CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Trafnidiaeth A Chrysylltiadau

Fe dybiwyd bod ffordd Rufeinig oedd yn mynd tua'r dwyrain o Gaer Aberhonddu i gaer Rufeinig Kenchester yn Swydd Henffordd, yn rhedeg drwy Ganol Gwy, o bosibl ar hyd linell yr A438 rhwng Bronllys a'r Gelli, ond ni ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth bendant am hyn hyd yma. Cynrychiolir y dystiolaeth weledol gynharaf o hanes trafnidiaeth yn ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy gan y ffyrdd troellog, lonydd glas, ceuffyrdd a llwybrau sy'n cysylltu'r prif aneddiadau a'r ffermydd unigol, llawer ohonynt yn tarddu o'r canol oesoedd, mae'n sicr bron, pan ddechreuodd pobl ymsefydlu yn yr ardal o ddifrif. Y nodweddion mwyaf amlwg o'r cyfnodau cynnar hyn yw'r ceuffyrdd sylweddol, hyd at 5-6m o ddyfnder ambell waith, ar y ffyrdd a'r llwybrau sy'n cysylltu pentrefi a ffermydd yr iseldir gyda thir comin yr ucheldir, sy'n pwysleisio'r erydu sylweddol a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hir cyn cyflwyno wyneb ffyrdd metlin a draeniau ar y ffyrdd.

Roedd rhydau yn croesi'r prif afonydd a'r nentydd llai yn nodwedd bwysig o ardal y tirlun hanesyddol hyd at ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, ac roedd yr hen rydau hyn yn cael eu defnyddio eilwaith pan oedd pont, a oedd wedi cael ei chodi yn ei lle, wedi cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd, rhywbeth oedd yn digwydd yn gyson hyd at ganol y 19eg ganrif. Gwyddys am rydau cynnar dros afon Gwy yn Llyswen, Y Clas ar Wy, a'r Gelli, mannau croesi culaf gorlifdir afon Gwy, a dyma beth sydd wedi dylanwadu ar leoliad aneddiadau a safleoedd eraill yn y lleoedd hyn sydd wedi rheoli neu wedi cymryd mantais ar y mannau croesi, gan gynnwys y gaer debygol o'r Oes Haearn ym Mhen-rhiw-wen ger Llyswen, y clas neu'r 'fam eglwys' o'r cyfnod canol cynnar yn Y Clas ar Wy a'r gaer Rufeinig yng Nghleirwy, ar lan afon Gwy ar gyfer Y Gelli. Byddai cychod yn aml ar gael yn y mannau croesi hyn. Crybwyllir gwasanaeth cwch dros afon Gwy yn Y Clas ar Wy mor gynnar â 1311, ac yn Y Gelli mor gynnar â 1337. Yn ôl pob golwg fe ddaliwyd i ddefnyddio'r rhydau hyn hyd nes i bontydd gael eu codi yn eu lle, ac fe allent fod yn beryglus: fe soniodd John Leland, yr hynafiaethydd Seisnig, am yr anhawster o groesi'r rhyd dros afon Gwy yn Y Gelli tua'r 1530au; 'for lak of good knowleg yn me of the Fourde did sore troble my Horse'. Ymddengys mai'r cyfeiriad cyntaf at bont dros afon Gwy yw'r cyfeiriad ym 1665 at hen bont yn Y Clas ar Wy, ychydig yn uwch i fyny'r afon na'r bont bresennol, ger cymer afon Llynfi. Fe godwyd y bont gyntaf dros afon Gwy yn Y Gelli yn nghanol y 18fed ganrif a'r bont gyntaf rhwng Llyswen a Bochrwyd mor hwyr â'r 1830au. Mae'r Topographical Dictionary of Wales, gan Samuel Lewis, a gyhoeddwyd ym 1833, yn crybwyll bod 'cwch a cheffyl yno'n aros bob amser' ym man croesi afon Bochrwyd. Cofnodir hen rydau ar draws afonydd a nentydd mewn mannau lle y codwyd pontydd wedi hynny, fel yn achos Old Ffordd-fawr dros Nant Digedi a Ffordd-las dros Nant Ysgallen. Cofnodir y rhyd dros afon Gwy ym Mochrwyd yn enw'r cae Cae Rhyd i'r gorllewin o'r bont bresennol, ac mae'n bosibl (ond nid yn bendant o gwbl) fod enw Bochrwyd ei hun yn tarddu o Bach-rhyd neu 'ryd fach'. Mae amryw o rydau a phontydd troed dros y nentydd llai yn yr ardal wedi eu marcio ar fapiau'r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bellach fe osodwyd pontydd bychain concrid yn eu lle neu danffos oddi tanynt.

