CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Bachymbyd, Llanynys a Rhuthun, Sir Ddinbych
(HLCA 1026)


CPAT PHOTO 810.21a

Ffermydd ar wasgar mewn tirwedd lle mae caeau afreolaidd canolig eu maint ar ymyl gorllewinol y dyffryn, gyda darnau o goetir hynafol ar y llethrau serth ac ochrau serth dyffrynnoedd y nentydd.

Cefndir Hanesyddol

Mae'n gorwedd ar ymyl gorllewinol plwyf eglwysig canoloesol Llanynys, ac yn weinyddol mae ar ymyl dwyreiniol cwmwd Ceinmeirch, yn hen gantref Rhufoniog.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Ymyl gorllewinol serth y dyffryn, yn codi o uchder o tua 50m uwch lefel y môr yn union uwch llawr y dyffryn i uchder o dros 150m uwch lefel y môr o fewn yr ardal cymeriad hanesyddol a mwy y tu hwnt. Mae tir gwastatach at waelod y dyffryn ac ar bennau'r bryniau. Mae ochr y dyffryn wedi ei thorri gan nifer o ddyffrynnoedd ag ochrau serth fel ceunentydd gan gynnwys y Nant Goch ym mhen gogleddol yr ardal a dyffryn dramatig yr afon Clywedog i'r gorllewin o Rhewl

Ffermydd gwasgaredig iawn at ei gilydd, uwch llawr y dyffryn, un ai ar y llethrau isaf neu ar y tir gwatad ychydig yn uwch yn ymyl pennau'r bryniau i'r gorllewin, gyda thai o'r 20fed ganrif hwnt ac yma ar y brif ffordd rhwng Rhuthun a Rhewl. Yr adeiladau cynharaf yw rhannau o'r ysgubor o'r canol oesoedd hwyr gyda dwy nenffordd a waliau ffrâm goed ym Machymbyd Fawr ac adeiladau ffrâm goed yn Rhyd-y-cilgwyn. Ty briciau o'r 17eg ganrif a ailfodelwyd ac a berthynai i'r teulu Salusburys hefyd ym Machymbyd Fawr. Mae adeiladau'r ffermydd eraill yn perthyn yn bennaf i'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, gan gynnwys ffermdy briciau ac adeiladau allanol calchfaen a buarth â wal gerrig Bachymbyd-bach a'r ffermdy mawr rendredig a'r adeiladau allanol cerrig a'r buarth â wal gerrig yn Nhy-mawr. Ffermdy cerrig gwyngalchog y Berth, gydag adeiladau allanol cerrig a'r buarth â wal gerrig, y naill a'r llall yn cynnwys elfennau megalithig yn eu hadeiladwaith. Ffermdai calchfaen gwasgaredig o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ac adeilad allanol ar y tir uwch yn arhan ddeheuol yr ardal, fel Pen-y-bryn, Ty'n-y-caeau a Phen-y-graig, rhai wedi eu cysylltu gan lonydd gwyrddion. Mae rhai hen ffermdai wedi eu gadael ac erbyn hyn nid oes ond ponciau a llwyfannau.

Caeau afreolaidd canolig eu maint gyda gwrychoedd collen, draenen wen, celyn a derw, tir pori a wellwyd yn bennaf, gyda chaeau mawr a isrennir weithiau â ffensiau gwifren a physt a linsiedi ar lethrau serthach. Ponciau a gwrychoedd bychain a chrwydrol mewn mannau sy'n awgrymu bod rhai o'r caeau wedi eu creu drwy asartio'r coetir naturiol. Mae rhai o'r ponciau'n cynnwys cerrig rhewlifol crynion hyd at 1m ar draws, a chrewyd hwy'n rhannol o bosibl drwy glirio cerrig o'r caeau, mae rhai o'r ponciau yn y caeau wedi eu cynnal â waliau bras yn ymyl giatiaui rwystro erydiad gan dda byw. Mae rhai gwrychoedd wedi eu cynnal yn dda, rhai wedi eu gosod, rhai wedi tyfu allan, a dodwyd pyst a gwifren gyda hwy neu nid oes dim ar ôl ohonynt ond rhes doredig o goes aeddfetach. Ceir nifer o byllau bychain yn ymyl Ty'n-y-caeau na wyddys sut y daethant i fodoli. Ceir pyst giât ar gyfer mynedfeydd i'r ffemydd ar ac oddi ar y ffordd gyhoeddus.

Coetir collddail cymysg yn cynnwys derw ac ynn, yn ogystal â gwerg, eithin, ynn, cyll a chelyn ar lethrau serth dyffrynnoedd y nentydd, ac ar lethrau serth mewn mannau eraill, yn ogystal â nifer o blanhigfeydd conifferaidd bychain, coetir collddail Coed Ystig yn Nant Goch, Coed Orllwyn i'r gorllewin o Rhewl, a Choed Ty'n-llwyn a Choed Graig-y-fferm a elwir yn goetir hanner naturiol hynafol.

Lonydd afreolaidd yn rhedeg mewn ceuffyrdd ag ochrau serth ar y llethrau mwyaf serth, weithiau wedi eu cynnal â cherrig, gyda gwrychoedd celyn ar eu hyd yn aml.

Ceir hen felin a bythynnod ar lannau Afon Clywedog a'i llif cyflym i'r gorllewin o'r Rhewl. Chwarel galchfaen fawr nas defnyddir nwyach ac odyn galch ger Craig-y-ddywart, i'r gogledd-orllewin o Ruthun.

Mae'r ardal yn cynnwys gardd gaeedig o'r 17eg ganrif Bachymbyd, a restrir ar Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi, a Lady Bagot's Drive, dreif Edwardaidd i goetsys ar hyd glan ogleddol ceunant coediog yr afon Clywedog, sy'n llwybr troed bellach.

Ffynonellau

Hubbard 1986
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.