CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


TIRWEDDAU AMAETHYDDOL

Un o brif nodweddion Dyffryn Clwyd yw ansawdd ei ffermdir ac, oherwydd y nodwedd honno, mae’r tir wedi’i ffermio ers yr 16eg ganrif o leiaf. Mae tirweddau amaethyddol presennol y dyffryn yn ganlyniad i weithgaredd dynol parhaus ers y cyfnod cynharaf - torri coetir brodorol, amaethu a chlirio cerrig, draenio’r tir mwyaf gwlyb ac amgáu’r tir gyda chloddiau, gwrychoedd a waliau - gweithgaredd a wnaed gyda’r bwriad o fanteisio ar yr amrywiaeth eang o adnoddau sy’n ymestyn o gopa’r bryn at lawr y dyffryn - y dolydd ar yr iseldir mwyaf gwlyb, y borfa a’r tir âr ar y tir uchel ychydig yn nes at lawr y dyffryn, a’r rhostir ar gopâu’r bryniau a borir yn yr haf.

Heb os nac oni bai roedd cymeriad hanfodol y dirwedd fodern wedi ei ffurfio erbyn diwedd y 18fed ganrif, os nad cyn hynny, a gellir ei adnabod yn glir yn nisgrifiad Syr Richard Colt Hoare ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Credir mai hwn yw’r dyffryn gwychaf yn y dywysogaeth; drwy wychder golygir cyfoeth y pridd a’i ffrwythlondeb…Yn gyffredinol mae’r tir yn cael ei amaethu mor uchel ag y mae ochrau’r mynyddoedd yn caniatáu; mae’r wlad yn llawn cartrefi bonheddig, pentrefi ac ati ac mae’r cyfan yn goediog iawn.

Colt Hoare, 6 Mehefin 1801

Gellir gwerthfawrogi’r prosesau cyffredinol a ffurfiodd y dirwedd hon, hyd yn oed os oes angen gwaith pellach er mwyn darparu hanes manwl tirwedd y dyffryn ac er mwyn olrhain gwreiddiau ffermydd unigol neu systemau caeau arbennig. Mae natur cynnyrch amaethyddol wedi newid yn sylweddol dros amser, a byddai hynny ei hun wedi effeithio ar ymddangosiad cefn gwlad. Daeth cynhyrchu gwlân yn bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol, a datblygodd Rhuthun yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu brethyn gyda’i hurddau ei hun o banwyr a gwehyddion. Yn y 18fed ganrif daeth y dyffryn yn adnabyddus am gynhyrchu grawn a gludwyd i ranbarthau eraill. Daeth cig eidion a chynnyrch llaeth yn bwysig yn ystod y 19eg ganrif, ac ar hyn o bryd y defnydd amlycaf a wneir o’r tir yw ar gyfer porfa a chnydau porthi, a pheth ŷd.

Mae’n amlwg fod ardaloedd sylweddol o goetir yn dal i fodoli yn y dyffryn yn ystod y cyfnod canoloesol, ac mae cofnod o goedwigoedd a choetir a neilltuwyd ym mherchenogaeth arglwyddiaeth Rhuthun yn ardal Cae’r Fedwen, i’r gogledd o Landdyrnog, ger Hirwaun, Coed Marchan i’r de o Ruthun, ac Eyarth yn nhrefgordd Llysfasi. Cofnodwyd celli yng Ngellifor a rhwng Rhydonnen a Llanychan, i’r dwyrain o Lanynys. Byddai ardaloedd eraill o goetir comin hefyd ar gael a byddai'r coetir yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell deunyddiau adeiladu a thanwydd yn ogystal ag at amrywiaeth eang o ddibenion eraill. Yn raddol byddai ardaloedd o goetir cynhenid wedi dirywio yn unol â’r galw cynyddol am bren a ffermdir ychwanegol, ac mae’n debyg fod y stribedi nodedig o goetir a ffermdir yn rhan ddeheuol Eyarth yn arwydd o’r broses asartio.

