Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Moel Famau, Llandyrnog, Nannerch, Cilcain a Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1038)
Darn o rostir agored ac amlwg a dorrir gan fylchau bychain, gyda bryngaerau pwysig o'r Oes Haearn ac olion Twr Jiwbili Fictoraidd yn nodi nifer o'r copaon ar hyn y bryniau. Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys rhannau o'r bryniau canlynol: Moel Arthur, Moel Llys-y-coed, Moel Dywyll, Moel Famau, Moel y Gaer, Foel Fenlli, Moel Eithinen, a'r Gyrn
Cefndir Hanesyddol
Mae'r ardal yn perthyn i raddau helaeth i hen blwyfi eglwysig Llandyrnog, Llangynhafal a
Llanbedr y mae eu ffiniau'n rhedeg ar onglau sgwâr i linell y bryniau o waelod y dyffryn i'r
dwyrain. Roedd y tri phlwyf eglwysig ar ochr ddwyreiniol cwmwd Dogfeilyn yng nghantref
canoloesol Dyffryn Clwyd, a drdd yn ddiweddarach yn arglwyddiaeth ganoloesol Rhuthun, a
phennau bryniau Clwyd ar y pryd oedd y ffin rhwng Dyffryn Clwyd a chantref Tegeingl i'r
gogledd a chantref Iâl i'r de, a'r ffin hanesyddol rhwng siroedd Dinbych a'r Fflint.
I bob golwg, y dystiolaeth gynharach o weithgarwch dyn yn yr ardal yw'r darn o fflint sy'n
dyddio o bosibl o'r cyfnod Mesolithig ac a ddarganfuwyd ger Moel Arthur. Mae nifer o
dwmpathau claddu o'r Oes Efydd yn yr ardal cymeriad gan gynnwys nifer mewn mannau
amlwg ar Foel Eithinen, yn yr ucheldir i'r dwyrain a'r de-ddwyrain o Foel y Gaer (Llanbedr),
ac un ar gopa bryngaer Foel Fenlli. Cynrychiolir tystiolaeth bellach o weithgarwch o'r Oes
Efydd gan grwp o dair bwyell wastad o'r Oes Efydd gynnar a ddarganfuwyd ym 1962 mewn
tirlithriad ar lechwedd o fewn ochr ddeheuol bryngaer Moel Arthur. Y safleoedd archaeolegol
pwysicaf yw bryngaerau trawiadol Moel Arthur, Moel y Gaer (Llanbedr), a Foel Fenlli sydd
ar gopaon nifer o'r bryniau. Mae'n bosibl bod y pellter rhwng y bryngaerau'n adlewyrchu
tiriogaethau gwahanol lwythau a oedd, fel y plwyfi canoloesol diweddarach, yn ymestyn ar
draws y tir isel yn y dyffryn i'r gorllewin. Cynrychiolir gweithgarwch Rhufeinaidd gan ddau
gelc o ddarnau arian Rhufeinig o'r 3edd ganrif a'r 4edd ganrif a ddarganfuwyd ar Foel Fenlli.
Un o'r cofadeiliau pwysicaf yw'r Twr Jiwbili ar Foel Famau, sy'n Eifftaidd ei arddull, a
godwyd tua 1810 i goffáu hanner canfed pen-blwydd teyrnasiad George III, a dymchwelwyd y
rhannau uchaf gan wynt cryf ym 1862.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Ucheldir llethrau serth, yn codi o tua 180m i 554m uwch lefel y môr ar Foel Famau, y mynydd
uchaf ym mryniau Clwyd, gydag ambell frigiad a marian, gyda mannau gwastatach thonnau
isel ar gopaon y bryniau. Mae'n rhan o Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol Bryniau
Clwyd a Pharc Gwledig Moel Famau. Mae llawer o'r ardal, o'r ffordd gyhoeddus i'r de o
Foel Arthur i Fwlch Penbarras i'r gogledd o Foel Fenlli yn dir comin cofrestredig.
Mae'r ardal wedi ei diffinio'n glir o'r tir amaeth i'r gorllewin, ac mae'r ffin rhwng y ddau'n rhedeg Tar hyd y gyfuchlin 180-200 metr. Ar y cyfan mae'r rhostir heb ei gau, ond mae ffensiau pyst a gwifren yma a thraw. Tir pori garw a geir yn bennaf a cheir grug a rhedyn, ond mae glaswelltir a wellwyd ar ochr ddwyreiniol rhagfuriau bryngaer Foel Fenlli ac ar Foel Eithinen lle rhannwyd meysydd pori gan ffensiau pyst a gwifren. Mae darnau helaeth o dir grugog a losgwyd er mwyn rheoli'r glaswelltir.
Dangosir rhan o'r ffin rhwng ffiniau plwyfi Llanbedr Dyffryn Clywd a Llanarmon-yn-Iâl i'r
gorllewin o'r ardal cymeriad hanesyddol ar gopa ac ar lethrau'r Gyrn i'r de, Moel Arthur yn y
gogledd a mannau rhyngddynt, gan wal gerrif sydd wedi cwympo mewn mannau ac y
gosodwyd ffensiau pyst a gwifren modern yn ei lle mewn mannau, ac mae'r wal ei hun yn
rhedeg o gwmpas rhagfuriau gorllewinol bryngaer Moel Arthur. Mae'r ardal wedi ei
gwahanu'n gorfforol oddi wrth ardal debyg Moel Llanfair i'r de gan y bwlch lle mae'r briffordd
rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, ac oddi wrth ardal debyg Penycloddiau i'r gogledd gan y
bwlch lle mae ffordd fach rhwng Llangwyfan a Nannerch.
Ar lethrau serth Moel Eithinen ceir darnau o goetir collddail hynafol yn ogystal â phlanhigfeydd
conifferaidd bychain.
Pyllau bychain ar yr ucheldir a mannau gwlyb a allai fod o bwys palaeoamgylcheddol.
Creosir yr ardal gan nifer o lwybrau troed sy'n cysylltu aneddiadau yn y dyffryn cyfagos lle mae'r Afon Alun, y mae'n debyg eu bod yn dra hen, a cheir hefyd ran o Lwybr Clawdd Offa - y llwybr modern o'r gogledd i'r de - heibio i Dwr y Jiwbili. Mae'r llwybrau troed pwysig rhwng Llangynhafal a Chilcain, rhwng Gellifor a Bryn-y-Castell, a rhwng Hirwaun a Llanferres. Ceir erydiad mewn mannau a achoswyd gan ymwelwyr ar hyd llwybrau Clawdd Offa a Pharc Gwledig Moel Famau.
Cynrychiolir gweithgarwch diwydiannol gan chwarel a nifer o fentrau cloddio bychain gadawedig ar Foel Dywyll, a phwll aur bychan o'r 19eg ganrif a threialon ar ochr ddwyreiniol Moel Arthur a nifer o chwareli cerrig ar lethrau gorllewinol y bryn.
Forde-Johnston 1965
Gale 1991
Hubbard 1986, 253
Richards 1969
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|