Ymddengys mai ychydig iawn a wyddys am drafnidiaeth gynnar ar yr afon i fyny afon Gwy, er ei bod yn debygol fod rhywfaint o nwyddau'n cael eu symud i fyny ac i lawr yr afon, ar rai adegau o'r flwyddyn o leiaf, hyd at ganol y 18fed ganrif, pan wnaed gwelliannau i drafnidiaeth ffyrdd yr ardal. Mae'n debyg fod yr enw Fferm Boatside ar lan afon Gwy yr ochr arall i'r Gelli, ac enwau caeau Maeslan Cafan (cafan yn golygu cwch), Boatside Field, Boatside Ground, Boughrood Bridge, a gofnodwyd yn Rhaniad y Degwm yn Llyswen ym 1838, oll yn cyfeirio at hen wasanaethau cwch yn y mannau hyn.

Mae'n debygol fod pontydd syml dros nentydd wedi cael eu codi o gyfnod cynnar. Roedd pontydd o slaben garreg dros nentydd bychain yn nodwedd o ardaloedd lle'r oedd cerrig addas ar gael. Mae nifer o'r rhain wedi goroesi, gan gynnwys un ger mynedfa Fferm Blaenau-isaf, ger tarddiad Nant Felindre.

Ceir awgrymiadau, yn dilyn twf y fasnach allforio gwartheg i farchnadoedd yn Lloegr ar ddechrau'r 18fed ganrif, fod Canol Dyffryn Gwy wedi tyfu i fod yn llwybr pwysig i'r porthmyn. Roedd y llwybr o Orllewin Cymru yn hollti yn Aberhonddu yn llwybr i'r de drwy ddyffryn Gwy i Drefynwy a thrwy ddyffryn Llynfi a Gwy i Henffordd.

Bu newidiadau mawr yn system y ffyrdd yn sgîl y gwelliannau a wnaed i'r ffyrdd ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Hyd at yr amser hwn ni fyddai llawer o'r ffyrdd yn ardal y tirlun hanesyddol 'ddim gwell na ffosydd, yn llawn o lwch yn yr haf a bron yn amhosibl eu tramwyo yn y gaeaf'. Mae'n debyg mai cyflwr y ffyrdd a wnaeth i Defoe ailadrodd y cyfeiriad gwatwarus at y sir fel 'Breakneckshire' yn ei Tour Through the Whole island of Great Britain, a gyhoeddwyd yn y 1720au. Disgrifiodd Richard Fenton, ar daith gyda Syr Richard Colt Hoare ym Mai 1804, y siwrnai o Lanfair ym Muallt â'r geiriau hyn: 'and at last got to Hay, through most horrid roads, but a beautiful country, thank God, without any accident, and with only my Feet a little damped.'

Dechreuwyd gwella'r ffyrdd yn y sir gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog yn y 1750au. Ymhlith mentrau eraill, fe sicrhaodd y Gymdeithas aradr ffordd i unrhyw un oedd â diddordeb. Cymerwyd lle diddordebau'r Gymdeithas Amaethyddol yn y maes hwn gan ymddiriedolaeth dollbyrth a sefydlwyd yn dilyn deddf Seneddol oedd yn caniatáu gwella rhai o brif ffyrdd Sir Frycheiniog yn y 1760au. Pasiwyd ail ddeddf ym 1830, ac adeiladwyd ffordd newydd i'r de o Dalgarth i Nant y Ffin. Fe symudwyd rhai tollbyrth yn dilyn Helyntion Beca yn y 1840au. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am yr holl dollbyrth i'r sir erbyn yr 1880au, ac erbyn hynny roedd y rhwydwaith ffyrdd yn edrych yn debycach i'r hyn ydyw heddiw. Mae rhai o'r ffyrdd newydd yn torri drwy systemau caeau cynharach fel yn achos y ffyrdd oedd yn torri drwy gaeau stribed canoloesol i'r gorllewin o Lyswen ac ym Mochrwyd Brest, a'r ffordd a adeiladwyd i'r de o Dalgarth, sy'n torri drwy amryw o derfynau caeau oedd yn mynd yn ôl i'r cyfnod canol o bosibl. Fe symudwyd neu ddilëwyd nifer o ffyrdd eraill ar gyfer dibenion eraill yn y cyfnod hwn, fel yn achos yr hen ffordd oedd yn cysylltu'r Clas ar Wy a chomin ucheldir Ffynnon Gynydd, y newidiwyd ei hynt ar ddechrau'r 19eg ganrif er mwyn creu parc Castell Maesllwch.

