Archaeoleg Clwyd-Powys

ARCHEOLEG | YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL | YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD

Gwasanaethau Cynllunio

Mae’r Gwasanaethau Cynllunio’n cynghori ac yn cefnogi awdurdodau lleol a datblygwyr â cheisiadau cynllunio ar gyfer gwaith datblygu a gyflwynir i awdurdodau cynllunio lleol. Mae’r gwaith hwn yn galw am wirio safleoedd datblygu o safbwynt archaeoleg hysbys neu dybiedig. Lle bo angen, gwneir argymhelliad ynglŷn â gwaith archaeolegol cyn penderfynu ar ganiatâd cynllunio, neu fel rhan ohono. Bydd archaeolegwyr y Gwasanaeth Cynllunio hefyd yn monitro’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau ei fod yn cael ei wneud i safon briodol.

Mae Gwasanaeth Cynllunio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn defnyddio gwybodaeth yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol a’r wybodaeth arbenigol sydd ar gael o fewn yr Ymddiriedolaeth i graffu ar bob cais cynllunio a allai effeithio’n niweidiol ar yr amgylchedd hanesyddol, ac i wneud sylwadau arnyn nhw.

Cyngor

Mae awdurdodau cynllunio lleol yn defnyddio’r cyngor oddi wrth y Gwasanaethau Cynllunio i asesu effaith bosibl gwaith datblygu ar archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol a, thrwy hyn, maen nhw’n ceisio sicrhau bod y difrod mor fach â phosibl. Nid yw mwyafrif y datblygiadau’n cael effaith sylweddol ar archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol ond, pan maen nhw yn cael effaith, gall y Gwasanaethau Cynllunio ymateb i ymgynghoriad gan awdurdodau cynllunio lleol mewn nifer o ffyrdd. Mewn rhai achosion prin, gall yr ymateb hwn fod yn gyngor y dylid gwrthod cais cynllunio er mwyn diogelu archaeoleg neu adeiladau hanesyddol ond, yn fwy cyffredin, bydd yn gofyn i’r awdurdod cynllunio osod amodau ar unrhyw ganiatâd a roddir.

Gall amodau ei gwneud yn ofynnol peidio â defnyddio rhannau o’r safle ar gyfer adeiladu, neu fynnu bod rhannau ohono’n cael eu cloddio’n archaeolegol cyn i’r gwaith datblygu ddechrau, neu fod archaeolegydd yn bresennol yn ystod gwaith adeiladu i gynnal briff gwylio (a chofnodi unrhyw beth a ddaw i’r golwg). Mewn rhai achosion, fe allai’r awdurdod lleol ystyried bod datblygiad yn effeithio ar ardal uchel ei photensial archaeolegol ond teimlo nad oes ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i benderfynu sut i drin y cais cynllunio. Yn yr achos hwn, fe allan nhw ofyn i’r ymgeisydd gynnal gwerthusiad archaeolegol, cyn y byddan nhw’n penderfynu ar y cais, er mwyn casglu mwy o dystiolaeth ynglŷn ag effeithiau tebygol eu gwaith datblygu. Gallai’r gwerthusiad hwn alw am ymchwil i ddogfennau, arolwg a/ neu rywfaint o waith cloddio arbrofol, a bydd ei ganlyniadau’n caniatáu i’r cynllunwyr wneud penderfyniad cytbwys ynglŷn â dyfodol y safle. Mae gwaith fel gwerthuso neu gloddio y mae amodau cynllunio’n galw amdano fel rheol yn cael ei wneud gan gontractwyr archaeolegol.

God Ymddygiad

Dan God Ymddygiad Curadurol Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, nid yw tîm y Gwasanaethau Cynllunio yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn cyflenwi rhestr o gontractwyr archaeolegol. Yn lle hynny, rydyn ni’n gofyn i ddatblygwyr sydd angen contractwr archeolegol gyfeirio at restr Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA) o Sefydliadau Cofrestredig. Fel un o Sefydliadau Cofrestredig CIfA ein hunain, mae’n rhaid i dîm y Gwasanaethau Cynllunio sicrhau yr ymgymerir â’r holl waith sy’n cael ei wneud yn y rhanbarth yn unol â Safonau a Chanllawiau CIfA. Mae CIfA wedi cynhyrchu Canllaw i Gleientiaid i helpu datblygwyr ac eraill i ddeall rôl archeolegol broffesiynol yn y broses gynllunio. I gael gwybod mwy am archaeoleg a chynllunio, neu i edrych ar yr effeithiau y gallai’ch datblygiad eu cael ar yr amgylchedd hanesyddol, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cynllunio i drafod y materion hyn cyn cyflwyno’ch cais cynllunio.

Datrys Gwrthdaro

Trafodaethau cynnar yw’r ffordd orau bron bob amser i osgoi gwrthdaro rhwng datblygiad a’r angen am gadwraeth.

Anfonwch e-bost neu ffoniwch (+44 (0)7736 163148) ein Huwch Swyddog Cynllunio Mark Walters neu anfonwch e-bost neu ffoniwch (+44 (0)7496 984393) y Swyddog Cynllunio Cynorthwyol Neil Bayliss.