CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy


Mae'r tirwedd hwn sydd mor nodweddiadol o Bowys yn gorwedd i'r de orllewin o'r Gelli yng nghysgod y Mynyddoedd Du. Mae'r tirwedd hwn yn cynnwys gorlifdir a llethrau serth ymyl dyffryn yr Afon Gwy, a'r llwyfandir ysgythrog dan sgarp gogleddol y Mynyddoedd Du.

Mae i'r ardal hanes cyfoethog ac amrywiol a chysylltiadau diwylliannol pwysig. Ar hyd ochr ddeheuol y dyffryn, ar gyrion yr ucheldir, ceir cyfres o siambrau claddu Neolithig o fath a adwaenir, oherwydd eu ffurf a'u cynllun hynod, fel beddau Hafren-Cotswold. Mae yna safleoedd beddau nodedig yn goroesi ym Mhen-y-wyrlod (Llanigan), Little Lodge, Pipton, Fostyll a Penywyrlod (Talgarth).

Er mai dylanwadau Eingl-Normanaidd a ffurfiodd wedd yr ardal, yn bennaf mae tystiolaeth sylweddol o aneddiad cynhenid Gymreig. Tybir mai sefydliad clas oedd y Clas-ar-Wy ar y cychwyn (canolfan weinyddol uned fynachaidd yn y Canol Oesoedd), ac mae cofnod hefyd ei bod yn safle Brwydr Clasbirig yn 1095 rhwng y Sacsoniaid a'r Cymry.

Mae'r aneddiad Eingl-Normanaidd i'w weld fwyaf amlwg yn y Gelli, sydd wedi cadw cynllun ei strydoedd canoloesol, gydag olion o'r castell ac amddiffynfeydd y dref. Heddiw, mae'r dref yn fwy adnabyddus am ei siopau llyfrau a'i gwyl lenyddol.

Themâu tirwedd hanesyddol yn Ganol Dyffryn Gwy

Y Tirwedd Naturiol

Tirweddau Gweinyddol

Tirweddau Anheddiad

Tirweddau Amaethyddol

Tirweddau Pensaernïol

Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Tirweddau Diwydiannol

Tirweddau a Amddiffynnwyd

Tirweddau angladdol, eglwysig a chwedlonol

Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Ardaloedd cymeriad

CPAT PHOTO 00c0079

1082 Bryn-yr-hydd ardal cymeriad. Aneddiadau bychain cnewyllol o’r canol oesoedd o gwmpas castell ac eglwys ar ymyl y dyffryn, a ffermydd gwasgaredig o'r cyfnod canol a diweddarach ar dir isel mynyddig o fewn tirlun o gaeau bychain afreolaidd, yn cynrychioli proses raddol o ymestyn i mewn i diroedd comin yr ucheldir. Photo: CPAT 00c0079. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0117

1083 Maesllwch ardal cymeriad. Parc tirlun mawr o’r 19eg ganrif sy’n lleoliad prydferth i’r castell ffug Duduraidd o oes Fictoria a osodwyd yng nghaeau canol oesol agored Y Clas ar Wy, caeau a gaewyd yn niwedd y 18fed ganrif, gyda gweddillion llecynnau o goedlannau hynafol lled-naturiol. Photo: CPAT 00c0117. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0124

1084 Cwm-bach ardal cymeriad. Ffermdai gwasgaredig o’r canol oesoedd a diweddarach ar fryniau isel, o fewn tirlun o gaeau canolig eu maint â gwrychoedd a cheuffyrdd, gyda gweddillion darnau o goedlannau hynafol lled-naturiol ar y llechweddau mwy serth Photo: CPAT 00c0124. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0141

1085 Trebarried ardal cymeriad. Anheddiad cnewyllol o gwmpas eglwys ganol oesol Llanfilo a ffermydd gwasgaredig o’r oesoedd canol a diweddarach ar fryniau isel a phantiau i’r gorllewin o afon Llynfi, nifer o’r ffermydd yn wreiddiol yn rhan o faenorau llai ac is-denantiaethau o’r oesoedd canol yn perthyn naill ai i deuluoedd Seisnig neu Gymreig. Photo: CPAT 00c0141. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0099

1086 Gro ardal cymeriad. Gorlifdir afon Gwy rhwng Y Clas ar Wy a’r Gelli, gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a chaeau petryal mawr yn cynrychioli gwaith cau diweddar ar yr hen ddôl isel oedd yn dir comin. Photo: CPAT 00c0099. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0133

1087 Llyswen ardal cymeriad. Anheddiad cnewyllol eglwysig canol oesol a maenorau ac olion trin tir agored ar raddfa helaeth ar dir isel sy’n draenio’n dda o gwmpas afon Gwy, gydag adeiladau hwyrach yn sgîl datblygu systemau trafnidiaeth ffordd a rheilffordd yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Photo: CPAT 00c0133. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0085

