Cymraeg / English
|
Nodweddion Tirwedd HanesyddolMaelor SaesnegGWEITHGAREDDAU MILWROLGwnaed y defnydd mwyaf dwys o Faelor Saesneg ar gyfer gweithgareddau milwrol yn ystod yr 20fed ganrif. Meddiannodd yr awdurdodau milwrol ardaloedd mawr o Fenn's Moss a Whixall Moss yn ystod y ddau Ryfel Byd. Sefydlwyd o leiaf wyth o feysydd saethu rhwng 300 ac 1100 llath o hyd ar y corsydd, ynghyd â chysgodfeydd saethu o bren a mawn, a chodwyd cytiau cysylltiedig hefyd ar y corsydd mewn rhai achosion. Ymddengys bod un o'r meysydd hyn wedi bodoli cyn 1909 ac mae'n debyg ei fod yn dyddio o flynyddoedd y rhyfel yn Ne Affrica neu o gyfnod ehangu unedau tiriogaethol neu filisa lleol. Oherwydd dyfodiad y gamlas a'r rheilffordd sy'n croesi'r corsydd, daeth yn haws i'r nifer fawr o filwyr gyrraedd y meysydd saethu. Roedd yn bosibl i'r milwyr gyrraedd un grwp o feysydd ar ymyl orllewinol y gors, sef The Batters, ar gwch camlas yn unig. Roedd y defnydd o'r meysydd ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan fyddai milwyr, fel arfer, yn cyrraedd ar y rheilffordd, a byddent yn defnyddio cilffordd arbennig o hir oddi ar y ddolen basio yng nghorsaf gyfagos Fenn's Bank i ddod i lawr o'r trên. Sefydlodd y fyddin wersyll newydd o bebyll yn Fenn's Bank ym 1916 ar gyfer milwyr a oedd yn hyfforddi ar feysydd gogledd-ddwyrain y corsydd, ac roedd lle i hyd at fil o ddynion yn y gwersyll hwnnw.Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y corsydd ychydig funudau yn unig o nifer o feysydd awyr milwrol ac, o ganlyniad, roedd maes gynyddiaeth a bomio a safle llith yma yn ystod 1940-45. Nid oes llawer o olion i'w gweld, ond mae'n cynnwys cwt piced brics, plinthau concrit a oedd unwaith yn cynnal adeilad rheolaeth, tyrau cwadrant a safle llith Strategic Starfish, yn mesur hyd at ychydig gannoedd o fetrau ar draws, a gynlluniwyd i amddiffyn Lerpwl. Roedd hefyd rhodenni haearn yn ymwthio allan o'r mawn a oedd unwaith yn cynnal targedau i ddrylliau peiriannol i ymarfer gynyddiaeth o'r awyr i'r ddaear ac i'w defnyddio fel maes bomio. Hefyd, fe gwympodd sawl awyren o'r awyr i'r corsydd yn ystod ymarferion, gan gynnwys y rheiny ar Cadney Moss a Little Green, Bronington. Fel y nodwyd uchod, defnyddiwyd mawn o'r corsydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd i gynhyrchu arfau rhyfel. Hefyd, daeth Maelor Saesneg yn ganolfan bwysig i ysbytai milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod yr ardal mor agos at feysydd awyr milwrol, ei chysylltiadau cymharol dda ar y ffordd a'r rheilffordd â phorthladd yr Iwerydd yn Lerpwl, ei hamgylchedd gwledig heddychlon, a'r ffaith bod digonedd o barcdir yn gysylltiedig â nifer o blastai a fyddai ar gael yn rhwydd. O'r herwydd, cafodd y parcdiroedd a oedd yn gysylltiedig â phlastai Bryn-y-Pys, Llys Bedydd [Bettisfield], Iscoyd, Penley Hall a Llannerch Panna eu meddiannu at ddibenion milwrol. Hefyd, daeth Parc Gredington yn allbost Ysbyty Orthopedig Gobowen a sefydlwyd cadwrfeydd milwrol yn Lightwood Green, Gwernheylod a The Brow (Owrtyn [Overton]). Adeiladodd Byddin UDA ysbytai mawr yn Penley Hall, Llannerch Panna ac Iscoyd, a rhyngddynt gwnaethant ofalu am bron i 10,000 o gleifion brwydrau yn ystod y rhyfel. Ar yr adeg, ystyrid yr ardal yn ychydig o diriogaeth UDA yng Nghymru. Ar ôl y rhyfel, parhaodd yr ysbytai i gael eu defnyddio fel aneddiadau i gymunedau Pwylaidd yn ystod y 1950au a dechrau'r 1960au. Mae'r hen ysbyty milwrol yn dal â lle amlwg yn nhirwedd Llannerch Banna [Penley] ac mae rhan ohono'n parhau i gael ei ddefnyddio fel ysbyty tra bo rhan arall ohono yn barc diwydiannol. Codwyd cofebion i goffáu meirw'r ddau Ryfel Byd mewn nifer o ganolfannau lle roedd pobl yn byw, i ddechrau yn ystod y cyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf mewn nifer o ganolfannau mwy eu poblogaeth fel Owrtyn [Overton], Bangor Is-coed, Hanmer, Bronington, Iscoyd a Tallarn Green. |