CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Cwm Blowty, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1012)


CPAT PHOTO 808.16

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog, rhai wedi eu gadael, gyda chaeau amgaeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, rhaeadr drawiadol, cysylltiadau â Chawr Berwyn.

Cefndir Hanesyddol

Roedd rhan o'r dyffryn yng nghyfran Sir Ddinbych o blwyf eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond roedd trefgordd Cwm Blowty yn gyfran ddatodedig o blwyf Pennant Melangell, Sir Drefaldwyn. Yn weinyddol, gorweddai o fewn cwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych. Arferai Gwernfeifod, fferm tua 380m uwch lefel y môr yn Nghwm Ffynnon, sydd ar ochr ogleddol Cwm Blowty, fod yn blasty canoloesol a oedd yn perthyn i Abaty Glyn y Groes. Fe all fod yn arwyddocaol fod y fferm yn cynnwys Ffynnon Dogfan, y ffynnon sanctaidd a gysegrwyd i nawddsant eglwys y plwyf yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant - y plwyf yr oedd ynddo. Mae enw'r fferm yn cynnwys yr elfen 'meifod' (cartref Mai) sy'n awgrymu ei bod, o bosibl, yn hafod ar un adeg.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Dyffryn rhewlifol dwfn gyda'r Afon Rhaeadr yn rhedeg drwyddo, yn ymestyn yn llinell ddi-dor am tua 6km i'r gogledd-orllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae'r dyffryn yn gul a'r rhan isaf wedi ei chyfyngu, yn union y tu allan i Lanrhaeadr, ac mae ei lawr yn lledu i ryw 400m ar draws at ben y dyffryn. Mae llawr y dyffryn yn codi o uchder o tua 170m uwch lefel y môr ger Llanrhaeadr i tua 300m wrth droed y rhaeadr, ac mae'r bryniau o gwmpas y dyffryn yn codi'n serth i uchter o fwy na 500m uwch lefel y môr. Ceir ambell fan ar waelod y dyffryn â draeniad gwael.

Ffermydd bychain a chanolig eu maint ar y cyfan sydd wedi eu clystyru ar ochrau isaf llawr y dyffryn, yn ymyl y ffordd yn aml, gan gynnwys y ffermdy ac adeiladau cerrig o'r 17eg - 19eg ganrif ynn Nghefnderwen, cyfadail o'r 17eg - 18fed ganrif yn cynnwys ffermdy ac adeiladau allanol ym Maes-y-bwch, a'r ffermdy bellach wedi mynd â'i ben iddo ac mae ffermdy brics modern yn ei le, ffermdy ac adeiladau allanol cerrig o'r 18fed ganrif yn Nhyn-y-ddol a Gorwallt, Tyn-y-wern, Tan-y-graig a Thyn-y-celyn. Mae nifer o'r ffermydd mwyaf anghysbell ar lechweddau yn wag bellach, gan gynnwys Tyn-y-llwyn, ac mae bwthyn gadawedig yng Ngardden-fach ar ochr ddeheuol y dyffryn. Mae clwstwr o fythynnod o'r 18fed ganrif hwyr a dechrau'r 19eg ganrif ar dir comin gynt a lechfeddiannwyd yn rhan gul y dyffryn ag ochrau serth yn Commins, lle mae'r adeiladau wedi eu codi o gerrig a chwarelwyd yn ogystal â cherrig crynion. Codwyd capel Carmel ym 1836 a'i ailgodi ym 1861, a bellach fe'i trowyd yn gartref.