1088 Y Gelli ardal cymeriad. Bwrdeistref gastellog ganol oesol, tref farchnad gyda chaeau agored ynghlwm, yn tyfu i fod yn ganolfan gwasanaeth a masnach bwysig yn yr 17eg a’r 18fed ganrif ac yn ganolfan ddiwylliannol a thwristaidd yn y cyfnod modern. Photo: CPAT 00c0085. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0105

1089 Tir-uched ardal cymeriad. Ffermydd gwasgaredig canol oesol a diweddarach ar dir isel ar lannau deheuol afon Gwy rhwng Y Gelli a’r Clas ar Wy, rhai yn tarddu o faenorau Seisnig. Photo: CPAT 00c0105. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1042-08A

1090 Gwernyfed ardal cymeriad. Tirlun isel a llechweddau’n disgyn yn raddol gyda hen barc ceirw a bwthyn heliwr canol oesol, gweddillion gerddi ffurfiol o gyfnod y Dadeni a thy maenor, a pharc tirlun o’r 19eg ganrif a phlasty. Photo: CPAT 1042.08A. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0166

1091 Llynfi ardal cymeriad. Aneddiadau cnewyllol a ffermydd mawr gwasgaredig yn tarddu o faenorau Seisnig canol oesol ynghlwm â chaeau canol oesol agored a helaeth ar hyd glannau dyffryn ffrwythlon Llynfi. Photo: CPAT 00c0166. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0101

1092 Maestorglwydd ardal cymeriad. Troedfryniau islaw tarren ogleddol y Mynydd Du, wedi’u hollti gan gymoedd dyfnion yn cynnwys nentydd, gyda ffermdai gwasgaredig, rhai yn dai hirion o’r canol oesoedd, o fewn tirlun o gaeau bychain o siâp afreolaidd a thiroedd comin bychain ar gopa’r bryniau. Photo: CPAT 00c0101. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1040-06

1093 Ffostyll ardal cymeriad. Anheddiad eglwysig bychan unig yn Llaneleu, wedi’i amgylchynu gan dir bryniog isel ar droed y Mynydd Du, gyda ffermydd gwasgaredig o fewn tirlun o lechweddau coediog a chaeau amlochrog, wedi eu cau gyntaf efallai yn y cyfnod ôl-ganol oesol cynnar Photo: CPAT 1040.06. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1038.17

1094 Gwrlodde ardal cymeriad . Ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain trefnus o ganlyniad i glirio coedlannau yn systematig a chau tir ar droedfryniau llechweddog y Mynydd Du i’r de o Dalgarth yn ystod y canol oesoedd. Photo: CPAT 1038.17. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1040.01

1095 Pen-rhos-dirion ardal cymeriad. Tir comin heb ei gau ar yr ucheldir ar darren ogleddol y Mynydd Du gyda chofadeiliau claddu a defodol cynhanesyddol, olion ymestyniad amaethyddol a chwarelyddol i’r tir ymylol o’r cyfnod ôl-ganol oesol, bellach wedi eu gadael. Photo: CPAT 1040.01. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0080

1096 Tir-mynach ardal cymeriad. Tirlun amaethyddol trefnus ar dir isel ar farian rhewlifol twmpathog, gyda phatrwm caeau sydd o bosibl yn adlewyrchu presenoldeb caer Rufeinig a maenor fynachaidd o’r oesoedd canol. Photo: CPAT 00c0080. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0119

1097 Y Clas ar Wy ardal cymeriad. Aneddiadau unionlin ôl-ganol oesol ar hyd coridor cysylltiadau, wedi ei osod ar anheddiad cnewyllol canol oesol ger man croesi cynnar pwysig dros afon Gwy. Photo: CPAT 00c0119. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00c0128

1098 Gwy ardal cymeriad. Gorlifdir afon Gwy gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a therfynau caeau, yn cynrychioli cau diweddar ar hen ddolydd oedd yn rhan o dir comin yr iseldir rhwng Y Clas ar Wy a’r Gelli Photo: CPAT 00c0128. (Nôl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.

1082 Bryn-yr-hydd 1082 Bryn-yr-hydd 1096 Tir-mynach 1083 Maesllwch #1088 Y Gelli 1097 Y Clas ar Wy 1097 Y Clas ar Wy 1097 Y Clas ar Wy 1086 Gro 1089 Tir-uched 1089 Tir-uched 1092 Maestorglwydd 1095 Pen-rhos-dirion 1095 Pen-rhos-dirion 1091 Llynfi 1091 Llynfi 1090 Gwernyfed 1094 Gwrlodde 1093 Ffostyll 1084 Cwm-bach 1098 Gwy 1087 Llyswen 1087 Llyswen 1085 Trebarried 1085 Trebarried 1085 Trebarried 1085 Trebarried