CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


TIRWEDDAU ANEDDIADAU

Patrymau anheddu o’r cyfnod cynhanesyddol i’r cyfnod Rhufeinig

Blaen bachog o’r oes Baleolithig Uwch Ddiweddar a ddarganfuwyd drwy ddamwain ym Mhorthywaun, ym mhen dwyreiniol Dyffryn Tanat yw’r dystiolaeth gynharaf sydd gennym o weithgareddau dyn yn y rhanbarth. Mae’n dyddio o tua 12,000 CC. Daeth y darganfyddiad o gors yn yr iseldir ger pen Dyffryn Tanat ac yn ôl pob tebyg mae’n dangos bod aneddiadau hela dros dro yn bodoli yn y dyffryn yn ystod y cyfnod Rhewlifol diweddar. Mae’n debyg bod grwpiau o helwyr a chasglwyr nomadig wedi ymgartrefu yn y dyffryn dros dro a hynny ar sail dymhorol yn ystod y cyfnod Mesolithig a’r cyfnodau Neolithig cynharach a ddilynodd.

Cynrychiolir y cynnydd yng ngweithgareddau dyn yn Nyffryn Tanat gan henebion angladdol a defodol sy’n cynrychioli, yn ôl pob tebyg, anheddu parhaol rhwng diwedd y cyfnod Neolithig a chanol yr Oes Efydd, rhwng tua 3,000-1,200 CC. Mae dosbarthiad safleoedd ar lawr y dyffryn ac yn yr ucheldiroedd yn awgrymu i ystod eang o ardaloedd topograffig gael eu defnyddio ar gyfer hela, pori anifeiliaid ac amaethyddiaeth âr, ac mae’n debyg i batrymau tymhorol o ddefnyddio ac anheddu tir gael eu datblygu yn ystod y cyfnod hwn. Ni wyddys am yr un anheddiad o’r cyfnodau hyn o fewn yr ardal ond mae tystiolaeth o fannau eraill yn y rhanbarth yn awgrymu mai’r prif fath o adeiladau bryd hynny oedd tai crynion o bren o fath nad oes fawr ddim tystiolaeth weladwy ar eu hôl, a fyddai wedi’u grwpio mewn aneddiadau diamddiffyn yn ôl pob tebyg.

Gwyddys am aneddiadau wedi’u hamddiffyn o ddiwedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, ac sy’n perthyn i’r cyfnod rhwng tua 1000CC – OC 100, gan gynnwys bryngaerau a chlostiroedd ar yr iseldiroedd. Mae’n ansicr a fu pobl yn byw yn y bryngaerau yn barhaol a hefyd pa gyfran o’r boblogaeth a allai fod wedi byw y tu mewn iddynt, ond mae’n debyg mai ffermydd oedd y clostiroedd yn yr iseldiroedd lle y byddai teuluoedd estynedig yn byw trwy gydol y flwyddyn. Mae’n debyg bod pobl wedi rhoi’r gorau i fyw yn y bryngaerau erbyn dechrau’r cyfnod Rhufeinig ond efallai bod pobl wedi parhau i fyw ar rai o safleoedd y clostiroedd yn ystod y cyfnod Rhufeinig a dechrau’r cyfnod Canoloesol a ddilynodd, rhwng tua OC 100-1000.

Mae’n ansicr a fyddai cyfran sylweddol o’r boblogaeth wedi byw mewn aneddiadau amgaeëdig erbyn diwedd y cyfnod Rhufeinig, neu a fyddai’r mwyafrif o bobl wedi byw mewn aneddiadau agored o fath nad yw’n hysbys i ni eto. Fodd bynnag, mae'n debyg bod patrwm anheddu wedi ymddangos erbyn dechrau’r cyfnod Canoloesol a nodweddid gan glystyrau o ffermydd ar y tir is, a oedd yn well, a berthynai i deuluoedd estynedig a fyddai’n byw ynddynt yn barhaol, ynghyd ag anheddau yn yr ucheldiroedd y byddai pobl yn byw ynddynt ar sail dymhorol. Mae’n debyg na fodolai aneddiadau cnewyllol mawr bryd hynny, er ei bod yn bosibl bod aneddiadau cnewyllol llai, heb fod yn fwy na llond dwrn o dai efallai, wedi dechrau datblygu o amgylch nifer o’r safleoedd crefyddol cynnar, ger eglwys y clas yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, er enghraifft, sy’n dyddio o bosibl o’r 9fed ganrif.

