Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Clwyd:
Penycloddiau, Llandyrnog ac Ysgeifiog, Sir Ddinbych a Sir y Fflint
(HLCA 1039)
Darn amlwg o rostir agored gan gynnwys bryngaer bwysig o'r Oes Haearn ar ben y bryniau.
Cefndir Hanesyddol
Mae'r ardal cymeriad yn perthyn yn rhannol i hen blwyf eglwysig Llandyrnog ac yn rhannol i blwyf Nannerch sy'n ymestyn i ochr ddwyreiniol bryniau Clwyd. Roedd Llandyrnog yn rhan o gwmwd Dogfeilyn yng nghantref canoloesol Dyffryn Clwyd, a drodd yn ddiweddarach yn arglwyddiaeth ganoloesol Rhuthun, a phennau bryniau Clwyd ar y pryd oedd y ffin rhwng Dyffryn Clwyd a chantref Tegeingl, ar hyd y ffin hanesyddol rhwng siroedd Dinbych a'r Fflint.
Penycloddiau, un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru o'r Oes Haearn, yw'r safle archaeolegol pwysicaf o fewn yr ardal cymeriad ac mae ei ragfuriau anferth wedi eu gwneud o greigiau a chwarelwyd o'r ffosydd o'i hamgylch. Yn debyg i fryngaerau ardal cymeriad Moel Famau, mae'n bosbl bod y fryngaer yn cynrychioli canolbwynt tiriogaeth lwythol gynhanesyddol hwyr a oedd yn ymestyn ar draws y dyffryn i'r gorllewin o fryniau Clwyd.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Cefnen phen gwastad, ochrau serth, yn ymgodi o tua 295m i 440m uwch lefel y môr ar gopa Penycloddiau, gan ymestyn i'r gogledd i lethrau serth gogleddol Moel y Parc uwchben ceunant yr Afon Chwiler.
I radau helaeth mae'r rhostir heb ei gau, ac mae'r ardal felly wedi ei diffinio'n glir o'r ffermdir caeedig i'r gorllewin sydd, ar y cyfan, yn rhedeg ar hyd y gyfuchlin 180-200 metr. Ucheldir pori nas gwellwyd yw'r tir hwn yn bennaf, ac mae darnau helaeth o redyn a grug a chlystyrau o eithin, ac yma ac acw ceir ambell onnen, bedwen a phrysgwydd draenen wen ar dir isel. Ceir brigiadau o sil i'r de-ddwyrain o Benycloddiau. Mae wedi ei wahanu oddi wrth y tir caeedig a'r coedwigoedd i'r gorllewin gan wal fynydd ddadfeiliedig sydd un ai'n sefyll ar ei phen ei hun neu'n gweithredu fel wal gynnal teras a dorrwyd i ochr y bryn, yn rhannol ddadfeiliedig ac yn cynnwys gordyfiant, neu mae ffens pyst a gwifren wedi ei gosod yn ei lle. Mae wedi ei wahanu oddi wrth y tir caeedig i'r de a'r dwyrain gan bonciau a ffosydd sengl neu ddwbl gyda ffensiau pyst a gwifren ar eu pennau. Mae'r ardal wedi ei gwahanu'n gorfforol oddi wrth ardal debyg Moel Famau i'r de a chan y bwlch lle mae ffordd fechan rhwng Llangwyfan a Nannerch.
Pyllau bychain yn yr ucheldir a mannau mawnog, a allai fod o bwys palaeoamgylcheddol, gan gynnwys lle o fewn y fryngaer ei hun.
Mae llwybr modern Clawdd Offa'n rhedeg o'r gogledd i'r de ar draws yr ardal, gan ddilyn rhagfuriau gorllewinol bryngaer Penycloddiau. Gwnaed gwaith i atal erydu, ond mae erydiad yn parhau i raddau oherwydd ymwelwyr ac mae crafiadau defaid wrth fynedfa ddeheuol bryngaer Penycloddiau a pheth erydiad a achoswyd gan gerbydau olwynog yn y fynedfa fwyaf gogleddol o'r ddwy fynedfa ddwyreiniol.
Forde-Johnston 1965
Gale 1991
Richards 1969
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|