CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Bathafarn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1037)


CPAT PHOTO 809.08

Tirwedd o gaeau petryalog mawr ar lethrau isaf Bryniau Clwyd, yn cynrychioli ail-fodelu parc canoloesol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal yn cynnwys rhannau o blwyfi eglwysig Llanfair, Llanrhudd a Llanbedr yn nghymydau canoloesol Llannerch a Dogfeilyn, ar ochr ddwyreiniol cantref Dyffryn Clwyd, a ddaeth yn arglwyddiaeth Rhuthun o dan deulu'r de Greys wedi'r Goresgyniad Edwardaidd. Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys rhan isaf o Barc Bathafarn, parc hela gan y de Greys a sefydlwyd yn fuan wedi i arglwyddiaeth Rhuthun gael ei chreu ar ddiwedd y 13eg ganrif, os nad ynghynt. Amcangyfrifir bod y parc cyfan, y daeth rhannau ohono o fewn yr ardal cymeriad i'r dwyrain, yn mesur tua 400 hectarau. Diffiniwyd ffiniau'r parc gan glawdd a ffos o'r enw Clawdd y Parc, a'i gwrs yn cael ei gynrychioli gan ffos sy'n cael ei hystyried yn diffinio rhan o'r ffin orllewinol yr ardal cymeriad heddiw. Roedd un o brif giatiau'r parc ger Plās-yn-rhal. Gwerthwyd y parc i'r Thelweliaid cyn 1592, gwnaed cryn welliannau a newidiadau i dirwedd y rhan isaf hon o'r parc yn ystod y cyfnod rhwng 1553 a 1592, pan godwyd y plas cyntaf, a mwy na thebyg mai yn ystod y cyfnod hwn y gosodwyd y system gaeau bresennol. Dywedir bod y parc yn cynnwys nifer o randiroedd cyn hyn, gan gynnwys oddeutu 30 acer o dir ār a phori wedi ei rannu'n erddi. Dengys y cofnodion cyfoes bod y tir pori ac ār wedi ei greu wrth dorri coed, draenio tir gwlyb a thorri ffosydd a rhannu'r ardal oedd wedi ei chlirio gan wrychoedd twf buan.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llethrau isaf bryniau Clwyd yn wynebu'r gorllewin ar uchder o tua 80-160m.

Ymddengys bod Plas Bathafarn wedi ei sefydlu yn y lle cyntaf yn ystod y cyfnod Elisabethaidd, er bod yr adeilad presennol, gyda thyfiant o goed i'r dwyrain, yn adeilad stwco 19eg ganrif gyda bloc stabl o friciau. Mae'r ffermdy 18fed ganrif o friciau a thai allan o gerrig wedi eu hailosod gan ffermdy a thai allan modern o friciau.

Tirwedd trawiadol o gaeau petryalog cymharol fawr wedi eu gosod o gwmpas Plas Bathafarn, Fferm Bathafarn Farm a Fferm Bacheirig ar lethrau isaf bryniau Clwyd, y caeau wedi eu hamgylchu ā gwrychoedd cadarn o ddraenen wen a ffosydd. Rhai waliau cerrig sychion wrth y fynedfa i Fferm Bathafarn . Ymestynnwyd ffiniau'r ardal cymeriad y tu hwnt i'r ffiniau gorllewinol a deheuol tybiedig y parc canoloesol i gwmpasu caeau eraill sy'n ymddangos fel petaent yn gyfoesol gyda is-rannu'r parc blaenorol.

Mae Plas Bathafarn wedi ei amgylchu gan cyn-barcdir ac mae gatiau a phorthordy 19eg ganrif ar y briffordd. Mae ffiniau'r caeau rhwng y plas a Fferm Bathafarn wedi eu crymu'n fwriadol er mwyn gwella delwedd weledol y parcdir. Disgrifia Thomas Pennant (1793, 65) y tiroedd fel a ganlyn: 'The grounds rise with rich cultivation from the house, and are delightfully varied with hanging woods'.

Ffynonellau

Berry 1994
Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch ā gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.