Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Tanat
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol
Dyffryn Tanat
|
Yr Afon Tanat a'i hisafonydd dendritaidd yw nodwedd amlycaf tirwedd y cwm cul hwn sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin yng ngogledd Powys. Mae'r Afon Tanat
yn rhannu Mynyddoedd y Berwyn i'r gogledd, oddi wrth ucheldir tonnog Bryniau
Maldwyn i'r de. Mae mewn cwm llai nag 1km o led, ac nid yw ei lawr yn unman yn
uwch na 150m uwchben lefel y môr, gyda'r ochrau'n codi'n serth i ryw 300m uwchben lefel y môr.
Mae Cwm Rhiwarth a Chwm
Pennant, ffynhonnell yr Afon Tanat, yn ddau gwm rhewlifol dwfn wedi'u torri i
lethrau de ddwyreiniol Mynyddoedd y Berwyn. O'u cymer yn Llangynog, llifa Afon
Tanat i'r dwyrain trwy gwm lletach wedi'i amgylchynnu gan fryniau isel. Mae
Mynyddoedd y Berwyn, sy'n codi i 827m uwchben lefel y môr ar gopa Cader Berwyn, yn gryn
ragfur i gyfathrebu â'r gorllewin, ac o ganlyniad, bu cysylltiadau'r ardal yn
agosach â thiroedd y ffin i'r dwyrain. Cafwyd olion dylanwad dyn yn yr ardal hon
ers y cyfnod cynhanesyddol, ac nis cyfyngwyd i lawr y dyffryn. O ganlyniad, mae
gan yr ardal dirwedd hanesyddol amrywiol iawn, gyda thystiolaeth o batrymau
defnydd tir ac aneddiadau o lawer cyfnod ac o natur amrywiol.
Y dystiolaeth gynharaf am breswyliad yn y dyffryn yw cyfres o gofadeiliau o
Oes yr Efydd, na ellir eu gweld bellach ond o'r awyr fel olion cnydau. Mae'r
safleoedd unigol yn aml yn fach ac ar eu pennau eu hunain, ond gyda'i gilydd,
dyma'r un o'r grwpiau gorau i oroesi o dystiolaeth archeolegol o'r math hwn yng
Nghymru. Maent yn cynnwys hengor a chylchoedd pydew tebygol ym Meysydd, a
ffosydd cylchog a beddrodau wedi'u haredig ym Manhadla. Erys olion mwy gweladwy
o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn y ddwy fryngaer fawr o Oes yr Haearn yn
Llwyn Bryn Dinas a Chraig Rhiwarth, gyda'r naill a'r llall yn goruchafu eu
rhannau hwy o'r dyffryn. Dangosodd gwaith cloddio yn Llwyn Bryn Dinas
dystiolaeth o waith metel cynnar, a gallai awgrymu bod maint a lleoliad y gaer
yn ganlyniad i bwysigrwydd y mwyn lleol, y gweithiwyd mwy arno yn y 19edd
ganrif. Hefyd, mae modd gweld olion gwaith cynhanesyddol ym mhen uchaf Cwm Orog,
i'r gogledd o fryngaer Craig Rhiwarth.
Prif aneddiadau hanesyddol yr ardal yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Phennant
Melangell, a deillio o sefydliadau crefyddol canoloesol a wnaeth y naill a'r
llall. Cysylltir Pennant Melangell, sydd mewn cwm unig a heddychlon, â chwedl y
Santes Melangell o'r 8fed ganrif. Gellir dyddio rhannau o'r eglwys bresennol yn
ôl i'r 12fed ganrif, a dywedir iddi gael ei chodi ar dir lleiandy a sefydlwyd
gan Melangell. Y mae yno gysegr a all unwaith fod wedi dal olion y santes. Yr
oedd Llanrhaeadr yn safle eglwysig o bwys ac yn sefydliad clas (uned weinyddol
yn seiliedig ar aneddiad mynachaidd) a gysegrwyd i Sant Dogfan. Dyma un o'r
'eglwysi Cymreig, ynghyd â'r pentrefi a'r mynwentydd' a losgwyd gan y Saeson ym
1165, fel y cofnoda Gerallt Gymro. Dyma oedd plwyf William Morgan pan gwblhaodd
ei gyfieithiad Cymraeg o'r Beibl ym 1587. Y mae tystiolaeth gynharach o aneddiad
seciwlar canoloesol i'w gweld yn y mwntiau yng Nghefn-coch, Cefn Glaniwrch a
Maerdy.