Tystiolaeth o aneddiadau canoloesol a mwy diweddar

Nodir y model ar gyfer anheddu a gweinyddu cefn gwlad yng Nghymru yn y canol oesoedd yn y cyfreithiau Cymreig. Ar ddechrau’r cyfnod canoloesol byddai pob un o gymydau Mochnant Is Rhaeadr a Mochnant Uwch Rhaeadr wedi’i rannu yn nifer o drefgorddau; un o’r trefgorddau hyn fyddai prif drefgordd y cwmwd a chynhwysai’r llys, demên neu ystad bersonol yr arglwydd o fewn y cwmwd, a’r faerdref (trefgordd neu bentref y stiward) lle y byddai taeogion, a weithiai ar ystâd yr arglwydd o dan oruchwyliaeth y maer, yn byw. Delid tiroedd mewn trefgorddau eraill o fewn y cwmwd gan ddynion rhydd.

Nid yw’n hawdd cymhwyso’r model hwn at Ddyffryn Tanat, fodd bynnag. Mae’n demtasiwn meddwl bod prif drefgordd pob cwmwd yn cyfateb i’r domen yn yr iseldir sy’n hysbys o fewn pob cwmwd, yn arbennig gan y gelwir y domen yn yr iseldir ym Mochnant Is Rhaeadr yn Domen y Maerdy, sy’n awgrymu cysylltiad uniongyrchol â’r maer. Fodd bynnag, ymddengys fod pob un o’r tomenni wedi’u lleoli at ddibenion amddiffynnol mewn lleoedd sy’n gyfleus naill ai ar gyfer anheddiad cnewyllol i'r taeogion neu fel canol ystad yr arglwydd, ac ymddengys nad oes fawr ddim tystiolaeth uniongyrchol arall o leoliad posibl llysoedd neu faerdrefi yn y naill gwmwd a’r llall. Ymddengys y gallai dosbarthiad eglwysi plwyf canoloesol yn Nyffryn Tanat gynnig, ar yr olwg gyntaf, rhyw gymorth wrth ddiffinio patrymau anheddu canoloesol yn yr ardal, ond mae’r dystiolaeth a ddarparant unwaith eto yn amwys, gan yr ymddengys y gallai pob eglwys, ar wahân i Lanrhaeadr-ym-Mochnant, fod wedi gwasanaethu cymunedau gwledig gwasgaredig yn hytrach na bod yn ganolbwynt anheddiad cnewyllol. Yn absenoldeb tystiolaeth arall mae angen gweithio yn ôl o’r dystiolaeth gynharaf a geir ar fapiau o aneddiadau o fewn Dyffryn Tanat, yn fwyaf arbennig y mapiau degwm o’r 1830au a’r 1840au, er mwyn cael goleuni pellach ar y modd y datblygodd patrymau anheddu ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a hyd yn oed yn y cyfnod canoloesol.

Mae’r mathau o aneddiadau a gynrychiolir yn nhystiolaeth y degwm yn ymrannu’n bedwar categori sylfaenol – ffermydd gwasgaredig a leolir ar y tir ffermio gwell, tyddynnod o amgylch ymylon y tir amgaeëdig, crofftydd llai o faint a bythynnod ffermwyr defaid ar ran o’r tir uwch o ansawdd gwaeth, sef tir diffaith yr ucheldiroedd a gawsai ei amgáu'n ddiweddar, ac yn olaf nifer o aneddiadau cnewyllol cyfoes, yn enwedig Llangynog, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pen-y-bont Fawr, a Phenygarnedd. Mae i bob un o’r mathau hyn o anheddau ei hanes ei hun, a rhyngddynt maent yn cynrychioli gwahanol gamau yn natblygiad a dirywiad tirweddau aneddiadau’r Oesoedd Canol, yr Oesoedd Canol diweddar, y cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern. Un elfen sydd bron yn gyfan gwbl absennol o’r patrwm anheddu sy’n amlwg o dystiolaeth y degwm, fodd bynnag, yw’r hafod, sy’n cynrychioli’r arferiad o drawstrefa o’r ffermdy yn yr iseldir neu’r hendref a oedd wedi diflannu i bob pwrpas erbyn diwedd y 18fed ganrif. Ystyrir y cwestiwn ymhellach yn yr adran ganlynol ar dirweddau amaethyddol.

