Archaeoleg Clwyd-Powys

ARCHEOLEG | YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL | YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD

Beth ydy Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol?

Cronfa ddata ac archif gwybodaeth am safleoedd a phrosiectau o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol o fewn ardal Clwyd-Powys yw Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER) Rhanbarthol CPAT. Mae gennym ni gofnodion o safleoedd archaeolegol o bob cyfnod, yn amrywio o’r anheddu dynol hysbys cynharaf yng Nghymru, i nodweddion cymharol gyfoes fel strwythurau milwrol yr Ail Ryfel Byd. Mae gennym ni wybodaeth am strwythurau ac Adeiladau Rhestredig, Henebion Cofrestredig, mannau darganfyddiadau unigol a nodweddion archaeolegol eraill, yn amrywio o safleoedd cyfarwydd y mae llawer o bobl yn ymweld â nhw i nodweddion tirwedd llai amlwg fel cloddiau caeau a marciau amaethu.

Ymweld â Ni

Mae croeso i’r cyhoedd ymweld â’r HER. Gellir trefnu apwyntiad i ymweld o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 4pm. Anfonwch e-bost atom ni yn her@cpat.org.uk neu ffoniwch 07956585023 i drefnu ymweliad.

Cyfrannu

Gallwch chi gyfrannu at Gofnod yr Amgylchedd Hanesyddol o’ch dyfais gan ddefnyddio ArcGIS Survey123

Cyflwyno cofnod newydd

Mae’r ardal y mae Cofnod Amgylchedd Hanesyddol CPAT yn ei chwmpasu wedi’i lliwio mewn glas tywyll ar y map hwn o Gymru

Mae gan yr ardal y mae’r HER yn ei chwmpasu gyfoeth o hanes ac archaeoleg. Mae gan ein cronfa ddata gofnodion o fwy na 180,000 o safleoedd a phrosiectau, ac mae’n cael ei diweddaru’n barhaus. Bob dydd, mae ymchwil a gwaith maes proffesiynol, prosiectau academaidd a darganfyddiadau’r cyhoedd yn taflu goleuni ar wybodaeth newydd am yr adnodd archaeolegol. Cyflogir swyddog HER amser llawn i gadw’r cofnodion yn gyfoes. Mae Cadw yn cefnogi gwaith ar Gofnod yr Amgylchedd Hanesyddol ac mae CBHC yn ei fonitro. Mae pob un o’n hawdurdodau lleol wedi mabwysiadu’r HER ac mae eu cyfarwyddiaethau cynllunio’n ei ddefnyddio.

Cofnodion HER Ar-lein

Mae’n bosibl cyrchu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru ar-lein o gysur eich cartref eich hun, o’ch swyddfa neu, yn wir, o ben bryn agored i’r gwynt (cyn belled â bod gennych chi signal)!

Archwilio ydy’r system ar-lein i gyrchu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Fe’i datblygwyd trwy bartneriaeth rhwng pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru i ddarparu mynediad cyhoeddus ehangach i’r adnodd gwerthfawr hwn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwilio i’ch ardal leol, neu ddarganfod mwy am gyfnod hanesyddol penodol, mae hwn yn lle da i ddechrau.

CLICIWCH YMA I FYND YN SYTH I SAFLE ARCHWILIO

NODYN PWYSIG! Bwriedir i bobl ddefnyddio gwybodaeth a geir o Archwilio at ddibenion gwybodaeth ac ymchwil yn unig, ac rhaid peidio â’i defnyddio at ddibenion rheoli gwaith datblygu neu fel rhan o brosiect masnachol. A fyddech cystal â defnyddio’r ffurflen ymholiad HER i gyflwyno’ch ymholiad masnachol. Gellir defnyddio’r ffurflen hon hefyd ar gyfer ymholiadau ymchwil sy’n gymhleth ac.

133,770

COFNODION CRAIDD

52,950

COFNODION DIGWYDDIADAU

252,441

COFNODION FFOTOGRAFFIG

Archifau

Ochr yn ochr â data yn yr HER, mae gennym ni gryn dipyn o archifau papur, mapiau a gwybodaeth ategol arall ar gael i’w gweld. Un casgliad sy’n haeddu sylw penodol yw casgliad mawr o awyrluniau sydd wedi’u tynnu o weddillion archaeolegol a’r dirwedd o’u hamgylch dros y 30 mlynedd diwethaf.

Mae Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yn ffynhonnell gwybodaeth werthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn archaeoleg a hanes gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, boed yn berson lleol, yn ymwelydd â’r ardal neu’n fyfyriwr, a beth bynnag yw lefel eu diddordeb. Mae gan yr HER botensial mawr fel ffynhonnell data crai ar gyfer ymchwilio a dadansoddi. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn cynorthwyo â rheoli a chyflwyno’r dirwedd hanesyddol ac mae unigolion, sefydliadau ac awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio o ddydd i ddydd i asesu goblygiadau archaeolegol datblygiadau arfaethedig yn yr ardal.