CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Mulsford
Cymuned Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1122)


CPAT PHOTO 1322-10 Tirwedd amaethyddol yn bennaf sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig sy'n dyddio o ddiwedd y canol oesoedd ac yn gysylltiedig â thrin tirwedd cefnen a rhych a phatrymau caeau afreolaidd, gydag anheddiad 'green' yn Tallarn Green.

Cefndir hanesyddol

Mae'r enw lle Brychdyn [Broughton] yn awgrymu anheddu cynnar yn yr ardal tirwedd hanesyddol, efallai rhwng yr 8fed ganrif a'r 10fed ganrif, oherwydd ei fod yn cynnwys yr elfen enw lle Eingl-Sacsonaidd -tun sy'n dynodi fferm neu anheddiad bach, er na chafodd yr enw ei hun ei gofnodi hyd y 1530au. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd Broughton Hall wedi datblygu yn ganolbwynt stad amaethyddol fach a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o blwyf Wrddymbre [Worthenbury], ac mae'n debygol iddi ddod i'r amlwg yn sgîl cau tir yr hen gaeau comin agored. Ymddengys bod yr anheddiad 'green' yn Tallarn Green yn cynrychioli lledaeniad yn ardal yr hen borfa gomin, ac Edward Lhwyd a gyfeiriodd at y lle gyntaf yn y 1690au.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal wledig amaethyddol ar dir gweddol isel, rhwng oddeutu 15 a 50 metr uwchben y Datwm Ordnans, yn disgyn yn raddol i'r gogledd a'r gorllewin, ac i lawr i Nant Wych ar ochr ddwyreiniol yr ardal, sy'n ffurfio'r ffin rhwng Wrecsam a Sir Gaer. Mae'r ardal nodwedd yn cynnwys cyfran weddol uchel o dirwedd cefnen a rhych, sydd wedi datblygu o drin caeau agored canoloesol yn ôl pob tebyg. Mae ffiniau caeau bach a mawr afreolaidd i'w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd caeau'r ardal. Efallai bod y cysylltiad rhwng tirwedd cefnen a rhych a phatrymau caeau afreolaidd yn awgrymu bod ffiniau'r caeau wedi'u haildrefnu yn helaeth yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae nifer o byllau marl wedi'u gwasgaru ledled yr ardal, ac mae nifer o'r rhain bellach yn llynnoedd bach. Porfa yw'r prif ddefnydd tir modern, ac mae gwrychoedd aml-rhywogaeth yn ffurfio ffiniau'r caeau.

Mae'r safle â ffos i'r de o Tallarn Green yn cynrychioli'r anheddu cynharaf sydd i'w weld yn yr ardal, ac mae'n debygol ei fod yn cynrychioli canolfan faenorol fach ar ddiwedd y 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif. Mae dosbarthiad y ffermydd yn yr ardal yn cynrychioli patrwm anheddu diweddarach, ac mae'n debygol bod rhai ohonynt wedi datblygu yn sgîl dadelfennu a chau tir yr hen gomins ar ddiwedd y canol oesoedd. Mae'r ffermdy yn Glandeg ac Oak Farm yn nodweddiadol o'r cyfnod hwn; ill dau'n cynnwys olion hen adeiladau ffrâm bren sy'n dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif o bosibl. Cafodd y ddau dy eu hehangu mewn brics yn y 19eg ganrif. Mae Bridge Cottages, Tallarn Green yn cynrychioli cartrefi gwledig llai o'r cyfnod hwn. Mae'n debygol bod Broughton Hall yn dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif o leiaf, ac yn ei lyfr Topographical Dictionary of Wales mae Lewis yn ei ddisgrifio fel plasty helaeth, ond yr un fu ei ffawd â nifer o hen blastai eraill ym Maelor Saesneg, oherwydd cafodd ei ddymchwel ym 1961, er bod dau o'r tri phorthdy wedi goroesi.

Mae'r anheddiad llinellol hir yn Tallarn Green ar sbardun o dir rhwng Nant Wych ac un o'i llednentydd ac, yn y gogledd-orllewin, mae'r anheddiad yn uno â'r anheddiad sydd wedi datblygu o amgylch Pont Sarn. Adeg y dyfarniad cau tir yn y 1770au roedd yn cynnwys llain denau o dir heb ei gau lle roedd oddeutu dwsin o dai. Yn sgîl y dyfarniad cau tir, rhannwyd y comins yn gaeau a chafodd ffordd ei sefydlu ar hyd y sbardun, felly roedd yn bosibl adeiladu bythynnod newydd ar hyd y ffordd ar yr hyn a fu'n dir comin. Mae'r adeiladau yn Tallarn Green yn nodweddiadol o anheddiad cymharol ddiweddar ar y ffurf hon, gan gynnwys eglwys garreg newydd sy'n dyddio o ddechrau'r 1870au a gysegrwyd i Santes Fair Magdalen, persondy sy'n dyddio o'r 1880au sy'n cynnwys rhywfaint o ffrâm bren, ynghyd â Bythynnod Kenyon sy'n dyddio o ddechrau'r 1890au. Dau dy un llawr ar gyfer gweddwon a thy labrwr rhyngddynt yw'r rhain, mewn arddull ffrâm bren, cynhenid diwygiadol yr ystyriwyd ei fod yn briodol i adeiladau dyngarol o'r math hwn. Mae hefyd yn cynnwys Ystafell Ddirwest Tallarn Green, sef ystafell ddirwest y Methodistiaid a adeiladwyd i'r pwrpas ym 1890, ac a adeiladwyd eto gan yr Arglwydd Kenyon o Gredington, un a fyddai'n hybu'r Mudiad Dirwest yn frwd.

Ffynonellau

Charles 1938
Harrison 1974
Hubbard 1986
Lewis 1833
Pratt 1964
Silvester et al. 1992
Smith 1988
Spurgeon 1991
Sylvester 1969
Listed Building lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.