Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Bro Trefaldwyn
Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
|
Mae dyffryn, neu Fro Trefaldwyn yn gorwedd ar draws ffin Lloegr a Chymru, yng
ngogledd ddwyrain Powys a gorllewin Swydd Amwythig, ac mewn basn naturiol, rhyw
6km ar draws, a ffurfiwyd yng nghymer Afon Hafren ac Afon Camlad. Ac eithrio ar
hyd y terasau a gysylltir a'r afonydd hyn, mae llawr y basn yn donnog, gyda
phegynau bach hwnt ac yma o ddim mwy na 160m uwchben SO, tra bo'r rhimyn, sy'n
diffinio terfynau'r tirwedd hwn, yn codi i dros 300m uwchben SO ar bob ochr.
Amlinellir y rhimyn gan Gefnffordd Ceri i'r de, y Mynydd Hir i'r gogledd
ddwyrain ac ucheldir dwyreiniol Bryniau Maldwyn i'r gorllewin.
Mae'r ardal o fewn yr
amffitheatr naturiol hon sydd yn amgylchynu Trefaldwyn yn cynnig digon o
dystiolaeth o'r frwydr hanesyddol am reolaeth ar diriogaeth a thramwyfeydd sydd
mor nodweddiadol o hanes Cymru. Mae'r tirwedd wedi cadw olion amddiffynfeydd,
ffiniau, aneddiadau a chyfundrefnau caeau o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y
Canol Oesoedd, gan adlewyrchu trai a llanw'r ymrafael am y tir.
Ceir tystiolaeth o aneddu cynnar yng nghaer fynyddig o Oes yr Haearn yn
Ffridd Faldwyn, uwchben ac i'r gorllewin o Drefaldwyn. Mae Cefnffordd Ceri, sydd
yn derfyn deheuol i'r tirwedd, wedi bod yn llinell gyswllt bwysig ers y cyfnod
cynhanesyddol.
Mae'r ymdrechion a fu i geisio cadw rheolaeth ar y boblogaeth frodorol a'r
tramwyfeydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig i'w gweld yn amlwg ym modolaeth dwy
gaer, Forden a Brompton. Mae Caer Forden wedi goroesi fel adeiladwaith cloddiog
sylweddol a amgylchynnir gan olion cnydau sydd yn amlwg o'r awyr, gan ddangos y
bu yno anheddiad perthynol neu vicus. O gwmpas y gaer hefyd cafwyd hyd i nifer o
olion cnydau o amgaeadau wedi'u haredig yn llwyr, yn cynrychioli ffermydd
cynhanesyddol diweddar a Brythonaidd-Rufeinig. Gerllaw y mae Rhyd Whyman, y rhyd
hanesyddol bwysig ar draws yr Afon Hafren.
Un o brif nodweddion y tirwedd yw Clawdd Offa, sydd yn rhedeg yn fras o'r
gogledd i'r de, gan nodi terfyn gorllewinol teyrnas Mercia yn yr 8fed/9fed
ganrifoedd. Mae'r Clawdd wedi'i gadw'n weddol dda yn y rhan hon ac mae i'w weld
yn eglur fel asgwrn cefn llinellol yn croesi llawr y dyffryn, lle mae, am ryw
3km, yn ffurfio'r ffin presennol rhwng Cymru a Lloegr. Mae tirwedd amaethyddol
llawr y dyffryn, sy'n perthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol a'r cyfnod modern yn
bennaf, hefyd yn hynod weledol am ei goed gwrychoedd aeddfed.
