CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Llanynys, Sir Ddinbych
(HLCA 1044)


CPAT PHOTO 811.09A

Tirwedd o gaeau bychain ac afreolaidd a chlystyrau o ffermydd bychain mewn ardal anghysbell o dir â gwell draeniad ar gymer y Clywedog a'r Clwyd.

Cefndir hanesyddol

Dangosir y dystiolaeth gynharaf o weithgaredd yn yr ardal cymeriad gan y ffos grom ddwbl o olion cnwd o'r Oes Efydd i ogledd-orllewin yr eglwys, mewn ardal o gaeau agored canoloesol gynt. Gwyddys bod lloc olion cnydau sy'n dyddio o'r Oes Haearn neu'r Oes Rufeinig o bosibl yn y cae i'r gorllewin o'r eglwys. Mae'n ffurfio pegwn uchaf plwyf eglwysig hynafol Llanynys sy'n ymestyn tua'r de i Ruthun ac yn weinyddol roedd yn dod o fewn cwmwd Colion yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd, a ddaeth yn rhan o arglwyddiaeth Rhuthun yn ddiweddarach. Ceir y cyfeiriad cyntaf at yr anheddiad yng nghanu Llywarch Hen yn y 9fed ganrif.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Ardal cymeriad gymharol fechan, tua 2.1m o hyd a hyd at 0.8km ar draws, ar dir ychydig yn uwch ar siâp cyfrwy gyda rhan ohono o dan ddwr, rhwng 34-44m uwch lefel y môr. Ei leoliad yn yr ongl rhwng Afon Clywedog ac Afon Clwyd yw'r esboniad mwyaf tebygol am yr enw Llanynys, nodwedd a fyddai wedi bod yn fwy amlwg cyn i'r tir amgylchynol gael ei ddraenio. Nodwyd hyn gan Leland a ddywedodd 'it is caull'd Llaneiynys by cause the Chirch is set betwixt the Ryvers of Cluid and Cluedog, as in an Isle'.

Nid oes unrhyw dystiolaeth o anheddiad cnewyllol canoloesol o gwmpas yr eglwys, dau dy yn unig a nodwyd yn ei chyffiniau tua diwedd y 17eg ganrif. Mae'r clwstwr bychan sydd o gwmpas yr eglwys heddiw yn cynnwys y dafarn a bythynnod 18fed/19eg ganrif o gerrig, y ficerdy briciau a tho llechi o ddechrau'r 19eg ganrif a byngalos ac ystad fechan o dai cyngor 20fed ganrif. Ac eithrio fferm fawr Plas Llanynys i'r de, ffermydd bychain wedi eu clystyru gyda'i gilydd yw'r rhan fwyaf o'r ffermydd yn yr ardal anghysbell hon, ar dir ychydig uwch â gwell draeniad. Gwelir y deunyddiau adeiladu lleol cynharach yn yr eglwys, a oedd wedi ei gwyngalchu yn y gorffennol, yma gwelir y defnydd a wnaed o dywodfaen, a pheth tywodfaen coch a choed yn achos y porth. Mae'r defnydd a wnaed o glogfeini rhewlifol crwm? hefyd i'w weld yn wal mynwent yr eglwys. Yr adeilad preswyl cynharaf sydd wedi goroesi yw Pwll-y-chwiaid-bach, ty neuadd â ffrâm-focs ganoloesol a newidiwyd yn dy lloriog yn y 18fed ganrif. O gerrig y codwyd y ffermdai cynnar eraill, mae Drefechan (Trefechan) wedi ei rendro'n rhannol ac mae'r ffermdai diwedd 18fed/dechrau'r 19eg ganrif sydd ym Mhwll-y-chwaid-mawr, Wern-deg a Phlas Llanynys o gerrig wedi eu rendro a tho llechi, gyda thai allan o friciau a chalchfaen, a wal gerrig o gwmpas y buarth yn achos Plas Llanynys, gyda ffermdai dechrau a diwedd y 19eg ganrif o friciau yn Nhy-coch a Phen-y-bryn a rhai tai allan o gerrig.

Caeau petryalog canolig i fach eu maint a rennir gan wrychoedd cadarn o gelyn, helyg a draenen wen aeddfed, gyda choed ynn, helyg a gwern gwasgaredig. Mae'r ardal yn bwysig o ran hanes tirddaliadaeth amaethyddol ganoloesol yn yr ardal. Hyd nes 1971 roedd dau gae âr agored canoloesol, sef Maes isa a Maes ucha, yn parhau i gael eu defnyddio fel lleiniau mewn ardal i'r gogledd-orllewin o'r eglwys, bryd hynny cawsant eu cyfuno'n un daliad ond pery ychydig olion ohonynt. Lleolir y ffermydd presennol ar ymylon allanol y tir âr rhanedig hwn, ac mae hyn yn adlewyrchu patrwm anheddiad diwedd y cyfnod canoloesol.

Eglwys blwyf ganoloesol Llanynys, a gysegrwyd i'r esgob-sant Saeran, a gofnodwyd am y tro cyntaf yn 1254 ac a leolwyd ar safle cymuned fynachaidd Gymreig yn y 6ed ganrif efallai, yw un o eglwysi cynnar pwysig cantref Dyffryn Clwyd. Dengys y ffiniau eiddo sydd yn dal yno bod yr eglwys o fewn cylch o dir caeëdig dipyn mwy yn y gorffennol.

Ffynonellau

Hubbard 1986
Jones 1964
Jones 1973
Jones 1991
Kightly 1998
Parkinson 1991
Richards 1969
Silvester 1995
Smith 1988

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.