Aneddiadau gwasgaredig

Fel y nodwyd uchod, yn Nyffryn Tanat cynrychiolir aneddiadau gwasgarog gan ffermydd mwy o faint, tyddynnod, a bythynnod gwasgaredig. Fel arfer mae’r ffermydd o’r 19eg ganrif a ddangosir yn y degwm wedi’u lleoli lai na 500 o fetrau oddi wrth ei gilydd er bod tri neu bedwar ohonynt wedi’u gosod yn eithaf agos at ei gilydd mewn dau le. Bryd hynny maint y ffermydd fel arfer oedd 50 o erwau gyda ffermdy ac adeiladau eraill wedi’u lleoli fel arfer o fewn eu caeau eu hunain, islaw’r tir uwch croesawus a llai ffrwythlon ac yn uwch na’r tir is mwy llaith neu’r tir a oedd yn dueddol o orlifo. Mae’r ffermdai yn aml wedi goroesi, ond dim ond cyfran ohonynt sy’n dal i fod yn ffermydd gweithredol heddiw; mae ffermdai eraill erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel adeiladau fferm yn unig neu maent wedi diflannu yn gyfan gwbl.

At ei gilydd mae’r ffermydd wedi’u dosbarthu’n weddol gyfartal ar draws y tir gwell, er ei bod yn amlwg eu bod yn llai dwys ychydig i’r dwyrain ac i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, sy’n awgrymu y gallai rhan o’r tir yma ar un adeg fod wedi’i gweithio o ffermydd a leolid yn y dref. Mae llawer o’r ffermydd wedi’u paru hefyd gan enwau sy’n gorffen â’r olddodiadau uchaf neu isaf, fawr neu fach/fechan, ganol (ee Cefn-uchaf/isaf; Cefnhirfach/fawr; Cileos/-isaf; Garthgelynen-fawr/fechan; Glanhafon-fawr/ucha/uchaf; Glantanat-isaf/uchaf; Lloran-isaf/ganol/uchaf; Maesmochnant-isaf/uchaf; Peniarth –isaf/uchaf; Trewern/-isaf). Mae rhai o’r ffermydd a gysyslltir fel hyn wedi rhoi eu henw i’r drefgordd lle y’u lleolir, ac mae yna hefyd duedd i’r ffermydd hyn fod wedi’u lleoli ar y tir is a gwell. Mae’r ddau ffactor hwn yn awgrymu bod rhai o’r ffermydd hyn wedi datblygu yn uniongyrchol o batrwm anheddu gwledig sy’n perthyn i’r Oesoedd Canol cynnar ac i’r Oesoedd Canol ac a seiliwyd yn wreiddiol ar grwpiau ‘llwythol’ neu grwpiau teuluol estynedig yn meddiannu ardaloedd penodol o dir gwell a hynny ar y cyd. Mae’n debyg bod y broses hon eisoes yn diflannu ar ddiwedd yr Oesoedd Canol wrth i ddaliadau gael eu cyfuno. Ystyrir hyn ymhellach yn yr adran ar dirweddau amaethyddol isod.

Cynrychiolir patrwm gwahanol hefyd ar y map degwm gan lawer o’r ffermydd llai o faint sy’n dueddol o fod wedi’u lleoli ar y tir sydd ychydig yn fwy ymylol, ar ochrau'r ucheldiroedd a llethrau’r dyffrynnoedd. Ceid yr elfen tyddyn yn enw llawer o’r ffermydd hyn, wedi’i dalfyrru yn aml yn ty’n. Mae lleoliad llawer o’r daliadau hyn yn awgrymu’n gryf eu bod yn cynrychioli proses o symud i ffwrdd o’r tiroedd ‘llwythol’ cynharach at dir ymylol gan ffermwyr annibynnol oedd yn benderfynol o ddatblygu tir isel, tir ar ochr y mynydd a thir ar ben y mynydd. Arwydd bellach o’u hannibyniaeth yw’r ffaith nad yw’r ffermydd hyn fel rheol wedi mabwysiadu’r olddodiadau megis uchaf ac isaf ac yn aml mae ganddynt enw cwbl unigryw. Roedd gan gyfran sylweddol o’r ffermydd mwy ymylol hyn a’r ffermydd mwy o faint yn yr iseldiroedd adeiladau a adeiladwyd â nenfforch (gweler isod), sy’n dangos bod yr elfennau pwysig hynny o’r patrwm anheddu oedd yn amlwg o’r map degwm yng nghanol y 19eg ganrif eisoes yn bodoli erbyn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif.

