CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Lymore
Montgomery and Churchstoke, Powys
(HLCA 1068)


CPAT PHOTO 00-C-61

Parcdir o ddiwedd y 16eg a dechrau'r 17eg ganrif yn sefyll lle bu caeau agored yn perthyn i dref ganoloesol Trefaldwyn, gyda ffyrdd hynafol a phlanigfeydd bychain.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal yn gorwedd rhwng Trefaldwyn i'r gorllewin a Chlawdd Offa i'r dwyrain, sydd yn ffin rhwng Cymru a Lloegr yn y fan hon. Mae rhan ogleddol yr ardal o fewn plwyf Trefaldwyn ac mae'r rhan ddeheuol yn nhrefgordd Weston Madoc ym mhlwyf yr Ystog. Awgrymwyd bod anheddiad Benehale, a gofnodir yn LLyfr Domesday, yn perthyn i'r ardal hon ar un adeg gan ei fod yn un o nifer o aneddiadau Mersaidd a ddistrywiwyd i bob golwg yn tua 1040 ac a oedd yn dal yn 'ddiffaith' yn 1086, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hela. Awgrymwyd bod llwyfanau adeiladu a thirwedd rhych a chefnen o fewn y parcdir yn safle anheddu, ond ni chadarnahwyd hyn gan y gwaith cloddio archeolegol. Mae'n debyg bod y tirwedd rhych a chefnen yn rhan o caeau agored Trefaldwyn a sefydlwyd yn ystod yr 1220au yng nghysgod y castell cerrig ar y bryn uchben.

Cofnodir enw Lymore am y tro cyntaf yn y 14eg ganrif ac mae'n dod o'r elfennau Saesneg sy'n golyfu 'rhos heb ei thrin'. Mae'n debyg bod llawer o'r ardal wedi ei throi'n barcdir neu wdi ei chau yn gymharol gynnar, ond caewyd rhan o'r ardal i'r de o'r fferm Gwernllwyd neu Wernllwyd (i'r gogledd o Pen-y-bryn Hall), ym mhlwyf yr Ystog, ac sydd bellach wedi diflannu, tua 1803. Dengys rhai copïau o fap Speed o Sir Drefaldwyn yn 1610 ffens gylchog - ond am ryw reswm ni ddangosir hi ar bob copi cyhoeddedig. Roedd y pyllau eisoes yn bodoli erbyn canol yr 17eg ganrif, a darganfuwyd helmet ddur gyda phen ynddi yn un o'r pyllau yn ystod gwaith traenio tua 1860, efallai oherwydd y frwydr yn Nhrefaldwyn adeg y Rhyfel Cartref, mis Medi 1644. Roedd Lymore Hall yn neuadd ffrâm bren o ddiwed y 16eg neu ddechrau'r 17eg ganrif, agodwyd neu a ehangwyd tua 1675, ac a ddymchwelwyd ym 1930/31, a disgrifiwyd hi fel 'one of the last and also one of the greatest half timbered mansions in Britain', a defnyddid hi'n bennaf fel lluest hela.

Dangosir y Pwll Isaf mewn paentiad o eiddo'r Arglwydd Powis (1745-1839) gyda'i helgwn yn Lymore Park a Bryn Corndon yn y cefndir.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Allweddol

Mae'r tirwedd ar ardal gymharol wastad ar ochr orllewinol Bro Trefaldwyn, yngyfredinol rhwng uchter o 120-150m uwch y môr. Mae'r ddaeareg solet dani yn cynnwys sialiau Silwraidd ac mae'r priddoedd yn siltiog amân, gyda chlai, ac mae dan ddwr yn dymohorol weithiau. Ceir nifer o fannau le mae'r traeniad wedi ei rwstro ac mae pyllau naturiol wedi ffurfio,ac mae rhai ohonynt wedi eu gwneud yn fwy yn artiffisial. Ceir nifer o blanhigfeydd poplys a choniferaidd yn yr ardal. Mae rhai o'r coetiroedd, fel Dudston Covet, New Covet (Planhigfa) a Boardyhall Wood mewn bodolaeth ers o leiaf canol y 19eg ganrif.

