Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Bryn-isaf, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1033)
Caewyd tir comin uchel ar lethrau gorllewinol bryniau Clwyd yn ystod y 19eg ganrif ac ar ochr y ffordd ceir bythynnod a godwyd ar dir a lechfeddiannwyd.
Cefndir Hanesyddol
Ar ymyl dwyreiniol plwyf canoloesol Llanfair, yn hen gwmwd Dyffryn Clwyd, sef arglwyddiaeth Rhuthun.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Llechweddau uchaf bryniau Clwyd yn wynebu'r gorllewin, rhwng uchter o tua 190-350m.
Ychydig o dystiolaeth neu dim tystiolaeth o gwbl o anheddiad. Corlan ar dir is.
System o gaeau cymharol fawr ac afreolaidd yn cynnwys glaswelltir a wellwyd, lle cliriwyd
rhedyn ac eithin a lle gwellwyd rhywfaint ar y borfa ar lethrau gorllewinol Moel Llanfair yn
ddiweddar, a dangosir y rhan fwyaf o'r terfynau ar ddyfarniad cau tir 1853. Mae'n debyg bod
terfynau'r caeau i gyd wedi eu diffinio'n wreiddiol gan bonciau isel gyda gwrychoedd y
ddraenen wen a esgeuluswyd mewn mannau ac sydd wedi tyfu allan ac mae eraill yn
cynnwys prysgwydd bylchog ac ychwanegwyd atynt neu fe ddisodlwyd hwy gan ffensiau pyst a
gwifren. Unwyd rhai caeau a cheir ambell derfyn pyst a gwifren eithaf newydd. Planhigfeydd
coed gwasgarog, bychan.
Mae rhan ogleddol yr ardal yn rhan o ardal ddwyreiniol Parc Bathafarn o'r canol oesoedd ac
a sefydlwyd mae'n debyg pan grewyd arglwyddiaeth Rhuthun ac a ddaliwyd gan y teulu de
Greys at ddiwedd y 13eg ganrif ac a werthwyd i'r teulu Thelwall cyn 1592, ac mae rhan o
derfyn gwreiddiol y parc, a elwid Clawdd y Park, yn dal i'w weld fel gwrthglawdd ar draws
rhan ogleddol yr ardal cymeriad hon, yn rhedeg i fyny'r allt rhwng fferm Bacheirig a llethrau
gorllewinol Moel Llanfair, ac y dywedir ei fod yn y fan hon yn gwahanu'r parc oddi wrth y
comin uchel. Gwyddys fod gwaith gwella sylweddol wedi ei wneud ar ran isaf y parc yn ystod
ail hanner yr 16eg ganrif (gweler ardal cymeriad Bathafarn), ond mae'n debygol fod y rhan
uchaf hon heb ei chau tan y 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif o bosibl, pan ehangwyd y ffermydd
ar y tir isel gerllaw.
Ambell chwarel yn ymyl y llwybrau llydan, ar gyfer codi tai, waliau a llwybrau llydan mae'n debyg. Llwybrau llydan modern a mawr i'r ffermydd gyda chreithiau erydol yn rhoi mynediad i'r bryniau i'r gogledd o Fryn Ucha.
Berry 1994
Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych, Rhuthun, dyfarniad a chynlluniau cau tir 1853, 1860, QSD/DE/25
Richards 1969
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|