CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Oherwydd topograffi, mae’n debyg bod ffyrdd yn Nyffryn Clwyd ers y cyfnodau cynharaf wedi tueddu i redeg naill ai o’r gogledd i’r de, ar hyd echel y dyffryn, neu ar ongl sgwâr i’r echel hon i fyny dyffrynnoedd y nentydd sy’n arwain at y bryniau neu drostynt ar y naill ochr a’r llall. Mae hyn wedi arwain at rwydwaith o ffyrdd, llwybrau a throedffyrdd ar ffurf grid llac. Oherwydd y tir sy’n waeth o ran ei ddraeniad ar hyd y dyffryn bu tuedd i ffyrdd yn rhedeg o’r gogledd i’r de ddatblygu ar wahân. Maent yn cysylltu cymunedau ar y tir ychydig yn uwch ar y naill ochr a’r llall i’r dyffryn, a dim ond nifer gyfyngedig o fannau i groesi’r afon a geir sy’n cysylltu ochr ddwyreiniol ac ochr orllewinol y dyffryn.

Ychydig a wyddys am y ffyrdd a'r llwybrau cynharaf yn y dyffryn. Tybir bod ffordd Rufeinig bwysig yn arfer rhedeg ar hyd Dyffryn Clwyd, gan gysylltu safleoedd yng Nghaer Gai ger y Bala a’r hyn y tybir ei fod yn gaer yn ardal Corwen â safleoedd yng nghyffiniau Rhuthun a Llanelwy. Mae'n siðr y darganfyddir yn y dyfodol lwybr y ffordd a’i chysylltiad ag aneddiadau Rhufeinig ac â gweithgarwch milwrol posibl yn y dyffryn. Mae'n siðr i lawer o’r rhwydwaith sylfaenol o ffyrdd, llwybrau a throedffyrdd cyfoes ddatblygu'n raddol gan gysylltu aneddiadau cnewyllol o ddechrau’r Oesoedd Canol ac o’r Oesoedd Canol â chanolfannau trefol, ac yn ddiau, daethant yn fwy ac yn fwy cymhleth yn ystod y cyfnod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol wrth i nifer y ffermydd a'r daliadau gwasgaredig gynyddu. Unwaith eto, cymharol brin yw'r wybodaeth sydd gennym am y ffyrdd a'r pontydd cynnar a fu yn y dyffryn yn ystod y cyfnodau hyn. Byddai llawer o’r llwybrau cynnar hyn wedi bod yn ddibalmant ac yn anodd teithio arnynt yn ystod tymhorau arbennig o’r flwyddyn, er y gall y ffaith bod yr elfen palmant yn digwydd nifer o weithiau mewn enwau lleoedd fod yn arwydd o ffyrdd adeiledig cynnar.

Mae llawer o’r ffyrdd a’r llwybrau cyfoes sy’n rhedeg ar y naill ochr a’r llall i’r dyffryn yn rhedeg mewn ceuffyrdd sydd wedi’u treulio i mewn i lethr y bryn, yn enwedig y rhai sy’n cyrraedd ffermydd a chymunedau i fyny’r llethrau mwy serth ac ar y tir uwch. Mae rhai o’r ceuffyrdd o gryn faint ac yn hen iawn. Yn aml mae arwynebau’r ffyrdd presennol yn cyrraedd dyfnder o rhwng 3-5m o arwyneb y ddaear ar y naill ochr a’r llall, o ganlyniad i erydiad miloedd lawer o dunelli o bridd ac isbridd a olchwyd ymhellach i lawr y bryn gan ddðr arwyneb dros lawer o ganrifoedd. Gellir gweld bod hyd yn oed rhai o’r ffyrdd ar y tir mwy gwastad, is ar lawr y dyffryn wedi’u ffurfio mewn ceuffyrdd, ac yn yr achosion hyn mae’n bosibl iddynt gael eu cloddio â llaw. Erbyn hyn mae llawer o’r llwybrau hyn wedi’u ffosileiddio o ganlyniad i'w palmantu a gosod draeniau ffyrdd ar eu cyfer, er bod eraill wedi goroesi hyd heddiw fel lonydd gwyrddion.

Gwelwyd cryn dipyn o welliannau mewn perthynas â thrafnidiaeth y ffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn arbennig ar ddechrau’r 19eg ganrif pan adeiladwyd ffyrdd tyrpeg newydd a llawer o bontydd cerrig newydd ar draws afonydd a nentydd. Yn ogystal ag agor cefn gwlad i ymwelwyr roedd hyn o gymorth i fasnach. Ym 1801, nododd Syr Richard Colt Hoare, yr hynafiaethydd, fod ffordd newydd yn cael ei hadeiladu trwy’r dyffryn ‘sydd bellach yn agored i gerbydau … a fydd yn fodd i osgoi llawer o fryniau serth a llawer o wlad ddiflas’. Roedd y gwaith yn dal heb ei gwblhau, fodd bynnag, a chyda pheth gofid nododd ‘pe gwyddwn fod cymaint ohoni yn aros heb ei gwblhau ni fyddwn wedi ceisio teithio arni yn fy nhrap, gan fy mod wedi cael ei diwedd hi cynddrwg ag yr oedd y dechrau yn dda’.

