Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Bro Trefaldwyn:
Weston Madoc
Trefaldwyn, Yr Ystog a Cheri, Powys a Brompton a Rhiston, Sir Amwythig
(HLCA 1076)
Tirwedd tonnog gyda chaeau canolig eu maint, ffermydd wedi eu gwasgaru'n eang ac yn deillio o'r canooesoedd neu'r canoloesoedd cynnar, peth cau tir cymharol hwyr, a chanobwyntio môn-ddaliadaethau cyngor sir.
Cefndir hanesyddol
Roedd yr ardal cymeriad ar ffiniau tri phlwyd canoloesol - Trefaldwyn, Ceri a'r Ystog ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a Chlawdd Offa oedd rhan o'i ffin. Mae'r ardal yn cynnwys rhannau o drefgorddau Weston Madoc a Brompton ym mhlwyf eglwysig yr Ystog (mae Weston Madoc yn y gyfran Gymreig a Brompton yn y gyfran Seisnig), ac yn rhannol ofewn trefgordd Caeliber Issa ym mhlwyf Ceri, Sir Drefaldwyn. Weston Madoc (Westune) yw un o'r aneddiadau i'r gorllewin o Glawdd Offa a restrir yn Llyfr Domesday Book 1086 fel diffeithdir adeg y Goncwest, ond a oedd wedi ei adfer erbyn hynny. Roedd yno tua 360 acer (3 hid). Yn debyg i aneddiadau bychain eraill ym Mro Trefaldwyn, mae'n bosibl mae mewnfudwyr Mersaidd a'i sefydlodd yn y 9fed/10fed ganrif, ac mae'n ymddangos i bobl ymadael oherwydd gwrthdaro ar hyd y ffin tua 1040. Ni wyddys dim am y Madoc y cysylltwyd ei enw â'r enw Weston yn ystod yr 16eg gabrif,er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â'r manau eraill o'r enw Weston yn y cyffiniau. Fe'i gelwid weithiau yn Great Weston ac, yn Gymraeg, Gwestun Fawr.
Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol
Tir tonnog ac isel gan mwyaf ar ochr orllewinol Bro Trefaldwyn rhwng uchder o tua 140-275m uwch lefel y môr, gan godi ar yr ochr orllewinol i lethrau sy'n wynebu'r dwyrain a'r de-ddwyrain ac i'r ucheldir i'r de-orlleiwn o Drefaldwyn. Mae'r ddaearg oddi tani'n cynnwys sialiau Silwraidd. Priddoedd da eu traeniad, gyda lôm a silt, a geir yn ochr orllewinol yr ardal a phriddoedd siltig a chleiog mân sydd dan ddwr yn dymhorol a geir yn y rhannau isyn y dwyrain. Mae darn o goetir hanner naturiol, hynafol wedi goroesi i'r dwyrain o Cockshutt.
Gwelir dau batrwm anheddu gwahanol yn y tirwedd heddiw. Yn gyntaf, ceir ffermydd canolig neu fawr a gwasgaredig, gyda hyd at 1km rhyngddynt, a rhai ohonynt yn eu caeaueu hunain ac eraill ar y ffyrdd cyhoeddus, ac mae'n debyg bod gwreiddiau llawer oghonynt yn y cyfnod cnaol. Yn ail, ceir tirwedd pendant a ffurfir gan gnewyllyn o fôn-ddaliadaethau'r cyngor sir o ddechrau'r 20fed ganrif ar dir a gaewyd yn ddiweddar at ochr ddwyreiniol yr ardal, rhwng Great Weston Farm a Little Brompton. Ceir aneddiadau gadawedig ar ymyl y tir uwch i'r gorllewin, a oedd yn bodli erbyn diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau hynaf yn rhai ffrâm bren, gan gynnwys ffermdy mawr Cwm Bromley dyddiedig 1633, y ty ffrâm bren o ddiwedd yr 17eg ganrif efallai yn Great Weston, a'r tai ffrâm bren o'r 18fed ganrif yn Stone House a Cockshutt, a bythynnod cerrig gyda ffrâm bren ar ochr y ffordd i'r gogledd o Cockshutt. Mae dwy ysgubor ffrâm bren o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau'r 18fed, gydag estyll tywydd neu gladin haearm gwrymog, wedi goroesi ger Little Brompton. Mae ffermdai diweddarach o'r 18fed/19eg ganrif wedi eu codi o friciau, gan gynnwys Fairfield, East Penylan, y newidiadau yn Great Weston, a'r ffermdy a rendrwyd yn Weston Hill, gydag olion adeiladau cerrig cynharach mewn rhai achosion a gynrychiolir gan sylfeini cynharach neu adeiladau dadfeiliedig neu gan gonglfeini cynharach. Fodd bynnag, codwyd y ffermdy o ddechrau'r 19eg ganrif yn Llwynobin o friciau a cherrig. Ceir adeiladau allanol gydag estyll tywydd yn Stone House, ond ychydig o adeiladau fferm cynhenid eraill sydd wedi goroesi, ac ymhlith yr adeiladau presennol ceir adeiladau allanol mewn briciau o'r 19eg/20fed ganrif yn Fairfield, Great Weston, a Chwm Bromley, a Cockshutt, ar y cyd ag adeiladau ffrâm ddur o'r 20fed ganrif, sydd yn gyffredin. Mae'r mân-ddaliadaethau o eiddo'r cyngor sir o ddechrau'r 20fed ganrif, sydd i'w gweld i'r dwyrain o Great Weston Farm, yn grwp unffurf a gwahanol ac mae ganddynt ffermdai briciau gyda thriniadau cerrig, ysguboriau bach, adeiladau allanol gyda haearn gwrymog, a buarthau concrid.
Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw, ond gweithir tir âr hefyd. Mae'n debyg bod y caeau afreolaidd a phumochrog yn y rhannau craidd wedi eu cau'n raddol yn ystod proses o ehangu ffermydd unigol yn ystod y canoloesoedd, ond arhosodd darnau cymharol faith o dir pori llethrog ar ochr orllewinol yr ardal, a thir âr is yn y dwyrain gyda therfynau mwy afreolaidd, heb eu cau tan yn gymharol ddiweddar. Roedd nifer o ddarnau o dir ger New House, Stone House, Fairfield a rhwng Great Weston Farm a Little Brompton yn destun dyfarniadau cau tir ym 1803 ac 1805. Dangosir darn o dir i'r gorllewin o'r Blanfa fel alotment diweddar yn nyraniadau degwm trefgordd Weston Madoc. fel a nodwyd uchod, daeth y tir a oedd wedi ei gau yn ddiweddar rhwng Great Weston a Little Brompton i feddiant nifer o fân-ddeiliaid y cyngor sir a oedd yn canolbwyntio mae'n debyg was subsequently occupied by a number of county council smallholdings which probably focused on ar gynhyrchu llaeth ar raddfa fechan. Cadwyd terfynau'r caeau pan sefydlwyd y mân-ddaliadaethau, ond yn groes i'r duedd arferol is-rannwyd rhai caeau y yr yardal hon yn unedau bach. Mae'r rhan fwyaf o'r terfynau'n cynnwys gwrychoedd amlrywogaeth gan gynnwys collen, sycamorwydden a chelynnen. Maent wedi eu torri yn isel gan amlaf, a cheir rhywfaint o osod gwrychoedd yn draddodiadol, anifer o wrychoedd sylweddol ar ymyl y ffordd. Mae nifer o goed erw aeddfed yn dangos hen derfynau caeau sydd bellach wedi diflannu. Ceir planigfeydd conifferaidd bach a darnau bach o goetir hanner naturiol, collddail ar y llethrau serthach ar hyd dyffrynnoedd y nentydd.
Ceir ffyrdd a lonydd troellog, rhai'n rhedeg mewn ceyffyrdd amlwg hyd at 2m mewn dyfnder, a ymffurfiodd cyn dyfodiad tarmacadam a thraeniau ffordd, ac mae'n deyg eu bod yn hen iawn. Gwnaed gwelliannau tyrpeg yn hwyr y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, fodd bynnag, ac yn perthyn i'r cyfnod hwn mae Toll Cottage ar y B4385 rhwng Trefaldwyn a Brompton, i'r de o Lwynobin a'r garreg filltir o ddechrau neu ganol y 19eg ganrif ar y B4385 i'r de-orllewin o The Ditches.
Cynrychilit diwydiannau cloddio gan nifer o chwareli cerrig bach ar ymyl y bryniau ar ochr orllewinol yr ardal ac ar ochr y ffordd rhwng Sarn a'r Ystog (A 489) y rhoddwyd y gorau iddynt i bob golwg erbyn diwedd y 19eg ganrif.
Charles 1938
Earp & Haines 1971
Eyton 1854-60
Gelling 1992
Mountford 1928
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Thorn & Thorn 1986
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|