofal Dafydd yn enw’r goron, yn erbyn y
bygythiad o gyrch gan ei frawd, Llywelyn ap Gruffydd. Ar ôl gwrthryfel Dafydd ym 1282, rhoddwyd y cantref i Edward de
Grey, ac ailgydiwyd yn y gwaith adeiladu ar y castell. Gyda’i gilydd y castell a’r dref oedd prifddinas
arglwyddiaeth newydd y mers yn Rhuthun, ac roedd yn fodd i amddiffyn, gweinyddu,
a manteisio ar yr arglwyddiaeth.
Niweidiwyd adfeilion y castell canoloesol sy’n rhedeg gyda chrib y bryn
ar ochr ddeheuol y dref yn ddifrifol yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif yr
adeiladwyd yr adeiladau castellog presennol, sydd bellach yn westy. Mae gan Ddinbych hanes tebyg. Roedd Dinbych hefyd, prifddinas cartref Rhufoniog, o dan ofal Dafydd cyn ei wrthryfel ym 1282. Ar ôl goresgyniad Edward fe’i rhoddwyd i Henry de Lacy, ac fel yn achos Rhuthun dechreuodd y gwaith o adeiladu’r castell yn fuan wedyn, y tro hwn er mwyn diogelu a manteisio i’r eithaf ar arglwyddiaeth newydd Dinbych. Yn yr achos hwn adeiladwyd muriau tref sylweddol o gwmpas y dref gynnar. |