Cafodd dylanwad y Normaniaid a chynnydd barwniaid Y Gororau effaith bwysig a
pharhaol ar diroedd y gororau o'r 12fed ganrif ymlaen, ac mae nifer o gestyll
mwnt a beili yn dystiolaeth ddigonol o orthrwm diwylliant estron ar y tirwedd
yma. Mae Hen Domen er enghraifft, yn dilyn cryn dipyn o waith cloddio a wnaed
yno, wedi datgelu tystiolaeth sylweddol am y cyfnod cythryblus hwn. Mae'n debyg
mae hwn yw'r Castrum Muntgumeri a gofnodwyd yn Llyfr Dydd y Farn. Ym 1223,
dechreuwyd gwaith ar adeiladu castell newydd o gerrig ar safle yn edrych dros
fwrdeistref newydd Trefaldwyn. Mae cynllun y dref heb ei newid fawr ddim ers y
dydd y lluniwyd map ohoni gan Speed ym 1610, ac mae darnau o'r amddiffynfeydd yn
dal i'w gweld. Mae'r dref ei hun yn cynnwys enghreifftiau da o bensaernïaeth
Sioraidd (yn arbennig Neuadd y Dre a'r Sgwâr). Yr oedd Trefaldwyn hefyd yn faes
brwydr bwysig adeg y Rhyfel Cartref ym 1644. I'r dwyrain o'r dre y gorwedd Parc
Lymore, sy'n cynnwys enghraifft brin o hwyaden hudo yn un o'r llynnoedd, tra bo
Chirbury ar draws y ffin yn Swydd Amwythig yn cynnwys safle priordy o'r Canol
Oesoedd.
Y Tirwedd Naturiol
Tirweddau Gweinyddol
Tirweddau Anheddiad
Tirweddau Amaethyddol
Tirweddau Pensaernïol
Trafnidiaeth a Chyfathrebu
Tirweddau Diwydiannol
Tirweddau a Amddiffynnwyd
Tirweddau angladdol, eglwysig a chwedlonol
Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg
Ardaloedd cymeriad
1062 Trehelig-gro - ardal cymeriad Trehelig-gro. Bwthyn ffrâm goed o bosib o'r ail ganrif ar bymtheg gyda mewnlenwad o frics wedi ei ychwanegu yn ddiweddarach ar lannau gorllewinol yr afon Hafren ger fferm Dyffryn. Roedd yna fferi a rhyd dros yr afon yn y fan yma hyd nes diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd yn mynd â thraffig drwy gyfres o lonydd rhwng Berriew a Forden. Llun: CPAT 921.18A
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1063 Forden - ardal cymeriad Ffordun yn edrych tua'r gogledd tuag at Kingswood yn y cefndir a Nantcribba Gaer yn y coed i'r dde, gyda Chlawdd Offa yn y golwg i'r dde o'r ffordd yn mynd tuag at Long Mountain yn y cefndir. Arhosodd llawer o'r ardal yn dir comin hyd nes dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan godwyd nifer o randiroedd a bythynnod. Llun: CPAT 83-C-301.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1064 Gunley - ardal cymeriad Gunley, gyda Gunley Hall Jacobeaidd a Sioraidd hwyr yn y blaendir, wedi ei osod mewn parcdir addurnol ar bob ochr i'r ffordd sy'n mynd i lawr i lannau'r Camlad ar y dde eithaf. Mae'r parcdir yn gorwedd ar dir cefnen a rhych sy'n cynrychioli ardal o faes agored âr canoloesol yn nhrefgordd Ackley, efallai o'r ail ganrif ar bymtheg neu'r ddeunawfed ganrif. Mae'r ffordd, sydd nawr yn gwyro o gwmpas y ty, yn gorwedd ar gwrs y ffordd Rufeinig rhwng y gaer Rufeinig Y Gaer a Wroxeter. Llun: CPAT 92-C-680.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1065 Penylan - ardal cymeriad Penylan, yn edrych tua'r dwyrain gyda Fron yn y blaendir a Kingswood yn y pellter canol. Crybwyllir Edderton, sef y fferm a'r neuadd anghysbell tua'r canol dde, am y tro cyntaf yn Llyfr Dydd y Farn o dan yr enw Edritune, gyda thir âr a choetir digonol i besgi 60 o foch. Roedd yn un o nifer o aneddiadau Mersiaidd yn yr ardal, i'r gorllewin o'r Clawdd Offa, a sefydlwyd efallai yn y nawfed neu'r ddegfed ganrif, a fu (er iddo gael ei adfer erbyn yr amser y lluniwyd Llyfr Dydd y Farn yn 1086) heb ddefnydd iddo mae'n debyg o ganlyniad i ryfela gerila cenhedlaeth yn gynt. Llun: CPAT 00-C-029
