CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddo

Bro Trefaldwyn: Gunley
Forden, Powys and Chirbury, Shropshire
(HLCA 1064)


CPAT PHOTO 92-C-680

Ffermydd ar wasgar, hen derfynau caeau, tai gwledig mewn parcdiroedd, ar dir llethrog uwch ochr ogleddol Bro Trefaldwyn.

Cefndir hanesyddol

Awgrymir anheddiad cynnar gan safle caeadleoedd olion cnydau o'r Oes Haearn efallai neu gyfnod y Rhufeiniaid ychydig i'r gogledd o fferm Woodlands ac i'r dwyrain o Hem Farm. Y dystiolaeth gynharaf a geir o anhediad yn y cyfnod hanesyddol yw'r tri anheddiad a restrir yn LLyfr Domesday ym 1086, Ackley (Achelai), Wropton (Urbetune, hen drefgordd ym mhlwyf Ffordun. i'r de o Nantcribba), a Hem (Heme). Rhyngddynt roedd gan yr anheddiadau dros 600 acer o dir (5 hid) o bob math, gyda choetir yn Hem a chaeadleoedd gwrychedig (haia) yn Hem ac Ackley o fath a ddefnyddid i ddal ceirw, a yrrid mae'n debyg o'r coetir ar y llethrau uwch ar Long Mountain. Roedd gan Hem hefyd dri physgodlyn, ar hyd y Camlad mae'n debyg, i'r de. Mae'r enw lle Gunley i'w weld am y tro cyntaf yn y 14eg ganrif: ni wyddys ei darddiad ond fe all ddos o enw personol o Lychlyn. Fe all fod yn arwyddpcaol fod Hem, sydd ar linell Clawdd Offa, yn dod o'r Hen Saesneg 'hem' sef 'ffin' 'ymyl' a ddefnyddir ar gyfer darn o dir. Awgrymwyd tarddiad Mersaidd ar gyfer yr amddiffynfa yn Nantcribba ond ni phrofwyd hyn hyd yma.

Disgrifir y tir cysylltiedig â'r tri anheddiad yn LLyfr Domesday fel eraill yn nyffryn Trefaldwyn fel tir 'diffaith' adeg y Goresgyniad Normanaidd ac fe'i defnyddid dim ond ar gyfer hela. Mae'n bosibl bod yr ardal wedi ei diffeithio yn ystod y genhedlaeth flaenorol gan ymosodiadau'r Cymry ar diroedd Mersia. Mae'r tri anheddiad hyn, a Stockton ar ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad, i'r dwyrain o ffin Mersia a godwyd marw'r brenin Offa yn 796, ac mae'n debyg iddynt gael eu sefydlu neu eu cymryd oddi ar y Cymry rywbryd rhwng blynyddoedd olaf yr 8fed ganrif a dechrau'r n 9fed ganrif. Yn wir, awgrymwyd bod cwrs y clawdd, sy'n ymwtthio ymlaen yn y fan hon i gynnwys cyfran helaeth o waelod dyffryn Camlad, yn debyg o fod wedi ei osod ar draws tirwedd a gliriwyd ac a amaethwyd mewn perthynas â ffiniau gwirioneddol neu gytunedig dros-dro yr anheddiad Mersaidd.

Mae'n amlwg bod adferiad wedi bod ar ôl oes Domesday, unwaith y daeth yr ardal dan reolaeth y Normaniaid. Mae'n debyg bod y tirwed amaethyddol wedi parhau i ddatblygu gydol yr oesoedd canol er gwaethaf yr aflonyddwch di-dor ar y gororauyn y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif - er enghraifft, cyfrifiwyd Ackley, gyda Lletty Gyngfach, ar y tir uwch i gyfeiriad ochr ogleddol yr ardal cymeriad, ymhlith yr anhediadau y dywedir i Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymu, eu dal tua 1270. Gelwid Nantcribba Gaer, castell petryal ar garreg frig uchel, wrth yr enw castell Gwyddgrwg ac mae'n debyg mai Thomas Corbet o Caus a'i cododd tua 1260 ac iddo gael ei ddinistrio gan Gruffydd ap Gwenwynwyn yn 1263. Mae'n amlwg ei fod wedi ei gadw'n well pan ymwelodd Thomas Pennant ag ef yn yr 1780au.

Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r tir fferm yn yr ardal cymeriad wedi ei ddatblygu i rywbeth yn debyg i'w gyflwr presennol erbyn y cyfnod canol cynnar drwy glirio coetir yn raddol a chae tiroedd. Ni chafwyd dyfarniadau yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif hyr nac yn gynnar yn y 19eg ganri.

Yn ystod y 17eg a'r 18fed ganrif yr ymddangosodd yr ystadau, a Gunley Hall gyda'i neuadd Jacobeaidd ac yna Georgaidd mewn parcdir yw canolbwynt ystadau bach Sir Drefaldwyn sydd yn cynnwys Ackley a Llettyfynfach. Roedd Nantcribba, a oedd yn arfer perthyn i'r teulu Devereux ac a brynwyd gan y teulu Naylor ym 1863, yn rhan o Ystad Leighton Hall. Erbyn y 19eg ganrif roedd rhan orllewinol yr ardal cymeriad o fewn trefgorddau Hem, Wropton, Ackley a Llettygynwyr, ym mhlwyf eglwysig Ffordun, Powys a'r rhan ddwyreiniol nyn nhrefgorddau Stockton a Wortherton, ym mhlwyf Chirbury, Sir Amwythig.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tir serth a llethrau llai serth llethrau is yn wynebu tua'r de ar ben deheuol Long Mountain, a'i uchter yn amrywio rhwng 90-225m uwch lefel y môr, ac yn ymgodi uwch rhannau isaf dyffryn Camlad. Priddoedd siltiog mân â thraeniad da ar y tir uwch, gyda phroffiliau pridd bas ar y llethrau serthach, ar ben craig â siâl. Priddoedd siltiog mân gyda silt, priddglai a chlai ar y llethrau isaf, sydd dan ddwr yn dymhorol weithiau. Y prif ddefnydd a wneir o'r tir yw pori, ond ceir darnau helaeth o goetir gan gynnwys coetir hynafol ac ailblanedig Gunley Wood, gyda nifer o goetioedd hanner naturiol llai a gweddilliol, derw'n bennaf, ar lethrau serthach a dyffrynnoedd nentydd mewn mannau eraill.

Cynrychiolir anheddiad heddiw gan ffermydd canolig eu maint ac wedi eu clystyrru, yn ymyl ffyrdd cyhoeddus yn aml, ac i bob golwg cyfunwyd rhai ohonynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ceir ffermdai ac adeiladau allanolo friciau o'r 18fed ganrif hwyf a dechrau'r 19eg ganrif yn Woodlands, Parklands, Hem, a Cwm Farm. Peth llai cyffredin yw'r ffermdy sylweddol o ddechrau neu ganol y 18fed ganrif yn Llwynrhedydd a'r adeiladau allanol o gerrig o'r 18fed ganrif efallai fel yn Woodlands, Rhyd-y-groes a Llwynrhedydd, rhai ag estyll tywydd, ysgubod wair o'r ?19eg ganrif ar Cwm Farm, ac adeiladau o'r 20fed ganrif â fframiau dur a thanciau biswail nei seilos grawn weithiau a ychwanegwyd at gyfadeiladau fferm cynharach. Ymddengys mai ychydig o adeiladau pren cynnar sydd wedi goroesi, ond ceir enghreifftiau yn Hen Nantcribba, cartref ffrâm bren a ailadeiladwyd yn rhannol o gerrig yn y ?17eg ganrif, a'y bythynnod ffrâm bren o'r 17eg ganrif hwyr neu'r 18fed ganrif gynnar yn Stockton Smithy, a mewnlewnwyd â briciau. Nid oes dim ar ôl o'r neuadd friciau ddiweddarach o'r 17eg ganrif hwyr neu'r 18fed ganrif gynnar yn Nantcribba, a losgwyd ym 1900, ond mae'r ardd â wal friciau o'r 18fed ganrif hwyr a'r cynhordy unllawr o friciau melyn o'r 19eg ganrif gyda mynedfa friciau a phileri cerrig yn dal i fodoli. Mae Nantcribba Hall Farm, sydd gerllaw, ac a godwyd ym 1860 fel rhan o ystad Leighton Hall, yn meddu ar ffermdy briciau mawr o'r 19eg ganrif gyda gweithiad tywodfaen a nifer o adeiladau allanol o friciau sy'n rhan o gyfadail fferm fodel, a dywedir nod yr elifiant a ddaw ohoni yn llifo ymaith drwy system danddaear i'e caeau cyfagos. Roedd Nantcribba Cottages o oes Victoria, a godwyd fel bythynnod i weithwyr fferm hefyd yn rhan o'r ystad. Mae cartref gwledig canolig ei faint yn Gunley Hall, lle disodlwyd yr adeilad Jacobeaidd gwreiddiol gan gartref o'r 19eg ganrif gynnar â styco ar y tu blaen, ac a estynnwyd yn hwyr yn y ganrif honno. Cysylltir â Gunley Hall adeilad a drowyd yn floc o stablau o friciau, colomendy wythochrog o friciau o'r 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif gynnar a gasebo o fricia neu bafiliwn gardd yn ogystal â mynedfa gyda phileri cerrif neu farmor a rheiliau haearn.