Parhaodd gwaith i wella’r ffyrdd trwy gydol diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Disodlwyd y pontydd pren neu'r rhydau cynharach gan bontydd cerrig bwaog ac ar yr un pryd cyflawnwyd cynlluniau draenio ac adeiladwyd sarnau ar draws rhannau o’r tir gwlypach is. Mae hyn oll yn darparu elfennau nodweddiadol yn y dirwedd hanesyddol ar hyd a lled Dyffryn Clwyd. Crëwyd nifer o briffyrdd newydd megis y ffordd newydd o Wrecsam i Ruthun trwy Nant y Garth, Llysfasi a Llanfair Dyffryn Clwyd, a gymerodd le’r hen ffordd a redai trwy Graig-fechan, ar ochr ddwyreiniol y dyffryn. Mewn mannau mae’r ffordd hon, fel nifer o ffyrdd newydd neu ffyrdd oedd wedi’u gwella mewn mannau eraill yn y dyffryn, wedi’i harosod ar systemau caeau cynharach. Mewn rhai achosion, fel ger Lleweni a Bachymbyd, adeiladwyd pontydd gan berchenogion tir preifat er mwyn cyrraedd tir ffermio ar ochr arall un o’r prif nentydd neu afonydd yn y dyffryn. Adeiladwyd ffyrdd newydd i gwrdd ag anghenion y canolfannau trefol yn Rhuthun a Dinbych a oedd yn ehangu’n gyflym a mor ddiweddar â’r 1850au dargyfeiriwyd llwybr y ffordd o Gorwen i Ruthun o amgylch Parc y Castell yn Rhuthun, gan adael yr hen bont ffordd ar draws afon Clywedog fel nodwedd neilltuol yn y parcdir.

Hyrwyddwyd y gwaith o allforio cynnyrch amaethyddol a mwynau, symud teithwyr, a mewnforio ystod eang o nwyddau yn fawr o ganlyniad i adeiladu'r rheilffordd o Gorwen i'r Rhyl yn y 1850au, gyda gorsafoedd yn Euarth, Rhuthun, Llanrhaeadr, a Dinbych. Ychwanegwyd cysylltiadau â’r Wyddgrug trwy adeiladu Rheilffordd yr Wyddgrug a Chyffordd Dinbych 1869 gyda gorsaf ym Modfari a chilffyrdd ar gyfer Cwmni Dur a Haearn Partington ym Modfari ym 1924. Er iddi orffen rhedeg yn y 1960au mae gan y rheilffordd effaith sylweddol ar y dirwedd o hyd mewn nifer o ardaloedd cymeriad yn y dirwedd hanesyddol, gan gynnwys yr argloddiau a phentanau'r pontydd i’r gorllewin o Lanfair Dyffryn Clwyd, hafnau'r rheilffordd sy’n ffinio â’r ystadau tai ar ochrau dwyreiniol Rhuthun a Dinbych, a’r arglawdd a’r bont amlwg ar draws afon Clwyd ger Fferm Pontruffydd, i’r gogledd-ddwyrain o Ddinbych, yn ogystal â nifer o gyn adeiladau gorsaf a bythynnod porthorion. Hyd yn oed lle nad oes unrhyw gloddweithiau wedi goroesi, dynodir llwybr y gyn reilffordd gan ffiniau pendant y caeau a arferai eu croesi neu gan y cledrau sy’n rhedeg ar ei hyd heddiw.

Ni wnaed fawr ddim newidiadau o bwys i rwydwaith y ffyrdd gwledig yn yr 20fed ganrif. Er hynny wrth wella’r ffordd o Ddinbych i Ruthun crëwyd nifer o gilfachau parcio ac adeiladwyd ffordd osgoi Llanrhaeadr ym 1971, gan dorri trwy barcdir o amgylch Neuadd Llanrhaeadr. O ganlyniad i hyn dymchwelwyd y cyn borthdy ac ail-leolwyd pyrth y porthdy a ddyddiai o’r 1840au. Un o’r newidiadau mwyaf nodweddiadol, fel mewn mannau eraill yn Sir Ddinbych, oedd y rheiliau haearn a baentiwyd yn wyn. Fe’u codwyd wrth nifer o groesffyrdd gwledig fel rhan o waith i ehangu ffyrdd ac maent yn ychwanegu at gymeriad parcdirol nifer o ardaloedd yn y dyffryn.

Bu dylanwad gweledol diwydiannau gwasanaeth eraill yr 20fed ganrif, gan gynnwys telathrebu, dðr, pibellau carthffosiaeth a nwy, yn gymharol gynnil o fewn ardaloedd tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd, er i waith adeiladu piblinell amharu rywfaint ar ddyddodion paleoamgylcheddol pwysig ar waelod y dyffryn ar ddechrau’r 1990au i’r dwyrain o Ddinbych.

Mae Llwybr Clawdd Offa, y llwybr hirbell cenedlaethol, yn rhedeg am gryn bellter ar hyd copa bryniau Clwyd ar hyd ochr ddwyreiniol yr ardal dirwedd hanesyddol. Gwnaed y droedffordd yn rhannol trwy gyfuno troedffyrdd a fodolai eisoes, ac mae’n croesi neu’n rhedeg yn agos at nifer o henebion ar hyd copa’r bryn, gan gynnwys bryngaerau o’r Oes Haearn ar Foel Fenlli, Moel Arthur a Phenycloddiau. Mae erydu o ganlyniad i niferau mawr o gerddwyr, ac yn fwy diweddar feiciau mynydd, wedi arwain at waith atgyweirio ac i’r llwybr gael ei ddargyfeirio mewn nifer o fannau, yn enwedig lle y mae’r llwybr yn croesi tir mwy serth.