Fe adeiladwyd ffyrdd newydd mwy uniongyrchol neu fe gafodd ffyrdd oedd yn bodoli eisoes eu sythu neu eu lledu a chrëwyd ffosydd i gydredeg. Gosodwyd tollbyrth a tholldai i dalu am y gwelliannau. Plannwyd gwrychoedd newydd i atal stoc rhag crwydro ac i warchod cnydau oedd yn tyfu rhag anifeiliaid oedd yn cael eu symud ar hyd y ffyrdd. Mae nifer sylweddol o gerrig milltir o gyfnod trafnidiaeth ffordd y tollbyrth ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, wedi goroesi o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel arfer ar ffurf slabiau tywodfaen, yn aml wedi eu gwyngalchu a phennau crynion, yn dangos y pellter ar hyd y ffordd i'r prif aneddiadau yn y ddau gyfeiriad. Ymhlith yr enghreifftiau sydd wedi goroesi y mae: Heol Bronllys yn Nhalgarth, gyferbyn â Thy Arfon; gyferbyn â College Farm yn Nhrefeca; ger fferm Marish ar dollborth Talgarth-Llyswen; ger Little Eames ac Y Dderw ar dollborth Aberllynfi-Llyswen; wrth y drofa i Borthamel; yng nghanol Cleirwy; i'r gogledd-ddwyrain o Lowes; ac i'r dwyrain o Faesllwch. Ymddengys nad oes llawer o'r hen dolldai ar hyd ffyrdd tyrpeg yr ardal wedi goroesi. Fe gafodd rhai, megis Giât Trefecca ar y ffordd dyrpeg rhwng Talgarth a Llangors, a Giât Dewsbury ger Penmaes ar y ffordd dyrpeg rhwng Bronllys a'r Gelli, eu dymchwel yn yr 20fed ganrif er mwyn gwella'r ffyrdd. Dangosir yr hen Glasbury Gate Cottage, sy'n dal i oroesi ar lwybr gogleddol y pentref, ar Fap Degwm 1841. Mae'n debyg mai yma y bu'r unig ddigwyddiad a gofnodwyd yn ystod Helyntion Beca yn 1843-44.

