CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Trebarried
Cymunedau Bronllys, Felinfach a Thalgarth, Powys
(HLCA 1085)


CPAT PHOTO 00c0161

Anheddiad cnewyllol o gwmpas eglwys ganol oesol Llanfilo a ffermydd gwasgaredig o'r oesoedd canol a diweddarach ar fryniau isel a phantiau i'r gorllewin o afon Llynfi, nifer o'r ffermydd yn wreiddiol yn rhan o faenorau llai ac is-denantiaethau o'r oesoedd canol yn perthyn naill ai i deuluoedd Seisnig neu Gymreig.

Cefndir hanesyddol

Mae'r garn hir Neolithig yn Pipton, i'r gogledd o Drevithel, yn brawf o weithgareddau cynhanesyddol, yn ogystal ag amryw o domenni claddu o'r Oes Efydd Gynnar yn ôl pob tebyg, a darganfyddiad bwyell efydd gyda soced o'r Oes Efydd hwyr. Awgrymir anheddiad cynhanesyddol hwyrach gan fryngeyrydd Pen-rhiw-wen a Hillis ar ochr orllewinol yr ardal, ceyrydd sy'n adlewyrchu trefn lwythol yn yr ardal yn ystod yr Oes Haearn gyn-Rufeinig. Erbyn cyfnod y canol oesoedd cynnar roedd yr ardal yn dod o fewn cantrefi Cantref Mawr, Cantref Selyf a'r Clas ar Wy o fewn tywysogaeth Brycheiniog. Does dim llawer o dystiolaeth o anheddiad yn y cyfnod hwn, er fod safle'r eglwys gynnar yn Llanfilo, o fewn iard gron yr eglwys, yn awgrymu presenoldeb anheddiad gnewyllol rhwymedig cyn y goncwest. Yn dilyn y goncwest Normanaidd dan arweiniad Bernard de Neufmarché yn y 1080au daeth yr ardal yn rhan o arglwyddiaeth Brycheiniog, un o arglwyddiaethau'r mers. Erbyn y 14eg ganrif roedd nifer o faenorau llai wedi eu creu, y rhai ym Mhont-y-wal a Bryndu yn eiddo i deuluoedd Seisnig a'r rhai yn Nhrephilip, Trebarried a Thredomen yn eiddo i deuluoedd Cymreig. Wedi Deddf Uno 1536 daeth yr ardal yn rhan o gantref Talgarth yn sir Frycheiniog. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi degwm Bronllys, Y Clas ar Wy, Llandefalle, Llanfilo, Llyswen a Thalgarth yng nghanol y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Tir bryniog isel gyda phantiau yn wynebu'r dwyrain yn bennaf, i'r gorllewin o afon Llynfi ac i'r de o'r afon Wysg, yn gorwedd rhwng 120 a 280m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans, gyda nifer o gymoedd isel â nentydd a choed ysgawen o boptu. Mae'r pridd gan fwyaf yn fân, cochlyd ac yn draenio'n dda (Cyfres Milford) ar wely o dywodfaen. Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori gan fwyaf, gyda llecynnau o goedlannau llydanddail lled-naturiol yng Nghoedwig Dderw uwchlaw afon Gwy, ac ar hyd nifer o gymoedd gyda nentydd, a phlanhigfeydd bychain o goed llydanddail a choniffer mewn lleoedd eraill. Mae darn bach o Dir Comin wedi goroesi yng Nghomin Llangoed, ger Pwll Brechfa.

Nodweddir yr anheddiad presennol gan nifer o batrymau gwrthgyferbyniol. Cynrychiolir un gan anheddiad cnewyllol eglwysig canol oesol Llanfilo, o'r cyfnod cyn-goncwest mae'n debyg, wedi ai amgylchynu gan yr hen gaeau agored gynt. Cynrychiolir yr ail gan ffermydd gwasgaredig canolig eu maint ar yr ucheldir a'r iseldir, tua 1 - 1.5km ar wahân, llawer ohonynt yn wreiddiol yn rhan o faenorau canol oesol a sefydlwyd yn dilyn y goncwest Normanaidd, llawer gydag enwau megis Trebarried, Trephilip, Tregunter a Threvithel, ar ôl teuluoedd yr ardal a oedd wedi hen sefydlu. Cynrychiolir patrwm anheddiad pellach gan anheddiad cnewyllol trefol bychan Tredomen sydd â'i ganolbwynt mewn pedwar ffermdy bychan ynghyd â nifer o fythynnod gweision ffermydd o'r 18fed ganrif a byngalos modern. Fe gollwyd rhai o'r ffermydd llai ar dir uwch a thir ymylol wrth gael eu huno â ffermydd eraill ers dechrau'r 20fed ganrif. Cadwyd rhai adeiladau amaethyddol er na ellir gweld dim o'r ffermdai heblaw fel adfeilion neu gloddwaith. Mae tystiolaeth cloddwaith o lwyfannau tai a cheuffyrdd i'r dwyrain o bentref Llanfilo yn awgrymu bod y pentref yn llawer mwy yn y cyfnod canol oesol.