Cyfyngir anheddu heddiw i Lymore a Phen-y-bryn Hall. Mae'r adeiladau sydd wedi goroesi yn Lymore yn cynnwys ffermdy mawr o'r 18/19eg-ganrif, gerddi _ waliau cerrig a briciau ac amryw adeiladau alanol gan gynnwys adeiladau ffrâm bren o'r 17/18fed ganrif, 18/19eg ganrif, ysgubor talcen gerrig o'r ?19ganrif, adeiladau ffrâm ddur o'r 20fed ganrif, bythynnod y garddwr a'r cipar. Yn yr ardal hon mae Pen-y-bryn Hall, ty gwledig o friciau o'r cyfnod Georgaidd yn dyddio o tua 1800, gyda chowrt a gerddi, ar lethrau sydd tua'r de tua 2km ymhellach i'r de.

Ar gyfer pori a phlanigfeydd bach y defnyddir y tir yn bennaf ond mae darnau o barcdir gynt wedi eu haredig bellach. Ceir darnau sylweddolo dir rhych a chefnen yn Lymore Park, a nodwyd uchod, ac mae'n debyg eu bod yn rhan o'r caeau agored cysylltiedig â thref Trefaldwyn, wedi eu ffosileiddio lle trowyd yr ardal yn barc, yn ystod y 16eg ganrif o bosibl. Mae meithrinfa blanhigion fodern, gyda choed talach a phrysgwydd ar gyd terfynau a chyrsiau dwr a hen byllau pysgod ar y nant a elwir Lack Brook i'r de o Ben-y-bryn Hall yn cael yr effaith o ymestyn nodwedd barcdirol yr ardal ymhellach i'r de. Cofnodir hen byllau marl yn rhan ddeheuol yr ardal, a ddefnyddid mae'n debyg wrth wneud gwelliannau amaethyddol yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif.

Croesir yr ardal gan nifer o lwybrau troed a llwybrau llydan, y mae rhai ohonynt yn ffyrdd o'r canoloesoedd acwedi hynny, ac mae rhannau ohonynt yn dal i fod ar ffurf ceuffyrdd, a ddisodlwyd gan ffyrdd tyrpeg diweddarach. Mae'r ymddangos bod un ffordd yn mynd o'r rhyd dros Hafren yn Rhydwhiman (gweler ardal cymeriad Trehelig-gro) i'r Ystog, heibio Hen Domen. Roedd un arall yn torri ar draws pen gogleddol yr ardal cymeriad, gan nodi llwybr yr hen ffordd o Drefaldwyn i Chirbury, heibio Dudston.

Cynrychiolir parcdir heddiw gan goed derw aeddfed, gwasgaredig, coed plân, castanwydd a ffawydd, gan gynnwys rhes rannol o goed ar hyd y B4385 rhwng Trefaldwyn a Brompton. Mae cymharu'r map modern a mapiau'r Ordnans yn niwedd y 19eg ganrif yn dangos bod y parcdir yn llai nag ydoedd, ynenwedig yn y de, a bod peth ohono wedi ei aredig bellach, ond maerhywfaint o blannu wedi bod ar goed ar gyfer parcdir. Mae peth o'r hen barcdir wedi ei isrannu yn gaeau unionlin a pholygonaidd canolig eu maint gyda gwrychoedd toredig a osodwyd gyda sawl rhywogaeth gan gynnwys y ddraenen wen, derwen, celynnen, collen ac ysgawen. Ceir rhaniadau eraill o reiliau parc o haearn. Defnyddir rhan o'r parcdir gan Glwb Criced Trefladwyn, mewn llecyn lle lefelwyd rhan o'r tirwedd cefnen a rhych. Ymhlith y gwelliannau a wnaed yn ystdo y 18fed ganrif ceir creu dau bwll - Upper Pool a Lower Pool - a ffurfiwyd gydag argaeau pridd wrth y ffrydiau sydd yn bwydo'r nant sy'n llifo i'r gogledd, yn gyfochrog â Chlawdd Offa, i ymuno â'r Gamlad ger Caemwgal. Codwyd hwyaden ddenu uwchben Upper Pool rhwng diwedd blynyddoedd olaf y 18fed ganrif a blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Mae coed helyg ac ysgaw ar lannau'r pyllau.

Ffynonellau cyhoeddedig

Arnold & Reilly 1986
Barker & Higham 1982
Cadw 1999
Charles 1938
Davies 1945-6
Haslam 1979
Lloyd 1986
Margary 1973
O'Neil 1942
Owen 1932
Powis 1942
Roscoe 1838
Soil Survey 1983
Sotheby's 1999
Walters & Hunnisett 1995
Waters 1932
Williams 1938

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.