CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai prosiectau

1
Dyffryn Clwyd

2
Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

34
Dyffryn Tanat

35
Bro Trefaldwyn

36
Canol Dyffryn Gwy

37
Y Berwyn

38
Pen Isaf Dyffryn Elwy

39
Mynydd Hiraethog

40
Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg

41
Maelor Saesneg

48
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg

55
Cwm Elan

56
Bro Caersws

57
Dyffryn Clywedog

58
Canol Dyffryn Wysg: Aberhonddu a Llan-gors

Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru


Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys wedi cyfrannu at waith yn edrych ar gymeriad hanesyddol yr ardaloedd a ddiffinnir gan Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru. Mae hyn yn rhan o brosiect ar gyfer Cymru gyfan a noddir gan Cadw: Welsh Historic Monuments a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac amlinellir y cefndir isod. Y gobaith yw y bydd yn bosibl ystyried pob tirwedd yn y gofrestr yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf ac yna ehangu'r gwaith i'r rhannau hynny o Gymru sydd 'heb eu cofrestru'. Mae'r dudalen ganlynol yn rhoi blas o'r gwaith a wnaed hyd yma yn ardal Clwyd-Powys. Er mwyn eu gweld, cliciwch ar y map isod neu dewiswch ardal o'r ddewislen.

Historic Landscapes in Wales, © Crown

Ardaloedd Tirwedd Hanesyddol sydd yng Nghofrestr Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriaol yng Nghymru CCW / Cadw /ICOMOS UK Rhan 2.1. Yr ardaloedd a ddangosir mewn glas golau yw'r rhai yr edrychir arnynt yn fanwl gan CPAT fel rhan o'r rhaglen Disgrifio Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru.


Mae'r grymoedd nuturiol a'r gweithgaredd dynol a fu'n gweithredu ar y cyd dros y chwe mil o flynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at y broses o gynhyrchu tirwedd o harddwch ac amrywiaeth hynod yng Ngymru, ased cenedlaethol sy'n hanfodol i ni o ran ein hunaniaeth genedlaethol a hefyd o ran ein lles a'n 'hymdeimlad o berthyn i le' unigol. Gellir gweld ymhobman yr amrywiaeth a'r olion a adawyd ar y tirwedd gan weithgaredd dynol, o henebion cerrig enigmatig y cyfnod cynhanesyddol a chestyll ac abatai gwych y cyfnod canoloesol, i'r nodweddion eithaf cyffredin a nodweddiadol fel ffiniau caeau a all yn aml fod yn hen iawn. Ond nid dim ond golygyfeydd deniadol neu gofnod o'r gorffennol yn unig yw'r tirwedd; mae hefyd yn darparu lle i ni fyw, gweithio a chynnal ein hunain ynddo, drwy gyfrwng amaeth, coedwigaeth, twristiaeth ac ati, oll yn broseau sy'n llunio, ac a fydd yn parhau i lunio'r tirwedd.

Bu cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a chyfoeth ffarig hanesyddol y tirwedd yn thema ac yn neges ganolog y gofrestr anstatudol, Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru, y cyhoeddwyd y rhan gyntaf ohoni, sy'n cwmpasu trideg chwech o dirweddau 'eithriadol' ym mis Ionawr 1998. Caiff y Gofrestr ei llunio fel menter ar y cyd rhwng Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) sy'n gweithio mewn cydweithrediad phedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac awdurdodau unedol Cymru.

Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yw'r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i'r broses o lywio'r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn chymeriad y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol. Cyflawnir hyn drwy broses a elwir yn nodweddiad tirweddau hanesyddol y gellir eu diffinio a'u mapio'n ddaearyddol, yn l yr hyn a benderfynir gan ystod a dosbarthiad y nodweddion archaeolegol a hanesyddol sy'n goroesi a'r prif fathau o batrymau defnydd tir hanesyddol neu 'themu' hanesyddol sydd wedi llunio'r ardal. Nodir nodweddion hanesyddol allweddol yr ardal felly ynghyd ag argymhellion ar gyfer eu rheoli'n gadarnhaol.

Mae'r adroddiad hwn yn un o gyfres o ymarferion nodweddiad tirweddau hanesyddol yr ymgymerir ag ef gan Ymddiriedolaethau Archaeoloegol Cymru gyda chymorth grant gan Cadw. Bydd yr astudiaethau hyn yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar yr ardaloedd hynny a nodwyd yn y Gofestr o Ddiddordeb Hanesyddol, er y caiff ei dderbyn bod modd disgrifio tirwedd Cymru gyfan, mewn un ffordd neu'r llall, fel yn hanesyddol. Mae gwybodaeth yn cael ei pharatoi ar ffurf sy'n cydweddu methodoleg asesu tirweddau a gwneud penderfyniadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef LANDMAP. Bydd ar gael i ystod eang o sefydliadau a chaiff ei fwydo i fentrau amrywiol er mwyn diogelu a rheoli cefn gwlad Cymru, yn bennaf y cynllun agri-amgylcheddol sef, Tir Gofal. Caiff ei weld hefyd yn gwneud cyfraniad arbennig o bwysig i'r broses o godi ymwybyddiaeth a dwyshau'r ymdeimlad o arbenigrwydd lleol.

Cydnabyddir yn llwyr gan y Gofestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol, a'r ymarferion nodweddu hyn, natur ddeinamig y tirwedd sy'n parhau i esblygu. Hyrwyddant y farn mai nid trwy rwystro newid neu ffosileiddio'r tirwedd y mae diogelu treftadaeth y gorffennol yn y tirwedd, ond yn hytrach drwy lywio'r broses o newid, gan greu tirweddau'r dyfodol heb o anghenraid aberthu tirweddau gorau'r gorffennol.

Richard Avent & Richard Kelly
ar ran
Cadw & Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Dyffryn Clwyd / The Vale of Clwyd (1999) Dyffryn Clwyd / The Vale of Clwyd (1999) Dyffryn Clwyd / The Vale of Clwyd (1999) Comin Treffynnon a Mynydd Helygain / Holywell Common & Halkyn Mountain (2000) Dyffryn Tanadd / The Tanat Valley (1999) Dyffryn Tanadd / The Tanat Valley (1999) Maelor Saesneg / Maelor (2003) Maelor Saesneg / Maelor (2004) Mynydd Hiraethog / Denbigh Moors (2003) Mynydd Hiraethog / Denbigh Moors (2003) Mynydd Hiraethog / Denbigh Moors (2003) Mynydd Hiraethog / Denbigh Moors (2003) Y Berwyn / Berwyn (2005) Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg / Vale of Llangollen and Eglwyseg (2005) Pen Isaf Dyffryn Elwy / Lower Elwy Valley Bro Caersws / Caersws Basin Bro Trefaldwyn / Vale of Montgomery (2000) Canol Dyffryn Gwy / Middle Wye Valley (2001) Canol Dyffryn Gwy / Middle Wye Valley (2001) Cwm Elan / Elan Valley (2004) Canol Dyffryn Wysg: Aberhonddu a Llan-gors / Middle Usk Valley: Brecon and Llangorse Dyffryn Clywedog / Clywedog Valley