Cynrychiolir y llinell derfyn adeiladu gynharaf gan Bentre Sollars, ffermdy bychan gyda ffrâm nenfforch o tua'r 16eg ganrif, a estynnwyd wedi hynny gyda cherrig. Awgrymir yr un math o ddilyniant gan dy rwbel gwenithfaen yng Nghwrt Tredomen sy'n cynnwys deunydd o'r 16eg ganrif. Mae'r rhan fwyaf o adeiladau eraill yn perthyn i'r 17eg ganrif neu'r 18fed, unwaith eto wedi'u hadeiladu â cherrig rwbel. Erbyn hyn llechi a ddefnyddir fwyaf ar gyfer toeau, er fod modd gweld teiliau cerrig yma ac acw fel yn achos Eglwys Sant Bilbo, Llanfilo, ac mae'n debyg mai dyma oedd y deunydd toi mwyaf cyffredin hyd at tua diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae'r ffermdy o rwbel gwenithfaen gydag addurniadau brics yn Nhrephilip, o ddiwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif, yn nodweddiadol o'r ffermydd ar dir isaf yn yr ardal. Mae'r adeiladau fferm o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn Nhrephilip eto yn nodweddiadol o ddatblygiad adeiladau o amgylch y buarth yn yr ardal o'r 18fed ganrif ymlaen, a cheir yno ysgubor, beudy, ysgubor wair gyda drysau i drol a ffenestri gydag agen fertigol. Codwyd yr adeiladau cynharach gyda cherrig rwbel a thoeau llechi, a chodwyd yr adeiladau o ddiwedd y 19eg ganrif o gerrig rwbel gyda gorchudd o frics coch a glas. Gellir gweld casgliadau o adeiladau tebyg ym Mhenmaes a Phenishapentre o fewn pentref Llanfilo, ac yn Nhregunter, Felin-newydd Home Farm, Pont-y-wal Home Farm a Chwrt Tredomen, gydag adeiladau'r fferm yn aml wedi eu gosod o gwmpas y buarth. Cysylltir y ffermdy cerrig rwbel o'r 19eg ganrif yn Nhregunter, sy'n rhannol wedi'i orchuddio â cherrig man, er enghraifft, â beudy carreg a granar deulawr o'r 18fed neu'r 19eg ganrif. Fe chwalwyd yr hen dy bonedd brics o'r 18fed ganrif oedd yn gysylltiedig â'r fferm, yn yr 1920au. Mae tai bonedd mawr eraill o'r 17eg ganrif yn gysylltiedig ag amryw o ffermydd tir isel fel yn Nhrebarried a Threvithel. Adeiladwyd y bythynnod gweision fferm nodweddiadol o'r 19eg ganrif yn Nhrevithel, o rwbel gwenithfaen gydag addurniadau brics melyn.

Mae'n ymddangos bod caeau agored o'r cyfnod canol oesol yn cael eu cynrychioli gan ddarnau o gefnen a rhych gerllaw Mintfield, Penishapentre, Glandwr, Tredomen, Trephilip a de-orllewin Tredustan, a hefyd yn ôl pob tebyg gan enwau caeau megis Maes Pwll a Maes Coglan gerllaw Tredustan, a grybwyllir yn Rhaniad y Degwm, enwau sy'n cynnwys yr elfen maes. Nodweddir tirlun amaethyddol yr ardal heddiw gan gaeau canolig eu maint ac o siâp afreolaidd. Ymddengys fod hyn wedi deillio yn rhannol o'r adeg pan gaewyd yr hen gaeau agored oedd ynghlwm â'r hen faenorau canol oesol, ac yn rhannol o'r broses raddol o glirio coedydd a chau tiroedd yn y wlad oddi amgylch yn ystod y canol oesoedd a'r canol oesoedd diweddarach, gan adael gweddillion darnau o gomin ucheldir megis hwnnw o gwmpas Pwll Brechfa. Cynrychiolir terfynau caeau yn gyffredinol gan wrychoedd aml-rywogaeth, gan gynnwys cyll, celyn, drain gwynion ac ynn, gyda derw aeddfed ar wasgar ar hyd rhai terfynau, er fod yna rai gwrychoedd un rhywogaeth drain gwynion sythach mewn rhai ardaloedd uwch, yn cynrychioli cau tir comin yr ucheldir yn niwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae llawer o'r gwrychoedd yn dirywio a ffensiau postyn a gwifren yn cael eu gosod yn eu lle, er fod cyfran o derfynau caeau wedi diflannu ers tua diwedd y 19eg ganrif gan adael dim mwy na chlawdd isel bellach. Cloddiau carreg isel yw rhai o'r ffiniau ar dir mwy serth. Bydd y rhain, o bryd i'w gilydd, yn cynnwys meini mawr, neu fydd ganddynt wynebau o gerrig syth. Yn yr un modd, mae nifer o gaeau ar lechweddau mwy serth yn gysylltiedig â glasleiniau sylweddol, weithiau hyd at 1-2m o uchder, sy'n dangos bod mwy o drin tir wedi bod yn y gorffennol. Mae ambell i bostyn llidiart wedi'u torri o garreg arw wedi goroesi, sy'n dyddio'n ôl ymhellach na'r 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg. Roedd perllannau eang ynghlwm â nifer o ffermydd yn yr ardal yn y 19eg ganrif ac o bosib cyn hynny, gan gynnwys Trebarried, Trephilip, Penishapentre, Trevithel, a Thredomen, ac mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw.

