Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Maelor Saesneg:
Higher Lanes
Cymunedau Bronington ac Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1126)
Ffermydd gwasgaredig ar lonydd sy'n rhedeg rhwng caeau llain a thirwedd cefnen a rhych sydd wedi datblygu o gaeau agored canoloesol.
Cefndir hanesyddol
Mae'r enw lle Tybroughton, â'r elfen -tun o'r Hen Saesneg ar ei ddiwedd, yn awgrymu ei fod yn anheddiad canoloesol cynnar sy'n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 10fed ganrif o bosibl.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tirwedd donnog esmwyth, yn gyffredinol rhwng 30 a 90 metr uwchben y Datwm Ordnans, ac mae cyrsiau dwr a nentydd fel Shoothill Brook yn rhedeg i'r gogledd i ymuno â Nant Wych.
Mae caeau llain a chaeau llain wedi'u haildrefnu i'w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd y caeau, ac mae'r rhain yn gysylltiedig â chyfran gymharol uchel o dirwedd cefnen a rhych, sydd wedi datblygu o drin caeau agored yn y canol oesoedd. Mae lonydd cul yn rhedeg rhwng y caeau. Mae'n debygol bod y pyllau marl niferus sydd wedi'u gwasgaru ledled yr ardal, sydd bellach i'w gweld fel llynnoedd, yn cynrychioli gwella tir ar ôl ei gau. Porfa yw'r prif ddefnydd tir modern, ac mae gwrychoedd aeddfed aml-rywogaeth a ffensys pyst a weiren yn nodi ffiniau'r caeau. Mae coed derw aeddfed wedi'u gwasgaru ar hyd y gwrychoedd, ac mae'r coed hefyd yn dynodi ffiniau hen gaeau ar draws caeau a gafodd eu cyfuno i greu caeau mwy.
Nifer fach o ganolfannau maenorol cynnar sydd wedi'u nodi yn yr ardal nodwedd, os oes unrhyw un wedi'i nodi o gwbl. Yn bennaf, mae'r anheddu wedi'i seilio ar ffermydd a thyddynnod gwasgaredig ar ymyl lonydd, gan gynnwys The Woodlands, Lane Farm, a Boundary Farm y mae'n ymddangos eu bod yn dyddio o gyfnod ar ôl cau tir yr hen gaeau agored. Ymddengys bod ffermdy Brunett yn cynrychioli gorwel adeiladau cynharach. Ymddengys ei fod wedi datblygu o strwythur ffrâm bren o'r 17eg ganrif. Mae Lane Farm yn nodweddiadol o adeiladau diweddarach. Efallai mai fferm stad oedd hon yn wreiddiol, â ffermdy bric o ddechrau'r 19eg ganrif a ffenestri casment haearn arddull gothig fel y rheiny roedd ffowndri Wilkinson's yn Y Bers yn eu gweithgynhyrchu.
Smith 1988
Sylvester 1969
Listed Buildings list
Regional Sites and Monuments Record
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|