Er bod tirwedd llawer o'r
dyffryn yn ganlyniad i amaethyddiaeth yn y Canol Oesoedd ac yn y cyfnod
ôl-ganoloesol, olion gorffennol diwydiannol sydd ym mhen uchaf y dyffryn o
gwmpas Llangynog. Cafodd mwyngloddio am blwm, ffosffad a llechi, ynghyd â'r
chwareli ithfaen, effaith sylweddol ar dirwedd ac economi'r ardal. Crybwyllwyd
eisoes wreiddiau cynnar mwyngloddio o gwmpas Llangynog, ac y mae'n bosibl bod
gweithfeydd tebyg wedi bod yno yn y cyfnod Rhufeinig. Er hynny, ni ddechreuwyd
gweithio'r mwynau o ddifrif tan yr 16fed ganrif, a pharhaodd tan yn gymharol
ddiweddar. Heddiw, mae olion y mwyngloddio i'w gweld o hyd yn yr adfeilion, y
lefelau, ffyrdd y tramiau a'r incleiniau, y gwelyau hidlo a'r tomennydd
gwastraff, sy'n dal yn amlwg. Arferai Lein Fach Dyffryn Tanat wasanaethu'r
mwynfeydd a'r chwareli, a bu'n rhedeg o 1904 tan 1960. Tynnwyd y trac i ffwrdd,
ond mae modd gweld llawer o'r lein ac adfeilion y gorsafoedd hyd heddiw.
Y Dirwedd Naturiol
Y Dirwedd Weinyddol
Tirweddau Aneddiadau
Tirweddau Amaethyddol
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Tirweddau Diwydiannol
Tirweddau a Amddiffynnwyd
Tirweddau Angladdol, Eglwysig a Chwedlonol
Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg
Ardaloedd cymeriad
1000 Llwyn Bryn-dinas . Tir bryniog â serth a cherrig brig, gynhanesyddol a llechfeddiannu tiroedd comin yn hwyr yn yr 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, ac ardaloedd o goetir hynafol hanner naturiol a phlanigfeydd modern. Yma gwelir Llwyn Bryn-dinas o'r gorllewin, gyda'r B4396 yn y blaendir, y ffordd dyrpeg gynt rhwng Knockin a Llanrhaeadr, a wellwyd ym 1756. Gwrychoedd un-rhywogaeth yw terfynau'r caeau yn bennaf, sydd at ei gilydd wedi gordyfu erbyn hyn, ac sy'n arwydd o gau tir comin yn ystod y 19eg ganrif. Mae rhagfuriau'r fryngaer gynhanesyddol, a sefydlwyd yn ystod yr Oes Efydd, i'w gweld ar y nenlinell. Llun: CPAT 803.01 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1001 Llangedwyn . Tirwedd bryniog, coediog ac addurnol gydag thai a gerddi mawr a ffermydd ystad gyda thir pori tonnog. . Yma gwelir Plas-uchaf o'r de-ddwyrain, sef ty brics trawiadol o'r 18fed ganrif gyda thriniadau tywodfaen ar lethrau isaf Llwyn Bryn-dinas, mewn parcdir gyda phlanhigfa gonifferaidd y tu hwnt iddo. Mae'r caeadle o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ym Mhlas-uchaf yn gorwedd ar fryncyn bychan yng ngwaelod y blaendir de. Gellir gweld rhagfur y fryngaer gynhanesyddol ar Lwyn Bryn-dinas ar y nenlinell ar y dde. Llun: CPAT 803.00A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1002 Maesmochnant . Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau ar deras gwastad ac ychydig yn uwch na llawr y dyffryn gyda chymhlyg o henebion ôl-cnydau cynhanesyddol ac angladdol a maen hir. Mae'r caeau unionlin mawr gwastad, sy'n nodweddiadol o'r ardal, i'w gweld yn y pellter canol, ac edrychir arnynt o'r gogledd-ddwyrain, ac mae'n debyg eu bod yn dangos y modd y caewyd caeau agored a berthynai i dref fechnan ganoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yn y blaendir mae fferm Glaniwrch, yn ardal cymeriad Trebrys. Ar y gorwel mae rhan o ardal cymeriad Brithdir. Llun: CPAT 805.12 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1003 Glantanat . Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau ar lawr y dyffryn yn ardal ddwyreiniol Dyffryn Tanat. Yna gwelir y caeau isel, fflat, mawr gan edrych tua'r gorllewin tua fferm Tan Llwyn. Dim ond rhyw 600m ar draws yw llawr y dyffryn yn y fan hon ac mae'r rhan fwyaf o'r caeau - sydd â gwrychoedd drain wedi eu torri'n isel - yn arwydd o waith tir pori comin yn y 18fed ganrif tan yn gynnar y 19eg ganrif. Llun: CPAT 803.04 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1004 Trebrys . Tirwedd yn cynnwys ffermydd mawr gwasgarog o'r canoloesoedd hwyr ac ar ôl y canoloesoedd, a osodwyd fel arfer o fewn eu caeau hanner afreolaidd canolig neu fawr eu hunain. Yn y llun hwn, edrychir tua'r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Lloran-uchaf, un o'r ffermydd sylweddol gwasgarog o'r canol oesoedd hwyr yn yr ardal cymeriad hon, a nodweddir gan gaeau bychain i ganolig eu maint ac afreolaidd eu ffurf. Roedd rhannau newydd yn cael eu clirio a'u cau i fodloni'r gofyn am dir yn ystod cyfnod y Tuduriaid, a arweiniodd at greu nifer o ffermydd sylweddol. Ym 1560, medrodd Maurice ap Meredith, Lloran-uchaf rannu ei ystad fechan ymhlith ei wyth mab a oedd yn dal yn fyw. Llun: CPAT 803.18 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1005 Craig Rhiwarth a welir o'r de-ddwyrain. Mynydd creigiog amlwg gyda bryngaer gynhanesyddol sy'n ymgodi uwch Llangynog. Mae'r fryngaer gynhanesyddol ar gopa'r bryn neilltuol hwn yn dros Langynog yn ymyl blaen y dyffryn Tanat. Mae'r bryn wedi ei amddiffyn gan a chreigiau naturiol ar bob ochr ar wahân i'r gogledd, wedi ei amddiffyn gan un rhagfur carreg. Ni ddyddiwyd y fryngaer, ond mae'n debyg iddi gael ei chodi gyntaf yn hwyr yn ystod yr Oes Efydd neu'n gynnar yn ystod yr Oes Haearn, o bosibl er mwyn amddiffyn y mwynau plwm a chopr sydd i'w cael yma ac acw ar y bryn, ac a weithiwyd o leiaf o flynyddoedd olaf cyfnod y Tuduriaid tan yr 20fed ganrif. Llun: CPAT 806.17A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1006 Garthgelynen . Ffermydd a chaeau bychain a chanolig eu maint ac agos i'w gilydd, sy'n arwydd o ehangu a chau llethrau'r bryniau bob yn dipyn rhwng blynyddoedd cynnar yr 16eg ganrif a'r 18fed ganrif. Yma gwelir ffermydd Cileos a Mochnant o'r de-orllewin gyda rhan o ardal cymeriad Y Clogydd y tu hwnt. Mae'r modd y clystyrir ffermydd o faint canolig yn eu caeau eu hunain, sy'n ganolig eu maint ac yn afreolaidd eu ffurf yn aml, yn nodweddiadol o'r ardal cymeriad. Mae nifer o'r ffermydd yn yr ardal cymeriad yn hanu o flynyddoedd olaf y canol oesoedd, ac mae ynddynt ffermdai nenffyrch o flyndoedd olaf y 15fed ganrif a blynyddoedd cynnar yr 16eg ganrif. Llun:: CPAT 806.00A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1007 Cefn-côch . Tirwedd bythynnod o'r 19eg ganrif ar ymyl tir mwy ymylol wrth y ffin rhwng plwyfi eglwysig Pennant Melangell a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yn y blaendir mae capel Methodistiaid Calfinaidd Elim a godwyd ym 1839, ac a welir o'r de-ddwyrain. Mae gan bob bwthyn ei gaeau bychain, ei erddi a'i badogau ei hun a gaewyd heb ganiatâd yn aml o'r tir pori comin. Yn y cefndir mae rhan o ardal cymeriad Y Clogydd, ardal o gytir uchel ar gyfer pori a gaewyd yn ystod blynyddoedd olaf y 19eg ganrif. Llun: CPAT 804.19A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1008 Allt Tair Ffynnon . Ardal amrywiol â llethrau serth yn wynebu'r gogledd ar ochr ddeheuol Dyffryn Tanat, rhan ohoni'n goediog a rhan yn gytir uchel a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif. Yma gwelir Coed Garth-eryr a Choed Glan-Tanat, y bryniau coediog ar lethrau deheuol dyffryn Tanat gyferbyn â Llangedwyn sy'n wynebu tua'r gogledd, ac mae tir fflat gwaelod y dyffryn yn y blaendir. Coetir derw hanner-naturiol ydyw'n rhannol a phlanigfeydd conifferaidd yw'r gweddill. Nid oes coed ar y bryn a elwir Allt Tair Ffynnon, ar y dde bellaf, ac eithrio o gwmpas gwaelod ei llethrau. Llun: CPAT 803.2 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1009 Llanrhaeadr-ym-mochnant . Tref fechan a dref farchnad o gwmpas clas eglwys ganoloesol gyda thai cerrig o'r 18fed ganrif a'r ganrif, tafarndai, siopau, capeli a melinau gynt wedi eu gwasgu i ddyffryn cul yr Afon Rhaeadr. Mae'n debyg I anhediad cynnar dyfu o gwmpas y clas canoloesol ar lan ddwyreiniol yr Afon . Mae'r anheddiad, a dderbyniodd siarter farchnad ym 1284, yn dal i fod yn bwysig yn lleol fel canolfan fasnach hyd heddiw. Oherwydd rhannu brenhiniaeth Powys yn hwyr yn 12fed ganrif, daeth y tai yn y cefndir - ar ochr ddwyreiniol yr afon - yn rhan o Sir tra roedd y rhai yn y blaendir yn Sir Drefaldwyn hyd nes yr ad-drefnwyd llywodraeth leol ym 1996. Llun: CPAT 804.22A(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1010 Llangynog . Tre mwyngloddio gyda bythynnod gweithwyr, tafarndai, siopau a chapeli, a welir o'r gorllewin, ac sydd dan gysgod Craig Rhiwarth ar y chwith. Yn ei ganol mae eglwys ganoloesol Sant Cynog, ond mae gwreiddiau'r pentref presennol ym mlynyddoed cynnar y 18fed ganrif pan ddarganfuwyd mwyn plwm. Dioddefai gyfathrebu gwael yn ystod y blynyddoedd cynnar ond gwellodd y sefyllfa pan godwyd y ffordd dyrpeg o'r Bala yn hwyr yn y 18fed ganrif ac yna'r rheilffordd yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Llun: CPAT 804.12A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1011 Cwm Pennant . Dyffryn rhewlifedig dwfn, pell ac anghysbell gyda ffermydd bychain clystyredig â chaeau caeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, eglwys ganoloesol a chysylltiadau chwedlonol â'r santes Melangell, a ffermydd a adawyd. abandoned farms. Mae'r Afon Tanat yn dechrau wrth y rhaeadr ym mhen uchaf y dyffryn rhewlifedig dwfn. Cysylltir y dyffryn â chwedl o'r 8fed ganrif am y