CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Eyarth, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanelidan, Efenechtyd a Rhuthun, Sir Ddinbych
(HLCA 1032)


CPAT PHOTO 810.05A

Ffermydd a neuaddau gwasgaredig ar greigiau calchfaen coediog ar ymyl de-orllewinol y dyffryn gyda chaeau unionlin a grewyd trwy glirio coetir naturiol bob yn dipyn.

Cefndir Hanesyddol

Cynrychiolir y gweithgarwch dynol cynharaf yn yr ardal gan nifer o offer ac arfau o'r Oes Efydd gan gynnwys bwyeill efydd a ddarganfuwyd yn y coetir yng Nghoed Marchan ac i'r de o Blas-uchaf a dagr efydd a ddarganfuwyd mae'n debyg ger Craig-adwy-wynt a charnedd gladdu o'r Oes Efydd i'r gogledd o Dy'n Llanfair. Y dystyiolaeth gynharaf o anheddu yw'r fryngaer o'r Oes Haearn yng Nghraig-adwy-wynt, ar y creigiau calchfaen uchel ar ffin orllewinol yr ardal cymeriad. Mae'r ardal cymeriad yn rhan o blwyfi eglwysig canoloesol Llanfwrog, rhan o ochr ddwyreiniol Efenechtyd a chornel dde-orllewinol plwyf canoloesol Llanbedr Dyffryn Clwyd, o fewn cymydau Colion a Llannerch yn hen gantref Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Y nodwedd fwyaf trawiadol yw'r creigiau calchfaen coediog sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de i uchter o ryw 190m uwch lefel y môr, gyda chaeau a ffurfiwyd yn y dyffrynnoedd cul rhwng y creigiau, y mae eu huchter yn amrywio o rhwng tua 80-170m.

Cynrychiolir anheddiad heddiw gan nifer fechan o neuaddau gwasgaredig a ffermdai sydd, at ei gilydd, yn fawr ac anheddiad cnewyllol o fythynnod o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, gan gynnwys bythynnod mwyngloddwyr a chapel o'r 19eg ganrif yng Nghraig-adwy-wynt. Mae'n debyg mai'r adeiladau hynaf yw'r ty yn Neuadd Eyarth a godwyd o gerrig ac sy'n dyddio o bosibl o'r 15ed - 16eg ganrif, ac a ehangwyd gyda thy ffrâm-goed o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau'r 17eg ganrif, ac yna ychwanegwyd cerbyty o'r 18fed ganrif gydag adeiladau fferm o gerrig sy'n dyddio'n bennaf o'r 18fed ganrif neu'n gynnar yn y 19eg ganrif i'r gogledd-orllewin o'r ty. Mae ffermdy ac adeiladau allanol o gerrig o'r 18fed/19eg ganrif yn Fferm Bron Eyarth. Yn yr un modd, ty ffrâm-goed o'r 17eg ganrif oedd Llwyn-ynn ond erbyn hyn fe ddymchwelyd ef i raddau helaeth. Mae Eyarth House yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif ac mae iddo du blaen styco. Mae cofnod o foncyff gwenyn i ddal cwch gwenyn yn Nhy Derwin.

Mae darnau helaethach o goetir gan gynnwys Coed Marchan, Coed-y-galchog, Coed-y-gawen, a Choed Aston yn rhan ogleddol yr ardal cymeriad, a gelwir hwy'n goetiroedd hanner naturiol hynafol a choetiroedd ailblanedig hynafol. Galwyd Coed Marchan ('Coidmarchan') yn goetir cadwedig yn ystod y canol oesoedd a chyfeirir ato fel 'Parke Coed Marchan' ym 1655, ac mae waliau calchfaen dadfeiliedig â mortar yn rhedeg drwy ran o'r coetir sydd, efallai, yn dangos lle ailadeiladwyd y 'wal parc ceirw' a ddisgrifiwyd ar y pryd. Mae clystyrau cul a stribedi unionlin o goed collddail ar y creigiau calchfaen yn rhan ddeheuol yr ardal cymeriad, fel Eyarth House Wood, Coppice Wood, Coed y Parc, Coed Pen-y-graig, Hirglust Wood a Chraig-ddyrys Wood yn cynrychioli goroesiad darnau ehagach o lawer o goetir brodorol y cadwyd rhannau ohono'n ofalus iawn yn Eyarth a'r Faenol fel coetir a fforestydd cadwedig dan awdurdod uniongyrchol arglwyddiaeth Rhuthun, ac ar eu hymyl dwyreiniol roedd Bryncyffo ('Brenkgif)' lle roedd cuddfan cefnogwyr Owain Glyn Dwr ym 1411. Cyfeirid at ran o'r ardal fel 'Forest Eyarth' o hyd ym 1603.

Mae'r caeau cymharol fach ac afreolaidd o gwmpas Fferm Bron Eyarth Farm a'r caeau nwy rheolaidd o gwmpas Neuadd Eyarth, wedi eu diffinio gan wrychoedd y ddraenen wen. Mae'r dolau cymharol fawr ac unionlin rhwng y coetiroedd presennol at ben deheuol yr ardal cymeriad yn edrych fel petaent wedi eu creu drwy dorri a defnyddio coed yn y coetir brodorol fel ffynhonnell deunydd adeiladu a thanwydd. Ceir linsiedi ag ymylon cerrig ar dir serthach. Dangosir plotiau o dir caeedig ar Graig-adwy-wynt ac ar ochr orllewinol Craig-ddyrys ar y dyfarniad cau tir ym 1853.

Dangosir lle cynhyrchwyd calch amaethyddol o'r calchfaen lleol gan nifer o odynau calch gadawedig, sy'n dyddio mae'n debyg o'r 18fed a'r 19eg ganrif, ac sydd ar wasgar drwy ran ddeheuol yr ardal, a diau mai'r coetir leol a ddefnyddid ar gyfer tanwydd.

Mae un capel o'r 19eg ganrif yn anheddiad cnewyllol bychan Craig-adwy-wynt.

Cynrychiolir tirweddau addurnol a restrir yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi gan y gerddi yn Neuadd Eyarth, sy'n dyddio mae'n debyg o'r 16-19eg ganrif a'r fynedfa gerbydau a'r porthordy o'r 19eg ganrif yn Neuadd Eyarth, a phorthordy a pharcdir gynt Llwyn-ynn, a chan y gerddi, y fynedfa â giât a'r porthordy o'r 1930au yn Nhy Eyarth, sydd wedi ei leoli mewn coetir ffawydd. Mae gwrs golff i'r gogledd o Bwll-Glas. Disgrifir y coetir i'r gorllewin o Lanfair fel a ganlyn gan Thomas Pennant yn yr 1790au:

From Llanruth [Llanrhudd] the vale grows very narrow, and almost closes with the parish of Llanvair. If I place the extremity at Pont Newydd, there cannot be a more beautiful finishing; where the bridge, near the junction of the Clwyd and the Hespin, and a lofty hill, with its back clothed with hanging woods, terminate the view. Thomas Pennant 1793, 67

Ffynonellau

Berry 1994
Cadw/ICOMOS 1995
Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych, Rhuthun, dyfarniad a chynlluniau cau tir 1853, 1860, QSD/DE/25
Hubbard 1986
Jones 1995, 266
Richards 1969
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.