Cymraeg / English
|
Nodweddion Tirwedd HanesyddolMaelor SaesnegFFINIAU GWEINYDDOLFfiniau secwlarNid oes llawer yn hysbys am fframwaith gweinyddol cynnar yr ardal, er y tybir bod Maelor Saesneg yn bodoli yn ystod Oes yr Haearn a thiriogaeth llwyth y Cornovii yn dilyn hynny. Credir bod y diriogaeth yn cyfateb yn fras i ffiniau teyrnas Powys ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid; nodir isod ei bod yn bosibl bod y deyrnas wedi ymestyn i dir gwastad Sir Gaer hyd fan rhywle rhwng Whitchurch a Chaer. Er nad oes llawer yn hysbys am hanes Maelor Saesneg ar ddechrau'r canol oesoedd, mae'n rhaid tybio bod cwmwd Maelor, a'i ganolbwynt crefyddol ar lannau afon Dyfrdwy ym Mangor Is-coed, wedi'i sefydlu fel cymuned ffyniannus erbyn diwedd y 6ed ganrif, o leiaf. Yn sicr, roedd statws Sant Dunawd, arweinydd y gymuned grefyddol ym Mangor, yn sylweddol yn yr eglwys Brydeinig gyfoes ac, yn 603, arweiniodd ddirprwyaeth o esgobion a gwyr dysgedig eraill yr Eglwys Brydeinig i gyfarfod gyda Sant Awstin, pan ddaeth ei genhadaeth i Brydain i geisio sefydlu awdurdod Eglwys Rufain dros yr eglwys frodorol ym Mhrydain, ond methu fu hanes y genhadaeth hon. Mae ffiniau cynnar teyrnas Powys yn ansicr, ond yn ddiamau roeddynt unwaith yn ymestyn ymhell i diroedd gwastad Swydd Amwythig a Sir Gaer. Ers dechrau'r 7fed ganrif, o leiaf, roedd y tiroedd isel deniadol hyn ar hyd afon Dyfrdwy, ac yn ymestyn i dir gwastad Sir Gaer, dan bwysau cynyddol, yn enwedig oddi wrth deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia i'r dwyrain a'r de-ddwyrain, a oedd yn ymestyn ei thiriogaeth. Mae'n amlwg bod y teyrnasoedd Brythonig brodorol yn cydweithio rhywfaint â Mersia yn ystod y cyfnod hwn, o leiaf wrth iddynt wynebu gelyn cyffredin ac, yn wir, mae'r dystiolaeth ddogfennol cynharaf o achlysur yng Ngorllewin Canoldir Lloegr, yn y 7fed ganrif, yn crybwyll Bangor Is-coed. Ym mrwydr Caer, oddeutu 616, dywed Bede bod Aethelfrith, brenin teyrnas Angliaidd Northumbria, wedi trechu lluoedd y Brythoniaid, gan gynnwys mynachod o fynachlog Bangor yn ôl y tebyg, a Brochfael, o deulu brenhinol Powys, yn eu harwain. Yn ôl rhai ffynonellau, roedd Selyf, mab Cynan gydag ef. Mae'n ymddangos bod y ddau arweinydd yn perthyn i'r Cadelling, teyrnlin frenhinol a reolai tiriogaethau yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Sir Gaer yn y 9fed ganrif. Yn ôl Bede, roedd y ffaith bod yr Eglwys Brydeinig newydd wrthod cenhadaeth Awstin i sefydlu goruchafiaeth Eglwys Rufain yn cyfiawnhau lladd nifer sylweddol o fynachod Prydeinig yn y frwydr hon. Efallai bod Edwin o Northumbria, olynydd Aethelfrith, wedi mynd ymlaen i gipio holl dir gwastad Sir Gaer oherwydd ei bod yn uchelgais ganddo gyfeddiannu teyrnas Powys hefyd. Er bod cyfnod y gweithred hwn yn weddol fyr, roedd yn rhagddarlunio un o'r achlysuron pwysicaf yn hanes teyrnasodd brodorol Cymru. Byddai Northumbria a Mersia yn dadlau dros oruchafiaeth ar dir gwastad Sir Gaer am nifer o flynyddoedd i ddod, ac ar un adeg ymunodd lluoedd Cadwallon o Wynedd a Phenda o Fersia i