CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Tyddyn Ucha, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1029)


CPAT PHOTO 813.08

Tiwedd yn cynnwys ffermydd gwasgrog ar yr ucheldir a chaeau bychain afreolaidd ar lethrau isaf bryniau Clwyd, ac a gyrhaeddir ar hyd rhwydwaith o lonydd a cheuffyrdd troellog.

Cefndir Hanesyddol

Ar ymyl dwyreiniol plwyf canoloesol Llanfair, yn hen gwmwd Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llechweddau isaf a dyffrynnoedd nentydd ar ochr orllewinol bryniau Clwyd rhwng uchter o tua 100-260m, ac yn rhan o Ardal Prydferthwch Eithriadol Bryniau Clwyd.

Ffermydd gwasgaredig, gyda rhyw 400m rhyngddynt fel arfer, a'r rhai uchaf wedi eu lleoli fel arfer yn ymyl rhannau uchaf yr ardal cymeriad hon, yn agos i hen ffin y tir comin blaenorol. Yr adeiladau hynaf sydd wedi goroesi yw'r ffermdai o lechi a siâl o'r 18fed ganrif gyda thoeau llechi, weithiau wedi eu rendro, a'r ysguboriau cerrig cyfoes. Mae'r adeiladau allanol o'r 19eg ganrif wedi eu codi o friciau'n aml, a cheir ffermdai newydd weithiau sydd hefyd o friciau.

Mae'n debyg bod y ffermydd hyn yn cynrychioli cyfnod cynnar o gau tir ar lethrau isaf y bryniau ac yn y dyffryn, yn ystod y canol oesoedd hwyr ac yn gynnar yn y cyfnod ôl-ganoloesol, mae'n debyg. Cynrychiolir cau tir gan y caeau bychain ac afreolaidd a ddiffinnir yn dda gan wrychoedd amlrywogaethol yn cynnwys derw, collen, ynn, drain du a chelyn, gydag atgyweiriadau post a gwifren ac ambell wal gerrig ger y ffordd, yn ymyl mynedfeydd i ffermydd a physt giatiau cerrig yn ymyl y ffyrdd. Ceir ambell wrych sydd wedi tyfu allan, gyda rhesi bylchog o goes a phrysgwydd. Ymffurfiodd linsiedi bach ar hyd terfynau'r caeau mewn mannau. Mewn mannau hefyd, fel yn ymyl Bryn Isaf, unwyd nifer o gaeau llai i wneud caeau hirsgwar mawr, gyda ffensiau pyst a gwifren bellach, ac mae olion terfynau a linsiedi cynharach i'w gweld ar furf gwrthgloddiau mewn mannau lle tynnwyd hen wrychoedd. Ceir clystyrau o goed a phrysgwydd talach, gwern ac ynn yn bennaf, ym mlaenau'r dyffrynnoedd ac yn dilyn nentydd ar lethrau serth.

Mae'r lonydd cul, troellog sy'n cysylltu'r ffermydd â'r byd y tu hwnt i'w gweld yn aml ar ffurf ceuffyrdd sydd wedi eu treulio i ochr y bryn ac mae ochrau rhai o'r ceuffyrdd wedi eu cynnal â cherrig rhag erydu pellach. Fel arfer mae'r gwrychoedd ar ymyl y ffyrdd yn cynnwys celyn, efallai oherwydd bod rhywogaethau eraill y gellir eu trin neu eu llosgi wedi cael eu tynnu, yn hytrach nag oherwydd plannu bwriadol.

Ffynonellau

Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.