Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Moel Llanfair, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanarmon-yn-Iâ a Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1036)
Rhostir agored tua gwaelod de Bryniau Clwyd, yn cynnwys rhannau o Foel Gyw, Moel Llanfair, Moel Llźch, Moel y Plās, Moel y Gelli, Moel y Waun a Moel yr Accre sy'n ymestyn tu hwnt i Ddyffryn Clwyd, tir pori wedi ei wella ar y llethrau llai serth gyda mynediad ar hyd lonydd fferm diweddar.
Cefndir Hanesyddol
Gwelir tystiolaeth o'r gweithgaredd dynol cynharaf ar ffurf nifer o domenni claddu o'r Oes
Efydd gan gynnwys dwy ar ben y bwlch rhwng Moel Llanfair a Moel Plās, ychydig i'r
gorllewin o Ty'n-y-mynydd, mae ffin cae mwy diweddar dros un ohonynt , un o gopaon Moel
Gyw. Lleolwyd y tomenni gan gymryd y tirwedd lleol i ystyriaeth ac mae'n bosibl eu bod yn
gweithredu fel marciau terfyn.
Daw'r ardal o fewn plwyf eglwysig hanesyddol Llanfair Dyffryn Clwyd ac ar hyd ei ffin ā phlwyf Llanarmon-yn-Iāl ymhellach i'r dwyrain. Daw hefyd o fewn cwmwd canoloesol Llannerch, ar ffin de-ddwyrain cantref canoloesol Dyffryn Clwyd o fewn teyrnas hynafol Gwynedd is-Conwy, a ddaeth yn arglwyddiaeth Rhuthun wedi'r Goncwest Edwardaidd.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Ucheldir, rhwng oddeutu 200-447m uwch lefel y mōr, gyda chopaon cymharol wastad a llethrau'n wynebu'r gorllewin gan mwyaf, a llethrau llai serth yn wynebu'r dwyrain, yn ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd. Brigiadau cerrig ar hyd y copa. O Foel Gelli tua'r de mae Bryniau Clwyd yn is ac yn ffurfio cefnen llai amlwg.
Ar y cyfan, nid yw'r rhostir wedi ei gau ac felly mae'r ardal wedi ei gwahanu'n glir oddi wrth y
tir amaethydol i'r gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r ffiniau sy'n gwahanu'r ardal cymeriad o'r
ardaloedd cyfagos yn hen wrychoedd neu'n ffensys pyst a gwifren. Wal gerrig echelinog
mewn mannau yw'r ffin ddwyreiniol, ar hyd y rhaniad rhwng plwyfi Llanfair Dyffryn Clwyd a
Llanarmon-yn-Iāl , ac yr un fath ag ar draws copa Moel Plās mae wedi disgyn mewn mannau.
Nodir y ffin sifil lle rhed ar draws Moel Llanfair gan ffens pyst a gwifren, gyda rhai waliau
cerrig sychion yn gwahanu'r rhostir oddi wrth y tir amaethyddol i'r dwyrain, mae rhai o'r ffiniau
yma wedi eu gwastatu a'u disodli gan ffensys pyst a gwifren. Gwahanir yr ardal oddi wrth
ardal gyffelyb Moel Famau i'r gogledd gan y bwlch sy'n cludo'r briffordd rhwng Rhuthun a'r
Wyddgrug.
Llethrau serth o dir porfa garw heb ei wella, yn enwedig ar ochrau gorllewinol y bryniau,
megis llethrau gorllewinol a deheuol Moel Llanfair, tir pori wedi ei wella'n gyffredinol yw'r
llethrau llai serth. Ffyrdd ucheldir llydan diweddar gyda chreithiau erydiad dyfnion yw'r
nodweddion tirluniol artiffisial ar lethrau gorllewinol Moel Gyw a llethrau dwyreiniol a
gorllewinol Moel Llanfair. Rhai cloddiau ffiniau isel adfeiliedig o ddyddiad amhenodol yn ardal
Boncyn Banhadlen ar ochr gogledd-ddwyrain Moel Llanfair.
Croesir yr ardal gan nifer o ffyrdd bychain o'r dwyrain i'r gorllewin, heb eu ffensio'n rhannol, sy'n debygol o fod yn gymharol hen a chan lwybr diweddar gogledd-de Clawdd Offa. Mast telathrebu ar Foel y Gelli.
Richards 1969
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch ā gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|