Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Bro Trefaldwyn:
Todleth
Yr Ystog, Powys
(HLCA 1072)
Pennau bryniau creigiog, diarffordd a bach, sy'n bwysig fel tirnodau lleol, gyda chaeadleoedd amddiffynnol cynhanesyddol hwyr a chaeau ôl-ganoloesol ar y llethrau isaf.
Cefndir hanesyddol
Yn ystod y 19eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau Hurdley a'r Ystog ym mhlwyg Yr Ystog yn Sir Drefaldwyn. Mae'r enw Todleth, a gofnodwyd gyntaf yn gynnar yn y 13eg ganrif, efallai yn dod o'r Hen Saesneg tod 'llwynog' a lith 'llethr'.
Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol
Bryniau serth, diarffordd ac amlwg gydg allfrigiau creigiog a marianau eang, rhwng 150-370m uwchben lefel y môr, gyda chopa uwch Roundton i'r gogledd a Todleth Hill, sydd ychydig yn is, i'r de, ac mae lawer o'r ardal bellach yng ngwarchodfa natur Roundton. Mae'r ddaeareg solet yn cynnwys yn bennaf andesitau a doleritau ymwthiol sy'n cynnwys tyffau bras a lafâu o fewn y dilyniant o sialiau Ordofigaidd. Priddoedd podsolig brown â lôm sydd wedi eu traeno'n dda. Y defnydd pennaf a wneir o'r tir heddiw yw fel tir pori garw a cheir rhedyn ac eithin a choed a phrysgwydd gwasgarog ar y llethrau uchaf, a thir pori a wellwyd ar y llethrau isaf. Ceir gwrychoedd un rhywogaeth, rhai ohonynt wedi gordyfu, gyda ffensiau pyst a gwifren ac ambell wal gerrig rhwng caeau. Yn gynnar yn y 19eg ganrif, roedd bron y cyfan o'r ardal yn gomin oedd heb ei gau ac eithrio nifer o lechfeddianiadau diarffordd a gwahanedig sy'n dyddio mae'r debyg o ddiwed y 18fed/dechrau'r 19eg ganrif. Terfynau pysta gwifren yw'r rhai modern bron i gyd.
Ceir llwybrau troed a llwybrau llydan, yn dilyn y gyfuchlin, rhwng anediadau i bobtu'r tir bryniog. Gwelir olion hen chwareli barytes a lefelau prawf ar lethrau deheuol Roundton. Ar gopa serth a chreigiog Roundton Hill mae bryngaer gynhanesyddol hwyr rhwng 100-160m ar draws, gydag un rhagfur dan ben y bryn, 1-2m mewn uchter ac yn defnyddio'r crieigau naturiol mewn manau, gydag un fynedfa a gyrhaeddir arhyd llwybr llydan sy'n dringo o'r gogledd-ddwyrain. Ar ysgwydd y bryn rhwng Todleth Hill a Roundton Hill mae caeadle amddiffynnol bach o elwir Castle Ring, ac mae hwn hefyd yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hwyr o bosibl. Mae ar ymyl gorllewinol dyffryn ag ochrau serth sydd yn disgyn tua Hurdley, a cheir olion poncyna ffos sydd wedi eu haredig droeon ar yr ochrau deheuol a gorllewinol. Mae olion cloddfeydd barytes bychain o'r 19eg ganrif ar ochr orllewinol Roundton, gan gynnwys tomenni gwastraff a mynedfeydd.
Charles 1938
Ellis 1935
Jenkinson 1997
Toghill 1990
Soil Survey 1983
Spurgeon 1965-66
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|