Cymraeg / English
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd HanesyddolDyffryn ClwydY DIRWEDD NATURIOLSaif ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd ar ochr ddeheuol Dyffryn Clwyd, ardal o iseldir gwastad mewn cafn toredig wedi ei amgylchynu gan fryniau. Ar yr ochr ddwyreiniol mae'n yn codi'n serth at lethr sgarp toriad siâl bryniau Clwydaidd sy'n bennaf Silwraidd ac i fyny at wrym o garreg calch Carbonifferaidd sy'n ffurfio stribyn ar ochr orllewinol y dyffryn. Mae llawr y dyffryn, rhwng tua 2-5km ar draws, yn codi mewn uchder o tua 30m yn agos i Ddinbych hyd tua 100m ar flaen y dyffryn. Y ddaeareg waelodol yma yw tywodfeini Triasig meddal, coch a marl sydd, gan fwyaf, wedi eu cuddio gan dyddodion rhewlif a llifwaddod hwyrach ond sydd i'w gweld mewn ardaloedd o dir uchel fel yn Rhuthun a Hirwaen. Heddiw, byddai croestoriad arferol o'r dyffryn o'r gorllewin i'r dwyrain yn torri trwy'r rhanbarthau topograffig canlynol: bryniau calchfaen yn y gorllewin, yn cyrraedd uchder o tua 200m; stribed gymharol gul o dir llethr uwchlaw gwaelod y dyffryn, rhwng tua 1km o led; y tir fflat, isel sydd o dan ddŵr yn ôl y tymor ar waelod y dyffryn, hyd at tua 2km o led; stribed lydan o dir sydd â rhediad graddol ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, tua 2km o led, yn estyn o lawr y dyffryn hyd at droed y bryniau Clwydaidd; y tir â rhediad mwy sydyn hyd at tua 1km ar draws, yn estyn hyd at ben llethr sgarp y bryn; ac yn olaf y gwrym mwy gwastad ar hyd top y mynyddoedd Clwydaidd, yn codi hyd at uchder o tua 550m. Ailadroddir y patrwm hwn drosodd a throsodd ac nid yw'n cael ei dorri ond gan ddyffrynnoedd serth y nentydd a'r dyffrynnoedd, sy'n mynd i mewn i'r dyffryn o'r dwyrain a'r gorllewin. O ganlyniad mae gan bob un o gymunedau'r dyffryn eu cwota eu hunain o weirgloddiau sydd o dan ddŵr, porfeydd gogwyddog a thir âr sydd wedi eu draenio'n well, gweirgloddiau a rhostir ar dir uwch yn y trawsraniadau cymharol fyr o waelod y dyffryn i ben y bryn. Yn ystod y rhewlifiant diwethaf, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl (a ddyddiwyd yn lleol drwy oedran radiocarbon asgwrn mamoth o Ogof Ffynnon Beuno, ger Tremeirchion), symudodd yr haenau iâ gogleddol i fyny'r dyffryn hyd at o fewn tua 5km i Ddinbych, gan greu marian terfynol yn ffurfio llinell o fryniau isel ar draws y dyffryn yn Nhrefnant. Ffurfiwyd rhewlyn a adwaenir fel Llyn Clwyd o'r dŵr tawdd a gronnodd yn erbyn y marian, yn estyn tua 10km i mewn i'r tir, i'r de o Lanfair Dyffryn Clwyd. Ffurfiwyd deltâu 1-3km ar draws lle'r oedd yr afonydd a'r nentydd dwyreiniol a oedd yn llifo o Fynydd Hiraethog yn mynd mewn i'r llyn, yn yr ardal i'r dwyrain o Ddinbych wrth Afon Ystrad, yn ardal Llanrhaeadr ger Nant-mawr, yn ardal Llanfair ger Afon Clywedog, ac yn Aberchwiler ger Afon Chwiler. Tua'r dwyrain y llifai'r draeniad o'r dyffryn yn wreiddiol, 'i fyny' drwy ddyffryn yr Afon Chwiler. Ar ôl i'r marianau yn ardal Trefnant gael eu torri ffurfiwyd y patrwm draeniad presennol ar lawr y dyffryn. Yn gyffredinol mae llawr y dyffryn yn dir amaeth da, ac ystyrir y stribed o dir sydd wedi ei draenio'n well ar y gerlan ddwyreiniol rhwng Llanbedr Dyffryn Clwyd i'r de ac Aberchwiler i'r gogledd fel tir Graddfa 1. Mae llawer o'r tir yn gorwedd yn is, ac yn aml yn dioddef o fod o dan ddŵr yn ystod rhai tymhorau. Ystyrir hwn yn dir Graddfa 2. Mae graddiant i'r ochr ac ar ben bryn ar ddwy ochr y dyffryn yn gyffredinol yn lleihau gydag uchder. Mae'r dyffryn yn cael llai na 30 modfedd o law ond dim ond ar gyfran gymharol isel o'r tir âr ffrwythlon y tyfir gwenith, yn bennaf oherwydd natur y pridd sydd, er ei fod yn ffrwythlon, yn tueddu i gynnal lefel trwythiad uchel, yn enwedig yn y gaeaf, ac nid yw'n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu grawn heddiw. Felly mae'r defnydd tir heddiw yn bennaf yn fugeiliol, gyda chnydau grawn a phorthiant cyfyngedig ar dir sydd wedi ei ddraenio yn well ac ardaloedd o blanhigfeydd ar dir coediog a choedwigoedd yn gyffredinol wedi eu cyfyngu i'r llethrau bryn serthach ac ardaloedd tir isel nad ydynt wedi eu draenio'n dda. Ychydig o astudiaethau paill sydd wedi eu gwneud o fewn y dyffryn, ac er bod ein gwybodaeth am hanes amgylcheddol ôl-rewlifol felly yn gyfyng, tybir bod tir coediog brodorol wedi estyn yn raddol dros y cyfan o Ddyffryn Clwyd wrth i'r hinsawdd wella'n raddol yn dilyn y rhewlif diwethaf, a bod y coed wedi eu torri fesul tipyn gan weithgaredd dynol o'r cyfnodau cyn hanes hyd at y gorffennol diweddar. Dim ond ardaloedd cymharol fach o dir coediog naturiol sy'n goroesi hyd heddiw. Mae'n ansicr pryd y cafodd Llyn Clwyd ei lenwi â gwaddod ond mae'n debygol bod llynnoedd bach ac ardaloedd o ffeniau gwernog wedi goroesi hyd at o leiaf y 5ed mileniwm CC, pryd y gellir dod o hyd i'r dystiolaeth gyntaf o weithgaredd dynol ar safleoedd agored yn y dyffryn. |