Felly mae cyfuniad o brosesau gwahanol wedi arwain at y ffermydd annibynnol gwasgaredig a geir yng nghefn gwlad. Wele olion trefi annibynnol yr Oesoedd Canol cynnar a’r Oesoedd Canol a gysylltir ag ardaloedd cymharol fach o dir âr ar ffurf caeau agored yn cael eu dilyn gan broses o ymledu gan ffermydd cyfun annibynnol i'r tir oedd ychydig yn llai ffafriol yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yna gwelwyd gadael llawer o’r ffermydd mwy ymylol a chyfuno daliadau llai o faint yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Ni chynhaliwyd arolwg systematig o gynlluniau ffermydd ac adeiladau hanesyddol ar draws holl ardal Dyffryn Tanat eto ac o ganlyniad dim ond nifer gymharol fach ohonynt sydd wedi’u dyddio’n gywir. Dengys arolygon o ystadau yn Sir Drefaldwyn a gynhaliwyd yn y 18fed ganrif fod yr ystod o adeiladau fferm a geid bryd hynny wedi’i chyfyngu’n aml i ysgubor a beudy bach, ond bod y ffermydd yn yr iseldir yn cynnwys ystod ehangach o adeiladau fferm gan gynnwys cartws neu weinws, stablau, cytiau moch a llaethdai. Cynrychiolir dau fath sylfaenol o gynllun ffermdy yn astudiaeth glasurol Alwyn Rees o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, ychydig i’r de, ac ymddengys mai’r un yw’r sefyllfa’n fras ar draws Dyffryn Tanat. Mae ffermdy a thai allan ar batrwm tŷ hir sydd wedi’u trefnu mewn llinell ac sy’n wynebu’r buarth yn nodweddion trefniant cynharach. Mewn math diweddarach o ffermdy neu mewn rhai achosion mewn math mwy datblygedig o ffermdy, mae’r ffermdy ei hun, sydd fel rheol ar batrwm ffermdy hirsgwar o’r cyfnod ôl-ganoloesol, yn sefyll ar wahân i’r buarth ac yn wynebu i’r cyfeiriad arall. Yn Nyffryn Tanat, fel yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa, mae’n well gan y brodorion lethrau clyd, heulog sy’n wynebu’r de, ac, yn y cyfnod ôl-ganoloesol, mae hyn wedi arwain at enwau fel Bronheulog a Llety Heulwen.

Ategir y patrwm cyffredinol hwn gan astudiaeth bellach a ddangosodd fod cynlluniau ffermydd ag un rhes o adeiladau neu â dwy linell sydd naill ai’n gyfochrog â’i gilydd neu wedi’u gosod ar ffurf L ymhlith y ffurfiau a geir amlaf yn nhroedfynyddoedd y Berwyn fel rheol. Y mathau hyn o gynlluniau yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o godi yn achos ffermydd â nifer fach iawn o adeiladau. O ganlyniad byddai ffermydd o’r math hwn yn debygol o ddatblygu’n ffurfiau mwy cymhleth wrth i adeiladau ychwanegol gael eu hychwanegu yn sgîl y diwygiadau amaethyddol a gafwyd yn ystod y 18fed ganrif. Ni fu fawr ddim astudiaeth o’r ffyrdd y datblygodd ffermydd, ond ceir rhai achosion lle y mae tystiolaeth glir i’r mathau mwy cymhleth hyn ddatblygu o un tþ hir gwreiddiol oedd yn amlswyddogaethol. Trwy gofnodi a chloddio ei hadeiladau dangoswyd i fferm Tyddyn-llwyddion, ychydig i’r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, ddechrau yn yr 16eg ganrif fel tþ hir a adeiladwyd â nenfforch gyda buarth i un ochr. Ar ddechrau’r 17eg ganrif mewn un pen i’r tþ hir adeiladwyd ffermdy newydd â fframiau pren gyda thalcen cerrig yn y pen gorllewinol, a ffurfiai gynllun ar ffurf L, a chodwyd rhes ychwanegol o adeiladau brics a cherrig yn gyfochrog â’r tþ hir yn y 19fed ganrif.

Fel y nodwyd isod, erbyn o leiaf ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol roedd hawliau pori ar dir cyffredin eisoes yn cael eu penderfynu gan nifer y gwartheg y gellid eu cadw yn yr hendref neu’r brif fferm yn ystod y gaeaf. Yn y cyd-destun hwn gwelir bod lle pwysicach byth i’r tŷ hir gyda lle i bobl fyw ynddo yn y naill ben a lle i gadw anifeiliaid yn y pen arall. Mor ddiweddar â'r 18fed ganrif mae'n debyg mai dim ond ychen a buchod sugno – y stoc oedd yn hanfodol ar gyfer tynnu a bridio – a gedwid yn y tŷ a'u bwydo'n rheolaidd yn ystod y gaeaf. Yr elfennau pwysig yn yr hafaliad oedd faint o wair y gellid ei gywain a faint o le cysgodol a ddarparai’r tŷ hir ar gyfer y stoc.

