Cymraeg / English
|
Nodweddion Tirwedd HanesyddolMaelor SaesnegMae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae Maelor Saesneg yn cynrychioli tirwedd hanesyddol amrywiol sydd wedi’i chadw yn dda. Daw’r disgrifiad canlynol o’r Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru (Cadw 2001, 16-19), ac mae’n nodi themâu hanfodol tirwedd hanesyddol sydd i’w canfod yng nghymeriad hanesyddol yr ardal sy’n cael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn yr adrannau sy’n dilyn. Yn ddaearyddol, Maelor Saesneg yw’r rhan honno o’r hen Sir y Fflint cyn 1974 i’r de ddwyrain o Afon Dyfrdwy, a adwaenid fel Sir y Fflint Ar Wahân, ac sy’n ffinio â gorllewin Swydd Amwythig a gwastadedd De Sir Gaer. Yn dopograffaidd, nid yw’r tirwedd yn nodweddiadol o Gymru, ac ychydig iawn o ucheldir amlwg a geir, ac mae arwyneb y gwastadedd, sydd fel arall yn wastad neu ychydig yn donnog, yn adlewyrchu presenoldeb gwaddodion defnyddiau tanddaearol helaeth a adawyd ar ôl Oes yr Iâ mewn sawl man. Mae arwyneb y gwastadedd yn disgyn, bron yn ddiarwybod, o 80m uwchben SO mewn rhai mannau ar hyd ffiniau deheuol yr ardal a ddisgrifir yma, i 15m uwchben SO ar wastadedd llifogydd yr Afon Dyfrdwy sy’n ymylu’r ardal yn y gogledd a’r gorllewin. Mae gan aneddiadau ac economi’r ardal ddyled fawr hefyd i ddylanwadau o’r tu hwnt i’r ffin yn Sir Gaer, ac yn sgîl hyn, mae cymeriad hanesyddol y tirwedd yn anghyffredin o fewn y cyd-destun Cymreig, ac yn fwy nodweddiadol o’r Gororau nag o Gymru ac yn llawer mwy Seisnig na Chymreig - fel y mae’r enw yn ei awgrymu. Yn hanesyddol, byddai’r rhan helaethaf o Maelor Saesneg wedi gostwng i batrymau tebyg o ddefnydd tir drwy rannu caeau agored yn stribedi o amgylch aneddiadau bach canoloesol. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, amlygwyd gwahaniaeth rhwng economi’r gorllewin sydd yn fugeiliol yn bennaf a’r caeau âr yn y dwyrain. Mae llawer o’r tirwedd wedi newid o ganlyniad i ffermio âr, wrth i ffiniau gael eu clirio i greu caeau mwy ac wrth i aredig lefelu holl olion gwaith cloddiog y cyfundrefnau caeau blaenorol. O achos hynny, yng ngorllewin yr ardal a ddisgrifir yma y diogelwyd cywirdeb y tirwedd hanesyddol gorau. er hynny, o fewn y cyd-destun Cymreig mae’r ffaith bod cymaint o’r patrwm caeau ac amaethu canoloesol hwn wedi goroesi yn gwneud y tirwedd yn un prin a gwerthfawr iawn. Mae’r ardal yn cwmpasu nifer o aneddiadau hanesyddol sydd yn dyddio o’r cyfnodau canoloesol neu ganoloesol cynnar. Ceir trefi bach Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yn y gorllewin (wedi’i nodi fel safle posibl ar gyfer Burh Sacsonaidd, sydd yn beth prin iawn yng Nghymru) ac mae Wrddymbre [Worthenbury] ar yr ochr ogleddol; Llannerch Banna [Penley] a Lightwood Green i’r de; a Horseman’s Green a Tallarn Green i’r dwyrain. Tuedda llawer o’r aneddiadau bychain hyn i fod yn ddatblygiadau bach hirfain, wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd ar ochr yr hyn y gellir tybio iddo fod yn rwydwaith ffyrdd blaenorol. Nodwedd llawer ohonynt yw’r tai a’r bythynnod bric coch sy’n nodweddu’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd yn lleol. Fodd bynnag, ceir un neu ddau adeilad du a gwyn â ffrâm bren yn y rhan fwyaf o’r pentrefi, sy’n dynodi gwreiddiau cynharach, a awgrymir hwyrach gan bresenoldeb y cyfundrefnau caeau sy’n amgylchynu llawer o’r pentrefannau hyn. Eithriad i’r patrwm