CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Brithdir, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1023)


CPAT PHOTO 808.02

Caeau afreolaidd bychain a ffermydd agos at ei gilydd ar lethrau deheuol Dyffryn Tanat.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn gorwedd ym mhlwyf eglwysig Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Sir Ddinbych ac o fewn hwn gwmwd Mochnant Is Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tir llechweddog yn wynebu'r gogledd, ar ochr ddeheuol Dyffryn Tanat, ar uchder sydd rhwng tua 130-200m uwch lefel y mr, yn gyffredinol, ond mae darn bychan o ucheldir serthach i'r de, gan gyrraedd uchder o 300m uwch lefel y môr. Dyffrynnoedd nentydd ag ochrau serth fel Nant y Wiber gyda choetir hanner naturiol yn cynnwys coed derw a choed dailgoll cymysg. Ambell ddarn o dir gwlyb gyda chyrs.

Ffermdai clystyrog, adeiladau allanol a manddaliadau o gerrig, agos i'w gilydd o'r 17eg/18fed-ganrif sydd fel arfer at ymylon y tir uchel ac sydd wedi eu lleoli o fewn eu caeau eu hunain yn aml, fel yn achos Castellmoch-fach a Chaesiencyn, a ffermdai yn y Brithdir sydd wedi eu rendro neu eu rendro'n rhannol, gan gynnwys nifer o ffermdai isel o gerrig fel y Dderwen Fawr, sydd wedi ei rendro bellach, a Wernffinnant, gydag adeiladau allanol o gerrig. Mae'r adeiladau hynach wedi eu gwneud o gerrig crynion a gliriwyd o'r caeau ac o gerrig a chwarelwyd, ac mae rhai o'r adeiladau diweddarach wedi eu gwneud o gerrig a chwarelwyd. Ffermdy cerrig Castellmoch-fach o'r 18fed/19eg ganrif ac adeiladau alanol o gerrig. Ceir ambell fferm a manddaliadaeth a adawyd fel yn achos Lletty'r-heulen, o ganlyniad i gyfuno daliadaethau yn ystod yr 20fed ganrif. Ceir clystyrau o fythynnod ar ymyl y ffordd o'r 19eg ganrif ger Rhos-y-brithdir, at gornel dde-ddwyreiniol yr ardal.

Caeau bychain ac afreolaidd, ar gyfer pori'n bennaf bellach, gyda gwrychoedd cymysgryw o onnen, collen a chelynen, rhai ohonynt wedi gordyfu ac yn fylchog, ac ychwanegwyd ffensiau pyst a gwifren atynt, ond ceir rhywfaint o wrychoed a osodwyd yn y dull traddodiadol. Ceir ponciau gwrychoedd usel ac ambell linsiad yn y caeau a rhywfaint o dirwedd cefnen a rhych, mewn cae i'r dwyrain o Gaesiencyn. Ceir coed derw aeddfed ar wasgar yn y gwrychoedd. Ceir waliau sychiol dadfeiliedig ar y tir uwch. Mewn mannau symudwyd y ffiniau. Ceir stondinau llaeth gadawedig o gerrig, concrit a blociau adeiladu ym mynedfeydd y ffermydd. Mae'r rhan fwyaf o'r tir isel yn dangos lle caewyd tir fesul ychydig yn ystod y canol oesoedd hwyr ac yn gynnar yn y cyfnod l-canoloesol. Ceir grid o gaeau hirsgwar mawr ar y tir serthach at ymyl ddeheuol yr ardal cymeriad, lle caewyd comin uchel yn ystod y 19eg ganrif a lle ceir gwrychoedd sydd wedi gordyfu bellach, a cheir manddaliadaethau o'r 18fed ganrif hwyr a'r 19eg ganrif gynnar yn Hafotty a Chae Pant.

Cynrychiolir diwydiant o'r 19eg ganrif gan bwll ffosffad posibl a nifer o chwareli bychain. Ceir ffyrdd cyhoeddus mewn ceuffyrdd hyd at 4-5m mewn dyfnder, gydag ymylon cerrig mewn mannau, traeniau ffyrdd a dyfrffosydd lle bu rhydau gynt. Ceir rhwydwaith o lwybrau, llwybrau llydan a lonydd gwyrddion rhwng y ffermydd.

Ffynonellau

Haslam 1979
Richards 1934

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.