Mae tyddynnod, crofftau a bythynnod ffermwyr defaid y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yn cynrychioli elfen amlwg arall yn y dirwedd wledig. A hwythau wedi'u dosbarthu ar ymylon y rhostir maent yn cysylltu'r ardaloedd hynny lle y lleolid y ffermydd annibynnol a berthynai i'r Oesoedd Canol diweddar ac i'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Fel y gwelsom fe'u sefydlwyd yn ystod y cyfnod rhwng y 15fed ganrif a'r 17eg ganrif. Ceir dwy enghraifft nodweddiadol o'r math hwn o dirwedd lle y gwelir bythynnod o fewn Dyffryn Tanat – Cefn-coch ar y bryn ychydig i'r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochant, a Mynydd-y-briw i'r gogledd o Langedwyn, gyda'u bythynnod agos at ei gilydd a chaeau llai o faint wedi'u gwasgaru ar hyd y ffordd. Yn y ddau achos hwn mae'n debyg i bobl ddechrau tresmasu ar y tir cyffredin fesul tipyn ar ddechrau'r 19eg ganrif, fel sy'n amlwg ar ddosraniad y degwm. Yn y ddau achos mae'r datblygiad ar ymylon yr ucheldiroedd ac mae'n arwyddocaol eu bod yn agos at ffiniau plwyfi Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Phennant Melangell yn y drefn honno. O ran eu maint tua chanol y 19eg ganrif amrywiai'r daliadau o dyddynnod â rhyw 15 erw o dir i fythynnod â gardd ac o bosibl dim mwy na 3 erw.

Fel mewn mannau eraill yng Nghymru, bu twf Anghydffurfiaeth ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif, y cynnydd yn nifer y capeli, twf ysgolion, a gwelliannau i ffyrdd i gyd yn bwysig iawn wrth helpu i gynnal y patrwm o aneddiadau gwledig gwasgaredig.

Aneddiadau cnewyllol

Adeiladwyd eglwysi canoloesol yn Nyffryn Tanat yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangynog, Pennant Melangell, Llanarmon Mynydd Mawr a Llangedwyn, ond dim ond yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant y ceir unrhyw dystiolaeth glir o aneddiadau cnewyllol yn ystod y cyfnod canoloesol.

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd o hanes cynnar yr anheddiad a dyfodd o amgylch eglwys y clas yn Llanrhaeadr, er yr ymddengys ei bod yn debygol iddi ddatblygu yn ganolfan weinyddol ar gyfer cantref Mochnant a chwmwd Mochnant Is Rhaeadr yn weddol gynnar, gan fod yr eglwys wedi'i sefydlu erbyn y 9fed ganrif o leiaf ac yn derbyn nawdd brenhinol. Mae'r hanes sylweddol cynharaf sydd gennym am yr anheddiad yn dyddio o'r cyfnod yn fuan wedi Goresgyniad Edward pan roddwyd Mochnant Is Rhaeadr i Roger Mortimer fel rhan o arglwyddiaeth Y Waun. Rhoddwyd yr hawl i'r dref gynnal marchnad a ffeiriau ym 1284, er mwyn meithrin masnach a chodi refeniw yn bennaf oll. O hyn datblygodd y farchnad fach â'i chanolbwynt ar y triongl agored ger yr eglwys a ddenai fasnachwyr o Groesoswallt a'r Amwythig a ddeliai mewn nwyddau arbenigol, yn ogystal â gwerinwyr o ffermwyr o Fochnant a âi yno i brynu ac i werthu. Gan fod yr ardal yn un anghysbell o fewn yr arglwyddiaeth roedd angen cyflawni gwahanol swyddogaethau gweinyddol yno hefyd, ond yn y pen draw byddai llwyddiant y farchnad yn cael ei benderfynu gan natur gyfyngedig ei chefn gwlad, ac o ddiwedd y 14eg ganrif yn aml ni fyddai tollau'r farchnad yn cynhyrchu unrhyw elw. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd anheddiad cymharol fach a chryno wedi datblygu yn enwedig ar ochr ogleddol afon Rhaeadr neu ar ochr Sir Ddinbych iddi, ac erbyn hynny roedd melinau ŷd, sawl tafarn, siopau, capeli, a neuadd farchnad wedi'u codi.

