Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Maelor Saesneg:
Brynhovah
Cymunedau Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1116)
Tir fferm ar waelod dyffryn â ffermydd gwasgaredig a lonydd troellog, caeau llain canoloesol creiriol a thirwedd cefnen a rhych yn cynrychioli trin caeau agored yn y canol oesoedd. Mae'n amlwg bod tirwedd y caeau wedi'i haildrefnu yn batrwm o gaeau mawr afreolaidd ar ôl y Canol Oesoedd.
Cefndir hanesyddol
Efallai bod darn arian Rhufeinig o'r 2il ganrif yn arwydd o anheddu a defnydd tir cynnar. Daethpwyd o hyd i'r darn arian ger Cloy House. Roedd yr ardal nodweddion hanesyddol yn rhan o blwyf eglwysig canoloesol Bangor Is-coed ac mae'n debyg ei bod yn cynnwys ardaloedd o dir roedd y gymuned hunangynhaliol ganoloesol gynnar ym Mangor yn ei ffermio yn ystod diwedd y 5ed ganrif a dechrau'r 6ed ganrif. Mae tystiolaeth ddogfennol o'r 16eg ganrif a'r 17eg yn awgrymu bod caeau agored yn bodoli a oedd wedi deillio, yn ôl pob tebyg, o'r maenorau a sefydlwyd ym Mangor ac Owrtyn [Overton] a bod pobl o'r aneddiadau hyn wedi ffermio ar ddechrau'r Canol Oesoedd. Mae'n debyg bod gwaith clirio coed ac ehangu tir âr yn rhan ddeheuol yr ardal wedi digwydd o ganlyniad i bolisi'r Goron o gynnig pren yn rhad ac am ddim a thir heb rhent am 10 mlynedd i Saeson a oedd yn ymgartrefu ym mwrdeistref newydd Owrtyn [Overton] yn y 1290au. Mae'n debygol bod hyn wedi golygu atafael rhywfaint o dir gan dirfeddianwyr Cymreig brodorol a oedd wedi ochri â Llywelyn yn ystod y degawd blaenorol. Mae'n debygol bod yr enw lle Millbrook, i'r de o Fangor Is-coed, yn awgrymu bod safle melin wedi bodoli yno. Cofnodwyd yr enw gyntaf ym 1290, ar ffurf Milnbrook.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Ardal o dir fferm bryniog rhwng Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yw'r ardal nodweddion tirwedd hanesyddol, i'r gorllewin o Mill Brook, un o lednentydd afon Dyfrdwy. Yn gyffredinol, mae rhwng 30 a 60 metr uwchben y Datwm Ordnans. Erbyn heddiw, porfa yw'r prif ddefnydd tir, er bod rhai darnau bychain o blanhigfeydd coed llydan-ddeiliog a chollddail.
Caeau mawr afreolaidd yw prif dirwedd y caeau er bod patrymau clir o gaeau llain sy'n cynrychioli hen gaeau agored, yn enwedig ar ymylon deheuol a dwyreiniol Bangor ac Owrtyn [Overton]. Mae tystiolaeth ddogfennol o'r 16eg ganrif yn awgrymu bod o leiaf dau gae agored ym Mangor, sef Maes mawr a Maes y groes, wedi'u rhannu yn gaeau llain ag enwau Cymraeg arnynt yn aml. Mae'n debygol y gellir cysylltu'r dirwedd cefnen a rhych sydd wedi goroesi'n helaeth yn y dirwedd hanesyddol â thrin caeau agored yn y canol oesoedd. Fodd bynnag, mae nifer o'r ardaloedd tirwedd cefnen a rhych y tu allan i'r ardaloedd lle mae caeau llain wedi goroesi, sy'n awgrymu y cafodd y dirwedd ei haildrefnu'n helaeth ar ôl cau'r caeau agored ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae pyllau marl wedi'u dosbarthu'n eang ledled yr ardal, sy'n dyddio o ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg.
Yn gyffredinol, mae anheddu wedi'i gyfyngu i'r ffermydd a'r tyddynnod sydd wedi'u gwasgaru'n weddol eang. Enwau Saesneg sydd ar y rhan fwyaf o'r rhain, ac ymddengys bod rhai wedi datblygu yn sgîl dadelfennu'r caeau agored canoloesol ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Ymhlith adeiladau nodweddiadol sy'n adlewyrchu hanes defnydd tir a daliadaeth tir yn yr ardal mae Plas yn Coed, adeilad brics mawr yn wreiddiol sy'n dyddio o ddiwedd y 17eg ganrif ac sydd wedi'i osod ar blinth carreg; Argoed, ffermdy brics sy'n dyddio o ganol y 18fed ganrif, ac sy'n enghraifft fodel o ffermdy stad sy'n adlewyrchu llewyrch yr ardal yn ystod y cyfnod; ac, yn olaf, Bwthyn Brynhovah, tyddyn o'r 18fed ganrif â beudy cysylltiedig, ynghyd â nifer o ffermdai a chytiau brics bach a mawr sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, mae Musley Lane, Cloy Lane, Lôn Cae-Dyah a Millbrook Lane yn cysylltu'r aneddiadau, gan ymdroelli trwy'r caeau, ac maent yn dyddio o'r canol oesoedd neu gyfnod cynharach yn ôl pob tebyg.
Sylvester 1969
Silvester et al. 1992
Wiliam 1986
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|