Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Bro Trefaldwyn:
Fflos
Forden and Montgomery, Powys and Chirbury, Shropshire
(HLCA 1066)
Tir pori comin a gaewyd yn hwyr mewn tir gwastad yn rhannau isaf dyffryn Camlad, ar ben gorllewinol hen ffordd rhwng gwastatir Sir Amwythig a chanolbarth Cymru a groesai Hafren wrth y rhyd hanesyddol o'r enw Rhydwhiman.
Cefndir hanesyddol
Mae'n ymddangos mai'r gweithgarwch cynharaf a gofnodwyd yn yr ardal yw'r hyn a gynrychiolir gan ffosydd crwn mewn marciau cnwd i'r gogledd o The Gaer ac i'r gogledd o Rhydwhyman Farm, sy'n awgrymu crugiau crwn o'r Oes Efydd. Codwyd y gaer Rufeinig ategol a elwyr The Gaer yn ystod y 70au neu'r 80au OC ar godiad isel uwchben glan ddwyreiniol Hafren yn ymyl yr aber â'r Gamlad, rhwng caer Wroxeter a'r gaer debyg o ran maint yng Nghaersws, at flaen yr afon Hafren. Mae'r gaer mewn lle strategol ar hen hen ffordd rhwng gwastatir Sir Amwythig a chanolbarth Cymru ar hyd dyffryn y Gamlad - Rea yn rhedeg drwy'r ardal cymeriad heibio Marton, ac mae cwrs system y ffyrdd Rhufeinig yn cysylltu'r canolbarth â gweddill y dalaith Rufeinig. Roedd y ffordd gynharaf y gwyddys amdani sef y ffordd Rufeinig rhwng Wroxeter a Chaersws yn dilyn y cwrs hwn drwy'r dyffryn ac mae rhannau ohoni yn dal i'w gweld ger Gunley Hall, ychydig i'r dwyrain o'r ardalcymeriad. Mae'n ymddangos bod y ffordd fodern (B4386) yn dilyn cwrs y ffordd Rufeinig , ar hyd tir sydd ar fymryn o godiad ar ochr ogleddol yr ardal cymeriad, heibio Rhyd-y-groes a Lower Hem, ac yna'n troi ar hyd tir is tua mynedfa ogleddol y gaer Rufeinig yn The Gaer. Mae cwrs y ffordd yn troi tua'r dwyrain ychdig i'r de o'r gaer sy'n awgrymu bod y ffordd wedi ei chynllunio i osgoi'r tro yn yr afon sy'n awgrymu bod y tro wedi symud rhyw 100m i'r dwyrain ers cyfnod y Rhufeiniaid. I raddau helaeth mae'r ffordd Rufeinig wedi ei haredig lle mae'n creosi tir amaethyddol i'r gogledd a'r de o'r gaer (ni wyddys am ffordd dwyrain-gorllewin) ond gwyddys am ei chwrs yn rhannol drwy farciau chydau a gellir ei gweld fel arglawdd dan arglawdd y rheilffordd lle mae'n rhedeg tuag at yr afon Camlad.
Mae'n debyg bod y gaer Rufeinig wedi ei lleoli ar ffordd gyharach i ganolbarth Cymru yn canolbwyntio ar ryd hynach a phwysicach ar draws Hafren, a ddangosir efallai gaen y maen hir o'r enw Hoare Stone, ychydig i'w dwyrain o'r gaer. Yn ddi-au y rhyd oedd yn gyfrifol am godi'r dilyniant trawiadol o amddiffynfeydd ar lan ddwyreiniol yr afonyn ymyl Trefaldwyn gan gynnwys bryngaer Ffridd Faldwyn, y gaer Rufeinig yn The Gaer, castell mwnt a beili a chastell Trefaldwyn.