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1066 Fflos - ardal cymeriad Fflos yn y blaendir, yn edrych tua'r de tuag at seilos grawn modern Winsbury a Dudston yn y cefndir. Goroesodd llawer o'r tir yn ardal cymeriad Fflos fel porfa agored hyd nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llun: CPAT 921.12A
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1067 Marrington Dingle - ardal cymeriad Marrington Dingle, yn edrych tua'r gogledd, gyda Calcot Farm yn y pellter canol a Spy Wood i'r dde. Ffurfiwyd y ceunant ag iddo ochrau serth yn ystod y cyfnod rhewlifol hwyr wrth i ddwr oedd yn cael ei gadw mewn llyn ac yn y Camlad uchaf ddianc tua'r gogledd i mewn i gwm Rea. Rheolwyd y pwer-dwr o'r Camlad o'r cyfnod canoloesol ymlaen ar gyfer cyfres o felinau corn a phandai. Defnyddiwyd ymylon ochrau serth y ceunant fel rhan o'r gwrthglawdd amddiffynnol cynhanesiol hwyrach yn Caerbre a Calcot Farm. Llun: CPAT 00-C-056
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1068 Lymore - ardal cymeriad Lymore, parc tirwedd wedi ei restru yn y Cofrestr Gerddi Hanesyddol, yn edrych tua'r dwyrain, gan ddangos y pyllau artiffisial gan mwyaf yn y blaendir. Crëwyd y Pwll Uchaf, ar y dde, cyn 1785, gyda'r Pwll Isaf a'r Pwll Rhwydo yn cuddio yn y coed ar y dde eithaf wedi cael eu creu rhwng 1786 ac 1828. Mae'r tir parc yn gorchuddio ardal bwysig o gefnen a rhych canoloesol sydd mae'n debyg yn cynrychioli rhan o'r meysydd agored sy'n perthyn i dref Trefaldwyn. Llun: CPAT 00-C-061
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1069 Yr Ystog - ardal cymeriad yr Ystog, yn edrych tua'r gogledd-orllewin ar draws ardal Old Church Stoke, gyda Stone House yn y blaendir. Sefydlwyd nifer o ffermydd a bythynnod yn ardal Old Church Stoke rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, gan ehangu oddi wrth graidd y pentref canoloesol ymhellach i'r de. Llun: CPAT 923.19
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1070 Trefaldwyn - ardal cymeriad Trefaldwyn, gyda golygfa o dref Trefaldwyn o'r de. Llun: CPAT 923.10
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1071 Aldress - ardal cymeriad Aldress, yn edrych tua'r dwyrain, gyda Marrington Dingle coediog yn y blaendir a Lan Fawr a Corndon Hill yn y cefndir. Trefniant afreolaidd ond trefnus o gaeau o faint canolig, yn gyffredinol wedi eu gosod allan ar hyd y gyfuchlin a gyda rhai caeau ar y gorllewin yn llechfeddiannu llethrau isaf Lan Fawr. Llun: CPAT 00-C-032
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1072 Todleth - ardal cymeriad Todleth, yn edrych tua'r gogledd dros gwm Camlad uchaf, gyda Todleth Hill, Roundton a Corndon Hill yn y golwg y naill ar ôl y llall yn y pellter. Llun: CPAT 00-C-035
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1073 Hyssington - ardal cymeriad Hyssington, o'r gogledd, gyda Woodgate Farm yn y blaendir a phentref Hyssington gyda'i eglwys ganoloesol gysylltiedig a chastell mwnt a beili yn y pellter canol. Mae'r bryn isel yn y blaendir wedi ei lunio o fewnwthiad igneaidd o bicrit a gafodd ei gloddio yn yr Oes Efydd cynnar ar gyfer cynhyrchu bwyeill?rhyfel a bwyell forthwylion. Llun: CPAT 00-C-037