Dim ond cyfran fach o’r coetir hynafol yn y dyffryn sydd wedi goroesi hyd heddiw, er bod sawl ardal hynafol neu gymharol naturiol o goetir yn dal i oroesi ar y tir mwyaf serth, yn arbennig ar ochrau bryniau deheuol a gorllewinol y dyffryn, i’r de o Ruthun, yn nyffrynnoedd Chwiler a Chlywedog. Yn ddi‑os mae gweddillion llai eraill o goetir hynafol wedi goroesi fel llinellau o goed ar hyd nifer o ddyffrynnoedd afonydd ac mewn nifer o berthi mwy hynafol yn y dyffryn. Cymharol brin yw’r coetir modern a blannwyd yn y dyffryn, ac fe’i cyfyngwyd yn bennaf i sawl ardal fach o gonifferau ar ochr ddwyreiniol bryniau Clwyd, i’r de o Lanbedr ac yn y dyffryn i’r dwyrain o Langwyfan, gyda nifer o blanhigion collddail bach ar dir mwy gwlyb i’r dwyrain o Lanrhaeadr ac i’r de o Leweni.

Prin yw’r hyn sy’n hysbys hyd yma ynghylch y dulliau o ffermio yn y dyffryn yn ystod y cyfnodau cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Rhufeinig, er ei fod yn amlwg i’r systemau canoloesol cynnar o ddefnyddio tir ddatblygu yn unol â’r system Gymreig o dirddaliadaeth, lle’r oedd nifer o gartrefi rhydd neu glwm, o bosibl gyda’u gerddi neu badogau eu hun, a gasglwyd yn grŵp o amgylch un ardal fach neu fwy o gaeau âr agored, wedi'u rhannu'n stribedi amaethu ym meddiant perchenogion gwahanol. Byddai’r grwpiau llwythol hyn, wedi’u hamgylchynu gan ardaloedd o ddolydd comin, yn sylfaen i'r trefgorddau canoloesol y rhannwyd yr unedau gweinyddol iddynt, ac yn y pendraw cysylltid eglwys wrthynt a byddent yn datblygu’n ganolbwynt plwyf eglwysig.

Mae’r patrymau anheddiad a’r defnydd tir canoloesol cynnar hyn bellach yn anodd i’w hadnabod ar y dirwedd oherwydd y newidiadau diweddarach, er y gellir adnabod ardaloedd o gaeau âr agored yn achlysurol o batrymau caeau nodedig neu dystiolaeth enwau lleoedd. Enghraifft amlwg o hyn oedd y ddau gae âr mawr, a adwaenir fel Maes isaf a Maes uchaf, a rannwyd yn stribedi â pherchenogion gwahanol neu leiniau a oroesodd ym mhentref Llanynys tan ddechrau’r 1970au - gyda’r enwau caeau yn dynodi caeau agored isaf ac uchaf. Byddai’r ffermdir yn llawer mwy agored, er y byddai ffensys terfyn neu wrychoedd wedi’u codi o amgylch y caeau âr agored a dolydd comin a phorfa er mwyn rheoli’r anifeiliaid ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn. Wrth chwilio am dystiolaeth debyg o diroedd a gafodd eu haredig yn y canoloesoedd mewn mannau eraill yn Nyffryn Clwyd mae’n arwyddocaol nad oes unrhyw olion o’r lleiniau hyn yn ardal tirwedd hanesyddol Llanynys ar wahân i’r ffiniau caeau o amgylch y ddau gae âr mawr.