Mae pontydd newydd wedi cael eu gosod yn y cyfnod modern yn lle llawer o'r pontydd cynharaf o fewn y tirlun hanesyddol, ond mae amryw o bontydd wedi goroesi o gyfnod y canol oesoedd hwyr neu gyfnod y gwelliannau mewn cysylltiadau ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, rhai ohonynt wedi eu hadeiladu gan ymddiriedolaethau'r tollbyrth, rhai gan yr awdurdodau sirol, a rhai gan ystadau preifat. Mae gan y tair pont sy'n croesi afon Gwy ac sy'n cysylltu ochr ogleddol a deheuol ardal y tirlun hanesyddol, hanes cymhleth a brith. Fel y nodwyd uchod, ceir y cyfeiriad cyntaf at Bont Y Clas ar Wy rywbryd cyn 1665, ymhellach i'r gorllewin na'r bont bresennol. Pan syrthiodd pont bren ym 1783 fe godwyd pont bren arall yn ei lle ac fe'i defnyddiwyd am tua 40 mlynedd, ac yna fe'i disodlwyd gan bont garreg gyda phum bwa ym 1777. Fe ddisgynnodd hon mewn llif ym 1795 a chodwyd pont bren yn ei lle ym 1880. Cafodd y bont ei difrodi ym 1850 ac er iddi gael ei diogelu ar gyfer cerddwyr fe syrthiodd unwaith eto a threfnwyd gwasanaeth cwch yn ei lle. Fe wnaed cynlluniau i'w thrwsio, gyda choed a phileri cerrig. Fe gododd dadl gyfreithiol ynghylch cost yr atgyweirio, fodd bynnag, ar ôl i ran ddeheuol plwyf Y Clas ar Wy gael ei throsglwyddo i Sir Frycheiniog o Sir Faesyfed ym 1844. O ganlyniad i hyn roedd gan y bont newydd bileri carreg ar ochr ddeheuol yr afon ac estyll o goed ar yr ochr ogleddol. Fe godwyd y bont goncrid bresennol yn yr 20fed ganrif. Y bont gyntaf a gofnodir dros afon Gwy yn Y Gelli yw pont bren a godwyd ar ddechrau neu ganol y 18fed ganrif. Yn lle hon fe godwyd y bont garreg gyntaf, tollbont gyda saith bwa, yn yr 1760au, a dangosir lleoliad yr hen ryd gan Wye Ford Road, tua 200m i'r gogledd o'r bont bresennol. Fel Pont Y Clas ar Wy, cafodd hon ei dinistrio'n rhannol gan lifogydd ym 1795, ac er iddi gael ei thrwsio fe'i dinistriwyd eto ym 1854-55 a threfnwyd gwasanaeth cwch yn ei lle. Cwblhawyd tollbont newydd ym 1865, ac fe'i disodlwyd ym 1958 gan y bont goncrid bresennol a wasgwyd ymlaen llaw. Fe adeiladwyd Pont Bochrwyd, pont garreg gyda phedwar bwa cylchrannol a bwâu hanner crwn ym mhob pen, ym 1838-42. Fe ychwanegwyd tolldy deulawr ar y ffordd o'r gogledd ym 1843 ac roedd y preswylwyr yn y 1850au yn cyfuno casglu'r tollau gyda rhedeg busnes crydd. Fe godwyd y bont gan stad breifat yn lle hen ryd a chwch, ar draul teulu de Winton o Gastell Maesllwch i alluogi glo, golosg a chalch i gael ei gludo i dde sir Faesyfed. Daliwyd i godi toll hyd at 1934.

Mae gan rai pontydd hanes cynharach, cyn cyfnod y ffyrdd tyrpeg, a'r hynaf mae'n debyg yw Pont-y-twr dros afon Ennig yn Nhalgarth. Mae'n bosibl fod hon yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd ond cafodd ei hatgyweirio ym 1801 ac fe'i haddaswyd yn fwy diweddar. Ymhlith hen bontydd eraill y mae Pontithel a Phont Pipton dros afon Llynfi a grybwyllir ym 1686, 'Pont Diwlas' dros Nant Dulas yn Y Gelli a grybwyllwyd ar ddiwedd yr 17eg ganrif, Pont Eiddil, i'r de o Drefeca, a grybwyllwyd ym 1706, Pont Llanthomas dros Nant Digedi, a ailadeiladwyd ym 1707, ond ychydig ohonynt sydd wedi goroesi ar eu ffurf wreiddiol. Fe ddisodlwyd llawer o'r rhain a phontydd eraill yng nghyfnod y tollbyrth ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, ac mae rhai yn dal mewn bod, un bwa carreg yn y canol yn aml gyda chanllawiau o gerrig rwbel a slabiau gwastad yn gerrig copa. Mae'r rhain yn cynnwys pont o'r ?18fed ganrif dros afon Ennig ar gyrion deheuol Talgarth, y pontydd diweddarach o'r 18fed ganrif ym Mhontithel a Phont Tregunter, a gafodd eu lledu wedi hynny, Pont Llanigon a Phont Old Ffordd-fawr, y ddwy dros afon Digedi. Cafodd y gyntaf ei chrybwyll ym 1803, a dyddiad yr ail yw 1812. Ymhlith pontydd eraill o ddiwedd y 19eg ganrif mae Pont Cwrtyrargoed i'r gogledd-ddwyrain o Felindre, y bont ffordd gerllaw Ty Tregoed, a'r bont dros Nant Dulas yn Y Gelli, a ailadeiladwyd ym 1884, rhai ohonynt gyda bwâu o frics. Ymhlith y pontydd concrid modern sydd mewn llawer achos wedi disodli hen bontydd o fewn ardal y tirlun hanesyddol y mae Pont Y Clas ar Wy a Phont Y Gelli dros afon Gwy, Pont Glandwr, Pont Nichol, Pont Coildbrook, Pont Castell Bronllys, a Phont Pipton dros afon Llynfi a'i his-afonydd, Pont y Clas ar Wy, Felin-newydd, Pont Trephilip, Pontybat dros afon Dulas a'i his-afonydd, a llawer o bontydd concrid llai sydd wedi eu codi yn lle hen rydau dros y nentydd.

