CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Penybontfawr, Penybontfawr, Powys
(HLCA 1020)


CPAT PHOTO 806.03a

Pentref o'r 19eg ganrif a'i amgylchedd, gydag eglwys, capel, ysgol a thafarn a dyfodd wrth gyffordd ar ffyrdd tyrpeg, ac a gymerodd le canolfan blwyfol ganoloesol fwy diarffordd.

Cefndir Hanesyddol

Yn weinyddol, byddai'r ardal wedi perthyn i gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn. Fe arferai orwedd o fewn cyfran ddatodedig o blwyf eglwysig canoloesol Pennant Melangell, ac roedd eglwys y plwyf hwnnw yng Nghwm Pennant tua 7km i'r gorllewin. Codwyd Eglwys San Thomas ym Mhenybontfawr ganol y 19eg ganrif i ddiwallu anghenion y boblogaeth gynyddol yn rhan isaf y plwyf. Yn ddiweddarach, hi oedd eglwys plwyf Pennant Melangell, pan unwyd rhan uchaf y plwyf â phlwyf Llangynog. Mae pentref Penybontfawr, (a elwid y Bont Fawr yn y gorffennol) yn dyddio bron yn gyfan gwbl o'r 19eg ganrif, ac mae'n unigryw yn Sir Drefaldwyn yn yr ystyr ei fod yn bentref ymyl y ffordd cymharol ddiweddar a aeth yn ei flaen i fod yn gymuned sifil annibynnol.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Diffinnir yr ardal cymeriad fel ei bod yn cynnwys pentref Penybontfawr ar lawr isel y dyffryn, yn ogystal â thir ffermio caeedig ar dir llechweddog pen isaf Cwm Hirnant a Chwm Fedw i'r de. Ceir llechweddau sy'n wynebu tua'r gogledd yn bennaf, rhwng tua 130-230m uwch lefel y môr, yn gyffredinol. Cynhwysir hefyd yn yr ardal cymeriad ucheldir Das Eithin gyda chreigiau a brigiadau, sydd yn codi i tua 360m.

Cyfathrebu sydd wrth wraidd bodolaeth anheddiad Penybontfawr gan ei fod ar groesffordd y ffordd dyrpeg rhwng Croesoswallt, gorllewin Cymru, Amwythig a'r Bala. Mae'r bythynnod teras, y bont, yr hen gapel (1835), yr eglwys (1855), yr ysgol, y capel (1867), y dafarn (Railway Inn), y ficerdy, a'r hen felin, i gyd yn dyddio o'r 19eg ganrif. Yn ystod yr 20fed ganrif codwyd ystadau tai tua'r gogledd, y dwyrain a'r de o'r cnewyllyn gwreiddiol. Mae rhai o'r ffermydd yn y wlad o gwmpas y pentref yn hynach, gan gynnwys Peniarth-uchaf lle mae adeilad nenffyrch o ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau'r 16eg ganrif, y ffermdy cerrig o'r 17eg ganrif yn Fferm Penybont, er bod yr adeiladau mewn ffermydd eraill yn fwy diweddar, gan gynnwys y ffermdy cerrig o'r 18fed ganrif yn fferm Parc a'r ffermdy cerrig o'r 19eg ganrif gyda gwisgiad briciau ym Mheniarth-isaf, gydag adeiladau allanol o gerrig a briciau. Mae ffermdy cerrig gydag adeiladau allanol o'r 18fed / 19eg ganrif ym Mryn Aber, sydd hefyd â gwisgiad briciau, ac mae'n bosibl bod yma sylfeini adeiladau pren cynharach yn cynnwys cerrig crwn a waliau o gerrig chwarel drostynt. Mae Bryn Aber Hall yn 'fila' o'r 19eg ganrif a rendrwyd, ac ar un adeg roedd yma bortsh Tysganaidd a godwyd gan Maurice Powell Bibby, twrnai, bardd a thelynor, gyda choed planedig aeddfed yn y cae i'r gogledd a'r dwyrain sy'n creu effaith parcdir.

Caeau canolig eu maint ac afreolaidd yn aml, tir pori'n bennaf, o fewn rhan ddeheuol yr ardal cymeriad, sy'n dangos mae'n debyg gyfuniad o gau'r tir uchel yn gynnar yn achos ffermydd fel Peniarth-uchaf, a chau'r dolydd ar waelod y dyffryn yn ystod y 18fed / 19eg ganrif. Mae tuedd i'r terfynau, sef gwrychoedd sydd wedi gordyfu'n aml, ddilyn y gyfuchlin, ac mae linsiedi wedi eu cysylltu â rhai. Gwelir rhywfaint o rychu yn y caeau isaf ger yr afon.

Roedd Penybontfawr hefyd ar Reilffordd Dyffryn Tanat, a weithiai i'r gorllewin o Lanrhaeadr rhwng 1904 ac 1952, ac erbyn hyn codwyd adeiladau ar safle'r orsaf i'r gogledd o'r pentref, ar yr ochr arall i'r Afon Tanat. Mae'r bont ddwr sydd yn cario dwr o Lyn Efyrnwy yn pasio ychydig i'r gorllewin o'r pentref - mae dan y ddaear ac ni ellir ei gweld. Codwyd y pontydd ym Mhenybontfawr sy'n croesi'r Afon Hirnant a'r Afon Tanat yn lle rhydau blaenorol ar y ffyrdd a'r llwybrau llydan a oedd yn cysylltu'r ffermydd hynaf yng ngwaelod y dyffryn â'r mannau pori ar y bryniau i'r de a'r de-orllewin.

Ffynonellau

Britnell 1994a
Hancock 1872
Haslam 1979
Silvester 1992
Smith 1988
Sylvester 1955-56
Thomas 1911

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.