Parhawyd i ddefnyddio'r gaer Rufeinig i ryw raddfa neu'i gilydd tan rywbryd yn aik hanner y 4edd ganrif, yn dilyn cyfnod o adnewyddu. Roedd anheddiad sifil neu 'visu' wedi datblygu ar hyd y brif ffordd tua'r gorllewin, ar y tir gwastatach i gyfeiriad y rhyd ar ovhr ddeheuol y gaer. Ychydig a wyddys am yr anheddiad ond mae'n debyg ei fd wedi ei sefydlu i wasanaethu'r milwyr ac mae'n ymddangos iddo barhau tan o leiaf y 3 edd ganrif, pan beidiodd a fod yn gynaliadwy oherwydd bod llai o filwyr yn y gaer. Ymhlith y diwydiannau a gyflawnwyd yn yr anheddiad cafwyd trin haearn. Mae'n debyg mai'r anheddiad hwn a geir yn yr enw Lavobrinta a gofnodir yn y Ravenna Cosmography, llawysgrif o'r 7fed ganrif a seiliwyd ar ffynonellau cynharach, a seiliwyd yr enw o bosibl ar enw afon, yr afon Hafren mae'n debyg, yn golygu 'llyfn a llifeiriol'. Yrenw Engl-Sacsonaidd a gysylltir â'r gaer yw'r enw Saesneg Tornebury, a roddir yn Llyfr Doomesday Book yn 1086, ac a geir yn yr enw modern Thornbury. Mae'r enw'n awgrymu bod y gaer wedi ei chuddio gan brysgwydd ar un adeg, a thir 'diffaith' a geid yn Tornebury a Horseforde adeg y Goresgyniad Normanaidd yn 1066 ond nodir ei fod yn gynhyrchiol unwaith eto pan luniwyd Llyfr Domesday yn 1086.
Gwyddys am nifer o gaeadleoedd â ffosydd a welwyd mewn marciau cnydau a ffotograffwyd o'r awyr ychydig i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain o'r gaer, sy'n dangos lleoliad tebygol ffermydd brodorol o gyfnod y Rhufeiniaid â'r gaer yn ffocws iddynt. Yn ddiweddarach gosodwyd neuadd bren ag eiliau ôl-Rufeining ar ben un o'r caeadleodd tua 100m i'r gogledd o'r gaer achanfuwyd rhannau ohoni wrth gloddio. Mae adeiladau tebyg i'r neuadd o ran adeiladwaith a maint i'w gweld yn y cyfnod canol cynnar, ac yn enwedig safleoedd palasau brenhinol Sacsonaidd diweddarach o'r 9fed ganrif a'r 11eg ganrif. Yn anffodus, ychydig o wybodaeth arall sydd am yr adeilad pwysig hwn, 2 kilometr i'r gorllewin o Glawdd Offa, ffin Mersia yn yr 8fed ganrif a 5 kilometr i'r gorllewin o'r burh Mersaidd gynharach, dybiedig o'r 10fed ganrif yn Chirbury. Un cyd-destun hanesyddol posibl ar gyfer yr adeilad yw 822/3 OC pan 'gymerodd y Sacsoniaid.... deyrnas Powys' yn ôl Brut y Tywysogyon ond mae'n bosib na pharhodd y sefyllfa hon yn hir.
Mae'n amlwg bod yr adnoddau a gaed gan y Gamlad yn bwysig yn y gorffennol. Mae Llyfr Domesday o 1086 yn cofnodi bod 3 physgodlyn yn Hem, a leolwyd mae'n debyg ar y Gamlad ac efallai fod ynddynt drapiau pysgod ar ryw ffurf neu'i gilydd. Mae'r bosibl bod grym y dwrwedi cael ei ddefnyddio hefyd. Ni wyddys union leoliad y felin frenhinol a gofnodir yn Stalloe yn y 13eg ganrif, ond efallai mai melin ddwr ar y Gamlad ydoedd.
Mae'r enw lle Fflôs, fel y'i gelwir ar fapiau'r Ordnans heddiw, wedi cael ei ddefnyddio'n fwy penodol i'r tir comin yn Nhrefaldwyn. Cofnodir yr enw am y tro cyntaf yn y 14eg ganrif, ac mae'n dod o'r Saesneg Canol flosh, 'tir corsiog'. Tir comin isel oedd llawer o'r ardal gynt a pherthynai i blwyfi Trefaldwyn, fordun a Chirbury ac roedd ar gau mae'n debyg tan tua dechrau'r 19eg ganrif. Rhwng y 16eg ganrif hwyr a'r 17eg a'r 18fed ganrif ducpyd nifer o achsion yn erbyn pobl a oedd yn llechfeddiannu'r tir comin neu'n beisio cau rhannau ohono. Yn rhannol oherwydd yr anawsterau parhaol hyn ac yn rhannol oherwydd bod dymuniad i wella ansawdd y tir pori, caewydd rhannau helaeth yn hwyr yn y 18fed ganrif ac yn gynnar yn y 19eg ganrif. Caewyd rhannau o'r ardal ym mhlwyf Trefaldwyn fel rhan o ystadau Castell Powis yn yr 1780au, yn gyfnewid am diroedd eraill a roddwyd i fwrdeiswyr Trefaldwyn. Caewyd rhannau helaeth o'r ardal ym mhlwyf Ffordun i'r gogledd o'r Gamlad, i'r gorllewin o Gaemwgal a rhwng Caemwgal a Hem Moor, gan ddyfarniadau cau tir ym 1803.
Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol
Yn gyffredinol mae'r ardal yn fflat ac isel ac mae'n ffurfio'n parth sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd rhannau isaf Camlad, i gfeiriad ei haber gyda Hafren, ac maerhwng uchter o tua 80-90m uwch lefel y môr. Traeniad gwael sydd i beth o'r tir ac mae'n dueddol o gael ei orlifo. Ceir priddoedd alwfial, di-gerrig, dwfn a chleiog mewn mannau ac mae dwr daear yn effeithio arno mewn manna. Ceir nifer o byllau ?naturiol ar dir isel, gan gynnwys efallai Devil's Hole, i'r dwyrain o Gaemwgal. Mae nifer o drofeydd yn yr afon Camlad lle mae'n rhedeg dros y tir isel hwn gyda chlogwynni serth sydd yn erydu mewn mannau i'r dwyrain o Gaemwgal. Gwelir nifer o ystumiauac mae'n ymddangos bod nifer ohonynt wedi eu llenwi ers cael eu mapio gan yr Arolwg Ordnans yn ysod yr 1880au, ac mae'n bosibl eu bod wedi cadw dyddodion palaeoamgylcheddol claddedig. Gwelir cerlan amlwg i'r de-orllewin o'r Gaer.
Oherwydd natur isel y tir ychydig o dystiolaeth sydd o anheddu cynhanesyddol o fewn yr ardal cymeriad, a chyfyngir anheddiad modern yn bennaf i fferm Caemwgal, ffermdy briciau o'r ?19eg ganrif gydag adeiladau allanol gyda fframiau dur o'r 20fed ganrif, Woodmore, gyda ffermdy cerrig o ganol y 19eg ganrif a Pound House, ty cerrig o ddechrau neu ganol y 19eg ganrif gydag addurniad briciau.
Nodweddir y tirwedd amaethyddol gan gaeau unionlin canolig neu fawr â gwrychoedd â therfynau syth ac a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori heddiw. TMae patrwm y caeau heddiw yn eithaf tebyg i'r patrwm oedd wedi ei sefydlu erbyncanol y 19eg ganrif, ond mae nifer o'r caeau llai wedi eu cyfuno bellach i ffurfio caeau mwy mewn mannau. Mae patrwm y caeau wedi ei osod mewn perthynas â chwrs y Gamlad, a hefyd gwrs Clawdd Offa, i'r dwyrain o Gaemwgal, ond mae fel petai'n anwybyddu cwrs y ffordd Rufeinig lle mae honno'n croesi'r caeau i'r dwyrain o'r Gaer. Gosodwyd ffordd dyrpeg y 18fed ganrif ar y caeau (B4388) rhwng Trefaldwyn a Ffordun a chwrs rheilffordd y Cambrian Railways a osodwyd ym 1860. Mae'r Gaer Rufeinig yn The Gaer a Chlawdd Offa wedi goroesi fel nodweddion amlwg yn y tirwedd, ac mae rhagfuriau'r gaer Rufeinig yn ffurfio cloddwaith hyd at 20m o led a rhwng 1-2m mewn uchter, ac mae Clawdd Offa o bobtu'r Gamlad, i'r de o Pound House wedi goroesi mewn manau fel poncyn isel a llydan hyd at 10m ar daws ac 1m mewn uchter, er ei fod yn croesi tir alwfaidd â thraeniad gwael yn y fan hon.