Creadigaethau diwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yw'r aneddiadau cnewyllol eraill sydd yn Nyffryn Tanat. Un o'r enghreifftiau eithriadol yw Llangynog lle y newidiwyd y patrwm anheddu gwledig yn llwyr gan ddiwydiannau echdynnu. Nid eglwys ganoloesol sy'n gyfrifol am ei rhesi o dai teras, ei chapeli a'r New Inn sy'n dyddio o'r flwyddyn 1751 ond y buddiannau mwyngloddio a chwarelu a fu â lle mor amlwg yn ei hanes o ganol y 18fed ganrif, ynghyd â phresenoldeb y ffordd dyrpeg a adeiladwyd ar draws y bryniau i'r Bala yn ddiweddarach yn ystod y ganrif. Mae'r tai teras, yr ysgol a'r bont ym Mhen-y-bont Fawr i gyd yn perthyn i'r 19eg ganrif a phresenoldeb ffyrdd tyrpeg ar gyffordd llwybrau a arweiniai i Groesoswallt, gorllewin Cymru, yr Amwythig a'r Bala, sy'n cyfrif yn bennaf oll am dwf yr anheddiad yn y fan hon. Unwaith eto mae'r eglwys a'r ficerdy yn agos at ei gilydd o ran dyddiad ac fe'i hadeiladwyd o'r newydd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wasanaethu cymuned oedd yn ehangu gydag ochr y ffordd. Roeddent yn bell o eglwys y plwyf ym Mhen-y-bont Fawr bum milltir i'r gorllewin ond buan y byddent yn bwrw'r eglwys honno i'r cysgod. Yn wir, mae Pen-y-bont Fawr yn unigryw o fewn y sir am fod yn bentref bach cymharol ddiweddar ar ochr y ffordd a ddyrchafwyd ar ôl hynny i statws cymuned sifil annibynnol. Yn yr un modd mwyngloddiau sy'n gyfrifol am y clystyrau o dai ym Mhencraig ar hyd y ffordd dyrpeg i'r gogledd o Langynog. Mae'r clwstwr o dai yng Nghomins yn enghraifft bellach o'r math o newidiadau a ddaeth i'r dirwedd yn sgîl y ffyrdd tyrpeg ac o'r newid mewn canolbwyntiau aneddiadau a'u dilynodd. Cododd aneddiadau bach eraill megis Efail-rhyd unwaith eto ar hyd y ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif drws nesaf i'r felin ŷd ac efail y gof. Gwasanaethai Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat, a adeiladwyd rhwng 1899-1904 ac a gaeodd o'r diwedd ym 1964, yn bennaf aneddiadau a fodolai eisoes ac ni chafodd fawr ddim effaith ar y patrwm anheddu.

Poblogaeth

Mae'n anodd asesu dwyseddau poblogaeth yn fanwl gywir cyn blynyddoedd olaf yr 17eg ganrif. Mae ffigurau o Notitiae Llanelwy ac o Dreth yr Aelwyd yr adeg honno yn nodi dwyseddau o rwng 9-38 o bobl fesul milltir sgwâr, a ffigurau ar gyfer Pennant Melangell a Llangynog yw'r rhai isaf a gofnodwyd yn Sir Drefaldwyn. Mae Cyfrifiad 1801 yn dangos i ddwyseddau barhau'n gymharol isel, gyda dwyseddau o rwng 25-50 o bobl fesul milltir sgwâr yn cael eu nodi. Cynyddodd y gymuned amaethyddol yn raddol ond gwelwyd amrywiadau lleol yn y gymuned fwyngloddio yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif o ganlyniad i ffawd anrhagweladwy'r diwydiant mwyngloddio: mae adroddiad y deon gwledig ar gyfer 1710 yn crybwyll yn achos Llangynog i 'wladfa newydd o fwyngloddwyr symud i mewn … mae eu nifer yn cynyddu yn ddyddiol', tra dim ond tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach disgrifiwyd y mwyngloddiau fel 'dyn sy'n marw'. Bu gostyngiad cyffredinol yn y boblogaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif gyda phobl yn ymfudo i ardaloedd diwydiannol y tu allan i Ddyffryn Tanat, ond ni welwyd pobl yn gadael eu hanheddau i'r un graddau ag y digwyddodd mewn rhai mannau eraill o Gymru.

Mathau o adeiladau

Cynrychiolir y bensaernïaeth ganoloesol gynharaf sydd wedi goroesi yn Nyffryn Tanat gan rannau o'r eglwys ym Mhennant Melangell sy'n perthyn i'r 12fed ganrif. Adeilad Romanésg cymharol blaen ydyw a chanddo dalcen crwn yn y dwyrain, cangell a chorff heb eu rhannu a drysau a ffenestri syml â phennau crynion, a fyddai wedi bod â thoeau gwellt yn wreiddiol. Codwyd y rhan fwyaf o'r adeiladwaith cynnar o gerrig crynion o'r nant leol wedi'u clymu â chlai, sy'n dangos bod diwydiannau cloddio cerrig a chynhyrchu calch heb eu sefydlu eto yn yr ardal, er i naddiadau o dywodfaen ar gyfer agoriadau'r drysau a'r ffenestri yn ogystal ag ar gyfer y beddrod Romanésg gael eu mewnforio o weithdy arbenigol gryn bellter i ffwrdd, rywle yn ardal y Gororau i'r dwyrain.