drechu Edwin. Ond, yn y pen draw, cafodd teyrnasoedd Brythonig Cymru eu gwahanu unwaith ac am byth o deyrnasoedd Brythonig Cumbria. Cyfnerthodd Mersia ei rym gwleidyddol a milwrol dros yr ardal yn ystod ail hanner yr 8fed ganrif, yn ystod teyrnasiad Aethelbald ac yna Offa. Enwyd Offa yn 'frenin y Saeson'. Yn sgîl adeiladu Clawdd Wat a Chlawdd Offa cyn diwedd yr 8fed ganrif, cipiwyd rheolaeth ar Faelor Saesneg o Bowys, ac estynnwyd grym yr Eingl-Sacsoniaid i ardal a orweddai i'r gorllewin o afon Dyfrdwy am nifer o ganrifoedd i ddod. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn dynodi bod aneddiadau Mersiaidd wedi'u gwasgaru yn yr ardal yn ystod cyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 11eg ganrif yn ôl pob tebyg, ac efallai yn gynt na hynny. Nid yw effaith y rhyfeloedd Danaidd yn ystod y 9fed a'r 10fed ganrif yn hysbys, er mae'n bosibl bod enw Croxton, i'r dwyrain o Horseman's Green, yn arwydd o ddylanwad Nordig. Efallai bod enw Wrddymbre [Worthenbury], sy'n cynnwys yr elfen burh ('amddiffynfa') o'r Hen Saesneg, yn arwyddocáu strwythur amddiffynnol o ryw fath. Adeg y Goncwest Normanaidd ym 1066, roedd llawer o'r tir i'r dwyrain o Glawdd Offa, ar hyd y ffin ogleddol, yn perthyn i gantrefi Exestan a Dudestan yn Sir Gaer. Roedd Dudestan (Broxton yn ddiweddarach) yn cynnwys ardal Maelor Saesneg ac yn cael ei hasesu ar gyfer treth (hidated). Yn ôl rhestr y maenorau yn yr arolwg Domesday ym 1086, roedd tiroedd yn Wrddymbre [Worthenbury] (Hurdingberie), Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld) ac Iscoyd (a nodwyd fel Burwardestone), ym meddiant Edwin, iarll Sacsonaidd Mersia, adeg y goncwest ym 1066. Mae'r Domesday hefyd yn cofnodi bod yr eglwys yn hawlio daliadau coll yn Bedesfeld a Burwardestone; collwyd rhai o'r rhain mor hir yn ôl â theyrnasiad Brenin Cnut (1016-35). Awgryma hyn fod nifer o stadau yn bodoli cyn y Goncwest a oedd yn cwmpasu rhan sylweddol o Faelor Saesneg, wedi'u rhannu rhwng yr eglwys ac iarll Edwin. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, roedd y tiroedd hyn yn ffurfio rhan o arglwyddiaeth mers Caer a oedd ym meddiant Iarll Hugh o Avranches, un o brif is-gapteniaid Brenin William; mae'n debyg mai'r bwriad oedd darparu canolfan ar gyfer ymgyrchoedd yn erbyn teyrnasoedd cyfagos Cymru. Dywedwyd bod mintai o ryfelwyr ifainc a oedd yn chwilio am antur a ffortiwn wedi sefydlogi'r arglwyddiaeth newydd yn y cyfnod hwn. Trosglwyddwyd maenorau Hurdingberie, Bedesfeld a Burwardestone, ynghyd â thiroedd helaeth yn yr ardaloedd cyfagos yn Sir Gaer, i Robert FitzHugh, un o brif denantiaid Iarll Hugh, a oedd o dras Normanaidd yn ôl pob tebyg. Ymddengys fod patrwm y daliadau hyn, a ffurfiai bloc cryno yn hanner deheuol cantref Dudestan yn y Domesday, yn adlewyrchu amlystâd a atafaelwyd gan ragflaenydd Robert, Iarll Edwin y Sacson, ac mae'n bosibl y meddiannwyd y rhain heb rhyw lawer amhariad gweinyddol. Daeth Robert FitzHugh i fod yn farwn blaenllaw yn rhyfeloedd Iarll Hugh yn erbyn y Cymry ac, er gwaethaf y nifer gymharol fach o gestyll