CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddo

Bro Trefaldwyn: Forden
Ffordun, Powys
(HLCA 1063)


CPAT PHOTO 83-C-301

Tirwedd o dir comin a gaewyd at ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, ffermydd a rhandiroedd bychain ar hyd y ffordd dyrpeg ac o bobtu Clawdd Offa, a osodwyd ar ben anheddiad o'r canoloesoedd neu'r canoloesoedd cynnar gyda chapel o'r canoloesoedd.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyf eglwysig Ffordun o'r 19eg ganrif a orweddai gynt yn esgobaeth Henffordd ond bellach mae yn esgobaeth Llanelwy, ac yn wreiddiol roedd yngapelyddiaeth ddibynnol o fewn plwyf mwy yn perthyn i Eglwys St Michael, Chirbury. Crewyd plwyf eglwysig newydd Ffordun ar ôl y Diddymiad pan gaewyd y priordy yn Chirbury.

Mae plwyf Ffordun ar bwys Clawdd Offa, a godwyd yn hwyr yn yr 8fed ganrif. Cofnodir yr anheddiad yn Furtune am y tro cyntaf yn Llyfr Domesday Book yn 1086, ac roedd hyd at 60 acer (1/2 hide). Ymddengys ei bod yn un o nifer o drefgorddau ym Mro Trefaldwyn a sefydlwyd i ddechrau gan bobl Mersia, ar ôl codi Clawdd Offa mae'n debyg, yn y 9fed a'r 10fed ganrif, ac fe'i gadawyd yn ystod y 1040au, cyn y Gongwset Normanaidd, ond a ailsefydlwyd erbyn 1086. Mae enw'r anheddiad yn dod o'r Hen Saesneg ford 'rhyd' a tun 'anheddiad', un ai oherwyd yr hen ryd dros Hafren yn Rhydwhiman ym mhen deheuol y plwyf eglwysig neu'r man croesi ar yr ochr orllewinol rhwng Dyffryn a Lower Munlyn. Mae'n debyg bod capel wedi ei sefydlu un Ffordun tua dechrau'r 14eg ganrif, ond nis crybwyllir yn rhestr trethu'r eglwysi yn 1291.

Bu newidiadau mawr i'r tirwedd yn yr ardal cymeriad ar ddiwedd y 18fed ganrif ac y ystod y 19eg ganrif, pan godwyd ffordd dyrpeg Trefaldwyn-Trallwng (B4388/A490) ar draws yr ardal at ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd darn helaeth o'r ardal, a gaewyd gan ddyfarniadau yn 1803, yn rhodtir neu gomin gwyllt oed heb ei gau gan ymestyn o'r Gaer ar hyd y ffordd i Gilcewydd, a disgrifir Upper Munlyn, er enghraifft, fel man agored a gwyllt. Pan gaewyd y tir, 'codwyd nifer fawr o gytiau'n sydyn fel bod gan eu hadeiladwyr hawl iddynt', ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr ardal yn dioddef oddi wrth ddiboblogi wrth i blant y ffermwyr a'r llafurwyr gychwyn am y trefi mawr.

Codwyd yr adeilad briciau coch a elwir yn 'House of Industry' y Pool-Montgomery Union (Bryn Hyfryd Hospitable gynt) sydd yn amlwg iawn ym mhen deheuol yr ardal ym 1793-95 gan naw plwyf a chwe threfgordd yn Sir Drefaldwyn a Sir Amythig gerllaw gyda'r nod o ysgafnhau'r baich trwm o fwydo'r tlodion. Dymchwelwyd yr hen eglwys ganoloeol a chodwyd eglwys newydd ychydih i'r gogledd a'i chysegru i St Michael ym 1867. Tan 1818 claddwyd pawb a fu farw yn y gweithdy yn yr eglwys, ond oherwydd bod cynifer o farwolaethau bryd hynny a'r pwysau mawr ay y plwyf cysegrwyd mynwent newydd gyda beddau heb nod yn ymyl y gweithdy ac stynnwyd hi ymhellach ym 1881. Yn ei hanterth, ym 1817, roedd hyd at 500 o drigolion gwledig tlawd Sir Drefaldwyn yn byw yn y gweithdy. Ei arwyddair oedd 'Religion and Industry, Produce and Happiness' ac roedd yno le i offer ar gyfer amrywiaeth o fasnachoedd gan gynnwys gwyddiau i gynhyrchu lliain, gweithdai i wneud dillad ac esgidiau, fferm a melin rawn (Gaer Mill, ardal cymeriad Penylan).