santes Melangell a daeth ei heglwys hi yn ymyl pen y dyffryn yn ganolfan gwlt bwysig yn y canoloesoedd. Y dyffryn oedd rhan uchaf plwyf mawr, cymhleth Pennant Melangell. Rhannwyd y plwyf oherwydd bod pobl wedi symud yn ystod ail hanner y 19eg ganrif a throsglwyddwyd rhannau I Lanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangynog, Llanwddyn ac i blwyf newydd Pennant Melangell a grewyd ym Mhenybontfawr, agos i 7km i'r dwyrain. Llun: CPAT 806.24A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1012 Cwm Blowty . Dyffryn rhewlifedig dwfn, pell ac anghysbell gyda ffermydd bychain clystyredig, rhai wedi eu gadael, â chaeau caeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, rhaeadr drawiadol a chysylltiadau â'r Cawr Berwyn. Mae caeau cynnar gyda cherrig crynion fel terfynau clirio caeau ar lawr y dyffryn. Yr hyn sy'n nodweddiadol yw bod y fffermydd canolig eu maint, fel fferm Tan-y-graig ar ochr ogleddol y dyffryn, wedi eu lleoli lle mae ffynhonnau neu nentydd ar ochrau'r dyffryn. Mae terfynau caeadleoedd y 19eg ganrif yn ymestyn i'r tir uwch, ar lethrau ardal cymeriad Y Clogydd y tu hwnt. Mae llwybr llydan modern i'w weld yn trooi ar draws y llethr ar y dde. Llun: CPAT 808.16 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1013 Cwm Rhiwarth . Dyffryn rhewlifedig dwfn, pell ac anghysbell gyda ffermydd bychain clystyredig â chaeau caeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn. Fe'i gwelir yma gan edrych tua'r dwyrain i gyfeiriad Llangynog, a chan ddangos y llain gul o dir caeedig cul ar hyd gwaelod y dyffryn. Mae rhai o'r caeau'n ymestyn i'r llethrau graddol ar hyd ochrau'r dyffryn, er bod nifer o'r rhain wedi eu gadael erbyn hyn a daeth rhedyn ac eithin i'w llenwi. Mae'r ffermydd bychain a chanolig eu maint yn y dyffryn mewn grwpiau bychain yn aml ac mewn nifer o achosion mae awgrym eu bod wedi eu clystyru o gwmpas caeau âr, agored, bychain o'r canoloesoedd cynnar neu'r canoloesoedd. Llun: CPAT 807.14 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1014 Waun Llestri . Planhigfa goed ar ymyl uchaf y dyffryn ac ucheldir i'r de a'r gorllewin o Gwm Pennant, gyda chronfa ddwr a dyfrffosydd ar gyfer mwyngloddio. Fe'i gwelir yma gan edrych i'r de-orllewin i gyfeiriad Pen y Graig-lâs gyda choetir collddail a aildyfwyd ar y llethrau isaf a phlanhifa gonifferaidd fodern Llechwedd y Garth uwchben. Mae ymylon isaf y fforest ar gaeau a adawyd a berthynai i'r canoloesoedd neu i'r cyfnod cynnar ar ôl y canoloesoedd sy'n dilyn terfynau a farciwyd gan wrychoedd sydd wedi gordyfu at ochr chwith y llun. Llun: CPAT 806.22A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1015 Hafod Hir . Llethrau serth a chreigiau a chopaon creigiog uwchben a rhwng Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth, gyda chaeau a adawyd ar y llethrau isaf a thir gwastatach yn uwch i fyny, rhannu cytir uchel yn y 19eg ganrif, a chorlannau. Mae'r ucheldir eang a fflat yn gorffen yn sydyn lle mae creigiau serth a mariandir ar ymylon