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1074 Chirbury - ardal cymeriad Chirbury, yn dangos pentref Chirbury o edrych o'r gorllewin. Sefydlwyd "burh" amddiffynnol yn Chirbury yn 915, yn ystod y rhyfeloedd Danaidd. Yn dilyn hynny, daeth yn brif faenor cant Dydd y Farn Witentre ac yn safle priordy Awstinaidd. Mae gweddillion helaeth o gefnen a rhych yn cynrychioli amaethiad âr maes agored yn goroesi yn y caeau ar bob ochr i'r pentref. Llun: CPAT 00-C-030
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1075 Gwern-y-go - ardal cymeriad Gwern-y-go, yn edrych tua'r dwyrain, gyda Pentrehyling yn y blaendir a'r Ystog yn y cefndir a llinell Clawdd Offa yn torri ar draws y tirwedd o'r chwith i'r dde. Dynodwyd caer Rufeinig Pentrehyling gyntaf drwy ragarchwiliad awyrol yn y 1960au hwyr yn y caeau ychydig y tu draw i'r fferm. Mae'r gaer wedi ei haredig yn drylwyr dros lawer o flynyddoedd a bellach nid yw ei hamddiffynfeydd yn weledol fel safle gwrthglawdd. Llun: CPAT 00-C-062
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1076 Weston Madoc - ardal cymeriad Weston Madoc, yn dangos ardal nodedig o dyddynnod cyngor sir yn yr ardal rhwng Pen-y-bryn Hall a Great Weston Farm, a sefydlwyd rhwng y ddau Ryfel Byd. Ymrannwyd nifer o gaeau mwy yn yr ardal, i ganiatáu ar gyfer dal tiroedd llai. Llun: CPAT 923.13
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1077 Pantglas - ardal cymeriad Pantglas yn edrych tua'r dwyrain, gydag Upper Castlewright yn y blaendir a Bishop's Castle yn y pellter. Mae Kerry Ridgeway, a adwaenir yn Gymraeg fel Yr Hen Ffordd, yn rhedeg ar hyd crib y bryn ac yma y dynodir y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Credir bod y gefnffordd wedi creu rhan o ffordd bwysig i mewn i ganol Cymru o'r oesoedd cynnar ac ymddengys hefyd i fod yn un o ffyrdd y porthmyn y cludwyd gwartheg a fagwyd yng Nghymru i farchnadoedd yn nhrefi Lloegr. Llun: CPAT 00-C-069
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1078 Cwm - ardal cymeriad Cwm, gyda'r Pentrenant Hall o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y chwith ac yn edrych tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Caeliber Isaf. Llun: CPAT 923.24
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1079 Ffridd Faldwyn - ardal cymeriad Ffridd Faldwyn yn edrych tua'r de?ddwyrain gyda'r fryngaer gynhanesiol ddiweddarach Ffridd Faldwyn wedi ei amgylchynu yn rhannol gan goed yn y pellter canol a thref Trefaldwyn y tu hwnt. Mae'n bosib bod y caeau mwy petryalog ar ochr bella'r fryngaer, gyda gwrychoedd aeddfed aml-rywogaeth, yn cynrychioli tir caeëdig ail ganrif ar bymtheg neu'r ddeunawfed ganrif a fu gynt yn uwchdir pori agored yn perthyn i'r bwrdeistref canoloesol. Llun: CPAT 00-C-017
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1080 Wernddu - ardal cymeriad Wernddu yn edrych tua'r dwyrain gyda'r ffermdy ail ganrif ar bymtheg o ffrâm goed yn The Lack yn y blaendir a Todleth Hill yn y cefndir. Mae Lack yn un o'r aneddiadau cynnar yn yr ardal sydd wedi ei gofnodi yn Llyfr Dydd y Farn a gasglwyd ynghyd yn 1086 ac a oedd bryd hynny mae'n debyg, ym meddiant yr offeiriad Godbold, un o glerigwyr dysgedig teulu Roger o Drefaldwyn. Llun: CPAT 923.14
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|