Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Moel y Parc, Aberwheeler, Sir Ddinbych
(HLCA 1035)
Ucheldir heb ei gau yn rhan o fryniau Clwyd tua gogledd yr ardal tirwedd.
Cefndir Hanesyddol
Mae'r ardal cymeriad yng nghornel de-ddwyrain plwyf eglwysig Bodfari. Yn gyffelyb i ardal cymeriad Penycloddiau mae'n rhan o gwmwd Dogeilyn yng nghantref canoloesol Dyffryn Clwyd, a ddaeth yn arglwyddiaeth ganoloesol Rhuthun yn ddiweddarach, mae crib bryniau Clwyd yn ffurfio ffin rhwng Dyffryn Clwyd a chantref Tegeingl ar hyd y ffin hanesyddol rhwng siroedd Dinbych a Fflint. Gwelir olion o weithgaredd cynhanesyddol yn yr ardal ar ffurf dwy garnedd pen mynydd o'r Oes Efydd ger gopa Moel y Parc.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Bryn pen-crwm mawr yn dirnod amlwg hanner ffordd ar draws bryniau Clwyd ac yn ffurfio
rhan o AHNE Bryniau Clwyd. Ucheldir yn rhedeg ar hyd pen bryniau Clwyd, rhwng
125-398m uwch lefel y môr, yn codi'n serth i dde dyffryn Aberchwiler i'r goledd a'r dyffryn
i'r gorllewin, ac yn gogwyddo'n fwy graddol i'r dwyrain. Tir comin cofrestredig yw'r rhan
fwyaf o'r ardal.
Mae sylfeini o leiaf un cwt hir petryalog tuag ochr de-orllewinol yr ardal yn awgrymu anheddiad ucheldirol tymhorol yn ystod diwedd y canol oesoedd i ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol efallai.
Ucheldir pori, di-goed, heb ei wella yn debyg i ardaloedd Penycloddiau a Moel Famau i'r de
ond wedi ei wahanu'n ffisegol gan fand o gaeau caeëdig sy'n rhedeg i'r bryniau yn yr Aifft. Yn
gyffredinol, glaswelltir garw yw copa'r bryn gydag ardaloedd eang o redyn a llwyni eithin ar y
tir ychydig yn is, uwch ben ymylon y tir caeëdig sy'n cael ei reoli trwy ei losgi o bryd i'w
gilydd. Nodir ymylon isaf yr ardal gan ffensys pyst a gwifren mewn mannau a chloddiau caeau
isel â gwrychoedd wedi tyfu allan sydd wedi eu hailosod gan ffensys pyst a gwifren.
Corlannau defaid bychain ar y tir uchaf.
Ceir mynediad trwy gyfrwng rhwydwaith o hen lwybrau a lonydd yn rhedeg fyny dyffrynnoedd yr afonydd i'r gorllewin. Mast telathrebu mawr ychydig y tu allan i'r ardal cymeriad, i'r dwyrain.
Un o’r golygfeydd cynharaf yw’r bryniau mawr a thywyll a ddangosir yng nghefndir dyfrlliw Moses Griffiths o waith cannu Lleweni o tua 1790 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
Richards 1969
Moore (n.d.), 44
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|