pridd a phren y daethpwyd o hyd iddynt yn yr ardal, mae bodolaeth nifer sylweddol o farchogion di-enw (milites), yn pwysleisio natur filwrol a strategol daliadau Robert yn ne-orllewin Sir Gaer a Maelor Saesneg. Mae'r arolwg Domesday yn awgrymu bod y marchogion hyn wedi cael tir yn gyfnewid am wasanaeth milwrol. Roedd tri o'r marchogion hyn yn Llys Bedydd [Bettisfield], dau yn Burwardestone, ac un yn Wrddymbre [Worthenbury], ac mae'n sicr eu bod yn perthyn i haenau uchaf y tenantiaid lleol. Ymhlith newydd-ddyfodiaid eraill i'r ardal roedd tri gwr Ffrengig di-enw (francigenae) yn Wrddymbre [Worthenbury], ac mae'n debyg bod eu statws cymdeithasol yn uwch na'r gwerinwyr lleol. Nid oes llawer yn hysbys am gyfansoddiad diwylliannol nac ieithyddol Maelor Saesneg adeg yr arolwg Domesday, er bod hanes diweddarach yn awgrymu y gallai fod nifer o ddeiliaid tir Cymreig yn parhau i fyw yno, fel yn y cyfnod cyn y Goncwest o bosibl. Mae'r Domesday yn rhestru amrywiaeth o daeogion, dihirod, bordariaid, dynion ychen a radmen, yr unig gyfeiriad posibl at is-ddosbarth Cymreig penodol yw'r tri 'gwr arall' a restrwyd yn Llys Bedydd [Bettisfield]. Er bod arglwyddiaeth mers Eingl-Normanaidd Caer wedi cyfeddiannu'r ardal, roedd ffiniau gogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn destun anghydfod i deyrnas Powys ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Yn ystod teyrnasiad Harri'r Cyntaf ar ddechrau'r 12fed ganrif, datblygodd cyfnod o oddefgarwch cymharol rhwng teyrnas Powys a Saeson y gororau; rhoddodd cythrwfl yn ystod teyrnasiad Stephen, yn y blynyddoedd yn arwain at ganol y 12fed ganrif, gyfle i Bowys ymestyn ei ffiniau dwyreiniol i Sir Gaer a Swydd Amwythig, i'r tiroedd a oedd yn rhan o'r deyrnas cyn y Goncwest; yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth cwmwd Maelor (a ddaeth i gael ei adnabod fel arglwyddiaeth Brwmffild [Bromfield] a saif ar lannau gorllewinol a dwyreiniol afon Dyfrdwy) yn rhan o'r deyrnas Gymreig eto. Er gwaethaf ambell gyrch achlysurol, fel cyrch iarll Caer ar Faelor ym 1177, arhosodd y diriogaeth yn nwylo'r Cymry am fwy na chanrif. Roedd nifer o ffactorau a gwtogodd ar ryddid ac annibyniaeth Powys yn ystod y 13eg ganrif. Oherwydd ei lleoliad yn ddaearyddol, roedd y deyrnas yn agored i'w chyfeddiannu ar nifer o adegau gan deyrnasoedd ymledol Gwynedd i'r gorllewin a Lloegr i'r dwyrain. Roedd maint y deyrnas fawr - disgrifiodd Gwalchmai, bardd y llys, ei bod yn ymestyn o gopa Pumlumon i giatiau Caer, o Fangor Is-coed i ymylon coediog Meirionnydd - wedi rhoi teyrnasiad y llywodraeth frodorol ar brawf yn ystod y 12fed ganrif; yn sgîl yr arfer Cymreig o etifeddiaeth ranadwy, daeth nifer o wahanol arglwyddiaethau bach ac aneffeithiol i'r amlwg yn ystod y 13eg ganrif. Mae'n amlwg bod y ddwy ochr yn ystyried bod Maelor Saesneg yn werthfawr iawn, o ystyried ei diroedd fferm cymharol cyfoethog a chynhyrchiol sy'n ymylu afon Dyfrdwy a'r diffyg rhwystrau naturiol i'r dwyrain a'r gorllewin. Pan fu farw Madog ap Maredudd, ym 1160, rhannwyd teyrnas Powys yn