CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Llandyrnog, Llangynhafal a Llanynys, Sir Ddinbych
(HLCA 1043)


CPAT PHOTO 812.22

Eglwysi bychain canoloesol anghysbell, ffermydd gwasgarog llai mewn tirwedd o gaeau petryalog canolig eu maint, gydag aneddiadau cnewyllol ôl-ganoloesol bychain.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal yn cynnwys rhannau o bum plwyf eglwysig canoloesol - rhan o blwyf mawr Llanynys a rhannau o blwyfi llai Llandyrnog, Llangwyfan, Llangynhafal, a Llanychan. Llanychan, sef plwyf o 567erw yw plwyf lleiaf esgobaeth Llanelwy. Daw'r ardal yn rhannol o fewn cwmwd gorllewinol Colion ond yn bennaf o fewn cwmwd gogleddol Dogfeilyn yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd. Gall y fwyell fflint gaboledig Neolithig a ganfuwyd ger eglwys Llangwyfan a phen saeth Oes Efydd a ganfuwyd ger Gellifor fod yn arwyddion o anheddiad cynnar.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Iseldir tonnog, uwchlaw'r gorlifdir, yn gogwyddo'n gyson o'r dwyrain i'r gorllewin ond wedi ei dorri gan afonydd ochrau serth â choed ar eu hymyl yn rhedeg o ymyl orllewinol bryniau Clwyd. Mae'r tir yn codi o'r iseldir gwlypach ar ochr orllewinol yr ardal, ar uchder o tua 35m, i droed y bryniau yn y dwyrain, ar uchder o tua 130m.

Ceir nifer o wahanol fathau o aneddiadau yn yr ardal. Mae llawer o eglwysi canoloesol yr ardal yn gymharol anghysbell, er bod pentref wedi datblygu o gwmpas un o'r eglwysi, a datblygodd pentrefannau cnewyllol eraill o gwmpas capel neu ysgol yn niwedd y 18fed a'r 19eg ganrif. Fel arall, cynrychiolir yr anheddiad gan ffermydd gwasgaredig, bythynnod a thai mwy, rhai ohonynt yn dyddio o'r canoloesoedd.

Yn Llandyrnog ceir un o bedair eglwys ganoloesol yr ardal, ond hon yw'r unig un sy'n dod o fewn anheddiad cnewyllol cyfoes o unrhyw faint. Roedd yr eglwys, a gysegrwyd i St Ternog o'r 6ed ganrif, yn bodoli erbyn canol y 13eg ganrif o leiaf, er mai o ddiwedd y 15fed ganrif y daw ei ffabrig cerrig, sydd wedi ei rendro a'i Fictoreiddio. Mae hanes yr anheddiad o gwmpas yr eglwys yn aneglur, mae'r anheddiad presennol yn gyfoes ar y cyfan, gan gynnwys tai, bythynnod, tafarn, ysgol, siop, rheithordy 18fed a 19eg ganrif o siâl, calchfaen a briciau a chyda thri chapel anghydffurfiol 19eg ganrif ac ystadau tai modern, tyddynnod a ffactri laeth fawr ar y cyrion. Mewn cyferbyniad, ychydig anheddiad cnewyllol a oroesodd yng nghyffiniau eglwysi canoloesol Llanychan, Llangynhafal, a Llangwyfan, sefydlwyd y cyfan ohonynt erbyn y 13eg ganrif, os nad ynghynt. Yn yr un modd â Llandyrnog, mae Llanychan ar dir isel ond ychydig yn uwch na gwaelod y dyffryn, tra bo Llangynhafal a Llangwyfan wedi eu cuddio ar waelod llethrau gorllewinol bryniau Clwyd. Dim ond ysgol a thy ysgol 1866 o friciau, a ddefnyddir bellach fel ty, sydd gydag eglwys St Hychan yn Llanychan, a dim ond fferm sydd gydag eglwys St Cwyfan yn Llangwyfan (ar wahân i adeiladau atodol y sanatoriwm 20fed ganrif) (1918-81), sydd bellach yn bwrw ei gysgod drosto, a gymerodd le Plas Llangwyfan, ty bychan o ddiwedd y 16eg ganrif), a dim ond fferm a thy sydd gydag eglwys St Cynhafal, yn Llangynhafal, sef Plas-yn-llan, ty hanner coediog deulawr o ddiwedd y 16eg ganrif. Mae'r defnydd cynnar a wnaed o gerrig ar gyfer adeiladu i'w weld mewn eglwysi lle mae deunydd adeiladu o'r canoloesoedd wedi goroesi, ac yn achos waliau cerrig sych o lechfaen mynwent eglwys Llangwyfan.

