Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Felin-ysguboriau, Ruthin and Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1034)
Ffermydd a melinau gwasgarog mawr mewn tirwedd o gaeau mawr i ganolig ar dir pori isel ond sydd wedi ei draenio'n dda rhwng yr Afon Clwyd a nant Dwr Iâl ar ymylon deheuol Rhuthun.
Cefndir Hanesyddol
Mae'n gorwedd i raddau
helaeth ym mhlwyf eglwysig
canoloesol Llanynys, o fewn cantref Dyffryn Clwyd. Cynrychiolir anhediad cynnar neu
gladdiad posibl yn dyddio o'r Oes Haearn cyn-Rufeinig gan bâr o lwyau efydd a
ddarganfuwyd wrth adeiladu'r hen reilffordd i'r de o Ffynnogion. Cynrychiolir tystiolaeth o
anheddiad amaethyddol Rhufeinig a'r defnydd o dir gan dystiolaeth yn ardal Parc Brynhyfryd
ar ochr ddwyreiniol Rhuthun a bu darganfyddiadau Rhufeinig achlysurol mewn mannau eraill
yn yr ardal gan gynnwys nifer o ddarganfyddiadau o ddarnau arian aur ac arian yn ymyl
Llanrhudd. Mae eglwys St Meugan yn Llanrhudd yn sefyll ar ddibyn yn edrych dros nant Dwr
Iâl ac yn ôl y traddodiad fe sefydlwyd hi yn ystod y 6ed ganrif. Roedd yn bodoli'n bendant
erbyn y 13eg ganrif, a daeth yn fam eglwys i Ruthun pan ddechreuwyd codi'r castell a'r dref.
Mae'r safle â mwnt ychydig i'r gogledd o Ffynnogion yn tystio i'r ffaith fod i'r anheddiad
statws uchel yn ystod y canol oesoedd.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Llawr y dyffryn tonnog sydd wedi ei draenio'n gymharol dda, rhwng tua 70-90m uwch lefel y môr, rhwng yr Afon Clwyd yn y gorllewin a nant Dwr Iâl yn y dwyrain. Fe'i dominyddir gan y tir uwch dan Ruthun i'r gogledd a chan y tir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn i'r gorllewin.
Cyfyngir anheddiad i nifer gymharol fechan o ffermydd gwasgaredig sydd wedi eu hen sefydlu
fel Ffynnogion, ty hanner pren â mwy nag un llawr o'r canol oesoedd hwyr, a rendrwyd ar y
tu allan, gydag adeiladau allanol o friciau o'r 18fed/19eg ganrif a buarth â wal gerrig, a Merllyn
gyda ffermdy gadawedig gyda llawr isaf o gerrig a lloriau uchaf o friciau a gydag adeiladau
allanol o friciau unwaith eto, ac adeiladau allanol o friciau ym Melin-ysguboriau/Fferm Castle
Park.
Caeau canolig neu fawr a ddefnyddir fel tir pori'n bennaf, gyda rhai cnydau ar gyfer porthiant,
gyda gwrychoedd y ddraenen wen a dorrwyd yn isel, terfynau nifer o gaeau mwy a chynharach
wedi eu torri gan y ffordd dyrpeg a'r ffyrdd eraill a wellwyd sy'n arwain i Ruthuno'r de a'r
de-ddwyrain, ac mae hynt ffyrdd blaenorol i'w gweld mewn ceuffyrdd gadawedig. Mae'n
ymddangos mai'r tir ychydig uwch yng nghyffiniau Llanrhudd yn ardal ffermydd Maes-y-llan a
Thy'n-y-caeau oedd lleoliad y caeau âr a gysylltid â thref ganoloesol Rhuthun, a dyna efallai
yw'r patrymau o gaeau consentrig ar ochrau dwyreiniol a de-ddwyreiniol tref Rhuthun. Ceir
coed derw, ynn a chelyn mawr ar gyd y dyfrffosydd. Ceir gwelyau helyg i'r de o
Felin-ysguboriau.
Mae'r hen reilffordd, a adawyd bellach, yn elfen bwysig yn nhreflun dwyrain Rhuthun a gellir ei holrhain o hyd i'r de o'r dref, ac mae hen adeiladau'r orsaf yn dal yn bodoli yn Hen Orsaf Eyarth, i'r gogledd-orllewin o Lanfair Dyffryn Clwyd.
Cynrychiolir diwydiant gan hen felin Llanrhudd yn ymyl Dwr Iâl, a chan Felin-ysguboriau a'r ddyfrffos gysylltiedig sy'n arwain o'r Afon Clwyd. Arferid bwydo hen felin dref Rhuthun gan ail ddyfrffos yn arwain o'r Afon Clwyd ychydig i'r gogledd o Felin-ysguboriau.
Mae Castle Park, ardal o barcdir pwysig a thir â nodweddion parcdir i'r de o Ruthun, ac a
restrir yng Nghofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi, wedi ei ffensio ar hyd y ffordd gyhoeddus gan reiliau haearn. Mae llwybr
y ffordd o Gorwen i Ruthun, a fodolai cyn 1859, a phont y ffordd ag un-bwa, i'w gweld yn y
parcdir. Mae hefyd rywfaint o dir â chymeriad parcdir i'r de o fferm Merllyn.
Cadw/ICOMOS UK 1995
Hubbard 1986
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|