Yn ddi-os byddai amhariadau i'r patrwm hwn mewn ardaloedd penodol o ganlyniad i gyrch gan deyrnas Seisnig Mersia o’r 7fed ganrif OC a’r goresgyniadau Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif a’r 12fed ganrif. Mae’n siwr y byddai’r amhariadau mwyaf wedi digwydd o ganlyniad i greadigaeth arglwyddiaethau Dinbych a Rhuthun ar ddiwedd y 13eg ganrif, i greu’r plasau newydd yn Ninbych a Kilford, ac anheddiad mewnfudwyr Seisnig o fewn y cestyll-fwrdeistrefi newydd ac yng nghefn gwlad o’u hamgylch. Rhoddwyd blociau cyfun o dir a atafaelwyd oddi wrth grwpiau o deuluoedd brodorol, a ail-leolwyd mewn mannau eraill, i deuluoedd Seisnig, gan sicrhau felly bod canolbwynt pob arglwyddiaeth yn cynnwys teuluoedd a oedd yn cyd-fynd â’r drefn newydd. Yn sicr byddai tir âr o amgylch pob bwrdeistref yn cael ei drin gan bobl ag eiddo o fewn y dref, gyda lleoliad caeau trefi fwy na thebyg yn cael eu cynrychioli ar y patrwm caeau cosentrig yn ardal gymeriad Felin-ysguboriau ar ochr de-ddwyreiniol Rhuthun ac yn y patrwm caeau rheiddiol yn ardal gymeriad Meusydd-brwyn i’r gogledd-ddwyrain o Ddinbych.

Erbyn dechrau’r 14eg ganrif roedd hyn wedi arwain at at greu nifer o ystadau mawr yn y Saesonaethau ar y tir mwy ffrwythlon yn y dyffryn ac o’i amgylch gyda ffurfiau brodorol o dirddaliadaeth a defnydd tir yn gyffredinol yn cael eu cyfyngu i ardaloedd y Cymry o amgylch. Felly roedd ystadau mawr yng nghyffiniau Dinbych ym mherchenogaeth teuluoedd megis y Duckworths, y Salusburys, y Pigots a’r Pontefracts, ac roedd y rheini o amgylch Rhuthun ym mherchenogaeth y Thelwalls, y Goodmans a’r Alsbels, gydag enw’r olaf yn cael ei gadw yn yr enw Plas Ashpool, i’r gogledd o Landyrnog. Parhaodd nifer o’r teuluoedd hyn, megis y Salusburys o Leweni a Bachymbyd a Thelwalls o Blas-y-ward yn flaenllaw yn ystod cyfnod helaeth o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.

Fel y nodir uchod, roedd y system lwythol Gymreig yn prysur ddiflannu yn ystod diwedd y 14eg ganrif, a rhwng yr 15fed-17eg ganrif bu cynnydd yn yr arfer o uno a chyfuno deiliadaethau tir a chreu ffermydd mewn perchenogaeth unigol neu ffermydd â thenantiaid o fewn eu ffensys terfyn eu hunain, ynghyd â chlwstwr o ddaliadau a thyddynnod, gan arwain at ddiflaniad graddol yr hen gaeau agored ac amgáu gwair comin yn breifat er mwyn creu caeau mawr delfrydol i ddefaid bori ynddynt, ac i gynnal y diwydiant gwlân lleol. Gwnaed gwelliannau tir sylweddol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif, fel yn achos yr hen barc hela canoloesol blaenorol ym Mathafarn, a ddisgrifiwyd yn flaenorol ‘wedi tyfu’n wyllt gyda choed a drain ac roedd ambell ddarn ohono yn gorstir fel na allai unrhyw wartheg bori arno dros y gaeaf heb fod mewn perygl o foddi’. Yma, rhwng y 1550au a’r 1590au y cofnodwyd bod y Thelwalls wedi

nid yn unig godi adeiladau a’u gwella ar y parc y sonnir amdano…ond iddynt hefyd wneud newidiadau mawr i ffosydd a chwteri’r corstir hwn ac felly addasu’r coetir amhroffidiol a oedd gynt yn ddiffrwyth yn dir âr a dolydd, a’i rhannu’n barseli amrywiol drwy osod ffosydd a phlanhigion byw yn y parseli hynny.