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tirwedd gweddol wastad a thonnog rhwng uchteri ryw 80-150m uwchben y môr. Sialau Silwraidd yw'r ddaeareg oddi tanodd, gyda chlai clogfaen â cherrig crynion. Ceir pridd mân siltiog sydd dan ddwr yn dymhorol.

Ychydig o dystilaeth a geir am ffurf yr anheddiadau a ddatblygodd yn ystod y cyfnod canol cynnar a'r cyfnod canol, a hynny o gwmpas yr eglwys ganoloesol efallai. Roedd dau ganolbwynt wedi ymffurfio erbyn y 19eg ganrif fan hwyraf, y naill o gwmpas yr eglwys a'r llall o gwmpas y Cock Inn, lle mae'r ffordd yn troi tua'r gogledd am Dre'r Llai. Mae'r cyfadeilad o gwmpas yr eglwys Fictoraidd yn cynnwys ysgol o friciau a godwyd ym 1842, ficerdy Fictoraidd o friciau, bythynnod o friciau a gdwyd yn hwyr yn y 18fed/dechrau'r 19eg ganrif gydga olion ffrâm bren o'r 18fed ganrif, gyda thai a byngalos modern, neuadd gymunedol fodern, meysydd chwarae. Mae' cyfadeilad o gwmpas y Cock Inn yn cynnwys y dafarn fawr a godwyd o friciau at ddiwedd y 18fed ganrif, bythynnod cerrig a briciau o ddiwedd y 18fed/dechrau'r 19eg ganrif, ysgubor wair deulawr o friciau, capel cerrig o ddiwedd y 19eg ganrif neuadd haearn gwrymiog a dwy garej fodern, ac ambell adeilad cymharach gan gynnwys bwthyn ffrâm bren o'r 16eg ganrif. Ceir datblygiad preswyl datblygol ymhellach i'r gogled yn Kingswood. Yn y wlad rhwng ac o gwmpas y ddau ganolbwynt ceir fermydd a manddaliadaethau bychain o fewn rhyw 400-500m i'w gilydd fel arfer, ac mae gan nifer ohonynt ffermdy briciau o ddiwedd y 19eg/20fed-ganrif fel yn Church Farm a Farchwel Newydd, ond ceir olion achlysurol o fframiau pren o'r 18fed ganrif. Ceir adeiladau allanol bychain o'r 19eg/20fed-ganrif a wnaed o friciau gydag estyll tywydd, ysguborau ffrâm fetel a chytiau Nissen ac ambell adeilad allanol mawr â ffrâm fetel fodern.

Ceir caeau hirsgwar cymharol fach â gwrychoedd un-rhywogaeth, y ddraenen wen gan amlaf, a lle gosodwyd gwrychoedd gynt, a dorrwyd yn isel bellach, a rhai isddosbarthiadau gyda physt a gwifren, a osodwyd allan mewn perthynas a'r ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif gan amlaf. Ceir coed helyg mwy yn dilyn cyrsiau dwr. Mae'r patrwm caeau a welir ar fap y degwm o gaol y 19eg ganrif yn dal i fodoli ond collwyd rhai o'r terfynau.

Ffynonellau cyhoeddedig

Barton 1999
Ellis 1935
Fox 1955
Haslam 1979
Humphreys 1996
Pryce 1898
Soil Survey 1983
Thorn & Thorn 1986
Vize 1882a; 1882b; 1883; 1884

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.