Mae'n debyg fod y lonydd bychain sy'n rhedeg o gwmpas terfynau caeau ac yn rhedeg mewn ceuffyrdd pendant 1-2m o ddyfnder ar y llechweddau mwy serth, yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. Mae'r ffyrdd mwy syth sy'n croesi'r ardal yn dyddio o gyfnod gwella ffyrdd tyrpeg yn niwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae pontydd modern wedi cael eu gosod bellach yn lle nifer o bontydd cynharach, gan gynnwys amryw a godwyd yn ystod y cyfnod tyrpeg, gan gynnwys Pont Felin-newydd a Phontybat, a ailadeiladwyd yn y 1930au a'r bont mwy diweddar ym Mhont Trephilip.

Dim ond ychydig o dystiolaeth o hen ddiwydiant sydd wedi goroesi yn yr ardal. Gwasg seidr garreg yn Fferm Penmaes, Llanfilo, yw un o'r ychydig bethau materol sy'n ein hatgoffa o'r diwydiant seidr a fu unwaith mor llewyrchus. Roedd nifer o felinau dwr yn yr ardal, gan gynnwys un ar afon Llynfi ger Glandwr, un ar afon Triffrwd (sy'n rhedeg i afon Dulas), un yng Ngwern-y-bedd ger Felin-newydd, a Melin Trebarried sydd â'i chafn yn rhedeg o afon Dulas. Cofnodir hen chwareli carreg galch ac odynau calch i'r gogledd o Dredomen, a ger Draen, Hillis a Chwrt Llwyfen ar fapiau'r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Defnyddid nifer o chwareli bychain eraill gwasgaredig ar gyfer cerrig adeiladu yn ôl pob tebyg o'r 17eg ganrif ymlaen.

Mae ardal y tirlun hanesyddol yn cynnwys nifer o safleoedd amddiffynnol pwysig, gan gynnwys y bryngaerydd - o'r Oes Haearn yn ôl pob tebyg - ym Mhen-rhiw-wen uwchlaw Llyswen ac yn Hillis, a gwyddom am lecyn caeëdig llai ger Cwrt Llwyfen. Gwyddom am amryw o safleoedd ffosedig canol oesol yn yr ardal, yng Nghwrt-coed, Llanfilo, a gerllaw Hillis.

Mae safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol yn cynnwys carn hir Pipton ac amryw o domenni crynion posib ar gopa bryn i'r dwyrain o Dredomen. Mae safleoedd crefyddol mwy diweddar o fewn ardal nodwedd y tirlun hanesyddol yn cynnwys Eglwys ganol oesol Sant Bilbo, Llanfilo a Chapel Diwygiedig Unedig Bethesda o'r 19eg ganrif. Mae Eglwys Sant Bilbo, a adeiladwyd o gerrig rwbel lleol, yn sefyll yn nodweddiadol yng nghanol anheddiad cnewyllol canol oesol ac yn dyddio'n ôl, mae'n debyg, i'r cyfnod cyn-goncwest. Mae Capel Bethesda, fel llawer o gapeli anghydffurfiol eraill yr ardal, yn sefyll ar ymylon y Tir Comin, yn yr achos hwn ar gopa bryn ar ymyl Pwll Brechfa ar Gomin Llangoed, ac fel adeiladau cyfoes eraill yn yr ardal fe'i codwyd o gerrig rwbel ac addurniadau brics.

Fe grëwyd parc tirlun prydferth ar hyd y nant i'r gorllewin o'r hen dy bonedd yn Nhregunter ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn rhannol drwy roi argae ar draws y nant sy'n rhedeg i afon Dulas. Mae parciau tirlun eraill, a gynrychiolir gan blanhigfeydd o'r 18fed a'r 19eg ganrif, wedi goroesi o gwmpas Trephilip a Felin-newydd, ar ffin orllewinol ardal nodwedd y tirlun hanesyddol. Awgrymir gweddillion posibl gardd ffurfiol gan gloddwaith yn Nhy Trebarried.

Mae yna bwysigrwydd posibl i'r gwaddod sydd wedi aros yng nghors ucheldir Pwll Brechfa os am ddeall hanes amgylcheddol yr ardal.

Ffynonellau


Bevan & Sothern 1991;
Bowen 2000;
Briggs 1991a;
Cadw 1995a;
Cadw 1995b;
Coplestone-Crowe 1992-93;
Grove 1962;
Haslam 1979;
Hughes 1990;
Jenkinson 1997;
Jervoise 1976;
Jones 1993;
Jones & Smith 1964;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Rees 1932;
RCAHMW 1986;
Silvester 1999a;
Soil Survey 1983;
Spurgeon 1981;
Williams 1976

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.