Felly ymddengys fod tirwedd fodern hynod ardal gymeriad Bathafarn, yn cynnwys caeau hirsgwar cymharol fawr gyda gwrychoedd draenen wen a ffosydd draenio wedi’u gosod mewn patrwm cymharol reolaidd, yn dyddio o tua chanol yr 16eg ganrif. Mae patrwm tebyg hefyd yn amlwg yn ardal gymeriad Llanbedr Dyffryn Clwyd yn union i’r gogledd. Hyd yma nid yw dyddiadau nifer o batrymau hynod caeau cynnar sy’n amlwg yn Nyffryn Clwyd wedi’u pennu’n derfynol ond ymddengys eu bod yn dyddio o bosibl o'r cyfnod rhwng yr 16eg ganrif a chanol y 18fed ganrif.

Ymddengys fod y grid nodweddiadol o gaeau bach a chanolig eu maint, ffyrdd, llwybrau troed a thrywyddau yn ardal gymeriad Llandyrnog wedi’i sefydlu ers cryn amser cyn y 18fed ganrif gan ei bod yn debyg i’r patrwm caeau sylfaenol gael ei dorri ar letraws gan nifer o ffyrdd sy'n cysylltu aneddiadau diweddarach megis Hendrerwydd a Gellifor. Felly, mae’n debygol fod y patrwm caeau yn yr ardal hon yn cynrychioli cyfuniad o’r amgáu darniog caeau agored canoloesol yn gysylltiedig â nifer o ganolfannau canoloesol hŷn megis Llandyrnog, Llangwyfan, Llanychan a Llangynhafal, ynghyd ag amgáu ardaloedd o borfa comin yn perthyn i’r trefgorddau yn y plwyfi hyn a hynny mewn cyfnod cynnar.

Mae’n debyg fod patrymau nodweddiadol o gaeau stribed yn ardal gymeriad Llandyrnog ger Ffordd-las ac yn ardal gymeriad Esgairlygain yn cynrychioli amgáu preifat cynnar, o bosibl yn y cyfnod rhwng dechrau’r 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif. Gwelwyd yn y 18fed ganrif yn arbennig gynnydd yn y gyfradd amgáu ac mewn rhai enghreifftiau golygodd hynny isrannu caeau a oedd yn bodoli eisoes. Yn achlysurol roedd gwelliannau mewn dulliau ffermio megis datblygiad mewn bridio anifeiliaid dethol a chyflwyno hadaradrau a chwynnu mecanyddol yn cynyddu manteision caeau llai o faint. Weithiau roedd caeau mawr a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer pori defaid yn cael eu hisrannu'n gaeau âr bach, ar ôl cyflwyno gwau cotwm yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Defnyddiwyd tir ychwanegol i’w amaethu oherwydd y cynnydd ym mhrisiau gwenith ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Ymddengys fod patrymau nodweddiadol o gaeau bach afreolaidd o ran eu siâp ar y llethrau a’r dyffrynnoedd ar ochr orllewinol bryniau Clwyd, er enghraifft yn ardaloedd cymeriad Tyddyn Uchaf, Fron-gelyn, Rhiwbebyll a Choed Draw, yn cynrychioli clirio coetir darniog ac amgáu porfa a wellwyd rhwng diwedd y cyfnod canoloesol diweddar ac ôl-ganoloesol cynnar, gyda’r amgáu hwnnw’n aml yn ymestyn at ffin benodol o amgylch ymyl rhostir cyfoes a hefyd yn aml yn ymestyn ar hyd y gyfuchlin 250m, ac yn cynrychioli’r ehangu oddi wrth y canolfannau poblogaeth canoloesol, ac yn achlysurol yn cynnwys gorgyffyrddiadau i ymestyn i'r tiroedd comin uchel. Gellir adnabod y patrymau caeau o ganlyniad i hynny oddi wrth yr amgaeadau Seneddol yn gynnar yn y 19eg ganrif, a nodweddwyd gan y caeau hirsgwar mawr yn ardaloedd cymeriad Fron-heulog, Bryn-isaf, a Fron-dyffryn. Sefydlwyd yr holl batrymau caeau presennol yn yr ardaloedd cymeriad yn llawn erbyn canol y 19eg ganrif ac maent wedi parhau’n gymharol sefydlog ers hynny, ar wahân i golli rhannau o ffiniau caeau.