Fe adeiladwyd nifer o stablau a cherbytai yn gysylltiedig â rhai o'r tai bonedd a thafarnau cerbydau yn yr ardal yn dilyn y gwelliannau i'r ffyrdd tyrpeg, yn enwedig yn ystod y 19eg ganrif. Ymhlith yr enghreifftiau nodedig mae'r cerbyty a'r stablau o'r 19eg ganrif yng Nghastell Y Gelli, y stablau carreg yn Clyro Court o'r 1830au, y stablau a'r cerbyty carreg o 1830-40 yn Glan-hen Wye, yr hen stabl frics a'r cerbyty ym Mharc Gwynne, Y Clas ar Wy o'r 1860-70au, a'r hen stablau yn Nhy Parc Gwernyfed, sy'n dyddio'n ôl i'r 1870au. Fe gododd Gwestai newydd yn yr aneddiadau mwyaf ac ar hyd y ffyrdd tyrpeg newydd, i gwrdd ag anghenion teithwyr mewn coets. Mae gwesty'r Swan o tua 1812, oedd ar un adeg â chyfres o stablau yn y cefn, yn perthyn i'r cyfnod hwn. Mae gwesty'r Baskerville Arms yng Nghleirwy gyda'r hen gerbyty yn y cefn, yr hen Radnor Arms, Talgarth gyda'i stablau yn y cefn, a gwesty'r Maesllwch Arms, Y Clas ar Wy, gyda'i stabl a'i gerbyty yn y cefn, hefyd yn perthyn i'r cyfnod rhwng diwedd y 18fed a chanol y 19eg ganrif. Y stablau o ddechrau'r 18fed ganrif ym Mhenyrwrlodd, i'r de o Lanigon, yw un o'r ychydig adeiladau o'i fath yn yr ardal sy'n perthyn i'r cyfnod cyn y tollbyrth.

Fe fu datblygiadau pwysig pellach yn y system drafnidiaeth yn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn sgîl cwblhau Camlas Aberhonddu a'r Fenni i Aberhonddu ar ddiwedd y 18fed ganrif. Ar y dechrau y bwriad oedd adeiladu cangen i'r gamlas o Gamlas Aberhonddu a'r Fenni i mewn i afon Gwy yn Y Gelli, ond aeth y cynllun i'r wal oherwydd diffyg cyfalaf. Yn raddol, fe sefydlwyd y cysylltiad gan dramffordd geffylau Aberhonddu-Y Gelli, y cychwynnwyd ei hadeiladu ym 1816, gyda rheiliau haearn oedd yn mesur 3 troedfedd a 6 modfedd yn gorwedd ar slipars carreg. Fe adeiladwyd y dramffordd gan Gwmni Rheilffordd Y Gelli, consortiwm o dirfeddianwyr, perchnogion gweithfeydd glo a haearn, a bancwyr, a'r bwriad pennaf oedd dod â nwyddau eraill i mewn i'r ardal o faes glo De Cymru, a thrwy hynny datblygu masnach. Cafodd y llwybr o Aberhonddu i'r Gelli ei gwblhau ym 1818, ac yn yr un flwyddyn fe ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Kington i fynd â'r llwybr yn ei flaen i Geintun a gwaith calch Burlingjobb yn Sir Faesyfed, a chysylltu â Chamlas Leominster yng Ngheintun. Bu'r dramffordd mewn bodolaeth am dros 40 mlynedd, gan gystadlu â'r ffyrdd tyrpeg newydd am fusnes. Ym 1862 cafodd y dramffordd ei disodli gan Gwmni Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu. Dilynwyd hen hynt y dramffordd gan y rheilffordd gan fwyaf, er fod olion o'r hen argloddiau a'i danffosydd i'w gweld mewn rhai mannau hyd heddiw, fel yn arglawdd Trefecca Fawr i'r de o Dredustan a'r darren a dorrwyd i mewn i ymyl gorlifdir afon Gwy yn y Warren i'r gorllewin o'r Gelli. Roedd y rheilffordd, fel y dramffordd o'i blaen, yn osgoi adeiladau oedd yn bod eisoes ar y cyfan, ond roedd yn torri drwy hen drefn caeau ar hyd y ffordd. Gwnaed gwelliannau i'r lein dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys cloddio Trychfa'r Clas ar Wy yn Treble Hill, ac o fewn rhai blynyddoedd fe unwyd â lein Canolbarth Cymru i Lanidloes yng nghyffordd Three Cocks. Fe unwyd Cwmni Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu â Chwmni Rheilffordd y Midland ym 1874, yn dwyn yr enw Rheilffordd Canolbarth Cymru wedi hynny. Bu gorsafoedd a chanolfannau ar ryw adeg neu'i gilydd yn Nhalgarth, Trefeinion, Bochrwyd, Three Cocks, Y Clas ar Wy a'r Gelli, a chaeodd y rheilffordd i deithwyr yn y diwedd ym 1962.