hwn yw Bangor Is-Coed sydd o dras llawer hyn, er bod nifer o’i nodweddion archeolegol yn debyg i adeiladau canoloesol yma ac acw o amgylch y dref ac mae pont gerrig urddasol o’r 15fed ganrif yn croesi Afon Dyfrdwy; erbyn heddiw mae’r dref yn fwyaf enwog am ei chae rasio ceffylau, yr unig un yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â’r aneddiadau hyn, ceir sawl neuadd fawreddog o ddiwedd y Canol Oesoedd megis Althrey a Hen Neuadd Llannerch Banna, ynghyd â nifer o safleoedd wedi’u hamgylchynu â ffos o ddechrau’r Canol Oesoedd, er enghraifft Halghton Lodge a Peatree Lane. Statws maenor oedd i’r rhan fwyaf o’r safleoedd a amgylchynwyd â ffos, am eu bod yn dai i arglwyddi neu i’w stiwardiaid, neu o bryd i’w gilydd yn eiddo i sefydliadau eglwysig. Mae tystiolaeth ddyddio yn dynodi i’r ffurf neilltuol hwn o aneddiad gael ei gyflwyno i’r ardal yn y 12fed ganrif gyda chynnydd yn nifer y safleoedd yn y 13eg ac ar ddechrau’r 14eg ganrifoedd, ac roeddent yn dal i gael eu hadeiladu a’u defnyddio tan y 16eg ganrif. Nid oedd unrhyw werth amddiffynnol iddynt, ac ymddengys mai eu swyddogaeth oedd datgan statws uchel eu deiliaid, ac y defnyddid y ffosydd, yn fwyaf tebygol, i gadw pysgod ac adar helai ddyfrhau’r stoc ac fel addurn. Fodd bynnag, nodwedd fwyaf neilltuol y tirwedd hwn yw ei etifeddiaeth amaethyddol ganoloesol. Patrwm defnydd y tir ar hyn o bryd yw caeau gyda gwrychoedd bach iddynt, wedi’u trefnu mewn stribedi cul yn aml, gyda llawer ohonynt wedi cadw’r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi amaeth canoloesol. Deilliodd gwaith cloddiog o’r fath o amaethu âr yn ystod y cyfnod canoloesol pan rannwyd y tir a oedd yn amgylchynu’r aneddiadau yn stribedi o fewn caeau mawr agored a gâi eu trin ar y cyd gan y pentrefwyr. Er y crëwyd y gwrymiau a’r cwysi sydd i’w gweld heddiw drwy aredig y tir, ffurfiwyd y patrwm o gaeau amgaeëdig bychan a gwrychoedd iddynt yn ddiweddarach. Gydag amser, caewyd y caeau agored i mewn, gyda ffiniau newydd y caeau yn aml yn adlewyrchu ffurf y stribedi blaenorol, gan greu’r caeau hir cul nodweddiadol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd megis y rhai i’r gogledd o Bandy Lane ac yn agos i Mulsford, mae’r patrymau amaethu âr yn fwy cymhleth ac yn aml, nid ydynt yn cyfateb â ffiniau diweddarach. Mae’r amaethu a oedd yn bennaf yn fugeiliol yn ystod canrifoedd mwy diweddar wedi ffosileiddio patrymau’r caeau sy’n cadw’r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi a’r caeau diweddarach â gwrychoedd, gan rhoi gwedd ganoloesol neilltuol i’r tirwedd. Mae llawer o’r caeau hyn yn cynnwys pyllau bach, ac er nad yw eu tarddiad na’u defnydd yn glir, gallant fod yn dyllau clai a oedd o bosibl yn darparu defnydd adeiladu ar gyfer adeiladu lleol canoloesol. Ni ddylid ystyried y cyfundrefnau caeau hyn ar eu pennau eu hunain, gan fod yr aneddiadau y maent yn perthyn iddynt yn gymaint rhan o’r tirwedd hanesyddol â hwy. Gyda’r eithriad o Fangor Is-Coed ac Owrtyn [Overton], mae’r patrwm aneddiadau yn parhau i fod yn un o bentrefi a phentrefannau cnewyllol nad ydynt wedi newid rhyw lawer ers eu tarddiadau canoloesol, sy’n ychwanegu cydlyniad a chywirdeb i gymeriad hanesyddol y tirwedd anghyffredin iawn, sydd yn dal i ffynnu ac sy’n amaethyddol yn bennaf. Themâu tirwedd hanesyddol yn Maelor SaesnegArdaloedd cymeriad
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk. |