Ffurfir y rhan fwyaf o ffiniau caeau yn Nyffryn Clwyd gan wrychoedd. Mae astudiaethau cychwynnol yn awgrymu bod ffurf a chynnwys rhywogaethol y gwrychoedd hyn fwy na thebyg yn cyfrannu’n sylweddol at hanes tirwedd y dyffryn, gan fod gwahaniaethau clir rhwng y gwrychoedd hŷn ac aeddfed sy'n cynnwys hyd at chwech neu saith rhywogaeth wahanol a gwrychoedd o un rhywogaeth sy’n perthyn i amgaeadau Seneddol dechrau’r 19eg ganrif, er enghraifft, ac sydd fel arfer yn un rhywogaeth, sef y ddraenen wen. Mae’r defnydd o ‘blanhigion byw’ ar gyfer creu ffiniau newydd ym Mathafarn, fel y nodwyd uchod, rhwng tua 1550-90, yn dangos y gallai perthi o hyd at 400 mlwydd oed gynnwys un rhywogaeth. Gallai’r gwrychoedd rhywogaethau cymysg naill ai gynrychioli coetir creiriol, yn amgylchynu ardaloedd sydd bellach wedi’u clirio, ond gallent hefyd fod yn ganlyniad plannu bwriadol gwrychoedd rhywogaethau cymysg.

Mae’r cyfosod gwrychoedd cymysg a gwyrchoedd un rhywogaeth mewn rhai ardaloedd yn awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach iddynt. Mae gwrychoedd celyn ar ochr y ffordd yn nodweddiadol o nifer o ardaloedd yn Nyffryn Clwyd, er enghraifft yn ardaloedd cymeriad Bachymbyd, Tyddyn Uchaf, Llanrhaeadr, Hirwaun ac Ystrad. Gallai hynny fod yn ganlyniad ecsbloetio detholedig gwahanol rhywogaethau o goed a phrysgwydd, ond gallai hefyd gynrychioli plannu bwriadol. Er enghraifft mae General view of the agriculture of the county of Shropshire gan Plymley yn 1803 yn awgrymu bod celyn yn ogystal â’r ddraenen wen a’r ddraenen ddu yn blanhigion gwrychoedd addas.

Mae ffurf y gwrychoedd hefyd yn debygol o fod yn arwyddocaol. Mewn rhai mannau mae’r gwrychoedd yn afreolaidd a chrwydrol o ran eu siâp. Gallai hyn, er enghraifft, gynrychioli tyfiant prysgwydd ar hyd ffiniau nad oeddent yn wrychoedd yn wreiddiol ond a lwyddodd yn ddiweddarach i ffurfio gwrychoedd. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd mae’r perthi naill ai’n ymddangos ar eu pennau eu hunain neu maent yn gysylltiedig â llethrau caeau cymharol ddi-nod. Yr eithriadau i hyn yw’r nifer o wrychoedd mewn ardaloedd mwy serth ac ymylol, megis Bachymbyd, Fron-dyffryn a Fron-gelyn, lle y ceir nifer o lethrau mwy, sydd weithiau’n cynnwys clogfeini, a ymddengys fel pe baent wedi’u codi yn ystod y gwaith gwreiddiol o glirio a gwella’r tir. Yn yr ardaloedd hyn ac mewn nifer o ardaloedd eraill gyda thir sy’n gogwyddo’n serth, yn arbennig ar ochrau’r dyffryn, mae gwrychoedd yn gorgyffwrdd â balciau a grëwyd o ganlyniad i erydiad pridd, gan ddangos fod maint y tir âr eisioes yn sylweddol fwy nag ydyw heddiw.

