Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Sir Ddinbych
(HLCA 1040)
Ffermydd bychain agos at ei gilydd â ffermdai a thai allan o
galchfaen gyda nifer o aneddiadau cnewyllol bychain, mewn tirwedd o gaeau
afreolaidd bychain i ganolig ar ochr orllewinol y dyffryn.
Cefndir hanesyddol
Gan mwyaf, mae'r ardal cymeriad o fewn plwyfi eglwysig hanesyddol Llanbedr
Dyffryn Clwyd, Llanrhudd, a Llanfair Dyffryn Clwyd, ac yn rhannol o fewn
cymydau Dogfeilyn a Llannerch yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd, a ddaeth
yn arglwyddiaeth Rhuthun ar ôl y goncwest Edwardaidd. Mae'n ymestyn dros ran
uchaf parc hela canoloesol Bathafarn a werthwyd i'r Thelweliaid cyn 1592, er,
dywedir bod ardal gaeëdig y rhan yn cynnwys nifer o ddaliadau cyn yr amser hwnnw, mae rhannau eraill o'r parcsy'n cael eu cynnwys yn yr ardal cymeriad i'r de ac i'r gorllewin. Dywedir bod peth tir âr a dolydd yn y parc, mae'n bosib eu bod yn ardal isaf y parc. Dywedir bod y glwyd ddwyreiniol, un o ddwy yn unig i'r parc, yn dod o fewn yr ardal.
Prif Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Tir llethrog ar ochr orllewinol y dyffryn, rhwng oddeutu 35-155m uwch
lefel y môr, yn ymestyn o'r mynydd-dir yn y gorllewin i ochr orllewinol gorlifdir y Clywedog yn y dwyrain. Rhennir ochr orllewinol y dyffryn yn ddarnau gan nifer o
ddyffrynnoedd dwfn a ffurfiwyd gan nentydd cyflym yn rhedeg tua'r dwyrain i
ymuno â'r Clywedog, gan gynnwys Nant-mawr sy'n rhedeg trwy
Bentre-Llanrhaeadr.
Ffermydd cymharol agos at ei gilydd, ffermydd llai â 400-500m rhyngddynt,
gyda ffermdy a thai allan calchfaen 18fed ganrif yng Ngwern-neidr, ffermdai
18fed i ddechrau'r 19eg ganrif, ambell dy
allan o galchfaen ac o friciau a ffermdai wedi eu rendro ym Mron-dyffryn, Ty-coch, Pen-bryn-llwyn a Pentre Farm, gyda ffermdai calchfaen yn Llwyn Bank, Llwyn-mawr, Llwyn-celyn, bellach newidiwyd rhai o'r ffermdai lleiaf yn dai preifat. Fferm Glanaber gyda ffermdy briciau o'r 19eg ganrif ar seiliau ffermdy carreg o'r 17eg/18fed-ganrif.
Pentref cnewyllol bychan Llanrhaeadr, ag elusendai 18fed ganrif, hen efail
gof, a nifer o dai calchfaen 18fed/19eg ganrif o gwmpas yr eglwys galchfaen
ganoloesol, ysgol a thy ysgol o ddiwedd y 19eg ganrif, y chwareli calchfaen bychain a'r odynau calch yn y bryniau i'r gorllewin i'r pentref sy'n rhannol gyfrifol am dwf yr
anheddiad yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Adeiladwyd anheddiad cnewyllol
ôl-ganoloesol ym Mhentre-Llanrhaeadr, ar hyd y briffordd rhwng Rhuthun a
Dinbych, o gwmpas y felin ar afon Nant-mawr gynt sydd wedi ei rhagfurio â
cherrig lle llifa trwy'r pentref, mae iddo gnewyllyn bychan 19eg ganrif â
chapel o ddiwedd y 19eg ganrif, mae estyniad diweddarach 20fed ganrif i'r
gorllewin o'r briffordd. Ychydig o dai 19eg-20fed-ganrif gwasgaredig i'r de o Bentre-Llanrhaeadr ac anheddiad cnewyllol modern o fyngalos o gwmpas fferm Llwyn-celyn i'r gogledd o Lanrhaeadr.
Caeau clystyrog, afreolaidd, bychain i ganolig gyda gwrychoedd o ddraenen
wen, deri, a chelyn a gwasgariad o hen goed deri ag ôl amaethu grwn a rhych
ychydig i'r gogledd o Lanrhaeadr, a linsiedi o dan y cloddiau ar nifer o'r
llethrau serthaf. Peth ail blannu gwrychoedd newydd. Pori yw prif ddefnydd y
tir heddiw, gyda pheth cnydau porthi. Ardaloedd coed collddail ar y llethrau
serthaf ac mewn dyffrynnoedd ochrau serth i orllewin a de Llanrhaeadr, gan
gynnwys Coed Mawr a Choed Nant-mawr, ystyrir y ddau yn goetiroedd hynafol
lled-naturiol, gyda pheth ail-blannu yn achos Coed Mawr.
Rhennir yr ardal yn ddwy gan briffordd yr A525 ar hyd ochr orllewinol y
dyffryn rhwng Dinbych a Rhuthun. Bellach mae'r ffordd hon, sydd wedi ei
gwella, yn osgoi pentref Llanrhaeadr, mae nifer o gilfachau parcio ar ddarnau
o'r ffordd lle sythwyd hi. Gellir cael mynediad i'r ffermydd a'r pentrefi ar
fryniau gorllewinol y dyffryn trwy gyfrwng rhwydwaith o lonydd cul a throellog sy'n rhedeg i fyny'n serth mewn ceuffyrdd, ynghyd â nifer o lonydd glas a llwybrau troed. Mae nifer o lonydd a llwybrau troed, eto'n rhedeg mewn ceuffyrdd, yn rhoi mynediad i'r dolydd gwlyb sy'n ffinio Afon Clywedog ar ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad.
Pontydd cerrig addurniadol, afon raeadrol a phwll Ffynnon Dyfnog wedi ei
leinio â llechfaen, ffynnon sanctaidd nawddsant Llanrhaeadr, sy'n tarddu mewn
ogof ar yr afon 200m i'r gorllewin o'r eglwys. Yn 1773 fel hyn disgrifiodd
Thomas Pennant y ffynnon 'inclosed in an angular wall, decorated with small
human figures [now missing]; and before is the well for the use of the pious
bathers'. I'r dwyrain o Lanrhaeadr mae Plas Llanrhaeadr a adeiladwyd o
galchfaen yn y 16eg/17eg ganrif, newidiwyd ac ehangwyd y ty yn y 18fed a'r 19eg
ganrif, tai allan 18fed a'r 19eg ganrif sy'n cynnwys ysguboriau,
golchdy, stablau a gerddi muriog a rhodfa mewn parcdir eang ar y tir pori
gwastad ar ochr orllewinol gorlifdir Afon Clywedog. Rhennir y parcdir gan
reiliau haearn a muriau cerrig ar y ffordd gyhoeddus heibio i'r plasty a
thrwy bentref Llanrhaeadr.
Hubbard 1986, 231-2
Walker & Richardson 1989
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|