ddau, etifeddodd ei fab Gruffudd Maelor rhan ogleddol y deyrnas, a chafodd ei henwi'n Powys Fadog ar ôl Madog mab Gruffudd. Oherwydd y cytunwyd ar ddwy arglwyddiaeth ar wahân, gwahanwyd y diriogaeth a adnabyddir fel Maelor Saesneg, a gofnodwyd gyntaf mewn siarter ym 1202, o Faelor Gymraeg, a oedd ar lan orllewinol afon Dyfrdwy. Etifeddodd Gruffudd Maelor Faelor Saesneg pan fu farw Madog ym 1236, a daeth yn aelod llawn o'r gymdeithas Eingl-Gymreig, gan briodi Emma Audley, merch teulu blaenllaw o Swydd Amwythig, ond parhaodd dan reolaeth teyrnas Gwynedd, yn enwedig dan ei harweinydd newydd, Llywelyn ap Gruffudd. Mae darpariaethau Gruffudd Maelor i'w weddw, mewn siarter a gymeradwyodd Llywelyn, yn datgelu rhywfaint o wybodaeth am gymeriad cymdeithas y gororau yn ystod y cyfnod hwn. Byddai Emma yn etifeddu Maelor Saesneg, i'r gwrthwyneb i ddarpariaethau gwaddol arferol cyfraith Gymreig, ond byddai'r diriogaeth yn dychwelyd yn arglwyddiaeth Gymreig pan fyddai hi'n marw. Fel mae'n digwydd, difeddiannodd Llywelyn Emma o'r tiroedd gwaddol hyn ar ôl marwolaeth Gruffudd, oherwydd ei theyrngarwch i Goron Lloegr. Yn dilyn ymgyrchoedd yn erbyn Llywelyn ym 1276-77, ymdrechodd Edward y Cyntaf i ymestyn ei reolaeth dros Faelor Saesneg, ac ildiwyd rheolaeth Gymreig ar y diriogaeth o'r diwedd yn dilyn Concwest Edward o Gymru ym 1282-83, pan gipiodd Coron Lloegr Faelor Saesneg. Ym 1284, unwyd amrywiol stadau'r Goron yng ngogledd-ddwyrain Cymru - Tegeingl a Chwmwd yr Hob cyfagos, a thiriogaeth arunig Maelor Saesneg - yn sir newydd y Fflint trwy Statud Rhuddlan, a'u gosod dan rymoedd eang milwrol, gweinyddol a barnwrol prif ustus Caer, gan barhau ym meddiant personol y Goron. Ym 1286, rhoddodd Edward y Cyntaf Faelor Saesneg i'w frenhines, Eleanor. Mae'r elfennau llan a tref, sy'n gyffredin mewn enwau lleoedd Cymraeg, bron iawn yn absennol ym Maelor Saesneg, sy'n awgrymu bod yr ardal wedi cael ei gweinyddu fwy neu lai yn unol â'r system faenorol Seisnig, er bod enwau caeau a mesurau Cymraeg mewn dogfennau cynnar yn arwydd bod elfen Gymraeg wedi parhau ymysg rhan o'r boblogaeth. Ymhlith maenorau sydd wedi bodoli ar ryw adeg ym Maelor Saesneg mae Wrddymbre [Worthenbury], Llys Bedydd [Bettisfield], Iscoyd ac, mae'n debygol, Gredington sydd wedi'u cofnodi yn yr arolwg Domesday, fel y nodwyd uchod, a Hanmer ac Owrtyn [Overton] a gofnodwyd mewn ffynonellau diweddarach. Roedd y trefgorddau adeg arolwg y degwm yn y 19th ganrif, yn deillio yn rhannol o ddirywiad y system faenorol ganoloesol, yn cynnwys plwyfi un trefgordd Bangor Is-coed ac Wrddymbre [Worthenbury], tair trefgordd Overton Villa, Overton Foreign a Knolton ym mhlwyf Owrtyn [Overton], trefgordd Llannerch Banna [Penley] ym mhlwyf Ellesmere (Swydd Amwythig), trefgordd Iscoyd ym mhlwyf Malpas (Swydd Amwythig), a threfgorddau Gwalint [Wallington], Halchdyn [Halghton], Tybroughton, Bronington, Hanmer a Llys Bedydd [Bettisfield] ym mhlwyf Hanmer. Er nad oes rhaniadau trefgordd yn Wrddymbre [Worthenbury], mae'r plwyf yn cynnwys pedwar pentrefan Mulsford, Brychdyn [Broughton], Ywern ac Willington, yn ogystal â'r pentref plwyfol. Ym 1309, rhoddwyd yr arglwyddiaeth i Frenhines Isabella, cymar Edward yr Ail, ond pan gipiodd y brenin y cwmwd ar ddiwedd y 1320au, fe'i rhoddwyd i Ebulo Lestrange. Ym 1397, ychwanegodd Richard yr Ail sir y Fflint at ei etholaeth balatin yng Nghaer i ffurfio tywysogaeth newydd Caer. Parhaodd y diriogaeth ym meddiant personol y goron hyd nes cyflwynwyd y Deddfau Uno ym 1536 a 1542-43, yn ystod teyrnasiad Harri'r Wythfed, pan unwyd y diriogaeth yn ffurfiol i lunio teyrnas Lloegr a Chymru, gan rannu un fframwaith gweinyddol a chyfreithiol yn gyffredinol. Yn sgîl creu Sir Ddinbych o'r arglwyddiaethau mers a ddiddymwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roedd cantref Maelor Saesneg wedi'i wahanu o weddill Sir y Fflint, a daeth i gael ei adnabod yn y cyfnod modern fel 'Sir wledig y Fflint ar Wahân'. Bwrdeistref canoloesol Owrtyn [Overton] oedd canolfan weinyddol yr ardal. O ganlyniad i aildrefnu llywodraeth leol ym 1974, daeth yr ardal yn rhan o ddosbarth Wrecsam Maelor yn sir newydd Clwyd. Pan aildrefnwyd llywodraeth leol eto ym 1996, daeth Maelor Saesneg yn rhan o awdurdod unedol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ar hyn o bryd, cynghorau bro yw'r haen isaf o weinyddiaeth sifil, ac mae'r cynghorau canlynol ym Maelor Saesneg: Bangor Is-coed, Owrtyn [Overton], Willington Wrddymbre [Worthenbury], Hanmer, De Maelor, a Bronington. Ffiniau eglwysig Mae'n ymddangos mai eglwys y clas mynachaidd cynnar ym Mangor Is-coed, sef Bancornaburg yn ôl Bede, oedd canolbwynt ardal eglwysig helaeth sy'n cyfateb i gwmwd Cymreig cynnar Maelor, yn debyg i'r cysylltiad rhwng yr eglwysi cadeiriol a'r cantrefi yn y teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd cyfagos. Mae'n debygol bod staff y ddwy gyfundrefn yn cynnwys corff o offeiriaid secwlar a oedd â hawl i gasglu arian oedd yn ddyledus. Roedd yr eglwys wedi bodoli ers diwedd y 6ed ganrif o leiaf, ac roedd statws ei harweinydd Dunawd yn ddigon uchel yn yr eglwys Frythonig iddo arwain yr esgobion a'r gwyr dysgedig eraill i'r gynhadledd â Sant Awstin yn 603, y cyfeiriwyd ati uchod; mae'n bosibl mai Bangor oedd lleoliad y gynhadledd. Ceir nifer o arwyddion o Gristnogaeth Frythonig yn yr ardal, ac ymddengys yn debygol bod yr eglwysi Brythonig yn hyn na rhai o'r eglwysi Eingl-Sacsonaidd lleol, yn enwedig yng ngorllewin Sir Gaer, ac felly roedd rhywfaint o barhad o ran cyfundrefn ac aneddiadau eglwysig rhwng diwedd y cyfnod Brythonig a dechrau'r cyfnod Sacsonaidd. Mae dosbarthiad trefgorddau'r plwyf, mor ddiweddar â dechrau'r 19eg ganrif, yn adlewyrchu ehangder yr ardal eglwysig ganoloesol gynnar a oedd ym meddiant Bangor yn y cyfnod cyn y Goncwest; mae'r trefgorddau hyn yn cynnwys Bangor Is-coed ac Is-coed yn Sir y Fflint (ym Maelor Saesneg) i'r dwyrain o afon Dyfrdwy, a phedair trefgordd yn Sir Ddinbych sef Eutun, Tref-y-Rhyg, Pickhill a Sesswick (yn yr hen Faelor Gymraeg) i'r gorllewin. Hefyd, arferai gynnwys plwyfi Owrtyn [Overton] ac Wrddymbre [Worthenbury] a