CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau Gweinyddol

Credir bod yr ardal tirwedd hanesyddol yn rhan o diriogaeth y Cornovii, llwyth cyn-Rufeinig, a sefydlwyd ei phrifddinas yn Wroxeter ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae'r ffaith bod y gaer Rufeinig a elwir The Gaer, ger Ffordun yn dal i gael ei defnyddio tan y 4edd ganrif, yn awgrymu bod llawer o'r ardal, fel Cymru, yn dal i gael ei weinyddu gan y fyddin Rufeinig tan y cyfnod Rhufeinig hwyr, yn wahanol i'r ardaloedd pellach i'r dwyrain lle roedd gweinyddiad sifilaidd wedi ei sefydlu yn y brifddinas frodorol erbyn diwedd i ganrif 1af.

Ni wyddys sut y sefydlwyd teyrnas Brydeinig Powys, ond mae'n amlwg iddi fod yn ehangach ar un adeg. Mae ffynonelau o ganol y 9fed ganrif, efallai, yn adlewyrchu atgofion o'r adeg pan oedd ei thiriogaeth yn ymestyn at yr afon Tern yn Wroxeter yn y dyddiau cyn iddo ddod yn rhan o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia. Erbyn canol y 7fed ganrifroedd ffiniau Mersia yn ymestyn tuag at ffiniau gorllewinol Sir Amwythig heddiw, efallai drwy broses o gyghreirio a chytuno yn htrach na brwydro. Erbyn diwedd yr 8fed ganrif, diffiniwyd ffin orllewinol y deyrnas gan y clawdd a godwyd, unwaith eto efalai drwy gytundeb, cyn marw'r Brenin Offa yn 796. Yn ystod y 9fed a'r 10fed ganrif, efallai, sefydlwyd aneddiadau Mersaidd i'r gorllewin o'r clawdd, gan gymryd tir Mersaidd i'r dwyrain o'r Hafren yn yr ardal rhwng Trefaldwyn a Ffordun a rheoli'r rhydau yn y fan hon. Bu'r cynghreiriau rhwng y ternasoedd Cymreig a Seisnig yn ansefydlog yn ystod y cyfnod hwn a cheid cyfnodau o gynorthwyo a chydweithredu bob yn ail â chyfnodau o ymosod ac ymladd. Mae'r debyg mai cyfnod o ansefydlogrwydd rhwng Gruffudd ap Llywelyn o Wynedd a Mersia yn gynnar yn y 1040au a barodd i sawl dwsin o aneddiadau Mersaidd o bobtu'r clawdd gael eu gadael ledled bron y cyfan o ardal Bro Trefaldwyn rywbryd cyn y Goresgyniad Normanaidd yn 1066.

Adeg llunio Llyfr Domesday yn 1086 roed y ffiniau rhwng tiroedd y Ctmry a'r Saeson yn dal yn ansefydlog, ac yn ystod y blynyddoedd ar ôl 1070 roedd yr Iarll Normanaidd Roger o Drefaldwyn wrthi'n adennill y tiroedd Seisnig a gollwyd yn ystod teyrnasiad Edward Gyffeswr. Rhoddwyd Iarllaeth Sir Amwythig i Roger a gweithredodd agawdurdod brenhinol yn yr ardal hanner annibynnol hon yn y gororau, prototeip o'r arglwyddiaeth a ddaeth yn sefydlog yn y gororau ymhen amser, a chododd gestyll yn Amwythig a Threfaldwyn. Sefydlodd ef Roger Corbet yng nghaol y tir ffiniol, a symundodd i Gymru hefyd, gan gymryd Arwystli, Ceri a Chydewain a thynnu llawer o incwm o ran amhenodol o Gymru.

Adeg Domesday, roedd yr ardal yn rhan o gantref Witentreu a rychwantai ffin fodern Powys (Sir Drefaldwyn) a Sir Amwythig, a Chirbury oedd y prif faenor. Mae enw'r cantref wedi goroesi ym mhentreflan Wittery a Wittery Bridge ychydig i'r dwyrain o Chirbury. Ac eithrio'r Ystog, roedd ardal tirwedd hanesyddol Bro Trefaldwyn yn LLyfr Domesday fel rhan o gastellyddiaeth Trefaldwyn ac felly nid oedd yn gfan gwbl yn Sir Amwythig. Bu farw'r Iarll Roger ym 1094, ac yn dilyn gwrthryfel ei fab daeth ei dir i ddwylo Harri I. Diflannodd iarllaeth Amwythig a daeth Sir Amythig yn sir frenhinol. Collwyd yr enillion Normanaidd cynharach yng Nghydewain a lleihawyd cantref Domesday Witentreu a daeth yn gantref Chirbury, a enwyd ar ôl y maenor brenhinol, a rhannwyd yr hanner gorllewinol rhwng arglwyddiaethau Trefaldwyn, a roddwyd i Baldwin de Boulers gan Harri I, a daeth Halcetor ac Upper Gorddwr yn ddibynnol ar y Corbetiaid, arglwyddi Caus.

O 1102 ffurfiai'r ytadau a gysylltid gynt â Threfaldwyn arglwyddiaeth fechan Trefaldwyn, a roddwyd i Baldwin de Boulers gyda'i chanolfan yn Nhrefaldwyn, a etifeddwyd drwy ddilyniant yn ystod y rhan fwyaf o'r 12fed ganrif, cyfnod o ansefydlogrwydd di-baid a chynghreiriau byrhoedlog ar hyd ffin Cymru. Er mwyn manteisio ar wrthdaro rhwng Powys a Gwynedd, rhoddodd y Brenin John arglwyddiaeth Trefaldwyn i Wenwynwyn, tywysog Powys. Disodlwyd Gwenwynwyn yn fuan gan Lywelyn ap Iorwerth o Wwynedd yr oedd wedi torri cynghrair ag ef ym 1216, y flwyddyn y daeth Harri III i'r orsedd. Gyda chaniatâd y brenin newydd, cadwodd Llywelyn ei afael ar Bowys ac arglwyddiaeth Trefaldwyn tan 1223, pan ddechreuodd ymladd rhwng Llywelyn a'r arglwyddi Seisnig cyfagos. Ar unwaith dechreuwyd codi castell cerrig brenhinol newydd yn Nhrefaldwyn, a cadwyd yr arglwyddiaeth gan y goron. pennwyd Clawdd Offa fel y ffin rhwng cantref Chirbury ac arglwyddiaeth Trefaldwyn ym 1233.

Adeg y deddf Uno ym 1536 roedd arglwyddiaethau Gorddwr, Trefaldwyn, Halcetor, King's Teirtref, Bishop's Teirtref, Ceri a Hopton, a ddyrannwyd i Sir Drefaldwyn, ac arglwyddiaeth Chirbury a ddyrannwyd drwy Ddeddf i Sir Amwythig, ym meddiant y goron.