dyffrynnoedd rhewlifedig dwfn Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth, ac yn y llun hwn gwelir ymyl Cwm Pennant, i'r gorllewin o eglwys Pennant Melangell. Cyfyngir ar fynediad i'r ucheldir pori gan nad oes ond nifer fechan o lwybrau a llwybrau llydan sy'n dilyn dyffrynnoedd nentydd llai serth, a rannwyd ar y cyd mae'n debyg gan y ffermydd ar y tir isel yn y dyffrynnoedd o'r oesoedd cynnar. Llun: CPAT 807.10 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1016 Rhos y Beddau . Gweundir agored ar fynydd y Berwyn, cytir, gyda chorlannau gwasgaredig a henebion angladdol a defodol cynhanesyddol. Gweundir gwastad a gweddol donnog sy'n noweddiadol o'r Berwyn, a welir yn y fan hon gan edrych tua dwyrain i gyfeiriad Cadair Berwyn, cadair y cawr Berwyn ar y gorwel pell. Dyma'r bryniau a ddisgrifiwyd fel hyn gan George Borrow — 'darkly blue, a rain cloud like ink, hanging over their summits. Oh, the wild hills of Wales, the land of old renown and of wonder, the land of Arthur and Merlin'. Llun: CPAT 807.19 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1017 Y Clogydd . Ardal helaeth o gytir o'r 19fed ganrif a gaewyd, gyda chorlannau defaid ac olion cloddio am fetelauar ymyl ddeheuol y Berwyn. Fe'i gwelir yma gan edrych tua'r gorllewin i gyfeiriad Y Garn, o fan sydd i'r gogledd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, a rhai o'r caeau sy'n rhan o ardal cymeriad Cefn-côch yn y blaendir. Caewyd rhannau helaeth o'r ucheldir pori yn ystod y 19eg ganrif ac maent yn dal i gael eu gwella trwy glirio cerrig a rheoli'r glaswelltir. Llun: CPAT 805.10 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1018 Mynydd-mawr . Caewyd yr ucheldir anghysbell hwn ar ymyl ddeheuol y Berwyn bob yn dipyn rhwng y cyfnod cynnar ar ôl y canoloesoedd hyd at y 18fed/19eg ganrif. Fe'i gwelir yma, gan edrych tua'r gogledd gyda chaeau sy'n rhan o ardal cymeriad Trebrys yn y blaendir. Mae'n debyg bod y gwrychoedd terfyn afreolaidd yn cynrychioli clirio a chau'r acheldir pori fesul tipyn o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar ymlaen. Ni chynhelir llawer o'r gwrychoedd ar yr ucheldir erbyn hyn a'r canlyniad yw bod nifer o gaeau'n troi'n un cae. Llun: CPAT 803.23 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1019 Cyrniau . Ardal o ucheldir anghysbell gyda mariandir a brigiadau creigiog, cytir a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif ac a welir yma o'r dwyrain. Mae'n debyg mai ffurf y bryniau â'u pigau amlwg a roddodd fod i'r elfen 'cyrn' yn yr enw, elfen a welir mewn rhannau eraill o ardal Dyffryn Tanat. Tir pori garw yw'r llethrau serthaf gan amlaf, ond mae'r llethrau isaf a'r rhannau mwy gwastad yn ymyl y copa wedi eu gwella trwy glirio cerrig a rheoli'r glaswelltir. Llun: CPAT 806.13A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1020 Penybontfawr . Pentref a chyffiniau o'r 19eg ganrif, gydag eglwys, capel, ysgol a thafarn a dyfodd lle roedd ffyrdd tyrpeg yn cyfarfod, ac a gymerodd le canol plwyf canoloesol