oedd unwaith yn gapeliaethau dibynnol ar Fangor Is-coed. Mae'n ymddangos bod rhan ddwyreiniol Maelor Saesneg wedi ffurfio rhan o ardal eglwysig yr un mor helaeth, a ganolbwyntiai ar eglwys gynnar wedi'i chysegru i Sant Oswald ym Malpas, Sir Gaer. Yn y canol oesoedd, roedd plwyf yr eglwys hon yn cynnwys trefgordd Iscoyd i'r gogledd-ddwyrain ac, erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd ei deoniaeth yn cynnwys plwyf Hanmer. Roedd trefgordd a deoniaeth Llannerch Banna [Penley], i dde-orllewin Maelor Saesneg, yn rhan o blwyf ganoloesol Ellesmere, Swydd Amwythig. Fodd bynnag, yr unig offeiriad y mae arolwg Domesday yn ei nodi ym Maelor Saesneg yw'r offeiriad a oedd â gwaddol o dir ym maenor Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld), un o drefgorddau plwyf hynafol Hanmer, ac mae'n debygol bod hyn yn arwyddocáu bodolaeth eglwys Sant Chad yn Hanmer ei hun erbyn y dyddiad hwnnw. Erbyn cyfnod y Goncwest, roedd Maelor Saesneg yn rhan o esgobaeth Caerlwytgoed [Lichfield] ac, ar wahân i gyfnod rhwng 1075-95 pan oedd yn rhan o esgobaeth fyrhoedlog Caer, bu'n rhan o'r esgobaeth honno hyd 1541, pan gafodd ei throsglwyddo i esgobaeth newydd Caer. Ceir cyfeiriadau at gapel Wrddymbre [Worthenbury] mor gynnar â 1388, ond yn ail hanner y 17eg ganrif cafodd ei greu fel plwyf ar wahân trwy ddeddf llywodraeth. Mae'n debygol bod eglwys Owrtyn [Overton] wedi bodoli ers dechrau'r 1280au, pan sefydlwyd y bwrdeistref planedig, ond ni ddaeth yn blwyf ar wahân hyd 1867. Oherwydd bod y boblogaeth wledig ar gynnydd, a bod cynnydd yn nifer yr Anghydffurfwyr, crëwyd nifer o blwyfi newydd yn ystod y 19eg ganrif. Crëwyd plwyf newydd Bronington (cyfeirir ato weithiau fel New Fenns) o blwyf Hanmer ym 1836 a chrëwyd plwyf newydd Llys Bedydd [Bettisfield] yn yr un modd o blwyf Hanmer ym 1879, er i'r eglwys newydd a adeiladwyd yn Willington ym 1873 barhau yn rhan o blwyf Hanmer. Ym 1849, trosglwyddwyd plwyfi Bangor Is-coed, Llys Bedydd [Bettisfield], Bronington, Hanmer, Owrtyn [Overton], ac Wrddymbre [Worthenbury] o esgobaeth Seisnig Caer i esgobaeth Gymreig Llanelwy. Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, roedd cynnydd amlwg yn nifer y mannau addoli anghydffurfiol ledled Maelor Saesneg, yn enwedig yn achos yr Enwadau yn y rhestr a ganlyn, sy'n nodi dyddiad adeiladu'r capeli: Capeli Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn Crabtree Green (1814); capeli'r Annibynwyr neu'r Cynulleidfawyr ym Mangor Is-coed (1838); capeli'r Methodistiaid Cyntefig yn Owrtyn [Overton] (1816), Cloy (1832); Ty Pregethu Llannerch Banna [Penley] (a fyddai'n cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill yn ogystal ag addoli); Ty Melin Llys Bedydd [Bettisfield] (c. 1845); Capel Bethel, Hanmer (1850); Willington (1845); Capel Wesleaidd, Owrtyn [Overton] (1816); Capel Wesleaidd Bronington Chequer (1822); Capel Horseman's Green (1841); mannau cyfarfod y Gymdeithas Wesleaidd heb dai ar wahân yn nhrefgordd Bangor (1850); ty cyfarfod yr Ymneilltuwyr Annibynnol yn Llys Bedydd [Bettisfield]. |