Y math hynaf o adeilad domestig yn Nyffryn Tanat yw'r tai ffrâm nenfforch hanner pren sy'n arbennig o niferus yn y rhan hon o'r Gororau ac sy'n nodwedd amlwg o draddodiad adeiladu cyffredin yr ardal. Gwyddys am ryw 20 o adeiladau ffrâm nenfforch o'r math hwn o fewn Dyffryn Tanat, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau'r 16eg ganrif ac fe'u hadeiladwyd fel ffermdai. Collwyd nifer o adeiladau gwaetha'r modd yn ystod yr 20fed ganrif, gan gynnwys Tyddyn-llwydion a Chileos-isaf a does dim amheuaeth na chollwyd llawer eraill mewn canrifoedd blaenorol. Dim ond yn ystod y 1980au a'r 1990au y nodwyd rhai o'r adeiladau ac mae yna bosibilrwydd mawr bod enghreifftiau eraill yn dal heb eu darganfod. Mae'n glir bod gan lawer o'r adeiladau neuadd ganolog o un neu ddau raniad, oedd yn agored i'r to, a lle y byddai lle tân agored canolog. Mae'n debyg y byddai rhydd-ddeiliaid o ffermwyr gweddol gefnog yn byw yn y tai neuadd ffrâm nenfforch hyn, a weithiai eu hystadau eu hunain, ac adeiladwyd o leiaf ddau o'r adeiladau – Tyddyn-llwydion a Chileos-isaf – fel tai hirion, gyda'u rhaniadau isaf yn cael eu defnyddio fel beudai.

Addaswyd pob un o'r adeiladau ffrâm nenfforch mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae pobl yn dal i fyw mewn rhai ohonynt, er bod nifer o adeiladau a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel tai wedi'u haddasu'n ysguboriau, fel yng Nghlanafon-fawr a Henblas. Mewn rhai achosion codwyd waliau cerrig yn lle'r waliau allanol am fod y paneli gwreiddiol wedi mynd yn ddiffygiol, fel yn achos Tan-y-graig. Yn Nhyddyn-llwydion adeiladwyd tŷ ffrâm bren newydd â thalcen cerrig fel asgell groes un pen iddo, ac addaswyd y tŷ neuadd i'w ddefnyddio at ddibenion amaethyddol ac yn nes ymlaen newidiwyd ei wal yn wal gerrig. Mae'n debyg bod adeiladau fel Tyddyn-llwydion a Chileos-isaf yn nodweddiadol o ffermydd yn Nyffryn Tanat ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae bron yn sicr eu bod yn fwy cyffredin yn yr ardal ar un adeg. Un adeilad amlswyddogaethol oedd y tai hirion ffrâm nenfforch o'r math hwn. Roedd eu hystafelloedd byw, y neuadd a'r beudy wedi'u trefnu mewn llinell, ac mae'n debyg y defnyddid rhannau o'r adeilad ar gyfer dyrnu a thasgau eraill mewn tymhorau gwahanol. Erbyn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif datblygodd yr adeiladau hyn yn nodweddiadol yn adeiladau ar wahân neu roeddent yn cael eu disodli gan adeiladau ar wahân, pob un â swyddogaethau mwy arbenigol. Mor ddiweddar â'r 18fed ganrif mae'n debyg mai dim ond ceffylau, ychen a buchod sugno a gedwid yn y tþ yn ystod misoedd y gaeaf, a byddai nifer yr anifeiliaid y gallai'r ffermydd unigol eu cadw dros y gaeaf yn rheoli hawliau perchenogion i dir cyffredin ac o ganlyniad cyfoeth a statws y sefydliad.