mwy anghysbell. Mae Penybontfawr, a welir yma gan edrych tua'r gorllewin gyda bryniau ardal Cyrniau yn y pellter, yn anheddiad o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif a godwyd ar groesffordd lle roedd dwy ffordd dyrpeg yn cysylltu'r gororau â gorllewin a gogledd-orllewin Cymru. Mae'r pentref yn unigryw yn Sir Drefaldwyn gan ei fod yn anheddiad cymharol ddiweddar a ddaeth yn blwyf eglwysig ac yn gymuned sifil ynddo'i hun. Llun: CPAT 806.3 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1021 Henfache . Ffermydd mawr a gwasgaredig ar y tir isaf a ffermydd mwy cymedrol eu maint a nes at ei gilydd ar lethrau isaf y bryniau, neuaddau nenffyrch a chyfundrefnau caeau o'r canoloesoedd diweddar. Fe'i gwelir yma, gan edrych tua'r dwyrain gyda rhan o ardal cymeriad Mynydd Mawr yn y pellter. Plas-yn-glyn yw'r fferm ar y dde, sy'n cynnwys neuadd fframwaith coed o'r 16eg/17eg ganrif a gaewyd mewn cerrig erbyn hyn. Ar hyd yr un llwybr i'r chwith mae Ty-draw, ysgubor ddadfeiliedig sy'n cadw olion neuadd nenffyrch o'r canoloesoedd diweddar. Mae'r adeiladau, y llwybr a'r caeau ar lethrau isaf y bryn yn dangos tirwedd caeedig o'r canoloesoedd diweddar a grewyd gan iwmyn. Llun: CPAT 805.2 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1022 Cwm Ffynnon . Yma, caewyd a gwellwyd cytir uchel yn y 19eg ganrif ar ymyl ddeheuol y Berwyn. Mae caeau â therfynau a ffurfir gan waliau sychion ar lethrau gogleddol Cwm Rhiwarth, ac yn dyddio mae'n debyg o'r canol oesoedd diweddar neu'r cyfnod cynnar ar ôl y canol oesoedd. Mae llawer o'r waliau wedi cwympo erbyn hyn ac fe'u cryfhawyd trwy ychwanegu ffensys pyst a weiren. Llun: CPAT 808.12 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1023 Brithdir . Ar lethrau Dyffryn Tanat sy'n wynebu'r gogledd i'r de o bentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Caeau afreolaidd bychain a ffermydd yn ymyl ei gilydd ar lethrau deheuol Dyffryn Tanat. Nodweddir y tirwedd gan gaeau afreolaidd bychain gyda gwrychoedd rhywogaethau cymysg a ffermydd neu ddaliadaethau bychain neu ganolig eu maint sy'n dynn yn ei gilydd a grewyd, i bob golwg, drwy glirio coetiroedd yn ystod y canol oesoedd diweddar ac yn gynnar yn y cyfnod ar ôl y canol oesoedd, ac ehangodd amaethyddiaeth yn dilyn diflaniad graddol systemau perchnogaeth tir y canol oesoedd. Llun: CPAT 808.02 (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1024 Glanhafon . Strimyn cul o ddolydd a chorsydd isel ar lawr y dyffryn yn ymyl pen dwyreiniol Dyffryn Tanat. Mae rhesi o goed aeddfed yn cynrychioli gwrychoedd cysylltiedig â chau dolydd isel â draeniad gwael yn ymyl yr Afon Tanat i'r dwyrain o Langynog ar ôl y canol oesoedd. Unwaith y bydd nifer o gaeau wedi eu troi'n un cae fel hyn, mae tuedd i'r gwrychoedd ddiflannu yn y man wrth i'r coed hynach farw a bod coed ifanc y methu dod i'w lle. Llum: CPAT 804.16A (Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon.
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' yn www.ccw.gov.uk.
|