Ar gyfer pori y defnyddir y tir heddiw. Ceir gwrychoedd â rhywogaethau cymysg ar ymyl y ffordd ac mae tystiolaeth o osod gwrychoedd yn y dull traddodiadol yn y gorffennol. Weithiau ceir pyst giatiau o gerrig garw wrth fynedfeydd i gaeau. Ar y llethrau llai serth ar ochr dde-ddwyreiniol y dyffryn ceir caeau unionlin cymedrol eu maint a nifer o gaeau cynharach gyda therfynau cromlin a ddiffinnir gan bonciau cerrig a waliau sych hyd at 1.5m ar draws ac 1m mewn uchter a wnaed trwy glirio cerrig, ac mae llawer ohonynt erbyn hyn wedi syrthio. Mae'n debyg bod yma dir a gaewyd yn ystod yr 17eg/18fed ganrif. Mae rhai o'r ponciau a'r waliau'n cynnal gwrychoedd a dorrwyd yn isel, gwrychoedd sydd wedi gordyfu neu goed neu brysgwydd hwnt ac yma. Mewn rhai achosion, yn y fan hon ac ar yr ochr ogleddol, tua blaen y dyffryn, diffinnir caeadleoedd mwy gan bonciau o gerrig a gliriwyd ac fe'u hisrannwyd gan wrychoedd un rhywogaeth (draenen wen) heb bonciau. Ceir carneddau clirio na wyddys eu dyddiad i sicrwydd ar dir llechweddog mewn rhai mannau mwy caregog. Ceir ponciau caeau creiriol mewn rhai achosion lle mae nifer o gaeau wedi eu huno.

Caeau bychain ac afreolaidd gyda waliau sychion, yn dyddio o'r canoloesoedd a'r canoloesoedd hwyr, ar lawr y dyffryn ac ar yr ochrau yn y rhan sydd i'r gorllewin o fferm Commins i flaen y dyffryn, ac mae linsiedi yn rhai ohonynt sy'n arwydd o waith aredig gynt. Mae'r waliau, y mae rhai ohonynt wedi syrthio, wedi eu gwneud o gerrig crwn a gafwyd trwy glirio caeau yng ngwaelod y dyffryn. Ceir nifer o waliau a wnaed o dalpiau o lechen ym mhen y dyffryn. Mae rhannau gwastataf y tir amaeth a'r enwau caeau sy'n cynnwys yr elfen 'maes' yng nghyffiniau ffermydd Maes-y-bwch yn awgrymu fod yma randiroedd âr agored yn y canoloesoedd.

Ceir nifer o gorlannau at ymylon y tir amgaeedig. Cyrhaeddir y tir pori uwch yn bennaf drwy ddilyn y nentydd ym mhen uchaf y cwm ac ar hyd nifer o gymoedd ochrol lle mae nant gan gynnwys Cwm-ffynnon i'r gogledd o Faes-y-bwch. Mae ffordd ucheldirol fodern yn igam-ogamu ar draws y bryn i'r gorllewin o Dan-y-graig sydd, mae'n debyg, yn dilyn cwrs ffordd hynach a ddangosir gan olion llwybr llydan plethedig.

Ceir darnau o goetir dailgoll a derw cymysg hanner naturiol ar y llethrau serth ar hyd ochrau'r dyffryn ac yng Nghwm-ffynnon, gyda chlystyrau o goed ysgaw ar lannau'r nentydd ac ar hyd glannau'r Afon Rhaeadr. Planigfeydd conifferaidd bychain a choed mwy wedi eu gwasgaru.

Coed coniffer addurniadol a phrysgwydd bocs o gwmpas Neuadd Pen-y-bryn a'i dreif, yn uchel ar ochr ogleddol y dyffryn.

Mae'r dyffryn yn enwog oherwydd yma mae Pistyll Rhaeadr, y rhaeadr drawiadol ym mlaen y dyffryn ac un o'r atyniadau i ymwelwyr i Ogledd Cymru ers y 18fed ganrif. Ffordd dyrpeg oedd y ffordd ar hyd y dyffryn i gynorthwyo twristiaid y pryd, a bu raid codi pont un-bwa dros Nant Cwm-ffynnon ym Maes-y-bwch. Yn gyffredinol mae'r ffordd gyhoeddus wedi ei thorri i'r llechwedd, ac mewn mannau mae ynddi gerrig crynion. Ceir cerrig milltir o lechen ar ochr ogleddol y ffordd a godwyd gan Ddosbarth Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych ym 1903. Cysylltir y tri maen enfawr wrth droed y rhaeadr â chwedl y Cawr Berwyn, a'i wraig a'i forwyn.

Ffynonellau

Britnell 1994a
Evans 1994
Hancock 1871; 1872; 1873; 1875
Haslam 1979
Richards 1934b
Williams 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.