Mae aneddiadau cnewyllol eraill yr ardal cymeriad yn tarddu o'r cyfnod ôl-ganoloesol, yn dangos lledaeniad yr anheddiad oddi wrth y canolfannau plwyfol cynharach. Mae'r anheddiad presennol yn Llangynhafal, 400m i'r dwyrain o'r eglwys ganoloesol, yn gorwedd ar un o'r ffyrdd lleiaf ar hyd y dyffryn, ac yn cynnwys tafarn, cyn-ysgol 19feg ganrif a nifer bychan o dai. Pentrefan yw Hendrerwydd yn cynnwys dwy neu dair fferm fechan a nifer o fythynnod 18fed/19eg ganrif o friciau ac wedi eu rendro, tafarn 18fed ganrif a thai 20fed ganrif. Anheddiad capel 18fed/19eg ganrif yw Ffordd-las, sef bythynnod o friciau ac wedi eu rendro a rhai tai modern, mae'r capel yn dyddio o'r 1834, a ddatblygodd yn yr un modd â Chommins fel clwstwr o fythynnod ar ochr y ffordd. Sonnir am Gellifor yn 1282; dengys map o 1779 ardal drionglog fechan o dir comin gydag adeiladau o'i gwmpas, er, erbyn y 19eg ganrif roedd y comin wedi ei amgáu, erbyn hynny roedd yr anheddiad yn cynnwys Fferm Gellifor, ffermdy 19eg ganrif o friciau ac wedi eu rendro a thai allan o friciau, y capel a adeiladwyd gyntaf yn 1815 a dyrnaid o dai. Erbyn heddiw mae'r anheddiad yn cynnwys tai 19eg ac 20fed ganrif, ystad dai 20fed ganrif, ysgol diwedd y 19eg ganrif o friciau a chapel calchfaen a ailadeiladwyd yn 1860.

Datblygodd nifer o aneddiadau cnewyllol eraill ar groesffyrdd, megis y bythynnod cerrig 18fed ganrif neu gynt yng Nghroes-fawr, neu o gwmpas melin, megis y clwstwr o fythynnod, fferm a thy 18fed/19eg ganrif ym Mhentre'r-felin. Datblygodd bythynnod gwasgaredig eraill ar hyd y briffordd yn ystod y 18fed a'r 20fed ganrif, megis ar hyd y ffordd rhwng Gellifor a Hendrerwydd ac ar hyd y ffordd rhwng Llandyrnog a Llangynhafal.

Yn aml ceir ffermydd gwasgaredig cymharol fychan a bythynnod, ag oddeutu 500 -600m rhyngddynt, ar ochr y ffordd neu o fewn aneddiadau cnewyllol. Mae nifer o'r ffermydd yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif i ddechrau'r 16eg o leiaf. Ty nenfforch pum-crom diwedd y 15eg ganrif oedd Hendre'r ywydd-uchaf, â muriau allanol o fframwaith coed, bellach wedi ei ailadeiladu yn amgueddfa San Ffagan, Plas nenfforch grom sengl oedd Hendre'r ywydd, wedi ei ddyddio fel 1508 gan dendrocronoleg.Ymhlith yr adeiladau cynnar eraill mae Plas Coch, ffermdy hanner coediog, gyda thu allan a thai allan o friciau dechrau'r 19eg ganrif a Phlas Iago, plas nenffyrch, bellach gyda waliau allanol o gerrig. Mae ysgubor 17eg ganrif gyda phedair nenfforch, waliau o fframwaith coed gyda mewnlenwad o friciau i Dy-coch, i'r gogledd o Langynhafal. Mae i Seler, i ogledd-orllewin Llangynhafal, dai allan â fframwaith coed gyda mewnlenwad o friciau a cherrig canoloesol cynnar neu ôl-ganoloesol a ffermdy 19eg ganrif wedi ei rendro. Cafodd nifer o ffermdai eraill eu hailadeiladu neu eu codi o'r newydd yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, yn aml wedi eu rendro neu o friciau, gan gynnwys er enghraifft, ffermdai a thai allan yn Llawog, Plas-Siors, Plas Bennett, fferm Pentre'r-felin-ucha, Bryn-ogwallt, Pentre-mawr a Phentre-bach. Ychydig iawn o dai mawr sydd yn yr ardal, gan gynnwys y ty diwedd y 19eg ganrif sydd wedi ei rendro yn Cerrigllwydion Hall, a'r fila Fictoraidd sydd wedi ei rendro â llidiart mynedfa ym Mhlas Isaf, i'r dwyrain o Hendrewydd.

