CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Aldress
Yr Ystog, Powys a Chirbury, Sir Amwythig
(HLCA 1071)


CPAT PHOTO 00-C-032

Ffermydd canolig wedi eu gwasgaru mewn tirwedd trefnus gyda chaeau afreolaidd ar lethrau, a osodwyd allan iddilyn y gyfuchlin gyda chaeadleoedd diweddarach ar yr ymylon uwch.

Cefndir hanesyddol

Roedd rhan ogleddo yr ardal cymeriad yn nhrefgordd Priest Weston ym mhlwyf eglwysig Chirbury, Sir Amwythig. Roedd y pen deheuol yn nhrefgordd a phlwyf Yr Ystog, Sir Drefaldwyn. Dangosir gweithgarwch cynhanesyddol cynnar yn yr ardal gan nifer o garneddau claddu o'r Oes Efydd ar dir uwch i'r dwyrain. Cofnodir anediadau yn Priest Weston (Westune) a'r Ystog (Cirestoc) yn Llyfr Domesday yn 1086. O'r chwe phlasty yn Priest Weston dywedir bod pedwar wedi eu distrywio adeg y goncwest yn 1066, oherwydd y brwydro rhwng y Saeson a'r Cymry mae'n debyg. Roedd y rhan fwyaf o'r tir isel wedi ei gau erbyn blynyddoed cynnar y 19eg ganrif fan hwyraf, ac ychydig o newid a welir ym mhatrwm y caeau heddiw ers canol 1 19eg ganrif o leiaf. Roedd tir uwch ar Lan Fawr ym mhlwyf yr Ystog yn dal yn dir comin heb ei gau adeg y Degwm, a rhestrwyd darnau o dir uwch ychydig i'r gogledd o Priest Weston hefyd fel 'Old Enclosure' yn y Degwm.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tir amaethyddol llethrog yn edrych tua'r gorllewin, mewn 'dyddfryn' cymharol ddiarffordd rhwng Priest Weston a'r Ystog, gyda Marrington Dingle yn cau amdano yn y gorllewin, ac yn ymestyn ar lethrau gorllewinol y tir uwch ar Lan Fawr yn y dwyrain, ac a dorrir gan nifer o nentydd yn rhedeg o'r ucheldir i'r dwyrain i ymuno â'r Gamlad. Mae'r rhan fwyaf o'r tir is rhwng 160-220m uwch lefel y môr, ac mae'r tir uwch ar yr ochr ddwyreiniol yn cyrraedd tua 400m uwch lefel y môr. Mae'r ddaeareg solet oddi tani'n gymharol amrywiol. Yn y tir isel ar ochr orllewinol yr ardal cymeriad ceir bandiau gogledd-de o gerrig llaid, sialiau a graean a thywodfaen calchog Ordofigaidd, gyda nifer o haenau o dyffau folcanig. Ffurfir y tir uchel ar Lan Fawr o andesitau a doleritau ymwthiol igneaidd. Ceir priddoedd siltiog mân, cleiog a lomig mân, sydd weithiau'n llawn dwr yn dymhorol.

Ar wahân i bentreflan Priest Weston, mae'r anheddu wedi ei gyfyngu'n bennaf i ffermydd bach a chanolig sydd ar wasgar gyda rhyw 600-700m rhyngddynt. Mae rhai ohonynt yn eu caeau eu hunain ac eraill ar y ffyrdd cyhoeddus. Gwelir cyfnod cynharach o adeiladau yn y ffermdy ffrâm bren a'r bwthyn o'r 16/17eg ganrif yn fferm Cwmdulla. Mae adeiladau cerrig yn gyffredin mewm mannau eraill, gyda bythynnod, tai, ysguboriau a ffermdai cerrig sych o'r 17eg ganrif hwyr i'r 19eg ganrif ym mhentreflan Priest Weston, y mae nifer ohonynt fel yr hen Swyddfa Bost a'r hen efail wedi cael eu defnydio mewn gwahanol ffyrdd. Ceir adeiladau domestig o bren, efallai o'r 15egganrif neu'n gynnar yn y 16eg ganrif fel y Tin House a'r Old Smithy, a ailadeiladwyd yn rhannol neu a gaewyd â cherrig neu friciau, ac mae'n debyg bod gan yr Old Smithy neuadd agored y gosodwyd llawr drosti yn ystod yr 17eg ganrif. Mae gan nifer o'r ffermydd yn y wald o gwmpas ffermdy o'r 18fed ganrif mewn cerrig heb eu cwrsio, ac mae gan rai ohonynt estyniadau briciau o'r 19eg ganrif fel Brook House, Upper Aldress a Lower Aldress, ar y cyd ag adeiladau allanol o gerrig a briciau o'r 18fed/19eg ganrif ac adeiladau ffrâm ddur o'r 29fed ganrif. Unwaith eto, fodd bynnag, mae nifer o adeiladau ffrâm bren hynach byth, o ganol neu ddiweddy 17eg ganrif, fel yn achos yr ysgubor a'r beudy ag estyll tywydd yn Lower Aldress ac ysgubor yn Kingswood Farm, ac mae gan rai ohonynt arwisg haearm gwrymiog a thalcenni o gerrig heb eu cwrsio.

Caeau canolig ac afreolaidd Iond trefnus, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori hediw gyda thir pori garw ar lethrau'r Lan Fawr. Fel arfer mae terfynau'r caeau wedi eu trefnu ar hyd y gyfuchlin ac mae rhai o'r caeau yn y gorllewin yn ymestyn i lethrau isaf y Lan Fawr. Ceir gwrychoedd amlrhywogaeth, rhai wdi tyfu allan ac wedi eu disodli gan ffensiau pyst a gwifren, a cheir coed derw aeddfed ar wasgar. Ceir linsiedi yma ac acw a hen bonciau caeau yn dangos lle cyfunwyd caeau llai, a cheir carneddau clirio ar y Lan Fawr. Ceir ffyrdd cyhoeddus a llwybrau llydan hen, a'r rheiny fel arfer yn dilyn y gyfuchlin, mewn perthynas â thefynau'r caeau. Mae'r ardal ar ymylon yr ardaloedd mwyngloddio yn ne Sir Amwythig, ond mae olion gweladwy o lefelau prawf ger Upper Aldress ar ochr orllewinol y Lan Fawr ac olion nifer o chwareli bach ar gyfer cerrig adeiladu ger Kingswood a Hagley nad oeddynt yn cael eu defnyddio pan fapiwyd hwy gan Arolwg yr Ordnans ddiwedd y 19eg ganrif.

Ffynonellau cyhoeddedig

Earp & Haines 1971
Soil Survey 1983
Thorn & Thorn 1986
Toghill 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.