Nid ydym yn gwybod dim eto am ffurf yr adeiladau yn Nyffryn Tanat ar ddechrau’r Oesoedd Canol ac yn ystod yr Oesoedd Canol, sef yr adeiladau a ragflaenodd y tai neuadd ffrâm nenfforch hyn o ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Nid oes yr un ohonynt wedi goroesi ac nid yw cloddfeydd archeolegol wedi datgelu unrhyw wybodaeth amdanynt ychwaith. Mae cloddfeydd ar nifer o safleoedd trefol lleol, gan gynnwys bwrdeistref ganoloesol Trefaldwyn yn awgrymu bod technegau adeiladu yn yr ardal wedi newid tua’r 14eg ganrif ac yn lle codi adeiladau â physt dechreuwyd codi adeiladau â thrawstiau lintel wedi’u gosod ar linteli cerrig fel y neuaddau ffrâm nenfforch. Mae'n debygol fod olion tai cynharach o’r math hwn i’w cael o dan neu wrth ochr y ffermydd a ddisgrifiwyd uchod o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ffermydd sydd mewn rhai achosion yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Yn ddiddorol, dangoswyd bod yr unig dŷ neuadd ffrâm nenfforch a gloddiwyd yn Nyffryn Tanat wedi’i arosod ar gae cynharach oedd wedi’i aredig, sy’n awgrymu efallai fod pobl yn symud i ffwrdd o ardaloedd aneddiadau cynharach.

O ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen ymddengys bod traddodiadau adeiladu brodorol o fewn Dyffryn Tanat yn fwy amrywiol, heb unrhyw ddulliau adeiladu lleol a oedd yn nodweddiadol neu’n dra chyffredin yn amlygu eu hunain. Adeiladwyd nifer o ffermdai hanner pren â ffrâm flwch ar ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, rhai fel Tyddyn-llwydion â thalcenni cerrig. Dengys y dystiolaeth o eglwys Pennant Melangell fod y diwydiant cloddio cerrig lleol wedi ymsefydlu rywbryd rhwng diwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif fan bellaf ac nid oes amheuaeth nad oedd calch erbyn hyn ar gael fel rheol ar gyfer morter. O ganol yr 17eg ganrif yn gyffredinol câi amrywiaeth o ffermdai deulawr newydd eu hailadeiladu neu eu hadeiladu o’r newydd o gerrig, fel yn achos Glantanat-uchaf â’i charreg ddyddio o 1646 a Thþ-ucha â’i charreg ddyddio o 1665, ynghyd â nifer o fythynnod unllawr a deulawr llai o faint. Ychydig o adeiladau Tuduraidd mawreddog neu adeiladau urddasol o oes y Dadeni a gâi eu hadeiladu yn Nyffryn Tanat, ar wahân efallai i Neuadd Llangedwyn, adeilad yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed ganrif a oedd yn ailfodeliad o adeilad o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif a etifeddwyd gan deulu Williams-Wynns ym 1718. Serch hynny byddai teuluoedd o gryn fri neu rodres yn byw mewn tai mwy cymedrol eu maint – perthynai Glanhafon-fawr i deulu Lloyd, a Lloran-uchaf i deulu Maurice a allai olrhain eu hachau i gyfnod y Rhufeiniaid. Byddai perchenogion dyrnaid bach o ffermydd yn ddigon hyderus i ychwanegu Plas fel rhagddodiad i’r enw, er yr ymddengys rhai ohonynt yn hurt, fel yn achos Plas-criafol a saif tua blaen Cwm Maengwynedd. Byddai Cadwaladr Roberts (fu farw ym 1708/09), bardd a ffermwr, yn byw yn Nhŷ-ucha, ynghudd yng nghilfachau pellaf Cwm Llech. Byddai gan berchenogion Tyddyn-llwydion epigram Lladin wedi’i baentio ar waliau eu parlwr dirodres o’r 17eg ganrif.

Mae’n debyg y byddai gan lawer o’r adeiladau o ddiwedd yr 16eg ganrif ymlaen doeau llechi. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd gennym o hanes cynnar cynhyrchu llechi yn lleol, er bod yna awgrymiadau y gallai’r chwareli yn Llangynog fod wedi bod yn cynhyrchu llechi erbyn y 1530au. Roedd chwareli lleol yn cynhyrchu cerrig llorio erbyn dechrau’r 18fed ganrif o leiaf, i gymryd lle’r lloriau pridd cynharach. Heb ei gofnodi cyn ail neu drydydd degawd y 18fed ganrif, y mae’r defnydd o frics yn Nyffryn Tanat, fel yn nhai ffasiynol Tŷ-nant a Henblas, Llangedwyn a hefyd mewn adeiladau diwydiannol ym mwynglawdd plwm Llangynog, lle y cofnodir iddynt gael eu defnyddio yn y 1730au. Mae’n debyg bod nifer o enwau caeau fel ‘Brick Field’ a ‘Kiln Bricks’ yn ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn dystiolaeth o’r ffaith bod brics yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fach ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’r mathau o adeiladau a godwyd tua diwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif yn nodweddu’r aneddiadau cnewyllol yn bennaf.