Caeau petryalog o faint canolig mewn rhes ar draws a lawr y llethr gyda rhai cloddiau caeau isel a linsiedi ar y llethrau serthaf, yn cael eu ffinio â gwrychoedd isel o ddraenen wen, cyll a chelyn aeddfed. Rhai ardaloedd neilltuol o lain-gaeau ar hyd y llethr i'r dwyrain o bentref Llandyrnog ac i fyny a lawr y llethr yn ardal Ffordd-las, rhai ohonynt wedi eu cyfuno i greu caeau mwy yn y blynyddoedd diweddar. Coed deri ac ynn mawr, bedw, poplys a helyg tal wedi eu gwasgaru ar ochr y nentydd. Nentydd sydyn a thir wedi ei ddraenio'n dda ar ochr ddwyreiniol uchaf yr ardal, gyda nentydd cloddiog arafach a ffosydd a thir â draeniad gwaelach ar iseldir y gorllewin. Rhai pyst clwydi o gerrig a nifer fawr o hen standiau caniau llefrith o goed, cerrig, concrid neu friciau. Ychydig iawn o goetir sydd yn yr ardal bellach, er bod coetir yn bodoli yng Ngellifor ac ar hyd ochr dde-orllewinol yr ardal, rhwng Rhydonen a Llanychan yn y cyfnod canoloesol, cofnodwyd i 'apeliadau'r goedwig'gael eu cynnal yn y gelli yn Gethlivor (Berry 1994). Mae yma nifer o enwau coetir, gan gynnwys Gellifor ei hun. Ymddengys bod patrwm pendant y caeau petryalog o faint canolig yn cynrychioli'r amgáu trefnus o'r tir pori, y dolydd a'r coetir comin gynt yn ystod diwedd y canoloesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, yn ogystal ag ad-drefnu a chau ardaloedd bychan o dir âr ym mhob plwyf a threflan, y mae'n anodd diffinio eu ffiniau'n fanwl bellach. Cyfeirir at y tiroedd comin gynt mewn nifer o enwau lleoedd, gan gynnwys Commins ei hun, i'r gogledd o Gellifor.

Tuedda'r ffyrdd a'r llwybrau redeg o'r gogledd i'r de ar hyd y cyfuchliniau neu fyny a lawr y llethrau, gan gysylltu cymunedau ar waelod y bryniau gyda gwaelod y dyffryn, rhed nifer o'r ffyrdd rhwng ffermydd ac aneddiadau cnewyllol ac yn aml maent yn torri ar draws cynllun y caeau. Mae llawer o'r ffyrdd, yn enwedig ar y tir mwyaf serth yn rhedeg mewn ceuffyrdd pendant a grëwyd cyn i ffyrdd gael eu draenio a'u hwynebu â deunyddiau cyfoes, weithiau mae'r ceuffyrdd wedi eu rhagfurio â waliau sych o gerrig lleol gan gynnwys clogfeini rhewlifol yn y waliau ger y ffordd wrth eglwys Llangynhafal.

Cynrychiolir y diwydiant a fu gan hen felinau dwr ym Melin-isaf i'r gorllewin o Landyrnog a Phentre'r-felin-ucha i'r dwyrain.

Arhosodd Wordsworth ddwy waith gyda'i ffrind, Robert Jones, ym Mhlas-yn-llan, Llangynhafal yn y 1790au: 'Dywed [ysgrifennodd ei chwaer Dorothy] bod eu cartref yn eithaf bwthyn, yr union fath fyddai'n gweddu i ni ac o! wedi ei leoli yn Nyffryn hyfrytaf yr holl ddyffrynnoedd, Dyffryn Clwyd'.

Yr unig barcdir yn yr ardal cymeriad yw'r ardal gymharol fechan o gwmpas Cerrigllwydion Hall, a rennir gan ffensys pyst a gwifren a chyda hen goed ffawydd, deri, masarnwydd a phinwydd, gyda phorthordy, giât a wal 19eg ganrif ger y ffordd, ac ardal fechan o barcdir gyda choed conifferaidd a chollddail.

Ffynonellau

Berry 1994
Hubbard 1986
Richards 1969
Silvester 1995
Winterbottom 1982

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.