Yn bennaf, ceir gwrychoedd un-rhywogaeth (draenen wen) a dorrwyd yn isel, ond ceir rhywogaethau eraill mewn grwychoed yn ymyl y ffordd gan gynnwys sycamorwydden, ysgawen, derwen a draenen ddu. Ceir coed derw aedfed ar wasgar yn y gwrychoedd a choed ysgaw ar lannau'r afonydd a'r nentydd. Ceir dyfrffosydd mewn mannau, gan gynnwys clawdd traenio tua 1km mewn hyd i'r de o Gaemwgal a phoncyn gorlifo o bridd yn rhedeg am ryw 2km ar ochr ddeheuol Camlad to the north of Caemwgal, a dangosir y naill a'r llall ar fapiau'r Ordnans yn yr 1888au.
Mae'n ymddangos bod y ffyrdd cyfathrebu arhyd Camlad at y rhyd yn Rhydwhiman wedi colli eu pwysigrwydd erbyn blynyddoedd olaf y 13eg ganrif, a disodlwyd y rhyd ei hun gan gyfres o bontydd pren a dur yng Nghaerhowel, tua 1km i'r gorllewin. Diodlwyd y ffordd gynharaf o'r dwyrain i'r gorllewin i bob pwrpas gan ffyrdd gogledd-de yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Ffordd dyrpeg oedd y ffordd syth a redai tua'r gogledd o Drefaldwyn tua Ffordun ar ben gorllewinol yr ardal cymeriad a chreosai bont a godwyd yng Nghilcewydd ym 1861, gan ddisodli pont bren gynharach o'r 16eg ganrif, a darparwyd gwrthglawdd a ffosydd traenio i'r ffordd yn y mannau isaf. Mae map ystad o 1783 yn dangos y fford o Ffordun tua Chaerhowel yn rhedeg drwy The Gaer, yn hytrach na'i chwrs presennol i'r dwyrain o'r gaer Rufeinig. Mae'r pontydd a welir heddiw yn rhai modern. Pont gongrid fodern yw Shiregrove Bridge ar draws Camlad i'r gogledd o Chirbury a ddisodlodd pont haearn bwrw a godwyd ym 1887 ac mae Salt Bridge ar draws Camlad i'r gogledd o Drefaldwyn yn adeiladwaith concrid atgyfnerthedig modern a osodwyd ar gynaliadau carreg a atgyfnerthwyd bellach â phlatiau haearn. Effeithiwyd yn fawr ar ben gorllewinol yr ardal cymeriad gan gwrs y Cambrian Railway rhwng Trallwm a'r DRenewydd, a godwyd ym 1860, ac sydd yn torri ar draws nifer o derfynau caeau cynharach, gan groesi'r Gamlad ar bont trawstiau dur gyda chynaliadau carreg a cholofn ganolog o gerrig.
Cynrychiolir gweithgarwch diwydiannol yn yr ardal tirwedd gan hen weithfa friciau a chloddfeydd clai o'r 19eg ganrif os nad cyn hynny, ychydig i'r gogledd-orllewin o fferm Caemwgal ac i'r gogledd o fferm Stalloe. Mae enw Caemwgal yn dod un ai o'r ffaith ei bod mewn lle isel neu oherwydd fod yno odyn friciau. Mae'r cloddfeydd clai yn dal i'w gweld ar y ddau safle, ac erbyn hyn mae planigfeydd conifferaidd bychain arnynt ac mae rhan o adeilad briciau yn dal i'w weld yn Stalloe. Cynrychiolir gweithgarwch cloddio gan gloddfa glai o'r 18fed i'r 19eg ganrif ar Hem Moor, i'r de-ddwyrain o fferm Little Hem, ac mae'n debyg y byddai'r hyn a gynhyrchid yno wedi ei daenu dros y caeau cyfagos, a chan charel gerrig fechan yn ymyl y ffordd ychydig i'r gogledd o Salt Bridge.
Anon 1888a
Anthony 1995
Barker & Higham 1982
Barton 1999
Blockley 1990
Baughan 1991
Charles 1938
Crew 1980
Eyton 1854-60
Fox 1955
Gibson 1995
Jarrett 1969
Morgan 1874
O'Neil 1942
Owen 1878
Pryce 1912
Pryce & 1927, 1928, 1929, 1930
Putnam 1969-70
Rivet & Smith 1979
Soil Survey 1983
Smith 1998
Smith & Evans 1995
Soil Survey 1983
Thorn & Thorn 1986
Vize 1882; 1884
Whimster 1989
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|