Caeau bychain neuganolig eu maint gyda therfynau â gwrychoedd syd gan amlaf yn mynd ar hyd neu i fyny ac i lawr y gyfuchlin, gyda ffurfiant linsied ar y llethrau serthaf sy'n awgrymu bod coeitroedd wedi eu clirio fesul tipyn a bod ffiniau wedieu cyfuno. Ceir gwrychoedd amlrywogaeth yn cynnwys y ddraenen wen, collen, masarnen fach, celynnen ac ysgawe, sydd hefyd yn awgrymu bod llawer o'r terfynau yn hen iawn a'u bod yn deillio oglirio coeitroedd.

Mae cymariaethau â mapiau degwm a fersiynau cynnar mapiau'r Ornans yn dangos mai ychydig y mae'r parwm caeau cyfoes wedi newid ers canol y 19eg ganrif.

Gwellwyd y brif ffordd sy'n croesi'r ardal o'r dwyrain i'r gorllewin sef y B4386 yn hwyr yn y 18fed ganrif, ond mae rhannau hir ohoni ar ben ffordd Rufeinig rhwng y gaer Rufeinig yn Gaer a Wroxeter. Mae'r ffordd Rufeinig i'w gweld fel cloddwaith ychydig i'r dwyrain o Gunley Hall.

TCeir chwareli cerrig bach ar wasgar, heb ddyddiad gan mwyaf, ond gelwir rhai yn 'Old Quarry' ar fapiau'r Ordnans yn yr 1880au, gan gynnwys pyllau gro yn Gunley Wood ac i'r dwyrain o Ackley Farm. Defnyddiwyd y graig lle safai castell carreg Nantcribba Gaer fel chwarel ar gyfer atgyweirio ffyrdd yn hwyr yn y 18fed ganrif ac yn gynnar yn y 19eg ganrif. Unwaith roedd Meilin Stockton, adeiladad briciau o'r 19eg ganrif gynnar, yn hen felin ar y Gamlad.

Mae llawer o'r parcdir yn dal yn Gunley Hall, ond collwyd rhai rhannau i'r de o'r Gamlad ers y 19eg ganrif. Plannwyd ynn, derw, ffawydd Albanaidd, Wellingtonia, plân, a chedrwydd, ac isrannwyd porfa'r parcdir gan ffensys pyst a gwifren a rheiliau haearn ar hyd y ffordd gyhoeddus drwy'r parc. Mae'r parcdir ar ben darn arwyddocaol o dir rhych a chefnen ac mae wedi helpu i'w gadw. Bu yma dir aredig agored yn y canoloesoedd yn nhrefgordd Ackley, a gaewyd o bosibl yn ystod y 17eg neu'r 18fed ganrif.

Ar un adeg roedd nifer o ffynhonnau nodedig yn yr ardal. Dywedid bod ffynon ar ochr y lôn at Cwm Farm yn gyrcgfan pererinion i'r rhai a geisiai iachâd i'w llygaid gwan. Byddai pobl yn ymgynnull bob blwyddyn ger y ffynnon yn King's Wood, ac roedd ffynnon garegeiddio yn Gunley Wood lle gosodid pethau.

Ffynonellau cyhoeddedig

Anon 1892
Charles 1938
Eyton 1854-60
Fox 1955
Gelling 1992
Haslam 1979
Hogg & King 1967
Humphreys 1996
King & Spurgeon 1965
Musson & Spurgeon 1988
Pennant 1784
Pryce 1898
Putnam 1969-70
Smith 1999
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Spurgeon 1961-62
Spurgeon 1981
Thorn & Thorn 1986
Vize 1882; 1883; 1884

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.