Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Maelor Saesneg:
Gredington
Cymuned Hanmer, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1124)
Llyn rhewlifol hwyr, coetir, parcdir a chyn barcdir, rhai ohonynt wedi'u datblygu ar ardaloedd o gaeau agored canoloesol, yn gysylltiedig â phlastai Gredington a Bettisfield Park.
Cefndir hanesyddol
Mae'r ardal nodwedd tirwedd hanesyddol yn cynnwys parcdir, cyn barcdir a choetir sy'n gysylltiedig â phlastai Gredington ar ymyl llyn Hanmer, a Bettisfield Park i'r de. Mae'r cofnod cyntaf o Lyn Hanmer, y llyn naturiol sydd wedi rhoi ei enw i'r pentref, yn dyddio o 1269 sef 'Hangmere'. Credir ei fod yn deillio o'r enw personol Eingl-Sacsonaidd Hagena a'r gair 'mere' (llyn). Mae'r cofnod cyntaf o'r enw Gredington yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif, ond eto credir ei fod wedi deillio o enw anheddiad neu fferm Eingl-Sacsonaidd, fel y mae'r elfen -tun yn ei ddynodi, er credir bellach nad yw'n gysylltiedig â Radintone yn arolwg Domesday fel yr honnwyd gynt. Cyfeiriwyd at Gredington yn y 13eg ganrif fel trefgordd â thai, ffyrdd, daliadau cymysg, corsydd a thir gwastraff. Yn y 15fed ganrif roedd tri chae agored yn y drefgordd, wedi'u rhannu yn lleiniau âr, ond erbyn dechrau'r 16eg ganrif ymddengys bod yr anheddiad cynharach wedi uno â phlwyf Hanmer.
Efallai bod yr eiddo yn Gredington a Bettisfield Park ymhlith y tiroedd a roddwyd i Abaty Haughmond, Swydd Amwythig, yn ystod y Canol Oesoedd a'i fod wedi dod i feddiant y teulu Hanmer ar ôl diddymiad y mynachlogydd. Mae'n debyg bod neuadd gynharach yn Gredington ym meddiant teulu Hanmer erbyn canol yr 17eg ganrif o leiaf; disgrifiwyd Roger Hanmer (bu farw 1675), cefnogwr i'r senedd yn y Rhyfel Cartref, fel un 'o Gredington'. Cafodd yr eiddo ei werthu i'r teulu Kenyon, teulu lleol amlwg arall, ar ddiwedd y 1670au. Ty modern brics â dau lawr yw'r ty presennol, a adeiladwyd mewn arddull Sioraidd syml ar ddechrau'r 1980au i ddisodli ty brics mawr mewn arddull glasurol a adeiladwyd rhwng 1808-11 ond efallai ei fod yn cynnwys rhannau o'i ragflaenydd a oedd yn dyddio o'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif a ddymchwelwyd fesul rhan rhwng 1958 a 1980.
Yn gyffelyb, roedd cangen o'r teulu Hanmer yn berchen ar blasty Bettisfield Park, o ddechrau'r 17eg ganrif o leiaf. Darluniodd Moses Griffiths y plasty. Cafodd y ty wedi'i rendro, ynghyd ag ychwanegiadau Sioraidd o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif, a thwr belfedir Eidalaidd yn dyddio o'r 1840au, eu dymchwel yn rhannol yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Ardal weddol donnog yn gyffredinol rhwng 70 a 100 metr uwchben y Datwm Ordnans, yn disgyn yn raddol tuag at dir is i'r gogledd. Mae Cumber's Brook yn diffinio rhan o ymyl orllewinol yr ardal, sef un o lednentydd Nant Emral sydd, yn ei dro, yn un o lednentydd Afon Dyfrdwy. Mae Llyn Hanmer a'r Park Pool llai i'r de yn llynnoedd naturiol sydd wedi datblygu yn sgîl rhewlifoedd, wedi'u hachosi gan ddyddodion marianau rhewlifol fel yr un sydd wrth wraidd pentref Hanmer. Mae'r ardal yn cynnwys canran uchel o goedwigoedd llydan-ddeiliog a phlanhigfeydd conwydd, sy'n adlewyrchu disgrifiad Samuel Lewis o'r ardal yn y 1830au:
'the enclosures are small, and the fences full of fine oak timber, of nearly one hundred years' growth, which gives to the scenery, especially near Gredington, a stately magnificence of character'.
Mae hanes a datblygiad tirwedd yr ardal yn gysylltiedig yn annatod â'r plastai eraill roedd dau deulu lleol amlwg yn berchen arnynt. Efallai bod yr hen barcdir yn Llys Bedydd [Bettisfield] yn dyddio o ddiwedd yr 16eg neu ddechrau'r 17eg ganrif. Dywedir y cafwyd gwared ar y polion uchel o amgylch parc ceirw yn Llys Bedydd [Bettisfield] ym 1914, a thir amaethyddol yw'r rhan fwyaf o dir yr hen barc bellach. Mae stablau o ddiwedd y 18fed ganrif â phediment a chiwpola, a thwr dwr, gerddi cegin ac adeiladau fferm o ganol y 19eg ganrif wedi goroesi. Ymddengys bod y parc tirluniedig yn Gredington wedi'i sefydlu gyntaf ar ddechrau'r 19eg ganrif er bod olion tirwedd cefnen a rhych yn dangos ei bod yn y pen draw wedi datblygu yn sgîl cau tir yr hen gae agored canoloesol. Credir nad oedd tirlunio yn golygu llawer mwy nag adeiladu rhodfeydd a chael gwared ar ffiniau'r caeau i ddechrau, gan adael rhai o goed mwy y gwrychoedd. Ychwanegwyd mynedfeydd a phorthdai ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Cadw 1995
Charles 1938
Hubbard 1986
Kenyon 1873
Lewis 1833
Lhuyd 1909
Lloyd & Jenkins 1959
Musson 1994
Pennant 1784
Pratt 1965
Sylvester 1969
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|