Mae’r mwyafrif o’r gwrychoedd bellach wedi’u torri’n isel gan beiriant, gan gynnwys cyfran sy’n dangos tystiolaeth iddynt gael eu gosod yn draddodiadol yn y gorffennol, ac mae’r gyfran o wrychoedd a osodwyd bellach yn fach iawn. Nid yw cyfran arwyddocaol o wrychoedd mewn rhai ardaloedd bellach yn cael eu tocio’n llawn, ac maent naill ai tyfu’n wyllt neu bellach yn cael eu cynrychioli gan linell ysbeidiol o goed neu brysgwydd. Pan yw hynny wedi digwydd ceir tuedd i’r gwrychoedd ddiflannu’n gyfangwbl wrth i goed hŷn farw a phan nad oes coed newydd yn cael eu rhoi yn eu lle. Plannwyd nifer o wrychoedd newydd mewn rhai ardaloedd, yn gyffredinol fel rhan o gynlluniau cefn gwlad sydd wedi derbyn grant. Mewn rhai ardaloedd mae yn y gwrychoedd gyfran cymharol uchel o goed tal, aeddfed, sy'n rhoi naws parcdir i’r dirwedd.

Yn anfynych iawn defnyddir waliau carreg sych ar gyfer ffiniau caeau yn Nyffryn Clwyd, wedi’u cyfyngu’n bennaf er enghraifft i ffiniau plwyfi echelinol ar hyd bryniau Clwyd, neu ar gyfer waliau iardiau fferm ac ar hyd mynedfeydd ar ochr ffyrdd at ffermydd ac mewn ambell fynedfa i gae, lle bo angen bariau cryf i rwystro anifeiliaid rhag crwydro.

Mae pyst gatiau, sy’n ymddangos naill ar ar wahân neu mewn parau, yn nodweddiadol o fynedfeydd i gaeau a ffermydd mewn nifer o ardaloedd cymeriad. Maent wedi’u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau ac mewn steiliau gwahanol, ac maent yn dyddio o’r 18fed ganrif hyd at ddiwedd y 19eg ganrif fwy na thebyg. Mae eu ffurfiau’n cynnwys pileri calchfaen, hirsgwar cymharol denau, slabiau gwastad o lechen gyda thopiau sgwâr neu grwn, blociau hirsgwar enfawr, a phileri a siapiwyd yn ofalus gyda thopiau wedi’u naddu ac ochrau gerwin. Dim ond pyst gatiau’r caeau ar hyd ffyrdd cyhoeddus y mae fel arfer i’w gweld ond gellir eu gweld oddi ar ochrau’r ffyrdd mewn rhai ardaloedd o gyn barcdir neu mewn ardaloedd yn agos at gyn chwareli. Nodwedd fwy diweddar i’r dirwedd amaethyddol yw stondinau llaeth modern nas defnyddir bellach ger nifer o fynedfeydd at ffermydd, a adeiladwyd o friciau, concrid, blociau concrid neu o bren.

Mae ffensys o byst a gwifrau sy’n cadw anifeiliaid yn ddiogel yn prysur ddatblygu’n fath ar ffin a ddefnyddir amlaf aml yn Nyffryn Clwyd, ac fe’u defnyddir naill ai ar eu pennau eu hunain neu yn ychwanegol at wrychoedd a waliau cerrig sych neu yn eu lle. Mewn rhai ardaloedd defnyddir ffensys o byst a gwifrau er mwyn isrannu caeau pori mawr yn nifer o badogau llai o faint.