Cysylltir adeiladau a strwythurau amrywiol eraill â'r dramffordd ac â'r rheilffordd. Er fod y rheilffordd bellach wedi cael ei datgymalu, mae cyfres o bentanau pontydd o'r 1860au wedi goroesi yn Treble Hill ac i'r de-orllewin o Dalgarth, gyda phont fwaog hyfryd o'r un cyfnod gyda bwa o frics yn Treble Hill. Yn Llwynau-bach, i'r gogledd-ddwyrain o Treble Hill ymddengys fod hen stabl garreg ddeulawr ar ochr hen arglawdd tramffordd Aberhonddu-Y Gelli, wedi cael ei defnyddio ar gyfer stablu anifeiliaid gwaith a ddefnyddid ar y dramffordd, a daeth yr adeiladau'n rhan o fferm plas Broomfield wedi hynny. Mae'n debyg fod y ty braf o ddechrau'r 19eg ganrif yn Broomfield wedi cael ei godi gan William Bridgewater, gweithredwr Tramffordd Y Gelli-Aberhonddu. Fe saif drws nesa i iard nwyddau a swyddfa'r dramffordd a adnabyddid gynt fel Glanfa'r Clas ar Wy, lle gwelir gweddillion storfeydd wedi'u rhannu'n adrannau ar gyfer glo, calch a nwyddau eraill. Roedd gyrwyr o'r Gelli ac Aberhonddu yn cyfnewid ceffylau a llwythi yn y ganolfan hon. Mae gweddillion eraill o'r dramffordd a'r rheilffordd i'w gweld yn yr ardal, gan gynnwys nifer o slipars carreg o'r dramffordd, a ailddefnyddiwyd weithiau fel pyst giatiau ac ambell i fan nwyddau a ddefnyddir fel siediau mewn cae.

Yn ystod yr 20fed ganrif gwelwyd trafnidiaeth ffordd fecanyddol yn dod yn amlycach na'r un ffurf arall o deithio yn ardal y tirlun hanesyddol, ac mae effaith archeolegol cynlluniau sythu ffyrdd a meysydd parcio, yn arbennig ffordd osgoi Cleirwy a adeiladwyd ym 1959 a'r maes parcio dinesig yn Y Gelli, a adeiladwyd dros ran o'r caeau agored i'r de o ganol y dref.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn cynnwys amrywiaeth eang o strwythurau yn ymwneud â hanes trafnidiaeth a chysylltiadau, sy'n codi amryw byd o gwestiynau ynglyn â rheolaeth a chadwraeth, gan gynnwys y canlynol: olion hen bontydd, hen lwybrau, ceuffyrdd a lonydd glas; strwythurau'n ymwneud â chyfnod y tollbyrth o hanes trafnidiaeth gan gynnwys tolldai, cerrig milltir, pontydd, cerbytai, stablau; strwythurau'n ymwneud â thramffyrdd a rheilffyrdd, gan gynnwys hafnau ac argloddiau, ceuffosydd, pontydd, pentanau pontydd, stablau tramffordd, gorsafoedd a ierdydd nwyddau.